Hawlio iawndal gan y Post Brenhinol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gall fod modd i chi hawlio iawndal gan y Post Brenhinol os yw’ch post wedi’i ddifrodi, wedi mynd ar goll, neu wedi cyrraedd yn hwyr. Os nad ydych yn siŵr, edrychwch i weld a allwch hawlio iawndal gan y Post Brenhinol.
Edrychwch i weld faint o iawndal y gallwch ei gael
Bydd swm yr iawndal y gallwch ei gael yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi digwydd i’r eitem.
Os yw’r eitem wedi cyrraedd yn hwyr
Os cafodd yr eitem ei hanfon i rywle o fewn y Deyrnas Unedig (y DU), llyfr yn cynnwys chwe stamp dosbarth cyntaf yw’r iawndal arferol. Ceir eithriadau os cafodd yr eitem ei hanfon drwy ddanfoniad arbennig, neu drwy wasanaeth Tracked 24 neu Tracked 48.
Os cafodd yr eitem ei hanfon drwy ddanfoniad arbennig gyda sicrwydd y byddai’n cyrraedd erbyn 9am, bydd cost postio’r eitem yn cael ei had-dalu’n llwyr.
Os cafodd yr eitem ei hanfon drwy ddanfoniad arbennig gyda sicrwydd y byddai’n cyrraedd erbyn 1pm neu ddanfoniad arbennig gyda sicrwydd y byddai’n cyrraedd ar ddydd Sadwrn, byddwch yn cael £5. Byddwch yn cael £10 os bydd yr eitem yn cyrraedd o leiaf saith diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad yr oedd i fod i gyrraedd.
Os cafodd yr eitem ei hanfon gan ddefnyddio’r gwasanaeth Tracked 24 neu Tracked 48, ni allwch gael iawndal am fod yr eitem wedi cyrraedd yn hwyr.
Os cafodd yr eitem ei hanfon i rywle y tu allan i’r DU, ni allwch gael iawndal am fod yr eitem wedi cyrraedd yn hwyr.
Os cafodd yr eitem ei difrodi neu os aeth yr eitem ar goll yn y post
Os cafodd yr eitem ei hanfon i rywle o fewn y DU, bydd swm yr iawndal y gallwch ei gael yn dibynnu ar y ffordd y cafodd ei hanfon. Os cafodd ei hanfon:
drwy’r post dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth, gallwch gael gwerth yr eitem hyd at £20
drwy’r post dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth gyda llofnod i gadarnhau ei bod wedi cyrraedd, gallwch gael gwerth yr eitem hyd at £20
drwy ddanfoniad arbennig erbyn 1pm, gallwch gael gwerth yr eitem hyd at £750 – neu ragor os oes yswiriant ychwanegol ar gyfer yr eitem
drwy ddanfoniad arbennig erbyn 9am, gallwch gael gwerth yr eitem hyd at £50 – neu ragor os oes yswiriant ychwanegol ar gyfer yr eitem
gan ddefnyddio’r gwasanaeth Tracked 24 neu Tracked 48, gallwch gael gwerth yr eitem hyd at £150
gan ddefnyddio’r gwasanaeth eitemau ar gyfer pobl ddall, gallwch gael gwerth yr eitem hyd at £46
Os yw’r eitem wedi mynd ar goll a’ch bod yn gallu profi ei bod yn werth rhywfaint o arian, bydd cost postio’r eitem hefyd yn cael ei had-dalu’n llwyr.
Os cafodd yr eitem ei hanfon i rywle y tu allan i’r DU
Bydd swm yr iawndal y gallwch ei gael yn dibynnu ar y ffordd y cafodd yr eitem ei hanfon. Os cafodd ei hanfon:
drwy’r post rhyngwladol safonol, drwy’r post rhyngwladol rhad neu drwy Wasanaeth Post Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi (EF), gallwch gael gwerth yr eitem hyd at £20
drwy’r post rhyngwladol gyda gwasanaeth olrhain neu lofnod i gadarnhau ei bod wedi cyrraedd, gallwch gael gwerth yr eitem hyd at £50 – neu ragor os oes yswiriant ychwanegol ar yr eitem
Os yw’r eitem wedi mynd ar goll a’ch bod yn gallu profi ei bod yn werth rhywfaint o arian, bydd cost postio’r eitem hefyd yn cael ei had-dalu’n llwyr.
Edrychwch i weld sut i hawlio iawndal
Gallwch hawlio iawndal:
drwy lenwi ffurflen y Post Brenhinol ar-lein – bydd angen i chi allu defnyddio llygoden
drwy lenwi ffurflen bapur a’i hanfon at y Post Brenhinol drwy’r post
Os cafodd yr eitem ei hanfon drwy Wasanaeth Post Lluoedd Arfog EF
Ni allwch ddefnyddio ffurflen ar-lein y Post Brenhinol. Gallwch hawlio iawndal:
drwy lenwi ffurflen bapur – gallwch gael gafael arni mewn unrhyw swyddfa bost
drwy gysylltu â Swyddfa Bost Lluoedd Arfog Prydain
Ymholiadau Swyddfa Bost Lluoedd Arfog Prydain
Ffôn: 03457 697978
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am tan 3.30pm
Dydd Gwener, 8am tan 4.30pm
E-bost: desbfpo-enquiries@mod.gov.uk
Mae’n debyg y bydd eich galwad am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy’n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - rhagor o wybodaeth am ffonio rhifau 0345.
If you can’t use the online form or send a paper form
You can call Royal Mail Customer Services for help making a claim.
Royal Mail Customer Services
Telephone: 03457 740 740
Textphone: 03456 000 606
Monday to Friday, 8.00am to 6.00pm
Saturday, 8.00am to 1.00pm
Mae’n debyg y bydd eich galwad am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy’n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - rhagor o wybodaeth am ffonio rhifau 0345.
Hawlio iawndal ar-lein
Gallwch hawlio iawndal ar wefan y Post Brenhinol – dim ond ychydig funudau y bydd yn ei gymryd i chi wneud hyn.
Bydd angen i chi lwytho llun digidol neu sgan sydd:
yn profi gwerth yr eitem, er enghraifft, derbynneb neu ddatganiad banc
yn profi eich bod wedi postio’r eitem – er enghraifft, eich derbynneb bapur neu’ch derbynneb ar-lein neu’ch tystysgrif bostio
yr eitem a’r deunydd pecynnu – os ydynt wedi’u difrodi
Bydd angen y rhif cyfeirnod neu rif y cod bar arnoch hefyd – gallwch gael hyd iddo ar y dystysgrif bostio neu ar label ar y pecyn.
Hawlio iawndal drwy’r post
Gallwch gael gafael ar ffurflen hawlio iawndal o’ch Swyddfa Bost agosaf a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen – gallwch gael hyd i’ch Swyddfa Bost agosaf drwy fynd i wefan y Post Brenhinol. Mae sawl ffurflen wahanol ar gael, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud sut y cafodd yr eitem ei hanfon pan fyddwch yn gofyn am ffurflen – er enghraifft, ‘dosbarth cyntaf’ neu ‘Tracked 24’.
Bydd angen i chi gynnwys y pethau hyn:
tystiolaeth sy’n profi gwerth yr eitem, er enghraifft, derbynneb neu ddatganiad banc
tystiolaeth sy’n profi eich bod wedi postio’r eitem – er enghraifft, eich derbynneb bapur neu’ch derbynneb ar-lein neu’ch tystysgrif bostio
y rhif cyfeirnod neu rif y cod bar – gallwch gael hyd iddo ar y dystysgrif bostio neu ar label ar y pecyn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon y dogfennau gwreiddiol – nid copïau ohonynt. Mae’n syniad da creu copïau i chi eich hun, rhag ofn y bydd eich hawliad yn mynd ar goll.
Os ydych yn hawlio am ddifrod, bydd angen i chi gynnwys y naill neu’r llall o’r pethau hyn hefyd:
yr eitem a’r deunydd pecynnu a ddifrodwyd
lluniau o’r eitem a’r deunydd pecynnu a ddifrodwyd os nad yw’n gyfleus i chi bostio’r eitem – er enghraifft, os yw’n swmpus
Edrychwch i weld beth sy’n digwydd ar ôl i chi hawlio iawndal
Byddwch yn cael ymateb cyn pen 30 diwrnod – neu 90 diwrnod os cafodd yr eitem ei hanfon i rywle y tu allan i’r DU. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael siec drwy’r post.
Gallai’r Post Brenhinol wrthod rhoi iawndal i chi, er enghraifft:
os nad oedd y cyfeiriad ar yr eitem yn glir neu os nad oedd yr eitem wedi’i rhoi mewn pecyn priodol – er enghraifft, os nad oedd y pecyn wedi’i selio neu os nad oedd yn ddigon cryf
os cafodd yr eitem ei phostio drwy ddull amhriodol – er enghraifft, os bu i chi anfon gemwaith drud drwy’r post ail ddosbarth yn hytrach na thrwy wasanaeth ag yswiriant yr oedd modd ei olrhain
os bu i rywun ac eithrio’r Post Brenhinol golli’r eitem, ei difrodi neu beri iddi gyrraedd yn hwyr
os cafodd yr eitem ei difrodi gan rywbeth a oedd y tu hwnt i reolaeth y Post Brenhinol, er enghraifft, tywydd gwael
os nad oedd rhybudd cywir wedi’i nodi ar yr eitem – er enghraifft, “FRAGILE HANDLE WITH CARE”, “DO NOT BEND” NEU “PERISHABLE”
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.