Hawlio gan ddefnyddio gwarantau
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae gwarant estynedig (“warranty”) a gwarant (“guarantee”) yn ychwanegu at eich hawliau cyfreithiol. Mae pob un yn wahanol, ond maent yn tueddu i fod yn ddefnyddiol:
os oes rhywbeth wedi mynd o'i le ar ôl y 6 mis cyntaf a'ch bod am gael trwsio rhywbeth neu eisiau rywbeth newydd - mae'n anodd gwneud hyn oherwydd efallai y bydd yn rhaid i chi brofi nad chi wnaeth achosi'r broblem
os gwnaethoch brynu eitem dramor a bod y gwneuthurwr wedi’i leoli yn y DU
pan fydd busnes masnachwr wedi dod i ben a bod problem gyda’r nwyddau neu’r gwasanaeth a ddarparwyd ganddo
Ystyriwch ddefnyddio eich hawliau cyfreithiol yn lle hynny
Mae’n bosibl y bydd yn haws cael eich arian yn ôl, ei drwsio neu gael un newydd heb ddefnyddio eich gwarant.
Edrychwch a yw’n haws defnyddio eich hawliau cyfreithiol ar nwyddau diffygiol yn lle hynny. Fel arfer, mae’n haws yn ystod y 6 mis cyntaf. Mae gennych hawliau cyfreithiol am hyd at 6 blynedd (5 mlynedd yn yr Alban) os oes rhywbeth o’i le.
Os ydych chi’n dal am hawlio gan ddefnyddio gwarantau
Mae’n bosibl y byddwch am ddefnyddio eich gwarant estynedig neu’ch gwarant os ydych chi’n meddwl y bydd hynny’n haws – er enghraifft, os oeddech chi wedi prynu’r eitem 7 mis yn ôl a bod eich gwarant yn para am flwyddyn.
Edrychwch ar eich gwaith papur i weld sut rydych chi’n gwneud hawliad. Gallai unrhyw warant fod ar eich derbynneb, mewn neges e-bost neu wedi’i rhoi i chi fel taflen ar wahân.
Bydd y gwaith papur hefyd yn dweud:
am ba hyd y mae’r warant estynedig neu’r warant yn para
yr hyn y mae gennych hawl iddo, ee ad-daliad, trwsio’r eitem neu gael un newydd yn ei le
Os na allwch ddod o hyd i’r warant neu’r warant estynedig, cysylltwch â’r gwerthwr neu’r masnachwr a gofyn a oes ganddyn nhw gopi neu fanylion cyswllt y gwneuthurwr.
Pan fyddwch yn gwneud hawliad, byddwch fel arfer angen y canlynol:
prawf prynu - fel arfer derbynneb yn dangos ble a phryd y prynoch chi’r nwyddau
manylion y broblem
llungopi o’r warant estynedig neu’r warant
Os yw eich masnachwr neu werthwr wedi mynd allan o fusnes
Os oes gennych chi warant estynedig neu warant gan wneuthurwr, dylai fod yn ddilys o hyd. Cysylltwch â'ch gwneuthurwr ac esbonio eich sefyllfa. Dylech weld eu manylion cyswllt ar y gwaith papur gwarant estynedig neu warant, yn y llawlyfr cyfarwyddiadau neu ar eu gwefan.
Os yw eich gwarant neu warant estynedig gan y gwerthwr neu’r masnachwr, dylech edrych a oes ganddo yswiriant. Gydag yswiriant, mae polisi yswiriant wedi cael ei drefnu i sicrhau bod y gwarant neu’r gwarant estynedig yn dal yn ddilys os bydd y masnachwr neu’r gwerthwr yn mynd allan o fusnes. Mae hyn yn fwy tebygol os yw’r gwarant neu’r gwarant estynedig ar gyfer gwaith i wella’r cartref – er enghraifft gosod paneli solar.
Edrychwch ar eich gwaith papur. Gallai gwarant neu gwarant estynedig gydag yswiriant fod yn:
rhan o'ch contract gyda'r masnachwr neu'r gwerthwr
contract ar wahân sydd gennych chi a’r masnachwr neu'r gwerthwr
Bydd yn dweud wrthych sut i wneud hawliad yn y gwaith papur. Os nad ydych yn sicr, cysylltwch â’r cwmni yswiriant.
Os nad ydych chi wedi llenwi cerdyn dychwelyd ar warant gwneuthurwr
Dylech fod wedi llenwi cerdyn cofrestru a’i anfon yn ôl at y gwneuthurwr.
Os nad ydych chi wedi gwneud hynny, efallai na fydd eich gwarant yn ddilys – ceisiwch chwilio am rif cyswllt ar y warant, a chysylltwch â nhw. Efallai y byddwch yn gallu cofrestru ar-lein hefyd.
Os na allwch chi ddod o hyd i fanylion cyswllt, ffoniwch y gwerthwr neu’r masnachwr a gofyn am gyngor. Mae’n bosibl y byddant yn dweud nad yw’r warant yn ddilys mwyach.
Os nad ydych chi wedi llenwi cerdyn dychwelyd ar warant gwneuthurwr
Dylech fod wedi llenwi cerdyn cofrestru a’i anfon yn ôl at y gwneuthurwr.
Os nad ydych wedi gwneud hynny, efallai na fydd eich gwarant yn ddilys – ceisiwch chwilio am rif cyswllt ar y warant, a chysylltwch â nhw. Efallai y byddwch yn gallu cofrestru ar-lein hefyd.
Os na allwch ddod o hyd i fanylion cyswllt, ffoniwch y gwerthwr neu’r masnachwr a gofyn am gyngor. Mae’n bosibl y byddant yn dweud nad yw’r warant yn ddilys mwyach.
Edrychwch ar y print mân
Dim ond y sawl a brynodd yr eitem all wneud hawliad, oni bai fod eich gwarant estynedig neu warant yn defnyddio’r ymadrodd ‘hawliau trydydd parti’. Mae’n bwysig eich bod yn chwilio am y geiriau hyn os oeddech chi wedi’i brynu’n ail-law neu wedi’i gael fel anrheg.
Cadwch lygad am y terfyn amser – bydd hyn yn digwydd pan fydd y warant estynedig neu’r warant yn dod i ben.
Edrychwch a fydd yn rhaid i chi dalu costau postio, pacio a chludo os bydd yn rhaid i chi anfon rhywbeth yn ôl - dylai'r ddogfen nodi hynny.
Os nad ydych chi’n deall rhywbeth mewn gwarant estynedig
Efallai y bydd gennych hawliau ychwanegol os yw'r ddogfen yn ei gwneud yn anodd iawn i chi hawlio, neu os yw'r geiriad yn arbennig o anodd ei ddeall. Maen nhw’n cael eu galw’n ‘dermau annheg’ os ydyn nhw mor anodd fel na allwch chi ddim gwneud unrhyw synnwyr ohonyn nhw.
Os ydych chi am ganslo eich gwarant estynedig
Efallai y cewch chi ‘gyfnod newid meddwl’ awtomatig o 14 diwrnod os gwnaethoch chi gofrestru ar gyfer y warant estynedig dros y ffôn neu ar-lein - mae hyn yn golygu y gallwch chi ganslo’r warant a chael ad-daliad.
Cewch hefyd newid eich meddwl a chael ad-daliad o fewn y 45 diwrnod cyntaf, os:
eich bod wedi codi gwarant estynedig am nwyddau trydanol am o leiaf 12 mis
gwnaethoch chi brynu’r warant ar yr un pryd â phrynu’r nwyddau
Mae ‘nwyddau trydanol’ yn cynnwys:
pethau llai fel tegelli a thostwyr
pethau mwy o faint fel peiriannau torri gwair a pheiriannau golchi llestri
dyfeisiau adloniant, fel gliniaduron a setiau teledu
Ar ôl y 45 diwrnod cyntaf, gallwch chi ganslo’r warant estynedig o hyd, ond dim ond ad-daliad rhannol gewch chi – bydd y swm a gewch chi’n dibynnu ar ba mor hir yn ôl y cawsoch chi’r warant estynedig. Allwch chi ddim gwneud hyn os ydych chi eisoes wedi gwneud hawliad.
ou took out the warranty. You can’t do this if you’ve already made a claim.
Rhagor o gymorth
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth - bydd cynghorwr hyfforddedig yn gallu rhoi cyngor i chi ar-lein neu dros y ffôn.
Bydd cynghorwr yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol hefyd yn gallu eich helpu chi i ddadlau eich achos, neu ddadlau ar eich rhan.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.