Cael eich arian yn ôl os gwnaethoch chi dalu gyda cherdyn neu drwy PayPal
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae yna gamau y gallwch eu cymryd os ydych chi wedi prynu rhywbeth gyda cherdyn credyd, cerdyn debyd, cerdyn talu neu drwy PayPal. Gallwch ofyn am ad-daliad os ydych chi:
heb gael yr hyn y gwnaethoch chi dalu amdano
wedi cael rhywbeth diffygiol neu sydd wedi torri
wedi cael rhywbeth sy'n wahanol i'r ffordd y cafodd ei ddisgrifio
Fel arfer, mae'n well ceisio cysylltu â'r masnachwr. Os na allwch chi gysylltu â nhw neu os nad ydyn nhw’n helpu, gofynnwch i'ch darparwr cerdyn neu PayPal helpu.
Ceisiwch gysylltu â'r masnachwr
Os oes gan y masnachwr weithdrefn gwyno, dylech ei dilyn pan fyddwch chi'n cysylltu â nhw. Gallwch wirio a oes gan y masnachwr weithdrefn gwyno ar ei wefan
Mae'n well e-bostio neu ysgrifennu at y masnachwr - gallwch ddefnyddio llythyrau templed. Cadwch gopi o unrhyw beth rydych chi'n ei anfon, rhag ofn bod angen i chi ei wirio yn nes ymlaen.
Os na allwch chi gysylltu â'r masnachwr neu os nad ydyn nhw’n helpu, yna gallwch ofyn i'ch darparwr cerdyn neu PayPal.
Os gwnaethoch chi dalu trwy ddarparwr Prynu Nawr Talu Wedyn, dylech wirio eu gwefan i weld a allan nhw helpu.
Gwiriwch y ffordd orau o gael eich arian yn ôl
Os gwnaethoch chi dalu trwy ddarparwr Prynu Nawr Talu Wedyn neu gydag arian o'ch cyfrif PayPal, dylech agor anghydfod ar wefan eich darparwr.
Os ydych chi'n agor anghydfod ar wefan PayPal, mae gennych 180 diwrnod o'r adeg y gwnaethoch dalu i agor anghydfod - mae hyn tua 6 mis.
Os gwnaethoch chi dalu gyda cherdyn credyd, dylech ofyn am eich arian yn ôl gan ddefnyddio Adran 75 o'r Ddeddf Credyd Defnyddwyr – cyn belled â'ch bod wedi talu mwy na £100 a dim mwy na £30,000.
Mae'r terfynau ar gyfer un eitem rydych chi am gael ad-daliad amdani, nid yr archeb gyfan. Allwch chi ddim defnyddio Adran 75 fel arfer os ydych chi:
heb brynu'n uniongyrchol gan y masnachwr - er enghraifft os ydych chi wedi prynu drwy eBay
wedi talu trwy ddarparwr Prynu Nawr Talu Wedyn
Dylech ofyn am eich arian yn ôl gan ddefnyddio 'chargeback' os ydych chi:
wedi talu gyda cherdyn debyd neu gerdyn talu
wedi talu gyda cherdyn credyd ac na allwch chi ddefnyddio Adran 75
Os gwnaethoch chi dalu trwy Prynu Nawr Talu Wedyn, mae’n dal yn bosibl i chi ofyn am ‘chargeback’ ond efallai na fydd eich darparwr cerdyn credyd neu ddebyd yn cytuno i wneud hynny.
Os na allwch chi gysylltu â’r manwerthwr, dylech wirio telerau ac amodau eich darparwr Prynu Nawr Talu Wedyn i weld a allan nhw helpu.
Prynodd Olga ffôn symudol a chlustffonau gan ddefnyddio ei cherdyn credyd.
Costiodd y ffôn £80, costiodd y clustffonau £20 a'r tâl cludiant oedd £5 – felly cyfanswm y gost oedd £105. Ni chyrhaeddodd yr un o'r eitemau.
All hi ddim defnyddio Adran 75. Er iddi dalu £105, doedd na’r un eitem unigol yn costio mwy na £100. Dylai Olga ofyn am ddefnyddio ‘chargeback’.
Os gwnaethoch chi dalu trwy fwy nag un dull
Os gwnaethoch chi dalu unrhyw ran o'r gost gyda cherdyn credyd, gallwch ddefnyddio Adran 75 - cyn belled â bod cyfanswm cost yr eitem yn fwy na £100 a dim mwy na £30,000.
Dim ond gan un darparwr cerdyn y gallwch chi gael ad-daliad Adran 75.
Os ydych chi wedi defnyddio cerdyn credyd a cherdyn debyd neu dalu i rannu'r gost, gofynnwch i'ch darparwr cerdyn credyd ddefnyddio Adran 75. Os ydych chi wedi defnyddio mwy nag un cerdyn credyd, dewiswch un darparwr cerdyn credyd i ofyn. Does dim ots pa un.
Prynodd Peter ffwrn ddiffygiol am £250. Talodd flaendal o £50 gyda cherdyn credyd a £200 mewn arian parod.
Gall ddefnyddio Adran 75. Gall hawlio'r gost lawn o £250, nid dim ond y £50 a dalodd gyda cherdyn credyd.
Os na wnaethoch chi brynu'n uniongyrchol gan y masnachwr
Mae’n dal yn bosibl i chi i ofyn am ddefnyddio ‘chargeback’.
Allwch chi ddim defnyddio Adran 75 fel arfer os ydych chi wedi prynu rhywbeth trwy drydydd parti yn hytrach nag yn uniongyrchol gan y masnachwr. Er enghraifft, efallai eich bod wedi ei brynu trwy:
farchnad fel Amazon neu eBay, lle’r ydych chi'n defnyddio gwefan un cwmni i brynu gan gwmnïau eraill
gwefan fel GroupOn, lle’r ydych chi'n prynu taleb i'w defnyddio gyda chwmnïau eraill
waledi fel PayPal, lle’r ydych chi'n rhoi arian mewn cyfrif yna’n defnyddio'r cyfrif hwnnw i brynu pethau
asiant teithio
Gallwch ofyn i'ch darparwr cerdyn ddefnyddio Adran 75, ond efallai y byddan nhw’n dweud na.
Os na fydd eich darparwr cerdyn yn gadael i chi ddefnyddio Adran 75, gofynnwch am ‘chargeback’ yn lle hynny.
Gwneud hawliad Adran 75
Dywedwch wrth eich darparwr cerdyn eich bod am wneud hawliad Adran 75. Eich darparwr cerdyn yw'r cwmni sy'n anfon eich cyfriflenni atoch. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar eu gwefan. Mae'n well gwneud cais ysgrifenedig.
Os oes gennych chi gerdyn credyd ar y cyd, prif ddeiliad y cerdyn ddylai gysylltu â’ch darparwr cerdyn.
Pan fyddwch chi'n ysgrifennu atynt, dylech ofyn am:
y swm llawn rydych chi wedi'i dalu, neu'r gost o atgyweirio'r eitem os yw'n ddiffygiol
arian i wneud iawn am ansawdd gwael, neu i'r masnachwr am eich camarwain
cost atgyweirio unrhyw ddifrod a achoswyd gan eitem neu wasanaeth diffygiol
Prynodd D'Angelo beiriant golchi diffygiol ac fe achosodd ddifrod i’w lawr.
Gall gael arian i atgyweirio ei lawr yn ogystal ag arian i atgyweirio neu ailosod y peiriant golchi
Gallwch ddefnyddio ein llythyrau templed.
Os ydych chi'n llwyddiannus, bydd eich darparwr cerdyn yn ad-dalu'r arian i'ch cerdyn credyd..
Gwneud hawliad ‘chargeback’
Dywedwch wrth eich darparwr cerdyn eich bod am wneud hawliad ‘chargeback’. Eich darparwr cerdyn yw'r cwmni sy'n anfon eich cyfriflenni atoch. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar eu gwefan. Mae'n well gwneud cais ysgrifenedig.
Efallai y bydd eich darparwr cerdyn yn galw ‘chargeback’ yn rhywbeth arall, er enghraifft 'trafodion sy’n destun anghydfod'. Os gofynnwch chi am ‘chargeback’ byddan nhw’n gwybod beth rydych chi'n ei olygu.
Pan fyddwch chi'n cysylltu â nhw, dylech naill ai ofyn:
am y swm y gwnaethoch ei dalu ar y cerdyn hwn - ni fyddwch yn cael unrhyw arian a dalwyd gennych gydag unrhyw gerdyn neu ddull talu arall
arian i wneud iawn am y broblem – llai na'r swm llawn a dalwyd gennych
Prynodd Cassandra ffrog a chrys-t gan ddefnyddio ei cherdyn debyd.
Costiodd y ffrog £90, costiodd y crys-t £30 a'r tâl cludiant oedd £5 - felly cyfanswm y gost oedd £125. Derbyniodd Cassandra y ffrog ond chafodd hi mo’r crys-t, a dydi’r masnachwr ddim yn ymateb i'w e-bost.
Gall ofyn am ddefnyddio ‘chargeback’ i gael y £30 a dalodd am y crys-t yn ôl.
Prynodd Hercules beiriant golchi diffygiol am £250.
Talodd flaendal o £50 gyda cherdyn a £200 mewn arian parod.
Gall ofyn am ddefnyddio ‘chargeback’ i gael y £50 a dalodd gyda cherdyn yn ôl.
Pe bai'n prynu'r peiriant golchi gyda cherdyn credyd, gallai geisio defnyddio Adran 75 - mae'n debyg y byddai'n cael mwy o arian yn ôl.
Os ydych chi'n llwyddiannus, bydd eich darparwr cerdyn yn ad-dalu'r arian i'ch cerdyn neu'ch cyfrif banc.
Gall y masnachwr herio'ch ad-daliad, hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi cael yr arian yn ôl. Bydd eich darparwr cerdyn yn cysylltu â chi os oes her. Os gallwch, mae'n syniad da cadw'r arian am ychydig wythnosau rhag ofn bod eu her yn llwyddiannus.
Os nad yw'ch hawliad yn llwyddiannus, gallwch ofyn i'ch darparwr cerdyn a wnaethon nhw ddefnyddio'r 'broses apelio'.
Os nad yw'ch hawliad yn llwyddiannus
Os byddwch chi’n ceisio defnyddio Adran 75 ac nad ydych yn cael eich arian yn ôl, gallwch ofyn i'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol edrych ar eich achos. Efallai na fyddwch chi'n cael eich arian yn ôl o hyd.
Os byddwch yn ceisio defnyddio ‘chargeback’ ac nad ydych yn cael eich arian yn ôl, gallwch ofyn i'ch darparwr cerdyn pam. Os ydyn nhw'n dweud eu bod wedi apelio i fanc y masnachwr a bod yr apêl wedi methu, does dim byd arall y gallwch chi ei wneud. Os ydyn nhw'n dweud na fyddan nhw’n apelio i fanc y masnachwr, gallwch gwyno i'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.
Mae'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn annibynnol. Byddan nhw’n archwilio eich achos o'r ddwy ochr i ddod i benderfyniad sydd, yn eu barn nhw, yn deg. Efallai na fyddwch chi'n cael eich arian yn ôl o hyd.
Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.
Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad yr Ombwdsmon Ariannol
Efallai y byddwch yn gallu gofyn i gynllun 'dull amgen o ddatrys anghydfod' (ADR) i helpu.
Gallwch wirio a yw'r masnachwr yn aelod o gynllun ADR - neu gallwch ofyn iddynt. Os nad ydyn nhw'n aelod o gynllun ADR, gofynnwch a ydyn nhw'n fodlon defnyddio un.
As a charity, we rely on your support to help millions of people solve their problems each year. Please donate if you can to help us continue our work.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.