Os yw rhywbeth yn cael ei hysbysebu am y pris anghywir
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os yw rhywbeth yr ydych am ei brynu'n cael ei hysbysebu am y pris anghywir, efallai y gallwch ei brynu am y pris is.
Prynu mewn siop
Bydd eich hawliau cyfreithiol mewn siop yn dibynnu ar a ydych chi wedi talu am yr eitem eto ai peidio.
Os nad ydych wedi prynu’r eitem
Os byddwch chi’n mynd ag eitem i’r til ac yn cael gwybod bod y pris ar y ticed pris neu’r label yn gamgymeriad, does gennych chi ddim hawl i brynu’r eitem am y pris is. Gallech ddal gofyn i’r gwerthwr i gadw at y pris hwnnw.
Mae’r un fath os gwelwch eitem yn cael ei hysbysebu yn unrhyw le am bris is na’r un pris sydd ar y ticed.
Os ydych chi wedi’i brynu’n barod
Pe bai'r siop yn gwerthu eitem i chi am gost is nag yr oedden nhw wedi'i fwriadu, does dim rhaid i chi roi’r eitem yn ôl - dim ond os oeddech wedi siarad am y pris (e.e. £100) a'u bod wedi codi llawer llai arnoch yn y pen draw (e.e. £10) y mae ganddyn nhw hawl gyfreithiol i ofyn i chi am fwy o arian.
Os ydych chi’n sylweddoli eich bod wedi talu mwy am eitem nag yr hysbysebwyd ar y pryd, gofynnwch i’r siop ad-dalu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn rydych chi wedi’i dalu a’r hyn a hysbysebwyd.
Cadwch unrhyw dystiolaeth o’r camgymeriad, os gallwch chi – er enghraifft, gallech dynnu llun o’r hysbyseb yn ffenestr y siop.
Siopa ar-lein
Mae eich hawliau cyfreithiol yn dibynnu ar amodau eithaf dyrys o ran y gyfraith: p’un a oes gennych ‘gontract’ ai peidio.
Yn dibynnu ar delerau ac amodau'r cwmni, bydd gennych hawliau cyfreithiol (a chontract) naill ai:
ar ôl i chi dalu am yr eitem
ar ôl iddyn nhw ei anfon atoch chi
Bydd angen i chi ddod o hyd i delerau ac amodau’r cwmni i gael gwybod ble rydych chi’n sefyll. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth leol os oes arnoch angen help. Efallai y bydd yn rhy gymhleth i chi ddatrys y sefyllfa eich hun.
Os oes gennych chi gontract, ni all y cwmni fel arfer ganslo'ch archeb, hyd yn oed os ydyn nhw’n sylweddoli eu bod wedi gwerthu rhywbeth i chi am y pris anghywir.
Os nad oes gennych chi gontract a bod rhywun yn sylweddoli eu bod wedi rhoi’r pris anghywir i chi, gallan nhw ganslo eich archeb.
Os ydych chi wedi talu ffi ychwanegol i’r eitem gael ei ddanfon atoch
Os oeddech chi wedi prynu rhywbeth gan fusnes sydd wedi’i leoli y tu allan i’r DU, efallai y bydd angen i chi dalu TAW, toll dramor neu ffi danfon. Bydd y cwmni sy’n danfon eich eitem yn anfon bil atoch yn dweud wrthych beth mae angen i chi ei dalu.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a beth i’w wneud os ydi busnes wedi codi gormod arnoch ar GOV.UK.
Rhagor o gymorth
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth- bydd cynghorwr hyfforddedig yn gallu rhoi cyngor i chi ar-lein neu dros y ffôn.
Os ydych chi’n teimlo bod y siop yn camarwain pobl yn fwriadol, gallwch roi gwybod i Safonau Masnachol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.