Os bydd cwmni’n rhoi’r gorau i fasnachu neu’n mynd allan o fusnes
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’n bosibl na fydd gennych chi’r eitem rydych chi wedi talu amdani neu bydd gennych waith heb ei orffen os bydd cwmni neu fasnachwr yn rhoi’r gorau i fasnachu neu’r busnes yn dod i ben. Mae sawl ffordd o geisio cael eich arian yn ôl neu wneud y gwaith. Fodd bynnag, does dim sicrwydd y cewch chi’r hyn rydych chi wedi talu amdano.
Os ydych chi wedi prynu drwy unig fasnachwr
Unig fasnachwr (rhywun sy'n rhedeg ei fusnes ei hun) neu bartneriaeth sy'n rhoi'r gorau i fasnachu sy'n gyfrifol am waith neu eitemau y talwyd amdanyn nhw.
Ffoniwch y cwmni, ewch i’w swyddfa neu i’w siop, neu ysgrifennwch atyn nhw i gael gwybod beth sy’n digwydd. Esboniwch am beth rydych chi wedi talu a gofynnwch am yr eitem rydych chi wedi’i phrynu neu am ad-daliad.
Os na allwch chi gael gafael ar y cwmni
Os na allwch chi gael gafael ar gwmni neu os ydych chi am gadarnhau eu bod nhw wedi mynd allan o fusnes (a elwir hefyd yn mynd yn fethdalwr neu'n mynd i ddwylo'r gweinyddwyr neu'r derbynnydd), chwiliwch am eu henw ar:
wefan Tŷ'r Cwmnïau os ydyn nhw'n gwmni cyfyngedig (gyda’r llythrennau ‘Ltd/Cyf’ neu ‘Plc’ ar ôl eu henw.)
y Gofrestr Ansolfedd os yw’n unigolyn (unig fasnachwr) neu’n bartneriaeth – chwiliwch am enw’r unigolyn a’i enw masnachu
Gall gymryd rhai wythnosau i wybodaeth ymddangos ar y gwefannau hyn.
Os ydych chi wedi trefnu gwyliau
Gallwch chi chwilio am fanylion cwmnïau teithio sydd wedi mynd i'r wal ar wefan ABTA.
Os yw eich archeb gwyliau wedi’i diogelu gan ATOL, dylech chi hefyd edrych ar y rhestr o gwmnïau teithio sydd wedi’u diogelu gan ATOL ac sydd wedi mynd i’r wal ar wefan CAA.
Os na allwch chi ddod o hyd i fanylion y cwmni y gwnaethoch archebu gyda nhw, gallwch chi gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.
Os yw'r cwmni wedi mynd allan o fusnes
Chwiliwch am fanylion y gweinyddwr neu’r derbynnydd – y sawl sy’n delio â setlo dyledion y masnachwr. Bydd enwau’r gweinyddwyr hynny fel arfer ar wefan y cwmni sydd wedi mynd i’r wal. Bydd angen yr wybodaeth hon arnoch chi os bydd angen i chi wneud hawliad.
Delio â chwmni sydd wedi mynd allan o fusnes
Os oeddech chi wedi prynu eitem yn y siop cyn iddi gau, does gennych chi ddim hawl awtomatig i gael eich arian yn ôl os nad oes dim byd o’i le arni.
Dylech chi edrych ar bolisi’r siop ar ddychwelyd nwyddau – os na allwch chi gysylltu â’r siop, holwch y cwmni sy’n delio â setlo dyledion y masnachwr.
Os nad yw'r eitem neu'r gwasanaeth rydych chi wedi talu amdano gennych chi, gallwch chi geisio cael eich arian yn ôl. Bydd hyn yn dibynnu a ydych chi wedi talu am yr eitem neu’r gwaith:
gyda cherdyn debyd
gyda cherdyn credyd
drwy ddarparwr Prynu Nawr, Talu Wedyn
Dylech chi bob amser gofrestru hawliad fel credydwr ar wefan GOV.UK. Llenwch y ffurflen gyda manylion yr hyn sy’n ddyledus i chi a’i hanfon at y gweinyddwr sy’n delio â dyledion y masnachwr.
Os ydych chi wedi cofrestru hawliad
Pan fyddwch chi'n cofrestru hawliad fel credydwr, byddwch yn cael eich ychwanegu at restr o'r holl bobl y mae ar y cwmni arian iddyn nhw. Bydd pobl eraill, fel banciau, yn cael eu talu’n gyntaf felly efallai na fyddwch chi’n cael unrhyw arian yn ôl.
Gwneud cais am hawliad 'Adran 75'
Dim ond os yw un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch chi wneud cais am hawliad Adran 75:
os gwnaethoch chi dalu gyda cherdyn credyd
os yw’r eitem neu’r gwaith wedi costio mwy na £100
Chewch chi ddim gwneud cais am ‘hawliad Adran 75’ os ydych chi wedi talu gyda cherdyn debyd neu drwy ddarparwr Prynu Nawr, Talu Wedyn.
Gofyn am ‘dâl yn ôl’
Gallwch ofyn am dâl yn ôl gan eich banc neu ddarparwr eich cerdyn os ydych chi wedi talu:
gyda cherdyn debyd
gyda cherdyn credyd ac allwch chi ddim defnyddio Adran 75
gyda cherdyn debyd neu gredyd drwy ddarparwr Prynu Nawr, Talu Wedyn
Dydy llawer o staff banc ddim yn gwybod am y cynllun tâl yn ôl, felly efallai y bydd angen i chi siarad â rheolwr.
Os ydych chi wedi talu gyda cherdyn debyd neu gredyd drwy ddarparwr Prynu Nawr, Talu Wedyn, mae’n dal yn bosibl i chi ofyn am ad-daliad – ond efallai na fydd eich banc neu’ch darparwr credyd yn cytuno i wneud hynny.
Os ydych chi wedi talu am eich eitem drwy ddarparwr Prynu Nawr, Talu Wedyn
Os oeddech chi wedi prynu rhywbeth ar-lein neu mewn siop, dylech chi gysylltu â’ch darparwr Prynu Nawr, Talu Wedyn yn gyntaf i wirio eu proses ac egluro’r sefyllfa.
Os na fydd eich darparwr Prynu Nawr, Talu Wedyn yn datrys y sefyllfa, gallwch chi ofyn am dâl yn ôl os ydych chi wedi talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd. Fodd bynnag, efallai na fydd eich banc neu’ch darparwr credyd yn cytuno i wneud hynny.
Chewch chi ddim gwneud cais am hawliad adran 75.
Trwsio neu newid eitem ddiffygiol
Os oes gennych chi’r eitem yn barod ond ei bod yn ddiffygiol, gallwch chi geisio gwneud y canlynol:
defnyddio'r warant neu’r warant estynedig a ddaeth gyda’r eitem i gael ei thrwsio neu gael un arall yn ei lle
gofynnwch i'r gweinyddwr am drwsio neu gael rhywbeth yn ei lle - mae siawns fach y byddan nhw'n gallu helpu
Y Camau Nesaf
Os nad ydych chi'n fodlon â sut maen nhw'n delio â chi, fe allech chi ystyried ffordd arall o ddatrys anghydfod neu, fel dewis olaf, mynd i’r llys.
Os ydych chi’n delio â chwmni sy’n rhoi’r gorau i fasnachu
Pan fydd cwmni cyfyngedig yn rhoi’r gorau i fasnachu, allwch chi ddim mynd i’r llys. Os yw wedi cael ei brynu gan gwmni arall, ceisiwch egluro i’r perchnogion newydd beth sydd wedi digwydd.
Cael help
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth - bydd cynghorwr hyfforddedig yn gallu rhoi cyngor i chi ar-lein neu dros y ffôn.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.