Gweld a yw newid yn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am newidiadau i’ch gwaith, eich arian neu’ch bywyd teuluol. ‘Newidiadau mewn amgylchiadau’ yw’r enw  a ddefnyddir.

Gall newidiadau effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol y gewch a pha weithgareddau cysylltiedig â gwaith y mae angen i chi eu gwneud yn gyfnewid am eich taliad Credyd Cynhwysol. Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych am y prif newidiadau y dylech sôn amdanyn nhw, ond gall fod rhai eraill hefyd. Os nad ydych chi’n siŵr a fydd newid yn gwneud gwahaniaeth, mae’n well sôn amdano bob amser.

Os bydd eich taliad yn cynyddu, gallwch ofyn am flaendaliad os bydd angen yr arian ychwanegol arnoch cyn eich dyddiad talu nesaf.

Coronafeirws - os oes angen cwarantin arnoch ar ôl dychwelyd o dramor

Dywedwch wrth eich anogwr gwaith cyn gynted ag y gwyddoch fod angen rhoi cwarantîn. Os na wnewch hynny, efallai y cewch eich cosbi am beidio â gwneud y gweithgareddau sy’n ymwneud â gwaith yn eich ymrwymiad hawlydd.

Gallwch gysylltu â'ch anogwr gwaith drwy anfon neges atynt yn eich cyfrif ar-lein. Os nad oes gennych gyfrif ar-lein ac nad ydych yn gwybod manylion cyswllt eich anogwr gwaith, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am newid

Os oes gennych chi gyfrif ar-lein, dwedwch wrth Adran Gwaith a Phensiynau am newid yn yr adran ‘Rhoi gwybod am newid’. Gallwch ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol hefyd, ond mae’n debyg y bydd hyn yn cymryd mwy o amser gan ei bod yn bosib y bydd gofyn i chi ddisgwyl i rywun ateb. Os nad oes gennych gyfrif ar-lein, dylech ffonio’r llinell gymorth.  

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Rhoi gwybod am newidiadau ar amser

Unwaith y byddwch chi’n gwybod am newid a allai effeithio eich Credyd Cynhwysol,, dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted ag y gallwch.

Os bydd newid yn cynyddu eich taliad, fe allwch chi golli’r cyfle i’w gael os byddwch chi’n oedi dweud wrth Adran Gwaith a Phensiynau - yn enwedig os byddwch chi’n aros tan diwedd eich cyfnod asesu. 

Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os bydd y newid yn gostwng eich taliad - ni fyddwch yn arbed arian trwy ddweud wrthynt yn ddiweddarach. Os ydych chi’n hwyr yn dweud wrth yr Adran Gwaith a pjensiynau neu ddim yn rhoi gwybod, gallai gormod o arian gael ei dalu i chi. Gelwir hyn yn ordaliad.

Byddai’n rhaid i chi dalu’ch ordaliad yn ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau ac efallai y bydd yn rhai i chi dalu mwy o arian fel cosb. Gwiriwch sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n ymdrin â gordaliadau.

Newidiadau mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am bethau bach hyd yn oed – mae’n well sôn am rywbeth bob amser os nad ydych chi’n siŵr.

Os yw’ch newid yn effeithio ar eich gallu i weithio neu chwilio am waith, efallai y bydd angen i chi ofyn am newid eich ymrwymiad fel hawliwr. Er enghraifft, dylech ofyn am newid ymrwymiad fel hawliwr os yw newidiadau i’ch gofal plant yn golygu bod gennych lai o amser bob wythnos i chwilio am waith.

Pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am newid, dylech anfon unrhyw wybodaeth arall y byddant yn gofyn amdani i’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n gofyn am lythyr gan eich landlord os ydych chi’n dweud bod eich rhent wedi newid. Os na fyddwch chi’n anfon y wybodaeth ychwanegol y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn amdani, gallai’ch Credyd Cynhwysol gael ei atal.

Swyddi a gwirfoddoli

Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n gadael swydd neu’n cael un newydd – hyd yn oed os yw’n waith gwirfoddol ac nad ydych chi’n cael eich talu.

Gallai ennill mwy leihau eich Credyd Cynhwysol, ond gallai hefyd leihau’r gweithgareddau cysylltiedig â gwaith sydd angen i chi eu gwneud.

Nid oes nifer penodol o oriau gwaith sy’n golygu y bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei atal. Dyma ragor o wybodaeth am gael swydd neu godiad cyflog ar y Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi’n colli eich swydd gall eich Credyd Cynhwysol gynyddu, ond efallai y bydd angen i chi dreulio mwy o amser yn chwilio am waith. Gallai'ch Credyd Cynhwysol gael ei atal neu ei leihau os ydych chi wedi gadael y swydd heb reswm da – gelwir hyn yn ‘gosb’. Edrychwch i weld beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n cael eich cosbi.

Pan fyddwch chi’n cael eich cyflogi nid oes angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am newidiadau yn eich cyflog – er enghraifft, os ydych chi’n cael codiad cyflog neu’n gwneud mwy o oriau. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael y wybodaeth gan Cyllid a Thollau EM.

Os ydych chi’n hunangyflogedig bydd angen i chi roi gwybod am eich incwm a’ch treuliau bob mis.

Arian, cynilion a newidiadau i fudd-daliadau

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi neu’ch partner yn:

  • newid eich manylion banc

  • hawlio unrhyw fudd-daliadau newydd (hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu talu eto) – gall hyn leihau eich taliadau Credyd Cynhwysol

  • stopio cael budd-dal – gall hyn newid eich taliadau Credyd Cynhwysol

  • cael taliad untro – er enghraifft, os ydych chi’n etifeddu arian neu’n derbyn iawndal

  • cael incwm newydd nad yw o’r gwaith – nid yw popeth yn cael ei ystyried, ond mae’n syniad da dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau rhag ofn.

Os oes gennych chi fwy na £6,000 mewn cynilion bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu lleihau.

Os oes gennych chi fwy na £16,000 mewn cynilion ni fyddwch yn gymwys am y Credyd Cynhwysol.

Dyma faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch chi'n ei gael.

Newidiadau sy’n ymwneud â ble rydych chi’n byw

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os:

  • yw’ch rhent yn mynd i fyny neu i lawr – gall hyn newid faint o Gredyd Cynhwysol a delir i chi am dŷ

  • ydych chi’n symud

  • oes rhywun yn symud allan o’ch cartref

  • oes rhywun yn symud i mewn i’ch cartref – er enghraifft, os ydynt yn rhentu ystafell

  • ydych chi neu rywun ar eich aelwyd yn mynd i’r carchar

Dylech hefyd roi gwybod am unrhyw amser y byddwch chi’n ei dreulio y tu allan i’r DU. Gall eich hawliad Credyd Cynhwysol barhau am hyd at fis, ond bydd angen i chi gwblhau eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith o hyd. Os nad ydych chi’n gallu, efallai y bydd eich taliad yn cael ei atal neu ei leihau - sef ‘cosb’.

Os ydych chi’n symud cartref

Gall eich taliadau Credyd Cynhwysol newid os yw’ch rhent wedi mynd i fyny neu i lawr - edrychwch i weld faint o Gredyd Cynhwysol y gallwch chi ei gael. Bydd eich taliad nesaf yn seiliedig ar eich cyfeiriad newydd, hyd yn oed os oeddech chi dal yn eich hen gyfeiriad am ran o’r mis hwnnw.

Cofiwch ddweud wrth y Ganolfan Waith bob tro rydych chi’n symud – byddant angen eich cyfeiriad newydd. Efallai y byddwch chi hefyd angen mynd i Ganolfan Waith wahanol a chael hyfforddwr gwaith newydd.

Ailgyfeirio post i'ch cyfeiriad newydd

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol gallwch dalu llai o arian i gael eich post wedi’i ailgyfeirio – gelwir hyn yn ‘gostyngiad rhatach’. Dysgwch sut i gael gostyngiad ar ailgyfeirio post ar wefan y Post Brenhinol.

Newidiadau sy’n ymwneud â’ch perthynas

Bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n symud i mewn gyda'ch partner neu'n gwahanu oddi wrth eich partner.

Rydych chi’n symud i mewn gyda’ch partner

Os oedd y ddau ohonoch yn cael Credyd Cynhwysol, bydd angen i’r ddau ohonoch roi gwybod eich bod wedi symud i mewn gyda phartner.

Ni fydd angen i chi ddechrau hawliad Credyd Cynhwysol newyddond bydd angen i chi gysylltu'ch cyfrif â'ch partner. Gallwch wneud hyn pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol. Os na allwch weld sut i wneud hyn neu os nad oes gennych gyfrif ar-lein, cysylltwch â'ch anogwr gwaith.

Os oeddech yn cael Credyd Cynhwysol ond nid oedd eich partner, bydd angen iddo agor cyfrif a’i gysylltu â’ch un chi – mae hyn yn ei droi’n gais ar y cyd. Byddwch yn parhau i gael eich taliadau ar yr un diwrnod bob mis.

Dysgwch fwy am gysylltu cyfrifon a dechrau cais Credyd Cynhwysol. 

Os oedd un ohonoch chi’n cael Credyd Pensiwn unrhyw fudd-dal sydd wedi cael ei ddisodli gan y Credyd Cynhwysol, bydd y taliadau hynny’n dod i ben. Dyma’r budd-daliadau sy’n cael eu disodli:

  • Budd-dal Tai

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm (ESA)

  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n gysylltiedig ag incwm (JSA)

  • Credyd Treth Plant

  • Credyd Treth Gwaith

  • Cymhorthdal Incwm

Mae'r rheolau yn gymhleth. Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol am gymorth cyn i chi symud i mewn gyda'ch partner. 

Byddwch yn derbyn swm gwahanol o Gredyd Cynhwysol fel cwpl - edrychwch i weld faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch chi'n ei gael.

Os ydych chi’n gwahanu oddi wrth eich partner

Bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn parhau. Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf ar yr un diwrnod o’r mis ond bydd ar gyfer person sengl. Mae hyn yn newid faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi.

Dylech hefyd ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw newidiadau eraill yn sgil gwahanu – fel newidiadau i’r cyfeiriad.

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau pwy sy’n gyfrifol am unrhyw blant

Y person sy'n gyfrifol am unrhyw blant fydd pwy bynnag y mae’r plentyn yn byw gydag ef fel arfer. Os yw’r plentyn yn byw gyda mwy nag un person fel arfer, neu os nad ydych chi’n gallu cytuno pwy ddylai hawlio, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu.

Os mai’r Adran Gwaith a Phensiynau sy'n penderfynu, byddant yn gwneud hynny ar sail ble mae’r plentyn yn byw fel arfer a phwy sy’n gwneud y penderfyniadau o ddydd i ddydd.

Os ydych chi’n dal i fyw gyda’ch partner

Dylech roi gwybod eich bod wedi gwahanu serch hynny - dylech allu newid i hawliadau Credyd Cynhwysol ar wahân o hyd.

Bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau bod gennych chi ‘aelwydydd ar wahân’ er eich bod yn rhannu cyfeiriad. Eglurwch nad ydych chi’n byw bywyd fel cwpl bellach – er enghraifft, os ydych chi’n coginio ar wahân, yn cadw’ch materion ariannol ar wahân a ddim yn treulio amser gyda’ch gilydd.

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd ofyn pam eich bod yn dal i fyw gyda’ch gilydd - er enghraifft, os nad ydych chi’n gallu fforddio symud allan.

Newidiadau sy’n ymwneud â’ch plant

Gofalwch fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwybod am faint o blant rydych chi’n gyfrifol. Dywedwch wrthynt os oes gennych chi fabi, os ydych chi'n mabwysiadu neu’n dechrau maethu plentyn – gall hyn gynyddu eich taliad Credyd Cynhwysol neu newid pa weithgareddau cysylltiedig â gwaith sydd angen i chi eu gwneud.

Plentyn yw unrhyw un dan 16 oed, neu unrhyw un dan 20 oed sydd mewn addysg lawn amser, nad yw’n addysg uwch, er enghraifft yn yr ysgol neu mewn coleg.

Fel arfer, gallwch ond cael Credyd Cynhwysol ar gyfer 1 neu 2 blentyn. Fel arfer ni fyddwch yn cael arian ychwanegol ar gyfer trydydd plentyn oni bai iddo gael ei eni cyn 6 Ebrill 2017. Os cafodd eich trydydd plentyn ei eni ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau o hyd - mewn rhai achosion efallai y byddwch yn dal i gael arian ychwanegol. Mae’n werth edrych i weld faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch chi’n ei gael.

Dywedwch wrth eich Adran Gwaith a Phensiynau os yw unrhyw un o'ch plant yn:

  • anabl

  • gadael addysg lawn amser

  • gadael cartref

  • mynd i’r carchar

  • mynd i ofal awdurdod lleol - gan gynnwys os yw’r awdurdod lleol yn trefnu iddynt fyw gyda theulu neu ffrindiau

Os yw eich plentyn yn gadael cartref mae’n syniad da iddynt edrych i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol eu hunain.

Os ydych chi’n gweithio, dylech nodi faint rydych chi’n ei dalu am ofal plant bob mis, gan y gallwch hawlio rhywfaint o’r costau hyn yn ôl. Gallwch eu nodi ar eich cyfrif ar-lein. Os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein, bydd angen i chi ffonio'r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn: 0800 328 9344

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Dyma ragor o wybodaeth am gael taliadau gofal plant o dan y Credyd Cynhwysol.

Dechrau neu orffen addysg

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi, eich partner neu unrhyw un o’ch plant yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i addysg neu hyfforddiant llawn amser.

I rywun o dan 19 oed dylech hefyd ddweud wrthynt am ddechrau neu roi’r gorau i gwrs addysg uwch rhan-amser, fel hyfforddiant athrawon.

Os ydych chi’n dechrau addysg lawn amser, byddwch yn stopio cael Credyd Cynhwysol oni bai bod o leiaf un o’r eithriadau hyn yn gymwys:

  • rydych chi’n ddigon hen i gael Credyd Pensiwn ac rydych chi’n byw gyda phartner sy’n iau nag oedran Credyd Pensiwn

  • rydych chi’n cael Lwfans Gweini, Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud bod gennych chi ‘allu cyfyngedig i weithio’

  • rydych chi’n gofalu am blentyn dan 16 oed, neu dan 20 oed os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser hefyd

  • rydych chi’n aros i ailafael mewn cwrs ar ôl cymryd amser i ffwrdd oherwydd salwch neu gyfrifoldebau gofalu

  • rydych chi’n rhiant maeth ac mae plentyn wedi’i leoli gyda chi

  • rydych chi o dan 21 oed (neu'n 21 oed ond o dan 21 oed pan ddechreuodd eich cwrs), ddim mewn addysg uwch a heb gymorth rhieni

Mae bod heb gymorth rhieni yn golygu bod eich rhieni wedi marw neu nad ydych chi’n gallu byw gyda nhw. Er enghraifft, ni fyddai gennych chi gymorth eich rhieni pe bai’ch perthynas yn chwalu neu y byddai byw gyda nhw yn rhoi eich iechyd mewn perygl.

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner

Gallwch hefyd barhau i dderbyn Credyd Cynhwysol yn ystod addysg lawn amser os ydych chi’n byw gyda’ch partner a’i fod:

  • nad ydynt mewn addysg lawn amser

  • mewn addysg llawn amser hefyd , ond mae ganddo hawl i Gredyd Cynhwysol wrth astudio

  • mewn addysg llawn amser hefyd ac mae un ohonoch chi yn gyfrifol am blentyn neu yn rhiant maeth

Chi neu’ch partner yn cyrraedd oedran Credyd Pensiwn

Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Mae eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu cyfrifo bob mis – gelwir hyn yn ‘gyfnod asesu’. Bydd eich taliadau’n dod i ben ar ddiwedd eich cyfnod asesu presennol a dylech hawlio Credyd Pensiwn os:

  • nid oes gennych bartner ac rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • mae gennych bartner ac mae’r ddau ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn, efallai y bydd eich Credyd Cynhwysol a Chredyd Pensiwn yn gorgyffwrdd a byddwch yn cael y ddau ar yr un pryd. Mae hyn oherwydd y byddwch yn cael Credyd Pensiwn o’r dyddiad y cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bydd eich Credyd Cynhwysol yn dal i gael ei dalu tan ddiwedd eich cyfnod asesu cyfredol.

Gwiriwch a allwch gael Credyd Pensiwn. 

Os oes gennych bartner a dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn aros ar Gredyd Cynhwysol. Dylai pwy bynnag sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth fod yn y 'grŵp dim gweithgaredd cysylltiedig â gwaith'. Mae hyn yn golygu na fydd angen i’r person sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth chwilio am waith na pharatoi ar gyfer gwaith fel rhan o’r hawliad Credyd Cynhwysol.

Iechyd yn newid

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau:

  • os ydych chi'n sâl

  • os ydych chi wedi’ch anafu mewn ffordd sy’n ei gwneud yn anoddach i chi chwilio am waith

  • os ydych chi'n mynd mewn neu'n gadael yr ysbyty – neu os yw’ch partner yn gwneud hynny

  • os ydych chi'n mynd i neu'n gadael cartref gofal – neu os yw’ch partner yn gwneud hynny

  • os oes gennych chi salwch sy'n cael ei achosi gan feichiogrwydd

  • os ydych chi'n dechrau triniaeth am ganser gyda chemotherapi neu radiotherapi

  • os oes gennych salwch terfynol

Os ydych chi’n sâl am fwy na 7 diwrnod bydd angen i chi fynd yn ôl i gael nodyn meddyg a’i anfon at eich Adran Gwaith a Phensiynau.

Gallwch gael nodyn ffitrwydd gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:

  • eich meddyg teulu neu feddyg mewn ysbyty

  • nyrs gofrestredig

  • fferyllydd

  • therapydd galwedigaethol

  • ffisiotherapydd

Bydd eich nodyn ffitrwydd naill ai wedi'i argraffu neu'n ddigidol. Os nad ydych yn siŵr pa fath y byddwch yn ei gael a sut y byddwch yn ei gael, holwch y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Os cewch nodyn ffitrwydd wedi'i argraffu, gwiriwch fod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi'i lofnodi.

Os byddwch yn cael nodyn ffitrwydd digidol, gwiriwch ei fod yn cynnwys enw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Os nad yw'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol naill ai wedi llofnodi'ch nodyn ffitrwydd neu wedi cynnwys ei enw, gallai'r Adran Gwaith a Phensiynau ei wrthod ac efallai y bydd yn rhaid i chi gael un newydd.

Mae eich nodyn ffitrwydd am ddim os ydych wedi bod yn sâl am fwy na 7 diwrnod pan ofynnwch amdano.

Dylech bob amser gadw eich nodyn ffitrwydd - efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am un arall os byddwch yn ei golli neu ei ddileu. Gallwch roi copi i’r Adran Gwaith a Phensiynau neu dynnu llun ohono i’w uwchlwytho ar-lein.

Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol os na allwch ychwanegu eich nodyn ffitrwydd at eich cyfrif.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Os ydych chi'n sâl am fwy na 14 diwrnod

Mae hyn yn cyfrif fel salwch hirdymor. Ni fydd angen i chi weithio os gallwch chi ddangos bod gennych chi 'allu cyfyngedig i weithio'.

Efallai y bydd angen i chi lenwi holiadur am eich iechyd a mynd i asesiad meddygol. Gall hyn gymryd amser, felly gofynnwch i’ch hyfforddwr gwaith atal eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith yn y cyfamser.

Gofynnwch am gael newid eich ymrwymiad hawliwr os yw problemau iechyd yn golygu nad ydych chi’n gallu gwneud eich holl weithgareddau gwaith. Mae’n syniad da gwneud hynny hyd yn oed ar gyfer newid bach, er enghraifft os yw apwyntiadau meddyg rheolaidd yn golygu bod gennych chi 2 awr yn llai'r wythnos i chwilio am waith.

Os ydych chi’n hunangyflogedig a sâl dros dro

Os ydych chi’n rhy sâl i i weithio a bod hynny’n effeithio ar eich gallu i wneud elw, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau a gofyn iddynt eich trin fel nad ydych chi mewn ‘hunangyflogaeth â thâl’ tra’ch bod yn sâl.

Os nad ydych chi mewn hunangyflogaeth â thâl, dylai’ch taliad Credyd Cynhwysol fod yn uwch. Mae hyn oherwydd na all yr Adran Gwaith a Phensiynau gymhwyso’r ‘llawr isafswm incwm’. Dyma'r swm y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn disgwyl i chi ei ennill bob mis - maent yn ei ddefnyddio i gyfrifo’ch taliad.

Dyma ragor o wybodaeth am y llawr isafswm incwm a sut mae’n effeithio ar eich taliad.

Os bydd rhywun rydych chi’n agos ato’n marw

Bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am farwolaeth:

  • eich partner

  • eich plentyn – os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod dan 18 oed ac yn gyfrifol am blentyn

  • rhywun roeddech chi’n gofalu amdano

  • unrhyw un dros 18 oed ac sy’n byw gyda chi

Gallwch ddefnyddior gwasanaeth Tell Us Once ar GOV.UK i ddweud wrth adrannau’r llywodraeth am farwolaeth yn gyflym a hawdd. Gallwch hefyd ofyn i’ch hyfforddwr gwaith am saib o chwilio am waith os yw aelod o’ch teulu wedi marw.

Newidiadau i’ch statws mewnfudo

Dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus y gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol. Mewn rhai sefyllfaoedd mae’n rhaid i chi hefyd fod â ‘hawl i breswylio’ o hyd.

Gallwch hawlio arian cyhoeddus os oes gennych unrhyw un o’r canlynol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig

  • statws sefydlog o Gynllun Setliad yr UE

  • absenoldeb amhenodol - oni bai eich bod wedi dod i'r DU ar fisa perthynas oedolyn sy'n ddibynnol

  • statws ffoadur neu warchodaeth ddyngarol

  • hawl i breswylio

Os oes gennych statws cyn-sefydlog gan Gynllun Setliad yr UE, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Credyd Cynhwysol. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio. 

Os ydych chi wedi gwneud cais i Gynllun Setliad yr UE a’ch bod yn aros am benderfyniad, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Credyd Cynhwysol. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio. 

Os oes gennych unrhyw statws mewnfudo arall, gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 15 Hydref 2020