Cynllun WaterSure – help gyda thalu biliau dŵr

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae WaterSure yn gynllun sy'n helpu rhai pobl gyda'u biliau dŵr. I wneud cais am y cynllun, rhaid i chi fod yn derbyn budd-daliadau ac angen defnyddio llawer o ddŵr naill ai am resymau meddygol neu gan fod eich cartref yn cynnwys nifer benodol o blant oedran ysgol. Mae angen i chi hefyd fod ar fesurydd dŵr neu fod yn aros i gael un wedi'i osod.

Os ydych chi'n cael eich dŵr drwy Dŵr Cymru, rydych chi wedi’ch cwmpasu gan WaterSure Cymru, sy'n gweithio mewn ffordd debyg i'r cynllun yn Lloegr.

Os ydych chi’n cael help drwy'r cynllun WaterSure, bydd eich bil dŵr yn cael ei gapio. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi’n talu mwy na'r bil mesuredig cyfartalog ar gyfer yr ardal y mae eich cwmni dŵr yn gweithredu ynddi.

Mewn rhai achosion, gallai eich bil dŵr mesuredig arferol fod yn llai na chap WaterSure eich cwmni. Os yw hyn yn berthnasol i chi, dim ond am faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio y byddwch chi'n cael eich bilio.

Gallwch chi ofyn i'ch cwmni dŵr beth yw eu cap os ydych chi am wirio hyn cyn gwneud cais.

Pwy sy'n gymwys ar gyfer WaterSure

Mae angen i chi fod ar fesurydd dŵr i fod yn gymwys ar gyfer WaterSure. Efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys os ydych chi: 

  • yn aros i gael mesurydd dŵr wedi'i osod 

  • yn talu tâl asesedig gan na ellir gosod mesurydd yn eich eiddo

The Welsh Water HelpU Scheme

can help customers of Welsh Water even if they do not have a water meter.

Pa fudd-daliadau y mae angen i chi fod yn eu derbyn

Mae'r budd-daliadau y mae angen i chi fod arnynt yn dibynnu ar eich cyflenwr. Dylech wirio pa fudd-daliadau maen nhw’n eu derbyn.

Mae pob cyflenwr yn cynnig WaterSure os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Cynhwysol

  • Credyd Pensiwn

  • Budd-dal Tai

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

  • Cymhorthdal Incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm

  • Credyd Treth Gwaith

  • Credyd Treth Plant a ddyfarnwyd ar gyfradd uwch na'r elfen deuluol

Mae rhai cyflenwyr dŵr hefyd yn cynnig WaterSure os ydych chi ar Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliadau Annibyniaeth Personol. Dylech wirio gyda'ch cwmni dŵr os nad ydych chi'n siŵr a ydyn nhw'n derbyn y budd-daliadau hyn.

To find out more about these benefits, see our Benefits pages.

Beth yw ystyr defnydd hanfodol uchel o ddŵr

Os yw defnydd dŵr eich cartref yn hanfodol o uchel, mae hyn yn golygu:

  • bod gan rywun yn y cartref gyflwr meddygol sy’n golygu bod angen iddynt ddefnyddio llawer o ddŵr, neu

  • bod gennych chi dri neu fwy o blant dan 19 oed mewn addysg lawn-amser yn byw yn eich cartref.

Rhaid i'r person sydd â'r cyflwr meddygol neu'r plant dan 19 oed ddefnyddio'r eiddo fel eu prif gartref.

Bydd pobl sydd ag un o'r cyflyrau meddygol canlynol yn gymwys yn awtomatig ar gyfer WaterSure, cyn belled â'u bod yn bodloni'r holl amodau eraill:

  • digroeniad (clefyd croen sy’n plicio)

  • clefyd croen diferol (ecsema, psoriasis neu wlseriad chwyddedig)

  • anymataliaeth

  • stomas abdomenol

  • methiant arennol sy'n gofyn am ddialysis yn y cartref – ond ni fyddwch yn gymwys ar gyfer WaterSure os ydych chi eisoes yn cael cyfraniad at eich costau dŵr gan y GIG

  • Clefyd Crohn

  • llid briwiol y coluddyn 

Gallwch chi hefyd wneud cais ar gyfer WaterSure os oes gan rywun yn eich cartref gyflwr meddygol arall sy'n golygu bod angen defnyddio mwy o ddŵr na'r cyfartaledd. Bydd cwmnïau dŵr yn gofyn am fanylion gan feddyg.

Ni allwch wneud cais am WaterSure os yw'r defnydd uchel o ddŵr yn eich cartref oherwydd pethau fel:

  • dyfrio gardd gan ddefnyddio rhywbeth heblaw can dyfrio neu chwistrellwr – er enghraifft peipen ddŵr

  • ail-lenwi pwll dŵr neu bwll nofio sy’n dal mwy na 10,000 litr

Sut i wneud cais am WaterSure

Gallwch wneud cais am WaterSure trwy lenwi ffurflen gan eich cwmni dŵr. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn gymwys, fel copi o'ch hysbysiad dyfarnu ar gyfer budd-dal.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cyflwr meddygol gan eich meddyg, gan gynnwys sut mae'r cyflwr yn cael ei drin a'r effaith y mae'n ei gael ar faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio.

Bydd rhai cwmnïau yn derbyn stamp gan eich meddyg teulu sy'n cadarnhau eich cyflwr meddygol. Mae lle ar ddiwedd y ffurflen ar gyfer stamp, y bydd y meddyg teulu fel arfer yn ei roi am ddim. Dylech wirio y bydd eich cyflenwr yn derbyn stamp cyn anfon eich cais.

Os nad yw eich cyflenwr dŵr yn derbyn stamp, bydd angen i chi dalu am dystysgrif meddyg. Bydd rhai cyflenwyr dŵr yn ad-dalu cost y dystysgrif.

Pryd y byddwch chi'n dechrau cael help

Os ydych chi'n gymwys ar gyfer WaterSure, byddwch chi’n dechrau cael help o ddechrau'r cyfnod bilio pan wnaethoch eich cais.

Os yw eich gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn cael eu darparu gan gwmnïau gwahanol, dylai'r cwmni dŵr ddweud wrth y cwmni carthffosiaeth eich bod chi'n cael help. Dylai'r cwmni carthffosiaeth wedyn addasu eu costau.

Efallai y bydd yn rhaid i chi ailymgeisio neu ddangos tystiolaeth eich bod yn dal i fod yn gymwys i gael cymorth bob blwyddyn. Bydd eich cwmni dŵr yn rhoi gwybod i chi os a phryd y mae angen i chi wneud hyn.

Os ydych chi'n meddwl nad oes gennych hawl i help mwyach

Os nad ydych chi'n meddwl bod gennych hawl i help drwy WaterSure mwyach, rhowch wybod i'ch cwmni dŵr. Bydd yr help yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod bilio presennol.

Y camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Gwiriwch pa gwmni dŵr sy’n cyflenwi yn eich ardal chi ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW) .

Gallwch hefyd wirio pa help sydd ar gael i dalu eich bil dŵr ar wefan CCW.

Find out about WaterSure Wales at the Welsh Water website: www.dwrcymru.com.

The Welsh Water HelpU Scheme can help customers of Welsh Water even if they do not have a water meter.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020