Os nad ydych chi wedi cael bil ynni cywir ers tro
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y bydd eich cyflenwr ynni yn codi tâl arnoch chi am ynni rydych chi wedi’i ddefnyddio yn y gorffennol. Gelwir hyn yn ‘ôl-filio’.
Os ydych chi’n talu drwy ddebyd uniongyrchol, efallai y bydd eich cyflenwr yn cynyddu eich taliadau. Maen nhw’n defnyddio'r swm ychwanegol i dalu'r swm sy'n ddyledus gennych chi dros ychydig fisoedd.
Os nad ydych chi wedi cael bil nwy neu drydan cywir ers dros flwyddyn, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu am yr holl ynni rydych chi wedi'i ddefnyddio.
Dan y rheolau ôl-filio, fel arfer ni all eich cyflenwr eich bilio am ynni a ddefnyddiwyd gennych dros 12 mis yn ôl. Nid yw'r rheolau ôl-filio yn berthnasol os yw’r cyflenwr wedi anfon bil atoch chi cyn i’r flwyddyn fynd heibio a’ch bod chi heb dalu. Yn yr achos hwn, gall y cyflenwr godi tâl arnoch chi o hyd.
Os bydd eich cyflenwr yn ceisio codi gormod arnoch chi
Os bydd eich cyflenwr yn ceisio codi tâl arnoch chi am fwy na 12 mis o ddefnydd ynni, dylech ysgrifennu at y cwmni.
Dywedwch wrthynt eich bod wedi'ch diogelu gan y rheolau ôl-filio ac mai dim ond am flwyddyn o ddefnydd ynni y dylid codi tâl arnoch.
Os nad ydych chi wedi cael bil trydan ers 2 flynedd.
Gallwch ffonio eich cyflenwr a gofyn iddo anfon bil atoch chi. Gallwch roi darlleniad mesurydd cyfredol i’r cyflenwr.
Bydd eich cyflenwr yn anfon bil atoch chi, gan godi tâl arnoch am 2 flynedd o ddefnydd ynni.
Rydych chi’n ysgrifennu llythyr at y cyflenwr yn dweud eich bod yn ymwybodol o'r rheolau ôl-filio ac mai dim ond am ddefnydd ynni'r flwyddyn ddiwethaf y dylech chi orfod talu.
Bydd eich cyflenwr yn anfon bil newydd atoch chi, gan godi tâl arnoch am flwyddyn o ddefnydd yn unig.
Gallwch ddefnyddio ein llythyr ôl-filio enghreifftio i’ch helpu chi.
Os bydd eich cyflenwr yn dal i geisio codi’r swm llawn, dylech chi gwyno.
Os ydych chi wedi ymddwyn yn afresymol, gallai eich cyflenwr eich bilio chi am y swm llawn. Mae ymddygiad afresymol yn cynnwys:
peidio â gadael i’r cyflenwr ddarllen eich mesuryddion heb reswm da
dwyn trydan neu nwy
Os na allwch chi fforddio talu
Os anfonir bil atoch chi ond nad ydych chi’n gallu fforddio ei dalu, gallwch ofyn i'ch cyflenwr am gynllun talu sy'n gadael i chi ad-dalu unrhyw ddyled dros yr un cyfnod ag a gymerodd i’r ddyled gronni. Er enghraifft, os nad ydych wedi cael bil gan eich cyflenwr am 8 mis, dylech chi allu rhannu'r ad-daliadau dros 8 mis.
Os yw'r taliadau misol yn dal yn rhy uchel i chi, dywedwch wrth y cyflenwr faint y gallwch chi ei fforddio. Efallai y bydd yn gadael i chi rannu eich taliadau dros gyfnod hirach.
Os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch biliau ynni
Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i gael help, gan gynnwys cytuno ar gynllun talu gyda'ch cyflenwr. Ewch i weld sut gallwch chi gael help os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch biliau ynni.
Os ydych chi'n cael trafferth gyda dyledion, ewch i weld sut gallwch chi gael help gyda dyled.
Os oes gennych chi fesurydd clyfar
Os ydych chi’n meddwl nad yw eich mesurydd clyfar yn gweithio’n iawn neu nad yw’n anfon darlleniadau at eich cyflenwr ynni, efallai y bydd camau y gallwch eu cymryd. Gwiriwch beth i’w wneud os ydych chi’n cael problemau gyda’ch mesurydd clyfar.
Rhagor o gymorth
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr - gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn neu drwy sgwrs ar-lein.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.