Gweld os allai rhywbeth fod yn sgam
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gall fod yn anodd adnabod sgamiau, ond mae pethau y gallwch chi gadw golwg amdanynt.
Os ydych chi wedi gweld rhywbeth ar-lein neu mewn neges e-bost neu neges destun
Gallwch chi ddefnyddio ein hofferyn ar-lein i gael cyngor. Bydd ein hofferyn yn gofyn cwestiynau i chi ac yn defnyddio eich atebion i roi cyngor i chi am:
sut i weld a yw rhywbeth yn sgam
yr hyn i’w wneud os byddwch wedi cael eich sgamio
Adnabod sgam
Efallai mai sgam ydyw:
os yw’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir – er enghraifft, gwyliau sy’n llawer rhatach nag y byddech chi’n ei ddisgwyl
os bydd rhywun nad ydych chi’n eu hadnabod yn cysylltu â chi yn annisgwyl
os byddwch yn amau nad ydych chi’n delio gyda chwmni go iawn – er enghraifft, nid oes cyfeiriad post
os gofynnwyd i chi drosglwyddo arian yn gyflym
os gofynnwyd i chi dalu mewn ffordd anarferol – er enghraifft, mewn talebau iTunes neu trwy wasanaeth trosglwyddo fel MoneyGram neu Western Union
os gofynnwyd i chi roi gwybodaeth bersonol fel cyfrineiriau neu rifau PIN
os nad ydych chi wedi cael cadarnhad ysgrifenedig o’r hyn a gytunwyd
Os byddwch yn cael neges sy’n gofyn i chi dalu i gael y parsel neu ad-drefnu’r dosbarthiad, sgam yw hwn fel arfer. Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni yn y neges destun neu’r neges e-bost. Ni fydd cwmnïau dosbarthu yn gofyn i chi eu talu trwy ddolen mewn neges e-bost neu neges destun.
Os byddwch chi’n credu eich bod wedi talu gormod am rywbeth
Nid yw talu mwy am rywbeth na’i werth yr un peth â chael eich sgamio. Fel arfer, bydd sgam yn cynnwys dwyn neu dwyll.
Mae gennych chi hawliau eraill os byddwch chi’n credu eich bod wedi gordalu.
Os byddwch chi’n credu eich bod wedi gweld sgam
Os byddwch chi wedi rhoi arian neu wybodaeth i ffwrdd oherwydd sgam, mae pethau y dylech chi eu gwneud. Edrychwch i weld yr hyn i’w wneud os byddwch chi wedi cael eich sgamio.
Os nad ydych chi wedi cael eich sgamio ond rydych chi wedi gweld rhywbeth sy’n edrych fel sgam, dylech adrodd amdano. Edrychwch i weld sut i adrodd am sgam.
Os byddwch chi’n credu bod rhywun yn ffonio i’ch twyllo chi i roi arian neu eich manylion personol iddynt, gorffennwch yr alwad a ffoniwch 159. Gwasanaeth diogel yw hwn sy’n eich cysylltu â’ch banc yn uniongyrchol.
Codir y gyfradd genedlaethol ar alwadau i rif 159 fel arfer – mae’n dibynnu ar eich darparwr.
Edrychwch i weld a yw eich banc yn defnyddio 159 ar wefan Stop Scams UK.
Diogelu eich hun ar-lein
Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i ddiogelu eich hun rhag cael eich sgamio ar-lein.
Check the signs of fake online shops
Gallwch chwilio am fanylion cwmni ar GOV.UK. Bydd hwn yn dweud wrthych chi a ydynt yn gwmni cofrestredig neu beidio.
Os ydych chi’n prynu rhywbeth ar wefan nad ydych chi wedi ei defnyddio o’r blaen, dylech chi dreulio ychydig funudau yn edrych drosti – dylech ddechrau trwy chwilio am ei hamodau a thelerau. Dylai cyfeiriad y cwmni nodi enw stryd, nid blwch swyddfa post yn unig.
Edrychwch i weld yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud am y cwmni. Mae’n werth edrych ar adolygiadau ar wahanol wefannau – peidiwch â dibynnu ar yr adolygiadau y mae’r cwmni wedi eu rhoi ar ei wefan ei hun.
Hefyd, peidiwch â dibynnu ar weld clo ym mar cyfeiriad eich porwr – nid yw hwn yn gwarantu eich bod yn prynu wrth gwmni go iawn.
Peidiwch â chlicio ar neu lawrlwytho unrhyw beth nad ydych chi’n ymddiried ynddo
Peidiwch â chlicio ar neu lawrlwytho unrhyw beth nad ydych chi’n ymddiried ynddo – er enghraifft, os byddwch yn cael neges e-bost gan gwmni sydd â chyfeiriad e-bost rhyfedd. Gallai gwneud hyn heintio eich cyfrifiadur gyda feirws.
Gwnewch yn siŵr bod eich meddalwedd gwrthfeirysau wedi cael ei diweddaru er mwyn cynnig mwy o ddiogelwch i chi.
Byddwch yn ofalus am roi gwybodaeth bersonol i ffwrdd
Bydd rhai sgamwyr yn ceisio cael eich gwybodaeth bersonol – er enghraifft, enw eich ysgol gynradd neu’ch rhif Yswiriant Gwladol. Gallant ddefnyddio’r wybodaeth hon i hacio eich cyfrifon. Os byddwch yn dod ar draws gwefannau sy’n gofyn am y math hon o wybodaeth heb reswm amlwg dros wneud hynny, edrychwch i weld a ydynt yn ddilys.
Edrychwch i weld a yw eich manylion wedi cael eu rhannu ar-lein
Weithiau, bydd eich manylion mewngofnodi ar gael i’r cyhoedd pan fydd gwefan yn cael ei hacio. Mae hyn yn golygu y gallai rhywun ddefnyddio eich manylion chi mewn sgam. Edrychwch i weld a yw eich cyfrifon wedi cael eu rhoi mewn perygl ar Have I Been Pwned.
Gwneud eich cyfrifon ar-lein yn ddiogel
Gwnewch yn siŵr bod gennych chi gyfrinair cryf ar gyfer eich cyfrifon e-bost ac nad ydych chi’n eu defnyddio nhw unrhyw le arall. Os ydych chi’n gofidio am gofio nifer fawr o wahanol gyfrineiriau, gallwch ddefnyddio rheolwr cyfrineiriau.
Mae rhai gwefannau yn caniatáu i chi ychwanegu ail gam pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif – yr enw am hyn yw ‘dilysiad dau ffactor’. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i sgamwyr gael mynediad i’ch cyfrifon.
Edrychwch sut i osod dilysiad dau ffactor ar draws gwasanaethau fel Gmail, Facebook, Twitter, LinkedIn, Outlook ac iTunes ar wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Talu gyda cherdyn debyd neu gredyd
Talwch gyda cherdyn er mwyn cael diogelwch ychwanegol os bydd pethau yn mynd o le. Darllenwch ein cyngor am gael eich arian yn ôl ar ôl i chi gael eich sgamio.
Gwybod sut y mae’ch banc yn gweithredu
Trowch at wefan eich banc i weld sut y bydd eich banc yn cyfathrebu gyda chi a sut na fyddant yn cyfathrebu gyda chi. Er enghraifft, edrychwch i weld pa fath o gwestiynau diogelwch y byddant yn eu gofyn os byddant yn eich ffonio chi.
Gwnewch yn siŵr bod gan y cyfrif yr ydych chi’n ei dalu yr enw cywir
Pan fyddwch yn talu busnes neu berson ar-lein am y tro cyntaf, bydd eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu yn edrych ar y manylion y byddwch chi’n eu defnyddio. Byddant yn dweud wrthych os bydd enw deiliad y cyfrif yr un peth â’r un yr ydych chi wedi ei ddefnyddio.
Os yw’r enwau yn debyg ond nid ydynt yn union yr un peth
Dim ond os ydych chi’n siŵr bod y cyfrif yn perthyn i’r person neu’r busnes cywir y dylech chi wneud y taliad.
Os yw’r enwau yn hollol wahanol
Peidiwch â gwneud y taliad oni bai eich bod wedi edrych ar fanylion y cyfrif ac rydych chi’n siŵr eu bod yn gywir. Efallai bod sgamiwr wedi anfon bil neu anfoneb ffug atoch chi.
Os bydd yr anfonwr wedi rhoi rheswm i chi pam bod yr enwau’n wahanol neu os byddant yn dweud bod angen talu ar frys, dylech edrych i weld o hyd cyn gwneud y taliad. Ni ddylent roi pwysau arnoch i dalu’n syth os ydynt yn ddibynadwy.
Os byddwch yn talu heb edrych i weld ai sgam ydyw, efallai na fyddwch yn cael eich arian yn ôl.
Cysylltu â’r person neu’r sefydliad i edrych ar eu manylion
Mae’n well gwneud hyn trwy eu ffonio ar rif y gallwch ymddiried ynddo – er enghraifft, yr un ar eu gwefan. Os oes rhif gwahanol ar y bil neu’r anfoneb, peidiwch â defnyddio hwn.
Os byddwch wedi cael y bil neu’r anfoneb mewn neges e-bost neu neges destun, byddwch yn ofalus. Peidiwch ag ateb y neges e-bost neu’r neges testun i weld y manylion, oni bai ei fod yn dod o’r person neu’r busnes cywir.
Os bydd y person neu’r busnes yn cadarnhau manylion eu cyfrif ac os byddwch yn penderfynu gwneud y taliad, mae’n syniad da trosglwyddo £1 yn gyntaf. Dylech sicrhau ei bod wedi mynd i’r cyfrif cywir cyn i chi dalu’r gweddill.
Cael gwybod am sgamiau diweddar
I gael gwybod am sgamiau ar draws y wlad, gallwch gofrestru i gael rhybudd e-bost Safonau Masnach ar eu gwefan. Gall Safonau Masnach ymchwilio a chymryd camau mewn llys yn erbyn sgamwyr.
Os ydych chi’n dymuno cael gwybod am sgamiau yn eich ardal leol, cofrestrwch i gael rhybuddion e-bost ar wefan Action Fraud.
Gallwch gael gwybod am sgamiau ariannol cyffredin ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol hefyd.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 30 Mai 2019