Gwiriwch a allwch chi gael Credyd Cynhwysol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal y gallwch ei hawlio os ydych chi ar incwm isel neu'n ddi-waith. 

Gallai fod yn werth hawlio Credyd Cynhwysol:

  • os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu biliau

  • os ydych chi wedi colli eich swydd ac nad oes gennych chi incwm

  • os yw eich incwm wedi gostwng ond rydych chi’n dal i weithio

  • os oes gennych chi anabledd neu salwch sy'n eich atal rhag gweithio

  • os oes gennych chi gostau gofal plant

  • os ydych chi'n gofalu am rywun

Os ydych chi’n cael budd-daliadau eraill yn barod, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi symud i Gredyd Cynhwysol yn lle hynny. 

Nid oes lefel benodol o incwm pan na fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol - mae'n dibynnu ar eich sefyllfa.

Darllenwch ein cyngor i weld a allwch chi gael Credyd Cynhwysol. Os nad ydych chi’n siŵr o hyd, dylech siarad â chynghorydd.

Newidiadau i Gredyd Cynhwysol o 2026 ymlaen

Ar 18 Mawrth 2025, cyhoeddodd y llywodraeth newidiadau i sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu. 

Ni fydd y newidiadau’n digwydd tan fis Ebrill 2026.

Os nad ydych chi’n cael unrhyw fudd-dal a’ch bod chi’n ystyried gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, dylech wneud hynny. Rydych chi’n fwy tebygol o gael mwy o arian os byddwch chi’n gwneud cais cyn i’r rheolau newid.

Os ydych chi’n ystyried symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill, efallai y byddai’n well aros nes i’r Adran Gwaith a Phensiynau ddweud wrthych chi am wneud cais. Gwiriwch i weld a ddylech chi symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.

Pwy all gael Credyd Cynhwysol

Er mwyn cael Credyd Cynhwysol, fel arfer mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:

  • rydych chi’n 18 oed neu'n hŷn - neu mewn rhai achosion yn 16 neu'n 17 oed

  • rydych chi dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth - gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK

  • rydych chi’n byw yn y Deyrnas Unedig - mae rheolau ychwanegol os nad ydych chi’n ddinesydd Prydeinig

Os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth a'ch bod chi wedi cael cyfarwyddyd i hawlio Credyd Cynhwysol

Fe gewch chi hawlio Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn berthnasol os oeddech chi’n arfer cael Credyd Treth Gwaith a’ch bod chi wedi cael hysbysiad mudo yn dweud wrthych chi am hawlio Credyd Cynhwysol.

Fel arfer, rhaid i chi fod â llai na £16,000 mewn cynilion neu fuddsoddiadau eraill - gelwir hyn yn 'gyfalaf'. Nid yw cyfalaf yn cynnwys eich pot pensiwn na'r cartref rydych chi’n byw ynddo.

Os ydych chi'n byw gyda phartner, bydd eu hincwm a'u cyfalaf yn cael eu hystyried.

Os oes gennych chi fwy na £16,000 mewn cyfalaf, mae’n bosibl y byddwch chi’n dal i allu cael Credyd Cynhwysol am hyd at flwyddyn. Mae hyn yn berthnasol os oeddech chi’n arfer cael credydau treth a’ch bod chi wedi cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych chi am symud i Gredyd Cynhwysol.

Gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych chi'n byw gyda phobl eraill ond gallai effeithio ar faint gewch chi. Er enghraifft, gallai byw gyda rhieni olygu eich bod chi’n cael llai o help gyda chostau tai.

Gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych chi'n hunangyflogedig - mae'r broses ymgeisio yr un fath.

Mae p’un a fyddwch chi’n gallu cael Credyd Cynhwysol yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Os ydych chi eisoes yn hawlio budd-daliadau

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli’r canlynol yn raddol:

  • Budd-dal Tai

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA)

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA)

  • Cymhorthdal Incwm

Gallwch aros ar un o’r budd-daliadau hyn fel arfer oni bai:

  • bod rhywbeth am eich sefyllfa wedi newid - nid yw pob newid yn golygu bod angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol

  • eich bod chi wedi cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych chi am hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol - a elwir yn 'hysbysiad mudo'

Os ydych chi wedi cael llythyr, dim ond os yw’n hysbysiad mudo swyddogol y bydd yn rhaid i chi symud i Gredyd Cynhwysol. Rhagor o wybodaeth am symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.

Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli Credyd Treth Plant a Chredydau Treth Gwaith. Daeth y budd-daliadau hyn i ben ym mis Ebrill 2025 – dywedwyd wrth y rhan fwyaf o bobl i symud i Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Os ydych chi'n apelio yn erbyn penderfyniad ar fudd-daliadau

Os ydych chi wedi cael hysbysiad mudo, dylech hawlio erbyn y dyddiad cau ar yr hysbysiad.

Os nad ydych chi wedi cael hysbysiad mudo, mae’n bosibl y byddai’n werth aros am benderfyniad ar eich apêl neu ailystyried gorfodol cyn hawlio Credyd Cynhwysol. Os byddwch chi’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, mae’n bosibl na fyddwch chi’n gallu mynd yn ôl at eich budd-dal arall hyd yn oed os bydd eich apêl yn llwyddo.

Gallwch siarad â chynghorydd os nad ydych chi’n siŵr a ddylech chi hawlio Credyd Cynhwysol ynteu aros am eich apêl.

Os ydych chi'n fyfyriwr mewn addysg neu hyfforddiant

Os ydych chi mewn addysg neu hyfforddiant, dydych chi ddim yn gallu cael Credyd Cynhwysol fel arfer - ond mae eithriadau.

Gwirio a ydych chi mewn addysg neu hyfforddiant

Rydych chi’n cyfri fel un sydd mewn addysg neu hyfforddiant::

  • os ydych chi mewn addysg uwch amser llawn - mae hyn yn cynnwys unrhyw beth sy'n uwch na Safon Uwch

  • os ydych chi'n dilyn unrhyw gwrs amser llawn lle’r ydych chi'n cael benthyciad neu grant cynhaliaeth

  • os ydych chi'n dilyn unrhyw gwrs amser llawn neu ran-amser sy'n eich atal rhag gwneud eich gofynion sy'n gysylltiedig â gwaith - gwiriwch eich gofynion sy'n ymwneud â gwaith

Rydych chi hefyd yn cyfri fel un sydd mewn addysg neu hyfforddiant hyd at 1 Medi ar ôl eich pen-blwydd yn 19 oed, os ydych chi’n gwneud o leiaf 12 awr o waith yr wythnos mewn:

  • ysgol neu goleg

  • mathau penodol o gyrsiau hyfforddi

Fyddwch chi ddim yn cyfri fel un sydd mewn addysg os ydych chi’n dilyn y cwrs hyfforddi fel rhan o’ch swydd. Mae'n bosib hefyd na fyddwch chi'n cyfri os ydych chi wedi cael eich cyfeirio at y cwrs hyfforddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu os yw'n para llai na 6 mis.

Os ydych chi’n astudio ond nad ydych chi yn unrhyw un o’r sefyllfaoedd uchod, fyddwch chi ddim yn cyfri fel un sydd mewn addysg neu hyfforddiant. Mae hyn yn golygu y dylech chi allu cael Credyd Cynhwysol.

Eithriadau sy'n rhoi modd i chi gael Credyd Cynhwysol tra'r ydych chi mewn addysg

Gallwch gael Credyd Cynhwysol o hyd os yw o leiaf un o'r canlynol yn berthnasol: 

  • os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth a'ch bod chi’n byw gyda phartner sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth - gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK

  • os yw eich rhieni wedi marw neu os nad ydych chi'n gallu byw gyda nhw, ac os nad ydych chi mewn addysg uwch - mae'n rhaid eich bod chi o dan 21 oed, neu'n 21 oed os ydych chi wedi cyrraedd yr oedran hwn yn ystod eich cwrs

  • os gwnaethoch chi gymryd amser o'r gwaith oherwydd eich bod chi’n sâl neu bod gennych chi gyfrifoldebau gofalu, ond rydych chi yn awr yn aros i ddychwelyd i'r cwrs

  • os ydych chi'n cael Lwfans Gweini, Lwfans Byw i'r Anabl, Taliad Annibyniaeth Personol, Taliad Anabledd i Oedolion neu Daliad Anabledd i Blant - a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi penderfynu bod gennych chi 'allu cyfyngedig i weithio' cyn i chi ddechrau eich cwrs

  • os ydych chi'n gofalu am blentyn dan 16 oed, neu dan 20 oed os ydyn nhw hefyd mewn addysg neu hyfforddiant amser llawn

  • os ydych chi'n rhiant maeth a bod gennych chi blentyn sy'n byw gyda chi

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner

Gallwch gael Credyd Cynhwysol tra'r ydych chi mewn addysg os ydych chi’n byw gyda'ch partner a bod un o'r canlynol yn berthnasol iddyn nhw:

  • nid ydyn nhw mewn addysg na hyfforddiant

  • maen nhw mewn addysg neu hyfforddiant, ond mae ganddyn nhw hawl i Gredyd Cynhwysol wrth astudio

  • eu bod mewn addysg neu hyfforddiant, a bod un ohonoch chi’n gyfrifol am blentyn neu’n rhiant maeth

Os ydych chi wedi cael hysbysiad mudo

Os ydych chi wedi cael hysbysiad mudo yn dweud wrthych chi am symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill, gallwch gael Credyd Cynhwysol tra’r ydych chi mewn addysg. Fel arfer, gallwch gael Credyd Cynhwysol tan i'ch cwrs ddod i ben.

Os nad ydych chi'n ddinesydd y Deyrnas Unedig

Dim ond os yw eich statws mewnfudo yn gadael i chi hawlio arian cyhoeddus y gallwch chi gael Credyd Cynhwysol. Mewn rhai sefyllfaoedd, mae angen ‘hawl i breswylio’ arnoch chi hefyd.

Cewch hawlio arian cyhoeddus os oes gennych chi unrhyw un o'r canlynol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig

  • statws preswylydd sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd

  • caniatâd amhenodol i aros - oni bai eich bod yn dod i'r Deyrnas Unedig ar fisa perthynas sy’n oedolyn dibynnol

  • statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol

  • hawl preswylio

Os oes gennych chi statws preswylydd cyn-sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych chi hawl i breswylio i gael Credyd Cynhwysol. Edrychwch i weld a oes gennych chi hawl i breswylio.

Os ydych chi wedi gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd a’ch bod chi’n aros am benderfyniad, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych chi hawl i breswylio i gael Credyd Cynhwysol. Edrychwch i weld a oes gennych chi hawl i breswylio.

Os oes gennych chi unrhyw statws mewnfudo arall, dylech wirio a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu i chi hawlio arian cyhoeddus.

Gwneud cais fel cwpl

Os ydych chi a’ch partner yn gwneud cais ar y cyd am Gredyd Cynhwysol, mae angen i’r ddau ohonoch fod yn gymwys. Bydd angen i’r ddau ohonoch fod yn preswylio fel arfer, a bod â statws preswylydd sefydlog neu hawl i breswylio.

Os nad yw un ohonoch yn gymwys, gall y llall wneud cais am Gredyd Cynhwysol o hyd. Dylent wneud cais ar y cyd oherwydd bod angen i’r Adran Gwaith a Phensiynau gael gwybod am eich incwm.

Pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn prosesu’r hawliad, byddan nhw’n ei newid i un hawliad. Mae hyn yn golygu y byddwch chi neu eich partner yn cael eich talu fel petaech chi'n unigolyn sengl.

Os ydych chi neu eich partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os yw'r ddau ohonoch chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fel arfer mae'n well i chi hawlio Credyd Pensiwn. Gallwch wirio oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Gallwch siarad â chynghorydd os nad ydych chi’n siŵr pa fudd-dal i'w hawlio - gallant eich helpu i gyfrifo pryd byddwch chi’n well eich byd.

Os ydych chi’n talu rhent

Os yw'r ddau ohonoch chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth a'ch bod chi’n talu rhent, mae’n bosibl y gallwch chi gael Budd-dal Tai. Dylech wirio a allwch chi gael Budd-dal Tai.

Os mai dim ond un ohonoch chi sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os mai dim ond un ohonoch chi sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fel arfer chewch chi ddim hawlio Credyd Pensiwn na Budd-dal Tai. Yn aml, bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny.

Dim ond os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol y gallwch wneud cais:

  • bod un ohonoch chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 15 Mai 2019

  • rydych chi wedi bod yn hawlio Budd-dal Tai neu Gredyd Pensiwn fel rhan o’r un cwpl ers cyn 15 Mai 2019

Mae eithriad hefyd os na all y partner iau gael Credyd Cynhwysol oherwydd ei statws mewnfudo. Yn y sefyllfa hon, gall y partner hŷn hawlio Credyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai fel unigolyn sengl.

Gwiriwch a yw statws mewnfudo'r partner iau yn gadael iddo gael budd-daliadau.

Os yw un ohonoch yn cael Credyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai, gallwch barhau i'w gael oni bai eich bod chi’n cael hysbysiad mudo. Os nad ydych chi’n cael Credyd Pensiwn yn barod, gallwch wneud cais newydd am Gredyd Pensiwn. Os ydych chi’n talu rhent, dylech hefyd holi i weld a allwch chi hawlio Budd-dal Tai.

Mae eithriad arall sy’n golygu na fydd yn rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny. Mae hyn yn berthnasol os yw’r unigolyn nad yw wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael:

  • Cymhorthdal Incwm

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA)

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA)

Mae modd iddyn nhw ei gael o hyd oni fyddan nhw’n cael hysbysiad mudo.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, mae’n bosibl y bydd eich budd-dal yn dod i ben. Os bydd hysbysiad mudo'n cael ei anfon atoch, bydd y budd-dal rydych chi'n ei gael yn dod i ben a bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny.

Os ydych chi'n 16 neu'n 17 oed

Mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi’n bodloni’r holl amodau eraill a hefyd un o’r rhain:

  • allwch chi ddim gweithio oherwydd eich bod chi’n anabl neu'n sâl - bydd angen i chi roi tystiolaeth feddygol i’r Adran Gwaith a Phensiynau sy'n dangos hyn

  • os oes gennych chi blentyn - neu os ydych chi’n disgwyl babi yn yr 11 wythnos nesaf

  • os ydych chi’n gofalu am unigolyn ag anabledd difrifol

  • mae eich rhieni wedi marw neu ni allwch fyw gyda nhw - er enghraifft, os yw eich perthynas wedi chwalu neu os byddai eich iechyd mewn perygl

Ni fydd angen i chi chwilio am waith fel rhan o'ch cais am Gredyd Cynhwysol os yw'r ddau beth a ganlyn yn berthnasol:

  • rydych chi mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser

  • nid oes gennych chi riant, rhiant maeth neu awdurdod lleol yn gofalu amdanoch chi

Os ydych chi wedi byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ddangos mai’r Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref. Gelwir hyn yn ‘preswylio fel arfer’ yn y Deyrnas Unedig. Rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig.

Gwiriwch sut i brofi eich bod yn preswylio fel arfer.

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Os ydych chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol, fel arfer bydd yn rhaid i chi wneud cais ar-lein.

Dysgwch sut mae dechrau arni gyda’ch cais am Gredyd Cynhwysol.  

Cael cymorth

Os nad ydych chi’n siŵr a allwch chi gael Credyd Cynhwysol, gallwch siarad â chynghorydd.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 28 Mawrth 2019