Canfod pwy yw eich cyflenwr trydan neu nwy

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os nad ydych chi’n gwybod pwy sy’n cyflenwi eich trydan a’ch nwy, gallwch ganfod enwau eich cyflenwyr ar-lein.

Os ydych chi’n gwybod mai’r un cwmni sy’n cyflenwi eich trydan a’ch nwy, mae’n haws dilyn y cyfarwyddiadau i ganfod pwy yw eich cyflenwr nwy.

Canfod pwy yw eich cyflenwr nwy

I ganfod pwy sy’n cyflenwi eich nwy gallwch chi wneud un o’r canlynol:

Llinell Gymorth Rhif Mesurydd

Ffôn: 0870 608 1524

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm

Bydd galwadau’n costio 7c y munud, yn ogystal â thâl mynediad eich cwmni ffôn.

Holwch am Gyfeirnod eich Mesurydd (MPRN). Efallai y bydd angen hwn arnoch pan fyddwch yn cofrestru â chyflenwr nwy newydd.

Canfod pwy yw eich cyflenwr trydan

I ganfod pwy sy’n cyflenwi eich trydan, bydd angen i chi wirio pwy yw eich gweithredwr rhwydwaith.  Dyma pwy sydd berchen ar y ceblau yn eich ardal ac yn eu gweithredu. 

Gwiriwch pwy yw eich gweithredwr rhwydwaith trydan ar wefan Power Cut 105. Bydd angen i chi wybod beth yw cod post eich eiddo. 

Os byddwch chi’n cael neges gwall, diweddarwch y dudalen a rhoi eich cod post eto. 

Ar ôl canfod pwy yw gweithredwr y rhwydwaith, ewch i’w gwefan i chwilio am eich cyflenwr trydan. Fel arfer mae modd chwilio gyda chod post eich eiddo, ond mae rhai gweithredwyr rhwydwaith yn gofyn i chi lenwi ffurflen. 

Os mai un o’r canlynol yw eich gweithredwr rhwydwaith, dyma sydd angen ei wneud:

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.