Os yw eich post wedi cael ei ddifrodi, ei golli neu ei oedi gan y Post Brenhinol
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’n bosibl y gallwch chi hawlio iawndal gan y Post Brenhinol. Mae'r hyn y gallwch chi ei gael yn dibynnu ar sut cafodd yr eitem ei hanfon a beth yw'r broblem.
Os ydych chi wedi prynu rhywbeth ar-lein, dros y ffôn neu mewn siop
Dylech chi geisio cysylltu â'r gwerthwr cyn gofyn i'r Post Brenhinol am iawndal - byddwch chi fel arfer yn cael canlyniad gwell. Gallwch chi wneud y canlynol:
gofyn am ad-daliad neu ail-ddanfon yr eitem os nad oedd wedi cyrraedd
edrych ar eich opsiynau ar gyfer dychwelyd nwyddau sydd wedi torri neu wedi’u difrodi
Os nad ydych chi am hawlio iawndal, gallwch chi gyflwyno cwyn i’r Post Brenhinol yn lle hynny. Mae’n bosibl y byddant yn dal i ofyn i chi lenwi ffurflen hawlio. Edrychwch ar eu gwefan i weld sut mae cyflwyno cwyn i’r Post Brenhinol.
Os yw’r Post Brenhinol wedi colli dogfen fel pasbort neu drwydded yrru
Cysylltwch â’r sefydliad a ddosbarthodd y ddogfen cyn gynted â phosibl. Er enghraifft, os yw’r Post Brenhinol wedi colli eich pasbort, dylech chi gysylltu â’r Swyddfa Gartref ar GOV.UK.
Gofynnwch i’r sefydliad ganslo’r ddogfen. Bydd hyn yn atal unrhyw un rhag defnyddio’r ddogfen i esgus bod yn chi.
Ewch i weld a ydych chi’n gallu hawlio iawndal
Dim ond os cafodd yr eitem ei phostio yn y DU a'i hanfon gan ddefnyddio gwasanaeth y Post Brenhinol y gallwch chi gael iawndal gan y Post Brenhinol - er enghraifft drwy ddefnyddio Swyddfa'r Post.
Allwch chi ddim cael unrhyw iawndal os bydd eich post wedi cael ei oedi a bod un o'r canlynol yn berthnasol:
cafodd ei bostio i rywle y tu allan i'r DU
cafodd ei bostio drwy ddanfoniad arbennig a bu'n rhaid ei ailgyfeirio
cafodd ei bostio gan ddefnyddio'r gwasanaeth Tracked 24 neu Tracked 48
Ewch i weld pwy all wneud hawliad
Gall naill ai’r person a anfonodd yr eitem neu’r person sy’n ei derbyn hawlio am iawndal. Os cafodd yr eitem ei hanfon gan ddefnyddio’r gwasanaeth Tracked 24 neu Tracked 48, dim ond yr anfonwr all hawlio am iawndal.
Fel arfer, mae’n haws i’r anfonwr wneud hawliad oherwydd ei fod yn fwy tebygol o fod â’r dystiolaeth sydd ei hangen. Os ydych chi fel y derbynnydd am wneud hawliad, cysylltwch â'r anfonwr i gael y dystiolaeth sydd arnoch ei hangen.
Ewch i weld a oes gennych chi’r dystiolaeth sydd arnoch ei hangen
I gael unrhyw iawndal, bydd arnoch angen prawf eich bod wedi postio. Gallai hyn fod yn dderbynneb neu’n dystysgrif postio os anfonoch chi rywbeth i Swyddfa’r Post. Os ydych chi wedi cael eich eitem, gallwch chi ddefnyddio’r pecyn gyda’r marc post arno.
Os ydych chi wedi defnyddio’r gwasanaeth Casglu Parseli, gallwch chi ddefnyddio eich hysbysiad casglu neu’ch derbynneb e-bost fel prawf eich bod wedi postio.
Os cafodd yr eitem ei hanfon drwy'r blwch post ac wedi mynd ar goll yn y post, fel arfer ni fydd gennych chi brawf eich bod wedi postio - mae hyn yn golygu na allwch chi gael iawndal.
Bydd angen i chi wybod y canlynol hefyd:
enw a chyfeiriad yr anfonwr a’r derbynnydd
y swm a dalwyd am bostio
y dull postio a ddefnyddiwyd – er enghraifft dosbarth 1af, danfoniad arbennig, mesurydd (ffranc)
i ble a phryd yr anfonwyd yr eitem
y cyfeirnod neu rif y cod bar - mae hwn i'w weld ar y dystysgrif postio neu ar label ar y pecyn
cynnwys y post
Os ydych chi'n gwneud hawliad am ddifrod neu golled, bydd angen i chi hefyd roi disgrifiad o gyflwr yr eitem a’r ffordd mae wedi’i phecynnu. Tynnwch luniau os gallwch chi.
Mae’n bosibl y cewch chi rywfaint o iawndal ychwanegol os oedd eich eitem yn werthfawr – bydd arnoch chi angen prawf gwreiddiol o’i gwerth, fel derbynneb, cyfriflen banc, dyfynbrisiau trwsio neu gofnodion paypal.
Ewch i weld faint o amser sydd gennych chi i wneud hawliad
Mae gwahanol reolau yn dibynnu ar a gafodd yr eitem ei difrodi, ei hoedi neu ei cholli yn y post.
Os cafodd yr eitem ei rhoi mewn blwch post neu ei hanfon i Swyddfa’r Post ar ôl danfoniad diwethaf y diwrnod, ystyrir y bydd yr eitem yn cael ei phostio ar y diwrnod gwaith nesaf.
Os cafodd yr eitem ei difrodi
Os cafodd yr eitem ei hanfon i rywle yn y DU, rhaid i chi wneud hawliad o fewn 80 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio. Os oes yswiriant ychwanegol ar gyfer yr eitem (a elwir yn 'yswiriant colled ganlyniadol'), rhaid i chi wneud hawliad o fewn 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio.
Os cafodd yr eitem ei hanfon i rywle y tu allan i’r DU, rhaid i chi wneud hawliad o fewn 6 mis ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio.
Os cafodd yr eitem ei hoedi
Mae’r amser y bydd yn rhaid i chi aros cyn gwneud hawliad yn dibynnu ar sut cafodd yr eitem ei hanfon. Os cafodd ei hanfon:
drwy bost dosbarth cyntaf, gallwch chi wneud hawliad 4 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio - neu 7 diwrnod os oedd rhaid ei hailgyfeirio
drwy bost ail ddosbarth, gallwch chi wneud hawliad 6 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio - neu 9 diwrnod os oedd rhaid ei hailgyfeirio
drwy ddanfoniad arbennig, gallwch chi wneud hawliad 1 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad yr oedd yr eitem i fod i gael ei hanfon
gan ddefnyddio’r gwasanaeth eitemau ar gyfer pobl ddall, gallwch chi wneud hawliad 4 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio - neu 7 diwrnod os oedd rhaid ei hailgyfeirio
Er enghraifft, os cafodd yr eitem ei phostio drwy bost dosbarth cyntaf ar ddydd Mercher, gallwch chi wneud hawliad ar y dydd Mawrth canlynol - neu'r dydd Gwener ar ôl hynny os cafodd ei hailgyfeirio.
Os cafodd yr eitem ei hanfon unrhyw bryd rhwng y dydd Llun cyntaf ym mis Rhagfyr a'r diwrnod gwaith cyntaf ym mis Ionawr, bydd angen i chi aros diwrnod ychwanegol cyn y gallwch chi wneud hawliad.
Os mai chi anfonodd yr eitem, rhaid i chi wneud hawliad o fewn 3 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio. Os mai chi cafodd yr eitem, rhaid i chi wneud hynny 1 mis ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio.
Os cafodd yr eitem ei hanfon i rywle y tu allan i’r DU, allwch chi ddim cael iawndal am oediad.
Os aeth yr eitem ar goll yn y post
Os cafodd yr eitem ei hanfon i rywle yn y DU, rhaid i chi wneud hawliad o fewn 80 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio. Mae’r amser y bydd yn rhaid i chi aros cyn gwneud hawliad yn dibynnu ar sut cafodd yr eitem ei hanfon. Os cafodd ei hanfon:
drwy bost dosbarth cyntaf, gallwch chi wneud hawliad 11 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio
drwy bost ail ddosbarth, gallwch chi wneud hawliad 14 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio
drwy ddanfoniad arbennig, gallwch chi wneud hawliad 5 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad yr oedd yr eitem i fod i gael ei hanfon
gan ddefnyddio’r gwasanaeth eitemau ar gyfer pobl ddall, gallwch chi wneud hawliad 11 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio
Er enghraifft, os cafodd yr eitem ei phostio drwy bost dosbarth cyntaf ar ddydd Mercher, gallwch chi wneud hawliad bythefnos yn ddiweddarach ar ddydd Mercher.
Os cafodd yr eitem ei hanfon unrhyw bryd rhwng y dydd Llun cyntaf ym mis Rhagfyr a'r diwrnod gwaith cyntaf ym mis Ionawr, bydd angen i chi aros diwrnod ychwanegol cyn y gallwch chi wneud hawliad.
Os cafodd yr eitem ei hanfon i rywle y tu allan i’r DU
Rhaid i chi wneud hawliad o fewn 6 mis ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio. Mae’r amser y bydd yn rhaid i chi aros cyn gwneud hawliad yn dibynnu ar ble cafodd yr eitem ei hanfon. Os cafodd ei hanfon:
i Ewrop, gallwch chi wneud hawliad 20 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio
y tu allan i Ewrop, gallwch chi wneud hawliad 25 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cafodd yr eitem ei phostio
Os ydych chi’n gallu hawlio iawndal
Ewch i weld faint o iawndal y gallwch chi ei gael a sut i wneud cais.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 26 Mawrth 2021