Rhoi gwybod am enillion hunangyflogaeth

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae angen i chi roi gwybod am eich enillion bob mis i’r Adran Gwaith a Phensiynau - ni fyddant yn eich atgoffa.

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod am eich enillion am bob mis y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrifo’ch taliadau Credyd Cynhwysol - gelwir hyn yn ‘gyfnod asesu’. Fel arfer bydd eich cyfnod asesu yn dechrau ar yr un dyddiad bob mis - gan ddechrau 1 mis calendr ar ôl y dyddiad y byddwch yn cyflwyno’ch cais ar-lein neu dros y ffôn.

Gallwch roi gwybod am eich enillion am y mis o 7 diwrnod cyn a hyd at 14 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod asesu.

Enghraifft

Mae Ruth yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar 8 Tachwedd. Mae ei chyfnodau asesu yn dechrau ar yr 8fed o bob mis.

Mae ei chyfnod asesu cyntaf yn rhedeg rhwng 8 Tachwedd a 7 Rhagfyr. Mae’n rhaid iddi hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau o’i henillion ar gyfer y cyfnod hwn rhwng 1 Rhagfyr a 21 Rhagfyr.

Os nad ydych chi’n gallu rhoi gwybod am eich enillion ar amser

Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu seilio’ch taliad ar amcangyfrif o’ch enillion. Bydd angen i chi gael rheswm da pam nad oeddech chi’n gallu rhoi gwybod am eich enillion ar amser. Er enghraifft, os cawsoch eich derbyn i’r ysbyty ar fyr rybudd ac nad oedd gan unrhyw un arall fynediad at eich cyfrifon.

Os nad oes gennych chi reswm da, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau fel arfer yn atal eich hawliad Credyd Cynhwysol tan i chi roi gwybod am eich enillion.

Cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl i egluro pam eich bod yn hwyr yn rhoi gwybod am eich enillion. 

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Rhif ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888

Rhif ffôn: 0800 328 5644 Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Cyfrifo’ch enillion

Dylech adio’r holl incwm mae’ch busnes wedi'i dderbyn yn ystod y cyfnod asesu - mae’r rhain yn cael eu galw’n ‘dderbyniadau’.

Yna dylech dynnu’r symiau rydych chi wedi’u gwario ar eich busnes - gelwir y rhain yn ‘lwfansau personol a threuliau a ganiateir’. Bydd hyn yn rhoi cyfanswm eich enillion terfynol i chi.

Lwfansau personol

Bydd angen i chi dynnu symiau ar gyfer y canlynol o’ch enillion:

  • treth incwm - os ydych chi wedi talu unrhyw faint y mis hwnnw

  • Yswiriant Gwladol - os ydych chi wedi talu unrhyw faint y mis hwnnw

  • y cyfraniadau pensiwn rydych chi’n eu gwneud

Treuliau a ganiateir

Dylech dynnu’r symiau rydych chi wedi’u gwario ar dreuliau rhesymol ar gyfer eich busnes. Gallai’r rhain gynnwys:

  • stoc neu gyfarpar

  • rhent ar gyfer safleoedd busnes, swyddfa neu ofod storio

  • yswiriant – fel yswiriant atebolrwydd neu adeiladau

  • ad-dalu llog ar fenthyciad - hyd at £41 y mis

  • TAW

Costau cerbyd

Gallwch ddidynnu treuliau ar gyfer costau cerbyd rydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes. Mae’r swm y gallwch ei ddidynnu yn dibynnu ar y math o gerbyd rydych chi’n ei ddefnyddio.

Os ydych chi'n defnyddio car at ddibenion busnes, gallwch ddidynnu swm penodedig am bob milltir rydych chi'n teithio ar gyfer busnes - gelwir hyn yn 'ddidyniad cyfradd sylfaenol'.

Os nad car yw’r cerbyd - er enghraifft, os yw’n fan neu'n feic modur - gallwch ddewis didynnu naill ai:

  • didyniadau cyfradd safonol

  • union dreuliau prynu a defnyddio’r cerbyd - gan gynnwys petrol, cynnal a chadw, atgyweiriadau, yswiriant a MOT

Mae didyniadau cyfradd safonol yn 24c y filltir ar gyfer beiciau modur. Maent yn 45c y filltir ar gyfer y 833 milltir gyntaf a 25c y filltir wedi hynny ar gyfer cerbydau eraill.

Os ydych chi’n defnyddio’ch cartref at ddibenion busnes

Mae’n rhaid i chi ddidynnu treuliau ar gyfer defnyddio'ch cartref gan ddefnyddio didyniadau cyfradd safonol. Mae swm y didyniad yn dibynnu ar nifer yr oriau a dreuliwyd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod asesu.

Oriau a dreuliwyd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod asesu Didyniad cyfradd safonol
Oriau a dreuliwyd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod asesu

Rhwng 25 a 49 awr

Didyniad cyfradd safonol

£10

Oriau a dreuliwyd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod asesu

Rhwng 50 a 99 awr

Didyniad cyfradd safonol

£18

Oriau a dreuliwyd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod asesu

Mwy na 100 awr

Didyniad cyfradd safonol

£26

Rhoi gwybod am eich enillion

Gallwch roi gwybod am eich enillion drwy’ch cofnod ar-lein.

Os ydych chi wedi gwneud gwaith am dâl i gyflogwr, dylech roi gwybod am yr incwm hwn hefyd.

Os oes angen cymorth neu gefnogaeth arnoch i roi gwybod am eich enillion, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Rhif ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888

Rhif ffôn: 0800 328 5644 Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Os nad ydych chi’n gwneud elw mewn mis

Dylech ddal ati i roi gwybod am eich incwm a'r hyn rydych chi wedi'i wario ar eich busnes drwy eich cofnod ar-lein.

Os ydych chi wedi gwneud colled, caiff hyn ei dynnu o’ch elw y tro nesaf y byddwch yn gwneud elw. Mae hyn yn golygu y gallech gael mwy o Gredyd Cynhwysol yn y dyfodol.

Enghraifft

Mae Alessia yn hunangyflogedig ac yn cael Credyd Cynhwysol.

Ym mis Ionawr, rhoddodd Alessia wybod ei bod wedi gwneud colled o £500. Ym mis Chwefror, rhoddodd wybod ei bod wedi gwneud elw o £800.

Mae’r golled o fis Ionawr yn cael ei thynnu o elw mis Chwefror. £800 llai £500 ydy £300.

Mae taliad Credyd Cynhwysol Alessia ar gyfer mis Chwefror yn cael ei gyfrifo fel petai wedi gwneud elw o £300.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwirio’ch enillion ac a yw’r llawr isafswm incwm yn gymwys i chi. Yna, byddant yn cyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol y dylech chi ei dderbyn ar gyfer y cyfnod asesu. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ceisio’ch talu o fewn 7 diwrnod i ddiwrnod olaf y cyfnod asesu.

Edrychwch i weld a yw'r llawr isafswm incwm yn gymwys i chi.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 18 Rhagfyr 2018