Edrych i weld os oes gennych chi hawl i ystafell wely ychwanegol ar gyfer Budd-dal Tai
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor neu gartref cymdeithas dai, efallai y bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei leihau os ystyrir bod eich cartref yn rhy fawr i chi. Caiff hyn ei alw weithiau’n 'dreth ystafell wely', y 'tâl tan-feddiannu', 'meini prawf maint y sector cymdeithasol' neu 'ddileu'r cymhorthdal ystafell sbâr'.
Efallai y bydd hyn yn effeithio arnoch chi os ydych chi o oedran gweithio. Serch hynny, ewch i weld os oes unrhyw reolau arbennig a allai fod yn berthnasol i chi.
Os oes angen ystafell arnoch chi ar gyfer rhywun nad yw’n byw gyda chi
Os oes rhywun fel arfer yn byw gyda chi ond i ffwrdd o adref, maen nhw'n dal i gyfri fel rhywun sy'n byw gyda chi:
os ydynt yn bwriadu dychwelyd i fyw gyda chi
os nad ydych chi wedi isosod eu hystafell
os ydynt yn y DU ac yn annhebygol y byddant i ffwrdd am fwy na 13 wythnos
os ydynt y tu allan i’r DU ac yn annhebygol y byddant i ffwrdd am fwy na 4 wythnos
Os ydynt i ffwrdd am hyd at flwyddyn, gallant dal gyfri fel eu bod nhw'n byw gyda chi os ydynt:
yn bwriadu dod adref
yn yr ysbyty, neu i ffwrdd yn astudio neu’n hyfforddi
Fel arall, dim ond ystafell wely i bobl sy'n byw gyda chi drwy'r amser y gallwch chi ei chael. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cael llai o Fudd-dal Tai os oes gennych chi ystafell sbâr i blant sydd wedi symud allan ond sy'n dod i aros weithiau.
Os ydych chi’n anabl
Fe gewch chi ystafell wely ychwanegol os oes gan rywun yn eich cartref anabledd ac angen gofal rheolaidd dros nos gan ofalwr nad yw'n byw gyda chi. Ni fydd hyn yn cyfri fel ystafell wely sbâr. Mae angen i'r person sy'n anabl naill ai fod:
y person sy’n hawlio
partner y person sy’n hawlio
unrhyw oedolyn arall sy'n byw gyda chi ac yn cael budd-dal anabledd
Dylai’r person anabl hefyd gael o leiaf 1 o’r budd-daliadau hyn:
Lwfans Gweini
cyfradd ganol neu uwch elfen gofal y Lwfans Byw i’r Anabl
cyfradd safonol neu uwch elfen bywyd beunyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol
Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
cyfradd safonol neu uwch elfen bywyd beunyddiol y Taliad Anabledd i Oedolion
cyfradd ganol neu uchaf elfen gofal y Taliad Anabledd i Blant
Dim ond 1 ystafell wely ychwanegol y gallwch ei chael ar gyfer gofalwyr, hyd yn oed os oes angen gofal dros nos ar fwy nag 1 person yn eich cartref.
Gallwch chi hefyd gael ystafell wely ychwanegol os ydych chi’n gwpl ac mae gan un ohonoch chi anabledd sy'n golygu na allwch chi rannu ystafell wely. Bydd angen i'r person anabl gael o leiaf 1 o'r budd-daliadau hyn:
cyfradd uwch y Lwfans Gweini
cyfradd ganol neu uwch elfen gofal y Lwfans Byw i’r Anabl
cyfradd safonol neu uwch elfen bywyd beunyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol
Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
cyfradd safonol neu uwch elfen bywyd beunyddiol y Taliad Anabledd i Oedolion
cyfradd ganol neu uchaf elfen gofal y Taliad Anabledd i Blant
Os ydych chi’n anabl ac yn cael eich effeithio gan y toriadau, dylech chi wneud cais i’ch cyngor lleol am help ychwanegol gyda’ch rhent – mae’n cael ei alw’n Daliad Disgresiwn at Gostau Tai. Dylai eich cyngor roi blaenoriaeth i chi, yn enwedig os yw eich cartref wedi’i addasu’n arbennig ar eich cyfer. Dylech chi hefyd gael blaenoriaeth am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai os byddai'n anodd i chi symud, er enghraifft oherwydd eich bod yn dibynnu ar eich teulu a'ch ffrindiau sy'n byw yn yr ardal.
Os oes gennych chi blentyn anabl
Fe gewch chi ystafell wely ychwanegol os yw eich plentyn yn anabl ac yn methu â rhannu ystafell wely gyda phlentyn arall oherwydd eu hanabledd. Rydych chi hefyd yn cael ystafell wely ychwanegol os yw eich plentyn yn anabl ac angen gofal rheolaidd dros nos wrth ofalwr nad yw’n byw gyda chi. Rhaid i chi fodloni'r amodau canlynol:
rhaid i'ch plentyn anabl fod â hawl i gyfradd ganol neu uchaf elfen gofal y Lwfans Byw i’r Anabl - neu gyfradd ganol neu uchaf elfen gofal y Taliad Anabledd i Blant
rhaid i'ch cyngor lleol dderbyn bod anabledd eich plentyn yn golygu na allant rannu ystafell wely gyda phlentyn arall
Os yw eich cyngor lleol yn penderfynu lleihau eich Budd-dal Tai oherwydd eu bod yn credu bod gennych chi ormod o ystafelloedd gwely, gallwch chi ddefnyddio llythyr enghreifftiol yr elusen Contact i egluro pam mae angen ystafell wely ar wahân ar eich plentyn anabl. Gallwch chi lawrlwytho’r llythyr ar ‘Herio penderfyniadau treth ystafell wely’ o wefan Contact neu ffoniwch nhw am ddim ar 0808 808 3555.
Os yw eich plentyn yn byw gyda chi am ran o’r wythnos yn unig
Os ydych chi'n rhannu gofal eich plentyn gyda rhiant arall y plentyn, bydd eich plentyn yn cael ei drin fel pe bai'n byw gyda'r rhiant sy'n darparu prif gartref y plentyn. Os yw'ch plentyn yn treulio'r un faint o amser gyda'r ddau riant, bydd yn cael ei drin fel pe bai'n byw gyda'r rhiant sy'n hawlio Budd-dal Plant ar ei gyfer. Gall hyn olygu na fyddwch chi'n cael ystafell wely i'r plentyn.
Os ydych chi’n ofalwr maeth
yr hawlydd
partner yr hawlydd
rhywun arall sy’n denant ar y cyd gyda’r hawlydd neu bartner yr hawlydd
partner rhywun arall sy’n denant ar y cyd gyda’r hawlydd neu bartner yr hawlydd
Dim ond un ystafell wely ychwanegol a ganiateir i hawlydd a phartner hawlydd os yw’r ddau yn ofalwyr maeth cymeradwy neu'n ofalwyr sy’n berthynas. Dim ond un ystafell wely ychwanegol a ganiateir i denant ar y cyd a phartner y tenant ar y cyd os yw’r ddau yn ofalwyr maeth cymeradwy neu'n ofalwyr sy’n berthynas.
Mae'r rheolau hyn yn berthnasol p'un a yw plentyn wedi'i leoli gyda'r gofalwr ai peidio, cyn belled â'u bod wedi maethu plentyn neu wedi dod yn ofalwr cymeradwy yn ystod y 12 mis diwethaf.
Os yw eich plentyn yn y Lluoedd Arfog
Os oes gennych fab, merch neu lysblentyn sy'n oedolyn yn y Lluoedd Arfog ac yn byw gyda chi ond sy'n gwasanaethu i ffwrdd o gartref, cânt eu trin fel pe baent yn parhau i fyw gartref.
Cyn belled â’u bod yn bwriadu dychwelyd adref, ni fydd y rheolau'n berthnasol i'r ystafell wely maen nhw fel arfer yn ei meddiannu.
Os ydych chi’n denant ar y cyd
Mae pawb sy’n rhannu tŷ yn cael ei gyfri hyd yn oed os ydynt yn denantiaid ar y cyd. Os ydych chi'n denant ar y cyd ac ystyrir bod eich eiddo yn rhy fawr i chi, bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei leihau.
Er enghraifft, rydych chi'n denant cyngor ar y cyd gyda'ch brawd ac mae gennych chi eiddo 3 ystafell wely. Roedd plentyn eich brawd yn arfer byw gyda chi felly roedd gennych chi un ystafell wely yr un. Serch hynny, nawr bod ei blentyn wedi gadael cartref, byddwch chi'n cael eich trin fel pe bai gennych chi ystafell wely sbâr.
Os oes rhywun yn eich cartref yn marw
Os oes rhywun wedi marw’n ddiweddar yn eich cartref, gallai hyn olygu y byddai eich cartref bellach yn cael ei ystyried yn rhy fawr i chi. Serch hynny, os bydd hyn yn digwydd, ni fydd eich Budd-dal Tai yn cael ei leihau am flwyddyn ar ôl y farwolaeth.
Os oes gan eich cartref ddiogelwch ychwanegol i’ch diogelu rhag cam-drin domestig
Ni fydd y rheolau cyfyngiadau maint yn effeithio arnoch chi os yw'r ddau o'r canlynol yn berthnasol:
rydych chi neu rywun rydych chi'n byw gyda nhw wedi profi neu wedi cael eich bygwth â cham-drin domestig – edrychwch i weld beth yw cam-drin domestig
ychwanegodd eich cyngor lleol ddiogelwch ychwanegol i’ch cartref o dan gynllun noddfa
Bydd angen i chi gael tystiolaeth am eich sefyllfa wrth rywun swyddogol – er enghraifft, yr heddlu neu fudiad cam-drin domestig.
A yw cyfyngiadau maint Budd-daliadau Tai yn gymwys i bob math o gartrefi
Os ydych chi’n byw mewn math penodol o dai cymdeithasol, ni fyddwch chi’n cael eich effeithio gan y rheolau cyfyngiadau maint.
Bydd hynny’n wir os ydych chi'n byw mewn:
llety dros dro y mae’r cyngor wedi eich rhoi ynddo oherwydd eich bod yn ddigartref (ond nid os yw'r cyngor yn berchen ar y llety hwn)
llety â chymorth fel tŷ neu fflat lle gallwch chi gael help ychwanegol wrth weithwyr cymorth, neu lety gwarchod i bobl hŷn
Nid yw'r cyfyngiadau maint yn berthnasol i ffioedd safle ar gyfer carafán neu gartref symudol, nac i ffioedd angori ar gyfer cwch preswyl. Ond gallent fod yn berthnasol os ydych chi'n rhentu'ch cartref symudol neu'ch cwch preswyl wrth y cyngor neu gymdeithas dai.
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.