Yswiriant diogelu incwm
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae yswiriant diogelu incwm yn talu incwm rheolaidd i chi os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd ac yn parhau nes i chi ddychwelyd i’r gwaith â thâl neu nes i chi ymddeol. Caiff yswiriant diogelu incwm ei alw’n yswiriant iechyd parhaol hefyd.
Ni fydd swm yr incwm y caniateir i chi ei hawlio yn disodli'r union swm o arian roeddech chi’n ei ennill cyn i chi orfod rhoi'r gorau i weithio. Gallwch chi ddisgwyl derbyn tua hanner i ddwy ran o dair o'ch enillion cyn treth o'ch swydd arferol. Mae hyn oherwydd y bydd rhywfaint o arian yn cael ei dynnu ar gyfer y budd-daliadau gwladol y gallwch eu hawlio, a hefyd mae'r incwm a gewch o'r polisi yn ddi-dreth.
Ni allwch chi hawlio taliadau diogelu incwm ar unwaith os byddwch yn mynd yn sâl neu'n anabl. Fel arfer, mae'n rhaid i chi aros o leiaf bedair wythnos ond gall taliadau ddechrau hyd at ddwy flynedd ar ôl i chi roi'r gorau i weithio. Mae hyn oherwydd efallai na fydd angen yr arian arnoch chi ar unwaith oherwydd gallech chi gael tâl salwch wrth eich cyflogwr neu efallai y byddwch chi’n gallu hawlio tâl salwch statudol am hyd at 28 wythnos ar ôl i chi roi'r gorau i weithio.
Ceir mathau eraill o yswiriant salwch y gallwch chi eu cymryd fel yswiriant salwch difrifol. Dylech chi gymharu yswiriant diogelu incwm â mathau eraill o yswiriant salwch cyn i chi benderfynu a ddylech ei brynu. Am fwy o wybodaeth am y rhain, gweler mwy o help a gwybodaeth.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thâl salwch cyflogwyr, gweler yswiriant salwch.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thâl salwch statudol, gweler budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.
Beth sydd angen i chi feddwl amdano cyn i chi gymryd yswiriant diogelu incwm
Cyn i chi feddwl am gymryd yswiriant diogelu incwm, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun:
A oes wir angen yswiriant diogelu incwm arnaf?
Gwiriwch:
nad ydych chi eisoes yn derbyn yswiriant diogelu incwm drwy eich gwaith. Mae rhai cyflogwyr yn cynnig hyn fel budd. Bydd manylion yn eich contract cyflogaeth, llawlyfr neu adran bersonél os yw hyn yn wir
a oes gennych chi fath arall o yswiriant salwch sy’n rhan o bolisi yswiriant arall neu gyda'ch morgais sy'n eich diogelu rhag salwch difrifol
a oes gennych chi gynilion y gallwch chi eu defnyddio yn lle yswiriant. Serch hynny, mae angen i chi feddwl yn ofalus iawn ynghylch a ydych chi eisiau dibynnu ar gynilion. Efallai na fyddwch chi'n gallu arbed digon i dalu am gyfnod hir o salwch. Ac efallai y byddwch chi'n wynebu argyfwng arall, a fyddai'n defnyddio'ch cynilion ac yn eich gadael heb unrhyw yswiriant ar gyfer salwch.
Ai dyma’r math gorau o yswiriant salwch i fi?
Edrychwch ar yr holl wahanol fathau o yswiriant salwch i weld pa un fyddai orau i chi. Er enghraifft, os ydych chi'n poeni am gost yswiriant diogelu incwm, gallech chi feddwl am gymryd yswiriant salwch difrifol yn lle hynny a all fod yn opsiwn llawer rhatach. Serch hynny, dim ond ystod gyfyngedig iawn o afiechydon y mae yswiriant salwch difrifol yn eu cynnwys ac am gyfnod byrrach o amser nag yswiriant diogelu incwm. Os nad ydych chi'n siŵr pa fath o yswiriant salwch fyddai orau i chi, gallwch chi gael help cynghorydd ariannol annibynnol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag yswiriant salwch difrifol, gweler yswiriant salwch difrifol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael cyngor ariannol, gweler cael cyngor ariannol.
Oes gennych chi ddigon o arian i dalu am yswiriant salwch?
Gall costau (neu bremiymau) yswiriant diogelu taliadau fod yn uchel ac efallai na fydd angen i chi ei ddefnyddio byth. Ni chewch chi unrhyw arian yn ôl os na fyddwch byth yn gwneud hawliad.
Am fwy o wybodaeth, gweler yswiriant salwch.
Beth sydd angen i chi ei wybod cyn i chi gael yswiriant diogelu incwm
Dylech chi wastad wirio telerau ac amodau unrhyw bolisi yswiriant yn ofalus iawn cyn i chi gofrestru i wneud yn siŵr ei fod yn diwallu eich holl anghenion. Bydd angen i chi fod yn siŵr o beth yn union y gallwch chi ei hawlio, pryd allwch chi hawlio a faint rydych chi'n debygol o'i gael.
Mae yna reolau sy'n dweud bod yn rhaid i ddogfennau'r polisi gael eu hysgrifennu mewn Saesneg clir hawdd ei darllen, fel y gallwch chi ddeall yr hyn rydych chi'n cofrestru ar ei gyfer.
A oes unrhyw eithriadau?
Nid yw polisïau yswiriant salwch wastad yn cynnwys pob math o salwch.
Ar ben hynny, efallai na fyddwch chi wedi’ch diogelu rhag rhai afiechydon rydych chi neu aelod o’ch teulu wedi’u cael yn y gorffennol. Caiff y rhain eu galw’n gyflyrau meddygol sy’n bodoli’n barod .
Bydd yswirwyr yn edrych ar hanes meddygol eich teulu a bydd rhai polisïau’n cynnwys cyflyrau meddygol sy’n bodoli’n barod, ond ni fydd polisïau eraill. Os yw hanes meddygol eich teulu yn golygu y bydd amodau ynghlwm wrth i chi gymryd y polisi, dylai eich yswiriwr esbonio’r rhain i chi cyn i chi gofrestru ar gyfer y polisi.
Mae angen i chi wybod hefyd a fyddwch chi’n dal i gael eich talu os gallwch chi wneud mathau eraill o waith heblaw eich gwaith eich hun. Mae rhai polisïau’n dweud na allwch chi hawlio os byddwch chi’n rhoi’r gorau i allu gwneud eich swydd eich hun ond yn gallu gwneud mathau eraill o waith. Dylech chi wirio’r polisi yswiriant i weld a yw’n dweud hyn.
Pa mor hir y mae'n rhaid i chi aros cyn y bydd y polisi'n eich talu
Gyda'r rhan fwyaf o bolisïau, fel arfer mae'n rhaid i chi aros o leiaf bedair wythnos ar ôl i chi roi'r gorau i weithio cyn i daliadau ddechrau. Caiff hyn ei alw’n gyfnod aros. Mae rhai cyfnodau aros yn para hyd at ddwy flynedd. Gall y swm o arian rydych chi'n ei dalu am y polisi yswiriant (sy’n cael ei alw’n bremiymau) fod yn rhatach os gallwch chi aros yn hirach cyn hawlio.
Am fwy o wybodaeth am gyfnodau aros, gweler Yswiriant.
Faint fyddwch chi'n ei gael os ydych chi’n hawlio
Bydd angen i chi wybod yn union faint y byddwch chi'n ei gael os byddwch chi’n hawlio. Gall swm eich taliadau gael ei effeithio os oes gennych chi incwm arall fel budd-daliadau'r wladwriaeth neu daliadau o bolisïau yswiriant eraill.
Dylech chi hefyd ddarganfod a fydd y taliadau'n codi bob blwyddyn yn unol â chostau byw.
Sut mae’r yswirwyr wedi asesu eich swydd
Pan fyddant yn penderfynu a ddylent eich yswirio a faint i'w godi arnoch chi am eich polisi, bydd yswirwyr yn asesu pa mor beryglus yw eich swydd. Gall gwahanol yswirwyr asesu'r un swydd yn wahanol, felly mae'n bwysig gwybod i ba gategori y mae eich swydd yn perthyn oherwydd gallech chi gael premiwm rhatach yn rhywle arall.
Yr hyn y mae'n rhaid i chi ei ddweud wrth eich yswiriwr cyn i chi gymryd yswiriant diogelu incwm
Rhaid i chi roi manylion llawn eich hanes meddygol chi a'ch teulu i'ch yswiriwr. Os byddwch chi'n hepgor unrhyw beth ac yna'n ceisio hawlio’n ddiweddarach, efallai y bydd eich yswiriwr yn gwrthod talu.
Os oes gennych chi gyflwr meddygol sy'n bodoli’n barod, chwiliwch am yswiriwr a fydd yn barod i'w dalu, er y gallai fod yn rhaid i chi dalu mwy i gymryd y polisi. Cyflwr meddygol sy'n bodoli’n barod yw cyflwr rydych chi wedi'i gael o'r blaen.
Dylech chi hefyd ddweud wrth yr yswirwyr os ydych chi'n cymryd rhan mewn unrhyw hobïau peryglus neu os oes gennych chi ffordd o fyw sy'n cynnwys ysmygu, yfed yn drwm neu gymryd cyffuriau. Os na fyddwch chi'n dweud wrthynt am rywbeth sy'n effeithio ar eich hawliad yn hwyrach, efallai y byddant yn gwrthod talu.
Nid oes rhaid i chi drafod gwybodaeth bersonol neu sensitif gyda'r person sy'n gwerthu'r polisi i chi. Gallwch chi ofyn am anfon y wybodaeth yn uniongyrchol at swyddog meddygol yr yswiriwr.
Os oes gennych chi salwch yn barod, neu os oes gennych chi swydd beryglus, efallai na fyddwch chi'n gallu cael yswiriant diogelu incwm neu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy i gael yr yswiriant.
Sut i gyfrifo lefel yr yswiriant sydd ei hangen arnoch chi ar gyfer yswiriant diogelu incwm
I gyfrifo lefel yr yswiriant sydd ei hangen arnoch chi ar gyfer yswiriant diogelu incwm:
dechreuwch gyda faint yw eich cyflog net ar hyn o bryd
tynnwch y swm y byddech chi'n ei gael mewn budd-daliadau'r wladwriaeth
tynnwch unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â gwaith fel teithio, bwyd a dillad
ychwanegwch unrhyw dreuliau ychwanegol y gallech fod eu hangen os byddwch chi'n mynd yn sâl neu'n anabl fel costau gwresogi ychwanegol neu gostau offer meddygol
Am fwy o gymorth ar sut i gyfrifo faint o yswiriant y byddai ei angen arnoch chi, ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol www.moneyadviceservice.org.uk. Gall yswiriwr neu gynghorydd ariannol annibynnol hefyd helpu i gyfrifo’r costau hyn oherwydd gallai rhai fod yn anodd eu rhagweld ymlaen llaw.
Sut i brynu yswiriant diogelu incwm
Gallwch chi brynu yswiriant diogelu incwm wrth y canlynol:
cynghorydd ariannol annibynnol, sy’n gallu edrych ar yr holl bolisïau sydd ar gael a dewis yr un sydd fwyaf addas i chi. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y cyngor hwn
yn uniongyrchol oddi wrth gwmni yswiriant.
I gael mwy o wybodaeth am gael cyngor ariannol annibynnol, gweler cael cyngor ariannol.
Os ydych chi eisiau prynu yswiriant diogelu incwm yn uniongyrchol wrth gwmni yswiriant, dylech chi siopa o gwmpas i weld pwy fydd yn rhoi'r fargen orau i chi. Gallwch chi ddefnyddio gwefan gymharu i wneud hyn. Fwy na thebyg, ni fyddwch chi'n gallu prynu'r yswiriant ar-lein oherwydd bydd angen i'r cwmni eich asesu i weld a ydych chi'n addas. Ond byddwch chi'n gallu gwneud cais am ddyfynbris ar-lein neu ddod o hyd i fanylion cynghorwyr yswiriant y gallwch chi siarad â nhw.
Beth sy’n effeithio ar gost yswiriant diogelu incwm?
Mae costau cymryd yswiriant diogelu incwm yn cael eu heffeithio gan y canlynol:
eich oedran - po hynaf ydych chi pan fyddwch chi'n cymryd y polisi, y mwyaf y byddwch chi'n debygol o'i dalu, wrth i'ch risg o fynd yn sâl gynyddu
eich iechyd - os ydych chi mewn iechyd da, byddwch chi'n talu llai i yswirio'ch hun
eich swydd - os ydych chi'n gwneud swydd beryglus, byddwch chi'n talu mwy am yswiriant
diddordebau a ffordd o fyw - os ydych chi'n cymryd rhan mewn hobïau peryglus neu os ydych chi'n ysmygu neu'n yfed yn drwm, byddwch chi'n talu mwy am yswiriant
y cyfnod aros - po hiraf y gallwch chi aros cyn i chi hawlio, y rhatach fydd eich premiymau
p’un a allech chi fod yn barod i wneud mathau eraill o waith heblaw eich gwaith eich hun os byddwch chi'n mynd yn sâl - fel arfer mae'n costio llai i gymryd yswiriant diogelu incwm os byddwch chi’n dweud y byddwch chi ond yn hawlio os na allwch chi wneud unrhyw waith o gwbl, yn hytrach na dim ond eich gwaith eich hun.
Canslo eich yswiriant diogelu incwm
Os ydych chi'n cymryd yswiriant diogelu incwm, fel arfer mae gennych chi 30 diwrnod i ganslo'r polisi a chael ad-daliad llawn.
Os penderfynwch chi ganslo'r polisi ar ôl 30 diwrnod, efallai y bydd yr arian a fydd yn cael ei ad-dalu i chi yn llai na'r swm rydych chi wedi'i dalu. Gwiriwch delerau ac amodau eich polisi.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.