Canslo polisi yswiriant
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae yswiriant yn rhoi gwarchodaeth ychwanegol i chi os aiff pethau o chwith. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn penderfynu nad ydych eisiau nac angen eich polisi yswiriant mwyach. Mae'r dudalen hon yn esbonio beth y gallwch ei wneud os ydych chi wedi codi polisi yswiriant ac yn penderfynu eich bod am ei ganslo.
Canslo yn ystod y cyfnod newid meddwl
Mae’n bosibl y byddwch am ganslo polisi yswiriant os ydych newydd ei brynu ac wedi newid eich meddwl. Yn ôl y gyfraith, mae gennych gyfnod newid meddwl o 14 diwrnod o leiaf lle gallwch ganslo’r polisi am unrhyw reswm. Os ydych chi wedi prynu yswiriant bywyd, 30 diwrnod yw’r cyfnod newid meddwl.
Mae’r cyfnod newid meddwl yn dechrau pan fydd y polisi’n dechrau neu pan fyddwch yn cael eich dogfennau polisi, pa un bynnag yw’r hwyraf. Dylech gael ad-daliad am unrhyw bremiymau yr ydych eisoes wedi’u talu. Fodd bynnag, efallai y bydd eich yswiriwr yn codi swm bach i dalu am ddiwrnodau pan oedd y polisi mewn grym. Mae'n bosibl y byddant hefyd yn codi ffi weinyddol fechan arnoch.
Efallai y bydd rhai yswirwyr yn rhoi mwy o amser i chi newid eich meddwl. Os nad ydych yn siŵr pa mor hir yw eich cyfnod newid meddwl, gallwch edrych ar delerau eich polisi yswiriant.
Os ydych am ganslo eich polisi yn ystod y cyfnod newid meddwl, dylech gysylltu â'ch yswiriwr cyn gynted â phosibl
Nid yw’r hawl i ganslo yn ystod cyfnod newid meddwl yn berthnasol i yswiriant teithio sy’n para llai na mis.
Canslo ar ôl y cyfnod newid meddwl
Os ydych am ganslo eich polisi ar ôl y cyfnod newid meddwl, dylech edrych ar eich polisi yswiriant cyn gynted â phosibl. Bydd y rhan fwyaf o yswirwyr yn rhoi ad-daliad i chi os nad ydych wedi gwneud unrhyw hawliadau yn ystod y flwyddyn bolisi ond fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd gweinyddu.
Os ydych chi’n ystyried canslo eich polisi oherwydd eich bod wedi dod o hyd i fargen well gydag yswiriwr arall, efallai y bydd yn haws ac yn rhatach aros nes bydd angen adnewyddu eich polisi, ac yna newid.
Nid yw canslo debyd uniongyrchol yn canslo eich polisi yswiriant. Os byddwch yn gwneud hyn, bydd y premiymau'n dal yn ddyledus i'ch yswiriwr. Rhaid i chi gysylltu â’ch yswiriwr i ganslo’r polisi.
Mae rhai polisïau’n cael eu hadnewyddu’n awtomatig bob blwyddyn. Mae’n bwysig gwirio pryd mae’n amser adnewyddu eich polisi er mwyn i chi allu gwneud yn siŵr nad yw’n cael ei adnewyddu pan nad ydych chi eisiau iddo gael ei adnewyddu.
Mae’n syniad da gwneud yn siŵr bod gennych chi bolisi newydd ar waith cyn canslo’r hen un fel nad ydych chi’n cael eich gadael heb yswiriant.
All eich yswiriwr ganslo’ch polisi?
O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd eich cwmni yswiriant yn dymuno canslo eich polisi. Dim ond os ydyn nhw'n credu’r canlynol y byddan nhw’n debygol o ganslo:
bod rhywbeth wedi digwydd i’w gwneud yn llawer mwy tebygol y byddwch yn gwneud hawliad, neu
dydych chi ddim wedi cadw at delerau’r polisi.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich yswiriwr yn aros hyd nes y bydd angen adnewyddu’r polisi ac yna’n gwrthod adnewyddu’r polisi.
Y camau nesaf
Gwnewch yn siŵr eich bod o fewn y cyfnod newid meddwl.
Os yw eich cyfnod newid meddwl wedi dod i ben, cyfrifwch a fyddai’n well aros nes bod angen adnewyddu eich polisi, yn hytrach na chanslo ar unwaith
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020