Problemau gyda hawliad yswiriant
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae yswiriant yn rhoi gwarchodaeth ychwanegol i chi os aiff pethau o chwith. Fodd bynnag, os oes angen i chi wneud hawliad, efallai y cewch broblem gyda gwneud i'r cwmni yswiriant dalu i chi. Er enghraifft, efallai y bydd eich yswiriwr yn gwrthod talu unrhyw beth i chi neu'n talu llai i chi nag yr ydych wedi hawlio amdano. Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth y gallwch ei wneud os oes gennych broblem gyda'ch hawliad.
Cysylltu â'ch yswiriwr
Efallai fod rheswm da pam fod eich cwmni yswiriant wedi gwneud ei benderfyniad am eich hawliad. Cyn i chi wneud unrhyw beth, edrychwch ar eich dogfen bolisi i wneud yn siŵr bod yr hyn rydych chi eisiau cwyno amdano yn dod o dan eich polisi.
Os ydyw, ysgrifennwch at eich cwmni yswiriant, gan roi manylion eich cwyn, a dweud wrthynt beth yr hoffech iddynt ei wneud yn ei chylch a rhoi amser iddynt ymateb. Dylech gadw copi o'ch llythyr ac anfon unrhyw ohebiaeth drwy wasanaeth post cofnodedig.
Os nad ydych yn fodlon ag ateb eich cwmni yswiriant, gallwch wneud cwyn ffurfiol gan ddefnyddio proses gwyno swyddogol eich cwmni yswiriant. I gael gwybod sut mae'r broses gwyno'n gweithio, edrychwch ar eich dogfennau polisi neu ar wefan eich cwmni yswiriant.
Os ydych chi'n dal yn anfodlon â chanlyniad y drefn gwyno ffurfiol, gallwch ystyried mynd â'r gŵyn ymhellach.
Os yw eich cwmni yswiriant yn aelod o Lloyds, gallwch gwyno wrth Ddeiliad y Polisi a'r Adran Cynorthwyo Marchnata. Os nad ydych chi’n hapus â’r canlyniad, gallwch wneud cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Defnyddio Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Rhaid i bob yswiriwr ddod o dan reolau'r corff gwarchod ariannol, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Mae hyn yn golygu os oes gennych gŵyn am yswiriwr, gallwch fynd â hi at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim sydd ar gael i chi os ydych eisoes wedi dilyn proses gwyno eich yswiriwr.
Bydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn ceisio datrys eich cwyn drwy ddefnyddio’r broses gyfryngu. Os na ellir datrys yr anghydfod fel hyn, bydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn dechrau ymchwiliad ffurfiol.
Bydd penderfyniad yr Ombwdsmon ar ddiwedd yr ymchwiliad yn derfynol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’ch yswirwr lynu wrth delerau penderfynaid yr Ombwdsmon.
Fodd bynnag, os nad ydych chi’n cytuno â’r penderfyniad, gallwch fynd â’ch yswirwr i’r llys.
Gall mynd i'r llys achosi straen a chostio arian i chi. Dylech ystyried hyn fel dewis olaf. Bydd llys hefyd yn ystyried unrhyw benderfyniad sydd eisoes wedi'i wneud gan yr Ombwdsmon.
Terfynau amser ar gyfer mynd â'ch cwyn at yr Ombwdsmon
Rhaid i chi fynd â'ch cwyn at yr Ombwdsmon o fewn:
chwe mis ar ôl cael ymateb terfynol gan y masnachwr. Rhaid i'r ymateb hwn grybwyll bod gennych derfyn amser o chwe mis i fynd at yr ombwdsmon
chwe blynedd o'r digwyddiad yr ydych yn cwyno amdano. Os yw'n fwy na chwe blynedd ar ôl y digwyddiad, mae gennych dair blynedd o'r adeg pan oeddech chi'n gwybod, neu gallech fod ewedi gwynbod yn rhesymol, bod gennych chi reswm dros gwyno.
Fodd bynnag, os ydych y tu allan i'r terfynau amser hyn, gallwch gyfeirio'r gŵyn at yr Ombwdsmon o hyd. Efallai y byddant yn dal i ymchwilio i'ch cwyn, ar yr amod nad yw'r masnachwr yn gwrthwynebu. Os bydd y masnachwr yn gwrthwynebu oherwydd bod y terfynau amser wedi mynd heibio, ni fydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i'ch cwyn.
Mae terfynau amser gwahanol ar gyfer cwynion am forgeisi gwaddol. Gweler www.financial-ombudsman.org.uk.
Y camau nesaf
Gwiriwch eich dogfennau polisi i wneud yn siŵr nad oes rheswm da pam na fydd eich yswiriwr yn eich talu
Ysgrifennwch at eich yswiriwr gan ddefnyddio eu proses gwyno
Os na allwch chi ddatrys y broblem yn uniongyrchol gyda'ch cwmni yswiriant, efallai y gallwch gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth os oes arnoch angen rhagor o help.
Other useful information
Rhagor o wybodaeth am Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Ffôn: 0800 023 4567.
I gael gwybod mwy am sut mae’r Ombwdsmon Ariannol yn delio ag anghydfodau ynghylch yswiriant, ewch i www.financial-ombudsman.org.uk
Deiliad Polisi Lloyds a’r Adran Cynorthwyo Marchnata
Ffôn: 020 7327 5693
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020