Os yw rhywbeth rydych chi wedi’i archebu heb gyrraedd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Negeseuon testun neu negeseuon e-bost am barsel nad yw wedi cyrraedd

Os ydych chi'n cael neges sy'n gofyn i chi dalu i gael y parsel neu aildrefnu bod y parsel yn cael ei ddanfon, fel arfer sgâm ydi o. Peidiwch â chlicio unrhyw ddolenni yn y testun nac ar yr e-bost. Ni fydd cwmnïau danfon yn gofyn i chi eu talu trwy ddolen mewn e-bost neu neges destun.

Dylech roi gwybod am y sgam.

Os gwnaethoch chi glicio unrhyw ddolen neu roi eich manylion banc, dylech chi wirio beth i’w wneud os ydych chi wedi cael eich twyllo.

Os ydych chi wedi prynu rhywbeth gan fusnes a bod angen ei anfon atoch, cyfrifoldeb y gwerthwr yw sicrhau bod yr eitem yn cael ei danfon atoch chi.

Os yw'r gwerthwr yn defnyddio cwmni cludo, dylen nhw gysylltu â’r cwmni hwnnw i  gael gwybod beth sydd wedi digwydd i'ch archeb - nid eich cyfrifoldeb chi ydyw.

Gwiriwch y cyfeiriad danfon a roesoch chi i'r gwerthwr. Yna cysylltwch â nhw a gofynnwch ble mae eich archeb.

Os yw'r gwerthwr yn honni eu bod wedi ei ddanfon neu ddim yn gwybod ble mae o, gallwch ofyn iddyn nhw ei ail-ddanfon. Efallai y byddwch yn gallu cael ad-daliad mewn rhai amgylchiadau.

Os nad ydych chi wedi cael eich eitem oherwydd bod angen i chi dalu ffioedd

Os ydych chi wedi prynu rhywbeth gan fusnes sydd wedi'i leoli y tu allan i'r DU, efallai y bydd angen i chi dalu TAW, tollau tramor neu ffioedd danfon. Ni fyddwch yn cael eich eitem nes eich bod wedi talu'r ffioedd. Bydd y cwmni sy'n danfon eich eitem yn anfon bil atoch yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei dalu. 

Gallwch ddarganfod mwy am ffioedd a beth i'w wneud os codwyd gormod arnoch chi ar GOV.UK.

Os gadawyd eich eitem gyda chymydog neu yn rhywle arall a’i bod wedi mynd ar goll

Mae'r hyn y gallwch ei wneud yn dibynnu p’un ai a oedd eich eitem wedi'i danfon gan y Post Brenhinol neu gan gwmni cludo.

Cafodd eich eitem ei danfon trwy'r Post Brenhinol

Os yw'r Post Brenhinol wedi gadael rhywbeth gyda chymydog neu mewn man penodol oherwydd eich bod wedi dweud wrthynt, nid cyfrifoldeb y gwerthwr na'r Post Brenhinol ydyw os yw'n mynd ar goll.

Os yw'r Post Brenhinol wedi gadael rhywbeth gyda chymydog neu mewn man penodol a’ch bod heb ddweud wrthynt am wneud hynny, cyfrifoldeb y gwerthwr ydyw os yw'n mynd ar goll. Dylech gysylltu â'r gwerthwr i ofyn iddyn nhw ail-ddanfon y parsel neu roi ad-daliad - gallwch ffonio, e-bostio neu ysgrifennu llythyr.

Gallwch ddewis peidio â gadael eitemau gyda chymydog yn y dyfodol trwy lenwi ffurflen ar wefan y Post Brenhinol.

Cafodd eich eitem ei danfon gan gwmni cludo

Gwiriwch eich telerau ac amodau neu fanylion y cyfrif – efallai eu bod yn cynnwys mannau eraill i'w gadael, fel eich portsh neu dŷ cymydog. Os ydych chi wedi cytuno â hyn, nid cyfrifoldeb y gwerthwr ydyw os yw eich archeb wedi mynd ar goll.

Os na chafodd eich eitem ei danfon i'r lleoliad y cytunwyd arno, cyfrifoldeb cyfreithiol y gwerthwr yw datrys y mater. Gallwch ofyn iddyn nhw ail-ddanfon y parsel. Gallwch ofyn am ad-daliad llawn os:

  • oedd dyddiad danfon yn hanfodol ac na chafodd ei ddanfon mewn pryd

  • cytunwyd ar ddyddiad danfon ond nid oedd yn hanfodol, ac ni chafodd ei ddanfon erbyn yr ail ddyddiad chwaith

  • ni chytunwyd ar ddyddiad danfon ac nid oedd ail gyfle i ddanfon y parsel yn llwyddiannus

Mae dyddiad danfon yn hanfodol os gwnaethoch chi ddweud wrth y gwerthwr bod angen yr eitem arnoch erbyn dyddiad penodol. Gellir hefyd ystyried bod eitem yn 'hanfodol' os yw hynny'n amlwg o'r amgylchiadau. Er enghraifft, cacen briodas a archebwyd ar gyfer diwrnod priodas.

Ar gyfer naill ai ad-daliad neu i ail-ddanfon parsel, gallwch ffonio, e-bostio neu ysgrifennu llythyr.

Enghraifft

Beth i'w gynnwys yn eich llythyr

Gallwch ysgrifennu:

"O dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, rydych chi'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod fy archeb yn cael ei danfon i mi i fy nghyfeiriad neu i fan diogel arall y cytunwyd arno. Ni chytunais i fy archeb gael ei gadael mewn man arall ac nid wyf wedi ei derbyn."

Os ydych chi'n gofyn iddyn nhw ail-ddanfon y parsel, ychwanegwch:

"Rwyf nawr yn nodi terfyn amser ar gyfer danfon ______ ac yn gofyn i chi ddanfon yr eitem o fewn y terfyn amser hwnnw."

Bydd angen i chi ddewis terfyn amser ar gyfer ail-ddanfon y parsel sy'n briodol i'r hyn rydych chi'n ei archebu.

Os ydych chi'n gofyn am ad-daliad, ychwanegwch:

"Rwy'n disgwyl ad-daliad llawn heb oedi gormodol."

Cyfeiriwch at ddyddiad danfon hanfodol os gwnaethoch chi gytuno ar un gyda'r gwerthwr. Bydd angen i chi gyfeirio at unrhyw ddyddiadau danfon hanfodol y cytunwyd arnynt yn flaenorol gyda'r gwerthwr. 

Dylech hefyd ddweud yn glir yn eich llythyr sut rydych chi am dderbyn yr ad-daliad - er enghraifft, i'ch cyfrif banc neu drwy siec.

Os ydych chi’n dal eisiau eich archeb

O dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr, gallwch ofyn i'r gwerthwr ddanfon yr eitem eto os na chafodd yr eitem ei danfon:

  • erbyn dyddiad y cytunwyd arno

  • o fewn amser rhesymol - fel arfer o fewn 30 diwrnod

Gallwch ddefnyddio ein llythyr templed i ysgrifennu at y gwerthwr.

Enghraifft

Os ydych chi eisiau ysgrifennu eich llythyr eich hun

Dylech gynnwys y llinellau hyn:

"Mae methu ag ail-ddanfon yr eitem o fewn amser rhesymol ac ar ôl y terfyn amser y cytunwyd arno, yn achos o dorri’r gyfraith o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

Mae amser yn hanfodol. Dylid danfon yr eitem heb oedi gormodol. "

Os ydych chi am ganslo'ch archeb

Gallwch ganslo a gofyn am eich arian yn ôl os nad ydych chi'n cael yr eitem:

  • o fewn 30 diwrnod i’w phrynu

  • ar y dyddiad y cytunwyd arno gyda'r gwerthwr - os oedd yn hanfodol ei derbyn erbyn hynny (er enghraifft, ar gyfer digwyddiad)

  • ar ddyddiad yr ail gyfle i’w danfon y cytunwyd arno gyda’r gwerthwr

Enghraifft

Beth i'w gynnwys yn eich llythyr

Bydd yr hyn rydych chi'n ei ysgrifennu yn dibynnu ar amgylchiadau eich archeb ac a gytunwyd ai peidio ar ddyddiad danfon hanfodol. Mae dyddiad danfon yn hanfodol os gwnaethoch chi ddweud wrth y gwerthwr bod angen ei ddanfon erbyn dyddiad penodol. Gellir hefyd ystyried bod eitem yn 'hanfodol' os yw hynny'n amlwg o'r amgylchiadau. Er enghraifft, cacen briodas a archebwyd ar gyfer diwrnod priodas.

Dywedwch wrth y gwerthwr bod yr hyn sydd wedi digwydd i'ch archeb yn achos o "dorri contract o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015" os ydych naill ai:

  • wedi dweud wrth y gwerthwr fod y dyddiad danfon ac na wnaethon nhw ei ddanfon mewn pryd

  • wedi cytuno gyda’r gwerthwr ar ddyddiad danfon nad oedd yn hanfodol, ac na chafodd ei ddanfon erbyn yr ail ddyddiad chwaith

  • ni chytunwyd ar ddyddiad danfon gyda’r gwerthwr ac nid oedd ail gyfle i ddanfon y parsel yn llwyddiannus

Defnyddiwch y llinell: "Rwy'n gofyn am ad-daliad ac yn disgwyl ad-daliad llawn o fewn amser rhesymol."

Os nad ydych chi'n hapus ag ymateb y gwerthwr

Os yw'r gwerthwr yn gwrthod ail-ddanfon y parsel neu roi eich arian yn ôl i chi, gallwch fynd â'ch cwyn ymhellach.

Os nad yw'r cwmni mewn busnes mwyach, ceisiwch ddarganfod beth allwch chi ei wneud os bydd cwmni yn rhoi'r gorau i fasnachu.

Os ydych chi'n meddwl bod y gwerthwr wedi torri'r gyfraith

Gallwch roi gwybod i safonau masnach - er enghraifft, os ydyn nhw wedi cymryd eich arian ac wedi gwrthod danfon yr eitem. Efallai y bydd Safonau Masnachu yn ymchwilio i’r mater ond fel arfer ni fyddan nhw’n gallu cael eich arian yn ôl i chi.

Os oes angen mwy o help arnoch

Os gwnaethoch chi archebu rhywbeth gan werthwr preifat, gallwch gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

As a charity, we rely on your support to help millions of people solve their problems each year. Please donate if you can to help us continue our work.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 22 Tachwedd 2018