Sefyllfaoedd pan na fydd angen yswiriant cerbyd arnoch
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Yn ôl y gyfraith, fel arfer rhaid i chi gael yswiriant modur trydydd parti o leiaf os ydych chi’n gyrru neu’n berchen ar eich cerbyd eich hun. Mae’n rhaid i chi hefyd gael yswiriant os ydych chi’n gadael y cerbyd wedi ei barcio ar y stryd, ar eich dreif, neu yn eich garej.
Gall yr heddlu wirio a oes gennych chi yswiriant ar eich cerbyd ar Gronfa Ddata Yswiriant Modur. Os nad ydy eich cerbyd wedi ei yswirio, mae gan yr heddlu hawl i gymryd y cerbyd, hyd yn oed os fyddwch chi’n mynd ati i yswirio eich cerbyd ar ochr y ffordd. Bydd rhaid i chi ddangos eich tystysgrif yswiriant a thalu ffioedd er mwyn cael eich cerbyd yn ôl. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, mae gan yr heddlu hawl i gael gwared ar eich cerbyd o fewn pythefnos. Os ydyn nhw’n gwerthu'r cerbyd, gallwch chi hawlio arian y gwerthiant yn ôl.
Ond, ni fydd angen yswirio eich cerbyd mewn rhai sefyllfaoedd. Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y sefyllfaoedd pan na fydd angen yswiriant cerbyd arnoch.
Does dim angen yswiriant cerbyd arnoch os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
mae gennych chi Hysbysiad Oddi Ar y Ffordd (SORN) dilys
mae eich cerbyd yn cael ei gadw oddi ar y ffordd gyhoeddus ers cyn 1 Chwefror 1998
mae eich cerbyd wedi ei atafaelu, ei ddwyn neu ei allforio ac rydych chi wedi rhoi gwybod i'r awdurdodau am hyn
mae eich cerbyd rhwng delwyr neu’n cael ei gadw fel stoc gyda deliwr awdurdodedig.
Os nad yw eich cerbyd yn ymddangos ar y system fel petai wedi ei yswirio byddwch chi’n cael llythyr gan Motor Insurers’ Bureau yn eich rhybuddio chi i yswirio eich cerbyd, neu i holi’r cwmni yswiriant a oeddent wedi defnyddio’r manylion cywir wrth gofrestru’r cerbyd ar eu cronfa ddata. Os oes gennych chi yswiriant dylech gysylltu â’r cwmni yswiriant ar unwaith.
Os na fyddwch chi’n yswirio eich cerbyd, byddwch chi’n cael Hysbysiad Cosb Benodedig, ac os na fyddwch chi’n rhoi yswiriant ar eich cerbyd ar ôl hynny efallai y bydd y cerbyd yn cael ei gymryd, ei glampio neu ei ddinistrio, neu efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i’r Llys.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Cronfa ddata Motor Insurers’ Bureau www.askmid.com.
Mae rhagor o wybodaeth ar yr hyn fydd yn digwydd os nad ydych chi’n yswirio eich cerbyd ar gael yma:www.stayinsured.askmid.com.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 16 Rhagfyr 2020