Yswiriant cerbyd os nad chi oedd ar fai am y ddamwain

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os yw eich cerbyd mewn damwain, mae’n bosibl y byddwch am wneud hawliad ar eich yswiriant cerbydau modur i’w drwsio . Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybod i chi beth y gallwch chi ei wneud os nad chi oedd ar fai am y ddamwain a beth y mae angen i chi feddwl amdano cyn i’ch cerbyd cael ei drwsio.

Os nad chi oedd ar fai am y ddamwain

Os nad chi oedd ar fai am y ddamwain, gallwch chi ddefnyddio cwmni llogi ar gredyd yn hytrach na gwneud hawliad drwy eich cwmni yswiriant. Mae cwmni llogi ar gredyd yn talu am gost llogi cerbyd arall tra bod eich cerbyd chi’n cael ei drwsio, ac yn talu am gost y gwaith trwsio. Mae’r cwmni wedyn yn hawlio’r costau hyn yn ôl gan gwmni yswiriant y gyrrwr arall sydd ar fai yn y ddamwain.

Pam fyddwn i’n defnyddio cwmni llogi ar gredyd?

Os ydych chi’n defnyddio cwmni llogi ar gredyd, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r tâl-dros-ben ar eich polisi. Mae’r cwmni llogi ar gredyd yn cysylltu â’ch cwmni yswiriant ac yn rhoi trafnidiaeth arall i chi. Gallan nhw hefyd gynnig gwasanaethau i drefnu gwaith trwsio a helpu gyda hawlio iawndal am anafiadau neu golledion eraill oherwydd y ddamwain.

Bydd angen i’ch cwmni yswiriant gael gwybod am y ddamwain er eu gwybodaeth, hyd yn oed os na fyddwch yn hawlio drwyddyn nhw. Efallai y bydd y cwmni llogi ar gredyd yn cynnig cysylltu â’ch cwmni yswiriant ar eich rhan, neu’n gofyn i chi roi gwybod iddyn nhw.

Beth mae angen i mi fod yn ymwybodol ohono os ydw i’n defnyddio cwmni llogi ar gredyd?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y print mân cyn cofrestru i ddefnyddio cwmni llogi ar gredyd. Dylai fod manylion yn y cytundeb am gost ddyddiol llogi’r car. Bydd y cytundeb hefyd yn cynnwys swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu os na fyddwch yn cydweithredu â’r cwmni neu’n eu camarwain mewn unrhyw ffordd.

Efallai y bydd rhai cwmnïau llogi ar gredyd hefyd yn gofyn am daliad bach sy’n gweithredu fel polisi yswiriant i warantu na fyddwch chi’n gorfod talu’r bil os na fydd cwmni yswiriant y gyrrwr arall yn talu.

Byddwch chi hefyd yn llofnodi i ddweud y bydd unrhyw gostau yn eich enw chi ac efallai y gofynnir i chi am fanylion ariannol. Mae hyn rhag ofn y bydd y cwmni yswiriant yn mynd â’r cwmni llogi ar gredyd i’r llys, oherwydd eu bod yn meddwl eu bod wedi codi gormod. Pe bai hyn yn digwydd, bydd angen i chi rhoi tystiolaeth yn y llys. Efallai y bydd angen i chi brofi bod angen y car sydd wedi’i logi arnoch ac na allech dalu amdano heb gymorth y cwmni llogi credyd. Os bydd hyn yn digwydd, gofynnwch am gyngor cyfreithiol.

Os nad ydych chi’n siŵr am ddefnyddio cwmni llogi ar gredyd, a bod y gyrrwr arall wedi cyfaddef mai nhw sydd ar fai am y ddamwain, gallwch ofyn i’w cwmni yswiriant gwneud y trefniadau o ran llogi a thrwsio. Yn amlach na pheidio, ni fydd yr yswiriwr arall yn dweud pwy sydd ar fai am y ddamwain ar unwaith, ac yna bydd angen i chi hawlio drwy eich cwmni yswiriant.

Sut mae cael gwybod am gwmnïau llogi ar gredyd?

Efallai y cewch eich cyfeirio at gwmni llogi ar gredyd gan eich cwmni yswiriant neu gan garej.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am gwmnïau llogi ar gredyd ar wefan y Sefydlaid Llogi ar Gredyd (‘Credit Hire Organisation’): www.thecho.co.uk

Talu tâl-dros-ben am ddamwain car nad chi sydd ar fai amdani

Pan fyddwch yn talu’r tâl dros ben am ddamwain car nad chi sydd ar fai amdani, efallai y bydd angen i chi ei yn ôl gan gwmni yswiriant y gyrrwr a achosodd y ddamwain. Byddwch yn gwneud hyn ar ôl i’r hawliad gael ei setlo, os nad oes gennych chi yswiriant costau cyfreithiol i’w dalu ar eich rhan. Os ydych chi’n cael trafferth cael eich arian yn ôl, gallwch chi fynd â’r cwmni yswiriant neu’r gyrrwr i’r llys.

Os mai eich cwmni yswiriant sydd wedi delio â’r hawliad, dylen nhw hawlio’r tâl-dros-ben yn ôl ar eich rhan. Os cewch ddamwain heb fai, gall cwmni llogi ar gredyd hefyd wneud hawliad ar eich rhan.

Next steps

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wneud hawliad yn erbyn gyrrwr heb yswiriant gan y Swyddfa Yswirwyr Moduron (‘Motor Insurers Bureau’) yn: www.mib.org.uk.

Ffôn: 0845 165 2800

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.