Cysylltu â’r gwasanaeth defnyddwyr ar gyfer problemau ynni
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Holwch gynghorydd profiadol am broblem yn ymwneud â'ch biliau ynni neu gyflenwad ynni. Gallwch ffonio, sgwrsio ar-lein neu lenwi ffurflen ar-lein i gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.
Ffonio’r llinell gymorth
Llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 ac yna 0808 223 1133
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu decstffon. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm. Mae llinellau ar gau ar wyliau banc.
I gysylltu â chynghorydd sy'n siarad Cymraeg: 0808 223 1144
Bydd cynghorydd yn ateb eich galwad cyn gynted â phosibl, fel arfer o fewn ychydig funudau. Unwaith y byddwch yn siarad â chynghorydd, dylai eich galwad gymryd 8 i 10 munud ar gyfartaledd.
Mae galwadau o ffonau symudol a llinellau tir am ddim.
Cychwyn sgwrs
Gallwch sgwrsio am eich problem ynni ar-lein gyda chynghorydd profiadol.
Mae sgwrs ar gael fel arfer rhwng 9am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener – nid yw ar gael ar wyliau cyhoeddus.
I ddechrau sgwrs, pwyswch y botwm sgwrs crwn yng nghornel dde isaf eich sgrin.
Os ydych chi'n defnyddio darllenydd sgrin, bydd y botwm 'Dechrau sgwrs' wedi ei gynnwys yn eich rhestr ffurflenni neu ar ddiwedd y dudalen hon.
Er mwyn eich cysylltu â'r cynghorydd priodol, byddwn yn gofyn am ychydig o fanylion, gan gynnwys:
yr hyn rydych chi angen cyngor amdano
eich cod post
Pan nad yw sgwrs ar gael, gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i gysylltu â ni am broblem ynni.
Defnyddio sgwrs ynni
Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd i ddarganfod sut rydym yn storio a defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Mae ein staff â'r hawl i wneud eu gwaith heb gael eu trin yn wael - dysgwch sut rydym yn ymdrin ag ymddygiad annerbyniol.
Defnyddio ffurflen ar-lein
Gallwch ddefnyddio un o'n ffurflenni i gysylltu â ni:
defnyddiwch y ffurflen ynni os oes gennych broblem gyda'ch nwy neu drydan - mae'r ffurflen hon ar gael i'w defnyddio bob dydd
defnyddiwch y ffurflen bost os oes gennych broblem gyda'ch post - gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon o 5pm ar ddyddiau Gwener hyd at 9am ar ddyddiau Llun
defnyddiwch y ffurflen hon ar gyfer unrhyw fater defnyddiwr arall - gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon o 5pm ar ddyddiau Gwener hyd at 9am ar ddyddiau Llun
Sut gall y llinell gymorth defnyddwyr eich helpu chi
Gall y gwasanaeth defnyddiwr:
rhoi cyngor ymarferol a diduedd i chi ar sut i ddatrys eich problem defnyddiwr
dweud wrthych beth yw'r gyfraith sy'n berthnasol i'ch sefyllfa
trosglwyddo gwybodaeth am gwynion i Safonau Masnach (ni allwch wneud hyn eich hun)
Fodd bynnag, ni all y cynghorydd
wneud cwyn ar eich rhan
cymryd camau cyfreithiol ar eich rhan
Cyn i chi gysylltu â’r llinell gymorth
Cyn i chi gysylltu â’r llinell gymorth, dylech fod yn barod i nodi rhywfaint o wybodaeth.
Er mwyn helpu’r cynghorydd i roi’r cyngor mwyaf perthnasol i chi, dylech fod yn barod i roi cymaint o’r wybodaeth ganlynol ag y gallwch iddo:
manylion cryno am eich problem, e.e. pryd wnaethoch chi dalu am yr eitem neu’r gwasanaeth, faint wnaethoch chi ei dalu, sut gwnaethoch chi dalu amdano, p’un a wnaethoch chi hynny mewn siop neu ar-lein
enw a chyfeiriad y gwerthwr neu’r masnachwr
yr hyn yr ydych wedi ei wneud hyd yn hyn i geisio datrys y mater
eich rhif cyfeirnod (os ydych chi eisoes wedi cysylltu â’r llinell gymorth ynghylch yr un broblem)
Mae ein staff â'r hawl i wneud eu gwaith heb gael eu trin yn wael - dysgwch sut rydym yn ymdrin ag ymddygiad annerbyniol.
Beth rydym yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni i ateb eich ymholiad. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gael eich adborth ar ein gwasanaeth.
Byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth gyda Safonau Masnach a sefydliadau dibynadwy eraill rydym yn gweithio gyda nhw i helpu eu gwaith diogelu defnyddwyr. Gallent gysylltu â chi gyda rhagor o gyngor, neu i ofyn am ragor o wybodaeth a fydd yn eu helpu gyda’u gwaith.
Dywedwch wrthym pan fyddwch yn cysylltu â’r gwasanaeth defnyddwyr os nad ydych am i’ch gwybodaeth gael ei rhannu.
Dysgwch fwy am sut rydym yn defnyddio, storio a rhannu eich gwybodaeth.
Os ydych chi’n anhapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.