Gwiriwch a yw newid yn effeithio ar eich Budd-dal Plant

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM (HMRC) am unrhyw newidiadau i’ch plant neu drefniadau byw. Gelwir hyn yn 'newid mewn amgylchiadau'.

Dylech roi gwybod am y newidiadau cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amdanynt - yn ddelfrydol o fewn 1 mis.

Gallai’r newid gynyddu eich taliad ac efallai y byddwch yn colli arian ychwanegol os byddwch yn dweud wrth Gyllid a Thollau EM yn hwyr.

Dylech ddweud wrth Gyllid a Thollau EM o hyd os ydych yn meddwl y gallai newid leihau eich Budd-dal Plant - ni fyddwch yn arbed arian drwy roi gwybod amdano yn nes ymlaen. Os byddwch yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM yn hwyr gallech gael gormod o dâl a bydd yn rhaid i chi dalu eich budd-daliadau yn ôl i Gyllid a Thollau EM. Gelwir hyn yn ordaliad.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau i Gyllid a Thollau EM hyd yn oed os yw adran arall o’r llywodraeth eisoes yn gwybod amdanynt. Er enghraifft, os byddwch yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am newid sy'n effeithio ar eich budd-daliadau eraill, mae angen i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM amdano hefyd.

Os ydych chi wedi defnyddio'r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith i roi gwybod am farwolaeth rhywun sy'n hawlio budd-dal, nid oes angen i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM hefyd. Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn rhoi gwybod iddynt.

Newidiadau i'w adrodd am eich plentyn

Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM os yw’ch plentyn:

  • yn 16 - 20 ac yn gadael addysg neu hyfforddiant

  • yn 16 oed neu drosodd ac yn dechrau gweithio am fwy na 24 awr yr wythnos

  • yn dechrau cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Credyd Cynhwysol, credydau treth, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

  • priodi neu ffurfio partneriaeth sifil

  • wedi marw neu'n mynd ar goll

Ni fyddwch yn cael Budd-dal Plant mwyach.

Os bydd eich plentyn yn dechrau byw yn rhywle arall neu'n troi'n 16 oed efallai y bydd eich Budd-dal Plant yn cael ei effeithio hefyd.

Os yw'ch plentyn yn dechrau byw i ffwrdd oddi wrthych

Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM os yw’ch plentyn:

  • yn byw oddi wrthych am fwy nag 8 wythnos yn olynol

  • yn mynd dramor am fwy na 12 wythnos - oni bai ei fod yn rhan o raglen addysg ysgol neu i gael triniaeth feddygol

  • yn symud i mewn gyda'u partner

  • yn mynd i'r carchar am fwy nag 8 wythnos

Ni chewch Fudd-dal Plant mwyach.

Os yw'ch plentyn yn mynd i'r ysbyty neu ofal preswyl am fwy na 12 wythnos, dylech ddweud wrth Gyllid a Thollau EM. Efallai y gallwch barhau i gael Budd-dal Plant os ydych yn talu rhywfaint o arian tuag at anghenion y plentyn, fel meddyginiaeth, dillad neu fwyd. Mae'n rhaid eich bod yn gwario o leiaf y swm Budd-dal Plant ar eich plentyn i barhau i gael Budd-dal Plant.

Os yw'ch plentyn yn symud i mewn gyda'ch cyn partner

Bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM dros y ffôn - byddwch yn gallu egluro eich sefyllfa a gwirio a allwch barhau i gael Budd-dal Plant.

Os na fydd eich cyn partner yn gwneud cais, gallwch barhau i gael y taliadau am 8 wythnos.

Efallai y gallwch barhau i gael Budd-dal Plant am gyfnod hwy os ydych yn rhoi arian i'ch cyn partner ar gyfer y plentyn a'ch bod yn gwario o leiaf swm y Budd-dal Plant ar anghenion eich plentyn bob mis. Bydd Cyllid a Thollau EM yn dweud wrthych pan fyddwch yn eu ffonio.

Cyllid a Thollau EM - Swyddfa Budd-dal Plant

Rhif ffôn: 0300 200 3100

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0300 200 3100

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK. 

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae'n debygol y bydd eich galwad yn rhad ac am ddim os oes gennych chi fargen ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - darganfyddwch fwy am ffonio rhifau 030.

Os yw'ch plentyn yn troi'n 16 oed

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon llythyr atoch yn gofyn i chi am gynlluniau eich plentyn ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant. Mae'n rhaid i chi ymateb i'r llythyr hwn, fel arall byddant yn canslo eich cais am Fudd-dal Plant ar 31 Awst ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 16 oed.

Os na chewch lythyr, ond eich bod am barhau i gael Budd-dal Plant, cysylltwch â CThEM i roi gwybod iddynt. 

Os bydd eich plentyn yn aros mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed, gallwch barhau i gael Budd-dal Plant nes iddo adael addysg - neu hyd nes ei fod yn 20 oed.

Os yw’ch plentyn wedi gadael addysg neu hyfforddiant, byddwch yn parhau i gael Budd-dal Plant tan un o’r dyddiadau canlynol ar ôl ei ben-blwydd yn 16:

  • y diwrnod olaf ym mis Chwefror

  • 31 Mai

  • 31 Awst

  • 30 Tachwedd

Os cafodd arholiadau eich plentyn yn haf 2021 eu canslo oherwydd coronafeirws, mae eich plentyn yn dal i gael ei gyfrif fel bod mewn addysg tan ddiwedd y flwyddyn ysgol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn parhau i gael Budd-dal Plant tan 31 Awst.

Os yw'ch plentyn wedi ymuno â'r lluoedd arfog neu raglen gyrfaoedd a noddir gan y llywodraeth, er mwyn parhau i gael Budd-dal Plant mae'n rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig i CThEM o fewn 3 mis ar ôl i addysg neu hyfforddiant eich plentyn ddod i ben. Yna byddwch yn cael Budd-dal Plant am 20 wythnos o'r dyddiad y daeth addysg neu hyfforddiant eich plentyn i ben.

Beth sy'n cyfrif fel addysg neu hyfforddiant

Mae eich plentyn mewn addysg os yw'n astudio am fwy na 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Er enghraifft:

  • Safon Uwch neu lefel Uwch yr Alban

  • CGC Lefel 1, 2 neu 3

  • Diploma Cenedlaethol BTEC

  • hyfforddeiaeth

  • addysg gartref - os oedd wedi dechrau cyn eu bod yn 16 oed

Mae'n rhaid eu bod wedi dechrau neu gofrestru ar y cwrs cyn eu bod yn 19. Nid yw cyrsiau lefel gradd, BTEC uwch ac NVQ Lefel 4 yn cyfrif fel addysg ar gyfer cael Budd-dal Plant.

Bydd eich plentyn dan hyfforddiant os yw ar gynllun hyfforddi a ddim yn cael ei dalu. Rhaid eu bod wedi dechrau neu gofrestru ar y cwrs cyn eu bod yn 19 oed.

Er enghraifft, Prentisiaeth Sylfaen neu Hyfforddeiaeth.

Rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os bydd eich plentyn yn newid ei enw - ni fydd yn effeithio ar eich swm Budd-dal Plant.

Newidiadau amdanoch chi neu'ch partner

Os ydych yn priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil neu os bydd partner yn symud i mewn gyda chi, dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EM. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich swm Budd-dal Plant.

Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM os byddwch yn dechrau cael taliadau gan eich cyngor lleol neu rywun arall am ofalu am y plentyn. Gallai olygu nad ydych bellach yn gymwys i gael Budd-dal Plant.

Mae rheolau ychwanegol ynghylch beth sy’n digwydd i’ch Budd-dal Plant os byddwch chi neu’ch partner yn dechrau ennill dros £50,000, yn gwahanu neu’n ysgaru, yn newid eich trefniadau byw neu statws mewnfudo.

Os ydych chi neu'ch partner yn dechrau ennill £50,000 neu fwy y flwyddyn

Os ydynt yn byw gyda chi, rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os bydd eich incwm blynyddol chi neu eich partner yn cynyddu i £50,000 neu fwy cyn treth.

Byddwch yn dechrau talu 'tâl treth Budd-dal Plant'. Pwy bynnag sy'n ennill y mwyaf o arian fydd yn talu'r dreth - ni waeth pwy sy'n hawlio.

Po fwyaf y byddwch yn ei ennill dros £50,000, yr uchaf fydd y dreth. Cyn belled nad yw'ch incwm yn uwch na £60,000 y flwyddyn, mae'n dal yn werth ei hawlio.

Os bydd eich incwm yn uwch na £60,000 bydd y swm ychwanegol a dalwch mewn treth yn dileu'r hyn a gewch mewn Budd-dal Plant. Gallwch ddewis atal eich cais fel na fydd yn rhaid i chi dalu'r dreth - er os nad yw un ohonoch yn gweithio neu'n gweithio'n rhan amser efallai y byddai'n well cadw'ch hawliad i fynd.

Gallwch gael gwybod faint fydd eich tâl treth a sut i’w dalu ar GOV.UK.

Os nad yw un ohonoch yn gweithio neu'n gweithio'n rhan amser

Os yw'ch partner yn ennill dros £60,000 y flwyddyn ac nad ydych yn gweithio neu'n ennill llai na £113 yr wythnos, dylech barhau i hawlio Budd-dal Plant. Fel hyn byddwch yn cronni cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy'n cyfrif tuag at eich pensiwn gwladol. Bydd hefyd yn golygu bod eich plentyn yn cael rhif Yswiriant Gwladol yn awtomatig pan fydd yn cyrraedd 16 oed.

Gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM barhau â'r hawliad ond peidio â thalu'r budd-dal i chi, felly ni fydd yn rhaid i chi dalu'r tâl treth.

Os yw’r hawliad yn enw’r person sy’n gweithio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM i ddod â’u hawliad i ben a chychwyn hawliad newydd yn enw’r person nad yw’n gweithio.

Os ydych chi wedi gwahanu neu ysgaru

Bydd angen i chi benderfynu rhyngoch pwy fydd yn parhau i hawlio - fel arfer y person y mae eich plentyn yn byw gydag ef/hi y rhan fwyaf o'r amser fydd hwnnw.

Os ydych am i’ch cyn partner wneud cais yn lle chi, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM barhau i ddod â’ch hawliad i ben a dywedwch wrth eich cyn partner i wneud hawliad newydd ar unwaith.

Os na allwch gytuno pwy fydd yn hawlio

Gall y ddau ohonoch wneud cais a gadael i Gyllid a Thollau EM benderfynu pwy fydd yn cael y Budd-dal Plant. Mae rheolau cymhleth ynghylch pwy sy’n cael blaenoriaeth ond fel arfer bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi Budd-dal Plant i’r person y mae’r plentyn yn byw gydag ef fwyaf.

Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad Cyllid a Thollau EM. I wneud yn siŵr eich bod yn rhoi’r holl wybodaeth gywir i Gyllid a Thollau EM am eich sefyllfa fel eu bod yn gwneud y penderfyniad gorau, gallwch gael cyngor gan eich Cyngor ar Bopeth lleol.

Os dechreuwch fyw yn rhywle arall

Rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os ydych:

  • symud tŷ - ni fydd hyn yn effeithio ar eich taliad Budd-dal Plant cyn belled â bod y plentyn yn dal i fyw gyda chi

  • mynd i'r carchar am fwy nag 8 wythnos

  • mynd dramor am fwy nag 8 wythnos - gallwch ddweud wrthynt cyn i chi adael neu o fewn 1 mis ar ôl i chi adael y DU

Gallwch barhau i gael Budd-dal Plant am yr 8 wythnos gyntaf y byddwch i ffwrdd o'r DU - cyhyd â'ch bod yn dal i fyw yn y DU ac nad ydych dramor am fwy na chyfanswm o flwyddyn. Os mai'r rheswm yr ydych dramor yw er mwyn cael triniaeth feddygol i chi neu'ch teulu, neu os yw aelod o'r teulu wedi marw dramor, gallwch barhau i gael Budd-dal Plant am y 12 wythnos gyntaf y byddwch i ffwrdd.

Os byddwch yn mynd dramor am fwy na blwyddyn, bydd eich Budd-dal Plant yn dod i ben o'r dyddiad y byddwch yn gadael y DU.

Os bydd eich hawl i breswylio neu statws mewnfudo yn newid

Dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus y gallwch barhau i gael Budd-dal Plant. Mewn rhai sefyllfaoedd mae’n rhaid i chi hefyd fod â ‘hawl i breswylio’ o hyd.

Gallwch hawlio arian cyhoeddus os oes gennych unrhyw un o’r canlynol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig

  • statws sefydlog o Gynllun Setliad yr UE

  • absenoldeb amhenodol – oni bai eich bod wedi dod i’r DU ar fisa perthynas sy’n oedolyn dibynnol

  • statws ffoadur neu warchodaeth ddyngarol

  • hawl i breswylio

Os oes gennych statws cyn-sefydlog gan Gynllun Setliad yr UE, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Budd-dal Plant. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio. 

Os ydych wedi gwneud cais i Gynllun Setliad yr UE a’ch bod yn aros am benderfyniad, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Budd-dal Plant. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio.  

Os oes gennych unrhyw statws mewnfudo arall, gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus. 

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Fel arfer mae'n well rhoi gwybod am y newid ar-lein ar GOV.UK. Mae hyn yn ei gwneud hi'n hawdd cynnwys yr holl wybodaeth - ac rydych chi'n arbed cost postio. Bydd angen i chi sefydlu cyfrif ar-lein o'r enw cyfrif Porth y Llywodraeth.

I sefydlu'r cyfrif, bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol, rhif Budd-dal Plant a ffôn symudol arnoch. Er mwyn diogelwch bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon neges destun atoch gyda chod - bydd angen i chi nodi'r cod ar GOV.UK er mwyn gallu sefydlu'r cyfrif ac adrodd am y newid.

Pan fyddwch wedi gorffen rhoi gwybod am y newid, bydd Cyllid a Thollau EM yn cadarnhau ei fod wedi'i dderbyn. Mae'n syniad da tynnu llun neu sgrinlun o'r sgrin gadarnhau rhag ofn y bydd angen i chi gyfeirio ato yn nes ymlaen.

Os na allwch roi gwybod am y newid ar-lein

Gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM i adrodd am y newid. Ysgrifennwch 'newid mewn amgylchiadau' yn glir ar frig y llythyr. Postiwch y llythyr yn Swyddfa’r Post a gofynnwch iddyn nhw am brawf postio – efallai y bydd angen i chi brofi pryd wnaethoch chi ei bostio.

Anfonwch y llythyr at:

Cyllid a Thollau EM - Swyddfa Budd-dal Plant

Blwch SP 1

Newcastle Upon Tyne

NE88 1AA

Deyrnas Unedig

Os ydych yn agos at y dyddiad cau o 1 mis, ffoniwch linell gymorth Cyllid a Thollau EM. Mae'n gyflymach gwneud hyn nag ysgrifennu llythyr oherwydd bydd Cyllid a Thollau EM yn cael eich newid yn syth.

Gwnewch nodyn o'r dyddiad a'r amser y byddwch yn ffonio. Ysgrifennwch hefyd enw'r person y siaradoch ag ef a'r swyddfa Cyllid a Thollau EM y maent yn gweithio ynddi - er enghraifft Birmingham neu Belfast. Efallai y bydd angen y manylion hyn arnoch os bydd angen i chi brofi eich bod wedi rhoi gwybod am y newid.

Cyllid a Thollau EM - Swyddfa Budd-dal Plant

Rhif ffôn: 0300 200 3100

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0300 200 3100

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae'n debygol y bydd eich galwad yn rhad ac am ddim os oes gennych chi becyn ffôn sy'n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - darganfyddwch fwy am ffonio rhifau 030

Os digwyddodd y newid fwy na mis yn ôl

Mae'n well rhoi gwybod am newid yn hwyr na pheidio â rhoi gwybod amdano o gwbl - ond fe allai olygu eich bod wedi cael gormod o dâl neu heb ddigon o dâl. Os ydych wedi cael gordaliad, bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o arian yn ôl i Gyllid a Thollau EM.

Ffoniwch Cyllid a Thollau EM cyn gynted ag y gallwch. Gwnewch nodyn o'r dyddiad a'r amser y byddwch yn ffonio - efallai y bydd angen i chi gyfeirio ato yn nes ymlaen. Os gallwch, anfonwch lythyr atynt wedyn i gadarnhau'r newid y gwnaethoch roi gwybod amdano. Bydd hyn yn helpu os bydd angen i chi brofi eich bod wedi rhoi gwybod am y newid.

Gallwch roi gwybod am y newid ar-lein o hyd ar GOV.UK os na allwch ffonio'r llinell gymorth. Mae'n gyflymach gwneud hyn nag ysgrifennu llythyr.

Gallwch ddal i ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM os na allwch ddweud wrthynt dros y ffôn neu ar-lein. Ysgrifennwch 'newid mewn amgylchiadau' yn glir ar frig y llythyr. Gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio - efallai y bydd angen i chi brofi pryd y gwnaethoch ei bostio.

Os oes gennych chi broblem yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau, gallwch wneud cwyn i’r Swyddfa Budd-dal Plant ar GOV.UK

Darganfod faint fyddwch chi'n ei gael ar ôl y newid

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon llythyr atoch yn dweud wrthych os yw eich Budd-dal Plant wedi’i atal neu wedi cynyddu.

Gwiriwch y llythyr i wneud yn siŵr bod Cyllid a Thollau EM wedi cofnodi’r newid cywir mewn amgylchiadau.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad Cyllid a Thollau EM, gallwch ofyn iddynt ailystyried - gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol. 

Os na chewch lythyr gan Gyllid a Thollau EM o fewn 30 diwrnod, ffoniwch nhw i wirio eu bod wedi cofnodi newid yn eich amgylchiadau.

Os ydych yn cael Budd-dal Tai

Os bydd newid mewn amgylchiadau yn golygu y bydd eich cais am Fudd-dal Plant yn dod i ben, mae'n bosibl y bydd eich taliadau Budd-dal Tai yn cael eu heffeithio. Er enghraifft, os oes gan eich plentyn ei ystafell ei hun, efallai y bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei leihau gan yr hyn a elwir yn 'dreth ystafell wely'. Gallwch wirio sut bydd y dreth ystafell wely yn effeithio ar eich Budd-dal Tai.  

Dylech gysylltu â'ch cyngor lleol i ddweud wrthynt fod eich Budd-dal Plant wedi dod i ben er mwyn iddynt allu diweddaru eich cais am Fudd-dal Tai. 

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 15 Hydref 2020