Pwy sy’n gyfrifol am drwsio draeniau a charthffosydd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r dudalen hon yn egluro pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw draeniau a charthffosydd.

Yn gyffredinol, rydych chi fel arfer yn gyfrifol am ddraeniau y tu mewn i ffiniau eich eiddo, tra bo'r cwmni carthffosiaeth yn gyfrifol am ddraeniau ochrol, sydd fel arfer y tu allan i ffiniau eiddo, a charthffosydd. Er bod y rhan fwyaf o garthffosydd bellach yn eiddo cyhoeddus, mae rhai carthffosydd preifat neu heb eu mabwysiadu o hyd. Os yw eich eiddo’n cael ei gyflenwi gan un o'r rhain, mae’n bosibl mai chi fydd yn gyfrifol am ei gynnal a'i gadw.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng draeniau a charthffosydd?

Pibell yw draen sy’n draenio dŵr a gwastraff o adeilad ac adeiladau eraill sy’n perthyn iddo, er enghraifft garej.

Darn o bibell sy’n cludo dŵr gwastraff o’ch eiddo i garthffos yw draen ochrol. Fel arfer mae y tu allan i ffin eich eiddo, yn aml o dan balmant neu ffordd gyhoeddus. Mae’n bosibl y bydd draen ochrol yn rhedeg dan eich eiddo os ydych chi'n rhannu carthffos gyda'ch cymydog.

Mae carthffos yn casglu dŵr a gwastraff o ddraeniau nifer o adeiladau. Mae’r rhan fwyaf o garthffosydd yn eiddo cyhoeddus ac yn cael eu cynnal a’u cadw gan eich cwmni dŵr. Fodd bynnag, mae rhai carthffosydd preifat o hyd. Nid yw rhai pobl wedi’u cysylltu â charthffos ond yn hytrach â charthbwll, tanc carthion neu safle trin carthffosiaeth. Os nad ydych wedi'ch cysylltu â charthffos, ni fydd rhaid i chi dalu taliadau carthffosiaeth i gwmni carthffosiaeth.

Trwsio draeniau

Chi sy'n gyfrifol am gynnal a chadw neu drwsio unrhyw ddraeniau y tu mewn i ffiniau eich eiddo - eich draeniau preifat chi yw'r rhain. Does dim rhaid i chi gynnal na thrwsio draeniau ochrol rydych chi'n eu rhannu â'ch cymydog - eich cwmni dŵr sy'n gyfrifol am y rhain

Bydd yn rhaid i chi dalu i gael gwaith wedi'i wneud ar eich draeniau preifat, ond mae croeso i chi ddewis pa gwmni bynnag y dymunwch wneud y gwaith. Fel arall, gallwch godi yswiriant i dalu am waith ar ddraeniau preifat.

Weithiau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gael yswiriant ar gyfer y draen i'ch eiddo. Dylech holi eich cwmni yswiriant adeiladau os yw hyn yn wir.

Mewn rhai amgylchiadau, gall adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol orchymyn i chi wneud gwaith gwella neu osod draen preifat newydd. Mae’n bosibl y byddan nhw'n gwneud hyn, er enghraifft, os ydyn nhw'n meddwl bod eich draen yn rhy fach i'ch eiddo neu os yw'n achosi rhwystr.

Os oes angen, gall awdurdod lleol wneud y gwaith ei hun ac yna codi tâl arnoch amdano.

Trwsio carthffosydd

Arferai perchennog yr eiddo fod yn gyfrifol am garthffosydd a draeniau ochrol sydd wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf bellach yn cael eu cynnal gan gwmnïau dŵr lleol. Os cewch unrhyw broblemau gyda'ch carthffos neu ddraen ochrol, er enghraifft os yw wedi blocio, cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol.

Mae gan eich cwmni dŵr hawl i fynd i mewn i'ch eiddo os oes angen iddo wneud hyn er mwyn archwilio neu gynnal a chadw'r garthffos.

Carthffosydd preifat a charthffosydd heb eu mabwysiadu

Mae’n bosibl fod gennych chi garthffos breifat neu ddraen ochrol os ydych yn byw ar safle sydd â mwy nag un eiddo, er enghraifft bloc o fflatiau neu faes carafannau.

Os oes gennych chi garthffos breifat neu heb ei mabwysiadu, a'ch bod yn berchen ar eiddo, chi sy'n gyfrifol am gost ei chynnal a'i chadw a'i thrwsio. Os yw’r garthffos yn gwasanaethu mwy nag un eiddo, mae’r holl berchnogion yn gyfrifol ar y cyd am y costau hyn.

Gall adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol orchymyn i chi drwsio neu ddadflocio carthffos breifat neu ddraen ochrol os nad yw'n cael ei chynnal a'i chadw'n iawn. Os na fyddwch yn gwneud y gwaith o fewn y cyfnod a bennir gan yr awdurdod lleol, efallai y byddant yn gwneud y gwaith eu hunain ac yn codi tâl arnoch chi amdano.

Gofyn i'ch cwmni carthffosiaeth feddiannu neu fabwysiadu carthffos breifat neu ddraen ochrol

Gallwch ofyn i'ch cwmni dŵr neu garthffosiaeth lleol feddiannu neu fabwysiadu carthffos breifat neu ddraen ochrol. Gallwch wneud hyn os yw’r garthffos neu’r draen wedi cael ei adeiladu neu ei wella i’r safonau sy’n ofynnol gan y cwmni a’i fod mewn cyflwr rhesymol. Mae angen i’r cwmni carthffosiaeth gael ei fodloni y bydd mabwysiadu’r garthffos o fudd i’r system garthffosiaeth yn ei chyfanrwydd. Rhaid i bawb sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r draen ochrol neu’r garthffos gytuno i drosglwyddo’r cyfrifoldeb i’r cwmni carthffosiaeth.

Os bydd y cwmni’n gwrthod mabwysiadu draen ochrol neu garthffos, gall y perchnogion apelio i OFWAT.

Yr hawl i gysylltu â charthffos gyhoeddus

Mae gan bob cwmni dŵr a charthffosiaeth ddyletswydd i ddarparu carthffosydd cyhoeddus i sicrhau bod yr ardal yn cael ei draenio’n effeithiol. Fel arfer, mae gennych hawl i gysylltu’r draen o’ch eiddo â’r garthffos gyhoeddus – er mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am hyn.

All yr awdurdod lleol fynnu eich bod yn cysylltu â’r garthffos gyhoeddus?

Os yw'r garthffos gyhoeddus agosaf fwy na chan troedfedd o'ch eiddo a bod eich draen yn rhedeg i mewn i danc septig neu garthbwll digonol, ni all eich awdurdod lleol fynnu eich bod yn cysylltu â'r garthffos gyhoeddus.

Fodd bynnag, gallant fynnu os byddant yn cytuno i dalu am gostau ychwanegol cysylltu, gan gynnwys adeiladu, cynnal a chadw ac atgyweirio.

Dydych chi ddim yn siŵr a yw eich carthffos yn breifat

Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich eiddo wedi'i gysylltu â charthffos gyhoeddus neu â charthffos breifat, gallwch chi wneud y canlynol:

  • holi eich cwmni carthffosiaeth

  • edrych ar weithredoedd eich eiddo

  • edrych ar fap carthffosydd - rhaid i'ch cwmni carthffosiaeth sicrhau bod y rhain ar gael i chi os gofynnwch

  • holi eich awdurdod lleol.

Y camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Edrychwch ar wefan OFWAT i weld pwy sy’n gyfrifol am drwsio pibellau dŵr, carthffosydd a draeniau.

Edrychwch i weld pa gwmni dŵr sy’n cyflenwi eich ardal chi ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â CCW ar eu gwefan.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020