Yswiriant cerbyd – gwneud hawliad os ydych chi mewn damwain

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os yw eich car mewn damwain, mae’n bosibl y byddwch am wneud hawliad ar eich yswiriant cerbyd. Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych chi beth sydd angen i chi ei wybod cyn gwneud hawliad. A beth allwch chi ei wneud os nad oes gan y gyrrwr yswiriant neu os na fydd yn rhoi ei fanylion i chi.

Gwneud hawliad os ydych chi mewn damwain

Os ydych chi mewn damwain, dylech chi wneud y pethau canlynol:

  • peidio â chyfaddef yn y fan a'r lle mai chi oedd ar fai

  • cyfnewid enwau a manylion eraill gyda’r gyrwyr eraill a chael manylion unrhyw dystion annibynnol. Os bydd rhywun yn gwrthod rhoi eu manylion i chi, efallai y gall eich yswiriwr ddod o hyd iddyn nhw drwy eu rhif cofrestru cerbyd

  • rhoi gwybod i'ch yswiriwr am y ddamwain ar unwaith, hyd yn oed os nad ydych chi am wneud hawliad

  • os oes rhywun wedi'i anafu, dangoswch eich tystysgrif yswiriant neu'ch nodyn yswiriant dros dro i'r heddlu. Os na allwch chi wneud hyn yn y fan a'r lle, ewch â'r dogfennau i orsaf yr heddlu o fewn saith niwrnod

  • tynnu lluniau y gallech chi eu defnyddio'n ddiweddarach fel tystiolaeth os oes angen i chi wneud hawliad.

Os oes gennych chi yswiriant cynhwysfawr

Os oes gennych chi bolisi cynhwysfawr dylech chi hawlio gan eich yswiriwr eich hun, ond efallai y byddwch yn colli'ch bonws dim-hawlio os na all yr yswiriwr adennill yr arian gan yswiriwr y gyrrwr arall.

Gallwch barhau i hawlio gan yswiriwr y gyrrwr arall am unrhyw anafiadau neu golledion nad ydyn nhw’n dod o dan eich polisi chi. Gelwir y rhain yn golledion heb yswiriant a gallan nhw dalu am golli enillion, cludiant arall tra bo'ch cerbyd eich hun yn cael ei drwsio, anafiadau personol a'r tâl-dros-ben ar eich polisi.

Dylech chi sicrhau cyn lleied â phosibl o golledion a chadw tystiolaeth ohonyn nhw. Os oes angen i chi logi cerbyd arall, dylai fel arfer fod yn debyg i'ch cerbyd eich hun.

I wneud hawliad, gofynnwch am ffurflen gan eich yswiriwr neu ysgrifennwch at y gyrrwr arall neu ei yswiriwr, gan roi manylion y ddamwain a rhif polisi’r gyrrwr arall. Dywedwch wrth eich yswiriwr am unrhyw dystion annibynnol ac anfonwch ddatganiadau tystion atyn nhw os gallwch chi. Os gwnaethoch chi ddefnyddio brocer neu asiant i brynu eich polisi, efallai y gallan nhw eich helpu chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw copïau o bob dogfen a llythyr.

Os oes gennych chi yswiriant trydydd parti

Dylech chi wneud hawliad yn erbyn y gyrrwr arall a chaniatáu i’r yswiriwr benderfynu pwy sy’n gyfrifol am y ddamwain. Os byddan nhw’n dweud mai chi sy'n gyfrifol, bydd yn rhaid i chi dalu am drwsio’ch cerbyd eich hun.

I hawlio gan y gyrrwr arall, dywedwch wrthyn nhw’n ysgrifenedig eich bod am hawlio ganddyn nhw. Os oedden nhw'n gyrru cerbyd cwmni, rhowch wybod i'r cwmni hefyd beth sydd wedi digwydd. Dylech chi ddweud wrth eich yswiriwr eich hun eich bod wedi gwneud hyn. Dylai’r gyrrwr arall roi gwybod i’w yswiriwr ei hun am y ddamwain. Gallwch weld a oes gan y gyrrwr arall yswiriant drwy gysylltu â'r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau Modur

Os ydych wedi bod mewn damwain a'ch bod yn cael llythyr neu ffurflen hawlio gan y gyrrwr arall neu ei yswiriwr, anfonwch hon ymlaen at eich yswiriwr eich hun.

Os nad chi oedd ar fai am y ddamwain

Os nad chi oedd ar fai am y ddamwain, mae’n bosibl y gallwch chi ddefnyddio cwmni llogi ar gredyd yn hytrach na’ch cwmni yswiriant.

Os nad oes gan y gyrrwr yswiriant neu os nad oes modd ei adnabod

Gallwch hawlio ar eich yswiriant eich hun os oes gennych yswiriant cynhwysfawr. Mae'n bosibl hefyd y gall y Ganolfan Yswirwyr Cerbydau (MIB) setlo'ch hawliad os nad oes gan y gyrrwr yswiriant. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae’r gyrrwr wedi torri amodau ei bolisi.

Fyddwch chi ddim yn gallu hawlio os ydych chi wedi cael eich anafu fel teithiwr yng nghar gyrrwr oedd heb yswiriant a'ch bod yn gwybod, neu y dylech chi fod wedi gwybod nad oedd ganddo yswiriant.

Trwsio eich cerbyd

Efallai y bydd eich yswiriwr am anfon rhywun i archwilio eich cerbyd cyn i chi ei drwsio. Efallai y byddan nhw’n gofyn i chi ddefnyddio trwsiwr cymeradwy neu roi amcangyfrifon iddyn nhw cyn gwneud gwaith trwsio.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o'r gost trwsio eich hun os yw eich cerbyd mewn cyflwr gwell ar ôl y gwaith trwsio nag yr oedd o flaen llaw.

Os bydd eich yswiriwr yn penderfynu nad yw’n economaidd trwsio’ch cerbyd, dylen nhw gynnig gwerth y cerbyd ar y farchnad i chi. Fel arfer, byddan nhw’n cymryd y cerbyd oddi arnoch chi ond efallai y gallwch chi negodi i'w gadw. Mae hyn yn golygu bod y cerbyd wedi’i ddatgan yn anadferadwy gan gwmni yswiriant.

Gweler gwybodaeth am y gwahanol gategorïau diddymu yn GOV.UK.

Os ydy’ch car y tu hwnt i’w drwsio

Os bydd eich yswiriwr yn penderfynu nad yw’n economaidd trwsio’ch car, dylen nhw gynnig gwerth y car ar y farchnad i chi ar adeg y ddamwain. Mae hyn yn golygu bod y cerbyd wedi’i ddatgan yn anadferadwy gan gwmni yswiriant. Fel arfer, byddan nhw’n cymryd y car oddi arnoch chi ond efallai y gallwch negodi i'w gadw.

Os nad ydych chi’n cytuno bod y swm a gynigir i chi yn deg, bydd angen i chi roi tystiolaeth i'r yswiriwr neu'r brocer yswiriant i ddangos bod eich car yn werth mwy. Er enghraifft, gallech chi roi prisiau ceir tebyg sydd ar werth yn yr ardal leol. Gallwch chi hefyd gael prisiad gan beiriannydd cymwysedig annibynnol, os ydych chi eisiau talu am hyn.

Pan fydd yr hawliad wedi'i setlo, bydd eich yswiriwr yn cadw'r car sydd wedi'i ddifrodi. Os ydych am ei gadw yn lle hynny, gallwch negodi gyda’r yswiriwr. Dim ond os yw’n bosibl trwsio’r car i’w wneud yn addas i fod ar y ffordd eto y bydd yr yswiriwr yn gadael i chi ei gadw. Yn yr achos hwn, tynnir arian o'r swm a gewch chi, i dalu am gost achub y car.

Dylai eich yswiriwr gael eich caniatâd i anfon eich car sydd y tu hwnt i’w drwsio i’r iard sgrap i’w werthu neu i’w falu’n ddarnau. Os nad ydyn nhw’n cael eich caniatâd, yna’n sgrapio’r car ac yn penderfynu peidio â setlo’ch hawliad, mae gennych chi hawl i hawlio gwerth achub y car.

Mân ddifrod i geir hŷn

Os cewch chi ddamwain mewn car hŷn gyda mân ddifrod, mae’n bosibl y penderfynwch beidio â hawlio ar eich yswiriant rhag ofn i'r car gael ei ddatgan yn anadferadwy. Yna, gallwch drwsio’r car eich hun a’i gadw.

Os byddwch yn hawlio ar eich yswiriant a bod eich car wedi’i ddatgan yn anadferadwy, gallech chi ofyn i’r cwmni yswiriant sut y maen nhw’n cyfrifo hyn. Er enghraifft, bydd rhai yswirwyr yn datgan bod car yn anadferadwy os yw cost y gwaith trwsio cyn lleied â 60% o werth y car. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y gallwch hawlio ar eich yswiriant ac osgoi bod y car yn cael ei ddatgan yn anadferadwy drwy negodi gyda'ch cwmni yswiriant. Gallwch negodi i gael prisio'ch car am bris uwch na'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol gan y cwmni yswiriant. Efallai y gallwch hefyd ddod o hyd i garej sy'n codi llai am y gwaith trwsio na garej gymeradwy'r yswiriwr. Bydd yn rhaid i'r cwmni yswiriant roi eu cymeradwyaeth cyn i chi fwrw ymlaen â'r gwaith atgyweirio o garej arall.

Y camau nesaf

  • Os oes angen rhagor o help arnoch chi

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wneud hawliad yn erbyn gyrrwr heb yswiriant gan y Ganolfan Yswirwyr Moduron yn: www.mib.org.uk.

Ffôn: 0845 165 2800

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020