Os ydych chi’n anfodlon â gwasanaeth gwael
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi wedi talu unigolyn neu gwmni i ddarparu gwasanaeth - er enghraifft torri eich gwallt, gwneud cacen briodas neu ddarparu trafnidiaeth - a bod y gwasanaeth hwnnw wedi ei wneud heb ofal na sgil, gallwch chi wneud y canlynol:
gofyn iddynt ail wneud y gwaith, os yw hynny’n bosibl
gofyn am ostyngiad ar gost y gwasanaeth
Os oes gennych chi broblem sy’n ymwneud â rhywbeth arall
Mae canllawiau ar wahân os yw eich problem yn ymwneud â’r canlynol:
Cael y gwasanaeth wedi ei wneud eto, neu gael ad-daliad am ran o’r gost
Mae’r gyfraith yn datgan bod rhaid rhoi cyfle i’r unigolyn neu’r cwmni ddarparu’r gwasanaeth eto os yw hynny’n bosibl. Ond mae gennych chi hawl gyfreithiol i ofyn am ad-daliad yn syth os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
nid yw’n bosibl gwneud y gwasanaeth eto
byddai gwneud y gwasanaeth eto yn cymryd gormod o amser
byddai gwneud y gwasanaeth eto yn anghyfleus iawn
Mae’n bosibl y bydd y darparwr yn rhoi gostyngiad i chi ar bris y gwasanaeth yn hytrach nag ail wneud y gwaith, os mai dyna rydych chi’n ei ffafrio - byddai’n rhaid i chi ofyn a gweld beth maen nhw’n ei ddweud.
Os ydych chi wedi cwyno
Os wnaethoch chi ddweud wrthynt fod eu gwasanaeth yn ddigon da pan gafodd y gwaith ei wneud, yna does gennych chi ddim hawl gyfreithiol i gael y gwasanaeth wedi ei wneud eto na chael gostyngiad ar y pris.
Os nad ydych chi’n sylwi ar y broblem ar unwaith
Efallai nad oedd hi’n hawdd gweld bod y gwaith wedi ei wneud i safon isel ar y pryd - er enghraifft, efallai eich bod chi wedi llogi ‘dyn â fan’ i’ch helpu chi i symud pethau i'ch cartref newydd, a’ch bod chi wedi canfod, dair wythnos yn ddiweddarach, bod addurn wedi torri. Mae gennych chi hawl i ofyn i'r broblem gael ei datrys:
am hyd at 6 mlynedd yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
am hyd at 5 mlynedd yn yr Alban
Beth i’w ddweud neu ysgrifennu
Efallai y byddai’n syniad da cyfeirio at y gyfraith sy’n gysylltiedig â’ch hawliau yn y sefyllfa hon. Gallwch chi ddweud:
“Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn datgan bod rhaid i wasanaethau gael eu darparu â gofal a sgil.
Nid wyf i’n credu eich bod chi wedi defnyddio digon o ofal a sgil wrth ddarparu'r gwasanaeth hwn.
Rwyf i eisiau i chi ddatrys y broblem / rhoi gostyngiad i mi ar bris y gwasanaeth
Os ydyn nhw’n cytuno i wneud y gwasanaeth eto, trefnwch ddyddiad cwblhau. Mae gennych hawl gyfreithiol i’r gwaith gael ei wneud o fewn ‘amser rhesymol’. Does dim rheolau penodol ynglŷn â beth yw ‘amser rhesymol’, ond gallwch chi gysylltu â phobl eraill sy’n darparu gwasanaethau tebyg er mwyn cael syniad o faint ddylai'r gwaith ei gymryd.
Os ydych chi’n cael gostyngiad ar bris y gwasanaeth, yna bydd angen i chi gytuno ar faint o ostyngiad gyda’r masnachwr. Mae awgrymu ffigwr, gan egluro pam eich bod chi’n meddwl ei fod yn dderbyniol, yn fan cychwyn da.
Os nad ydych chi wedi datrys eich problem
Mae camau eraill y gallwch chi eu cymryd i ddatrys y broblem - mae’r rhain yn cynnwys defnyddio dulliau amgen o ddatrys anghydfod, sef ffordd o ddatrys anghytundebau heb orfod mynd i'r Llys.
Cael cymorth
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth - gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi ar-lein neu dros y ffôn.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.