Dewis cerdyn credyd a cheisio amdano

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gwybodaeth ar ddewis cerdyn credyd a cheisio amdano

Mae’r wybodaeth hon yn dweud wrthych beth i’w ystyried wrth ddewis cerdyn credyd, gan gynnwys cymharu cardiau. Mae’n dweud beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n ceisio am gerdyn credyd, a’r hyn fedrwch chi ei wneud os yw’ch cais yn cael ei wrthod.

Dewis cerdyn credyd

Mae yna gannoedd o gardiau credyd ar gael, felly cofiwch eich bod yn chwilio’r farchnad i gael yr un sydd fwyaf addas i chi.

Dechreuwch trwy feddwl sut fyddwch chi am ddefnyddio’r cerdyn credyd. Efallai y byddwch am brynu pethau ar-lein neu ar eich gwyliau, talu eich biliau neu wasgaru cost eitem yr ydych yn ei phrynu. Nid oes gwahaniaeth sut fyddwch chi’n dewis defnyddio’ch cerdyn, y peth allweddol yw eich dymuniad i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus bob mis neu wasgaru’r ad-daliadau dros gyfnod.

Os ydych yn medru ad-dalu’r hyn sy’n weddill yn llawn, ac ar amser, bob mis, fe fyddwch yn medru manteisio ar y cyfnod di-log. Yn yr achos hwn, efallai na fydd y gyfradd llog mor bwysig ond efallai y byddwch am edrych ar gardiau gyda chymhelliannau eraill fel yr opsiwn o gael arian yn ôl. Hyd yn oed os ydych yn credu y byddwch yn medru talu’r gweddill yn llawn bob tro, mae’n werth cynllunio beth fyddwch chi’n ei wneud os nad ydych yn medru gwneud hyn.

Os ydych am ddefnyddio’r cerdyn i fenthyg ac ni fyddwch yn ad-dalu’r gweddill bob mis, fel arfer fe fydd yn rhaid i chi dalu llog. Yn yr achos hwn, efallai y byddwch am ddewis cerdyn gyda chyfradd llog is. Peidiwch ag anghofio sicrhau eich bod yn medru fforddio taliad rheolaidd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddewis credyd, gweler Cael y ddêl orau ar gredyd.

Rhestr o’r hyn ddylech chi ei ystyried wrth ddewis cerdyn credyd

Dyma rhestr wirio gyda rhai o’r pethau y dylech eu hystyried wrth ddewis cerdyn credyd:

  • Cyfradd Canran Blynyddol (APR). Dyma gost benthyg ar y cerdyn, os nad ydych yn ad-dalu’r gweddill yn llawn bob mis. Rydych yn medru cymharu’r APR ar gyfer cardiau gwahanol, ac fe fydd hyn yn eich helpu i ddewis y rhataf. Dylech gymharu pethau ynglŷn â’r cardiau hefyd, er enghraifft, ffioedd, taliadau a chymhelliant

  • ad-daliad lleiaf. Os nad ydych yn ad-dalu’r gweddill yn llawn bob mis, gofynnir i chi ad-dalu lleiafswm. Fel arfer, mae tua 3% o’r gweddill sy’n ddyledus neu £5, pa bynnag sydd uchaf.

  • ffi flynyddol. Mae rhai cardiau’n codi ffi bob blwyddyn am ddefnyddio’r cerdyn. Caiff y ffi ei ychwanegu at y swm sy’n ddyledus ac fe fydd yn rhaid i chi dalu llog ar y ffi ac ar eich gwariant, os nad ydych yn ei dalu’n llawn

  • taliadau. Chwiliwch yn y cytundeb credyd i weld pa daliadau eraill sy’n berthnasol i’r cerdyn. Fel arfer, fe fyddwch yn gorfod talu os ydych yn mynd dros eich terfyn credyd, am ddefnyddio’r cerdyn dramor ac am daliadau hwyr

  • cyfraddau llog cychwynnol. Dyma ble fyddwch chi’n dechrau talu cyfradd llog isel, neu ddim cyfradd o gwbl. Yna, mae’r gyfradd yn cynyddu ar ôl cyfnod penodol o amser. Er enghraifft, gallai gynyddu ar ôl chwe mis neu o ddyddiad penodol. Yn aml, fe fyddwch chi’n gweld cyfradd gychwynnol ar gyfer trosglwyddo gweddill. Os ydych yn cymharu cardiau, edrychwch i weld pa mor hir fydd y gyfradd gychwynnol yn para, yn ogystal â’r gyfradd llog y bydd yn newid iddi ar ddiwedd y cyfnod cychwynnol

  • pwyntiau teyrngarwch neu wobrau. Mae’r pwyntiau’n cronni, gan ddibynnu ar y swm fyddwch chi’n ei wario, ac yna fe fyddwch yn medru eu defnyddio i brynu nwyddau. Weithiau, mae hyn mewn siopau penodol. Holwch sut a ble fedrwch chi ddefnyddio’r gwobrau a meddyliwch pa mor debygol ydych chi o’u defnyddio.

  • arian yn ôl. Dyma ble fyddwch chi’n cael arian yn ôl ar eich cerdyn, gan ddibynnu faint fyddwch chi’n ei wario. Holwch i weld os ydych yn debygol o fedru hawlio’r arian yn ôl. Er enghraifft, efallai y bydd ond yn berthnasol os ydych yn ad-dalu’ch gweddill yn llawn bob mis. Efallai y bydd cyfradd llog is yn well dêl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch APR, gweler Cael y ddêl orau ar gredyd.

Cymharu cardiau

Gwybodaeth allweddol y dylech ei chael

Pan fyddwch yn cael gwybodaeth ynghylch cerdyn credyd, dylai gynnwys bocs crynodeb gyda gwybodaeth allweddol safonol am y cerdyn. Dylai gynnwys y cyfnod di-log, y gyfradd llog a thaliadau eraill. Mae hyn yn eich helpu i gymharu cardiau gwahanol yn hwylus.

Mae mwy o wybodaeth ar focs crynodeb y cerdyn credyd, gan gynnwys esboniad o ystyr yr holl dermau, ar wefan Cymdeithas Cardiau’r Deyrnas Unedig yn: www.theukcardsassociation.org.uk.

Defnyddio gwefan sy’n cymharu

Rydych yn medru defnyddio gwefan sy’n cymharu i weld beth mae darparwyr cardiau credyd gwahanol yn ei gynnig. Mae hyn yn medru eich helpu i ddewis y cerdyn sy’n iawn i chi. Mae yna lawer o wefannau cymharu ac ni fydd yr holl gardiau credyd yn cael eu dangos ar bob safle. Felly, efallai y bydd angen i chi chwilio am gynnyrch penodol.

Mae manylion rhai o’r gwefannau cymharu yn Help a gwybodaeth bellach.

Ceisio am cerdyn credyd

Rydych yn medru ceisio am gerdyn credyd:

  • ar-lein

  • drwy’r post

  • dros y ffôn

  • mewn banc neu gymdeithas adeiladu.

Fe fydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen ac fe fydd darparwr eich cerdyn credyd yn gwirio’ch cofnod credyd gydag asiantaeth cyfeirio credyd, i weld os ydych yn deilwng o gael credyd.

Mae eich cofnod credyd yn dangos gwybodaeth ynghylch y ffordd yr ydych yn rheoli’ch cyllid, fel eich cyfrif banc ac unrhyw fenthyg arall sydd gennych. Mae’n dweud wrth y darparwr p’un ai eich bod yn dda yn talu ac am unrhyw orchmynion llys yr ydych wedi eu cael yn y chwe mlynedd diwethaf. Fe fyddwch yn medru gwirio’ch cofnod credyd eich hun trwy gysylltu ag un o’r asiantaethau cyfeirio credyd. Mae yna ffi bach.

Am fwy o wybodaeth ynghylch eich ffeil credyd a sut i gysylltu â’r asiantaethau cyfeirio credyd, gweler Credyd yn cael ei wrthod yn Credyd.

Pan fyddwch chi’n llenwi’r ffurflen gais i gael cerdyn credyd, gofalwch eich bod yn sicrhau bod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn gywir. Os nad ydych yn siŵr sut i lenwi’r ffurflen, holwch ddarparwr y cerdyn credyd am help. Fe fydd yn rhaid i chi lofnodi’r ffurflen i ddweud bod yr holl wybodaeth yn gywir ac fe fydd unrhyw wybodaeth ffug yr ydych yn ei rhoi yn cael ei hystyried fel twyll.

Llofnodi cytundeb credyd

Os derbynnir eich cais, gofynnir i chi lofnodi cytundeb credyd. Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy’n nodi’r hyn yr ydych chi a’r darparwr yn cytuno iddo. Mae’r cytundeb credyd yn cynnwys manylion fel faint fedrwch chi ei fenthyg, faint i’w ad-dalu a phryd, y gyfradd llog a thaliadau sy’n medru cael eu hychwanegu, eich hawliau a’ch cyfrifoldebau o dan y cytundeb ac unrhyw amodau eraill sy’n berthnasol iddo. Cofiwch eich bod yn ceisio darllen y print bach fel eich bod yn gwybod beth yn union yr ydych yn cytuno iddo.

Enwau eraill ar y cerdyn

Rydych yn medru gofyn am gael caniatáu pobl eraill i ddefnyddio’ch cerdyn. Ond cofiwch, os ydych yn gwneud hyn rydych yn gyfrifol am ad-dalu faint bynnag maen nhw’n ei wario ar eich cerdyn. Mae’n syniad da cael unrhyw enwau eraill sydd ar y cerdyn i gytuno ar ambell reol ynghylch pryd maen nhw’n medru defnyddio’r cerdyn, a sicrhau eu bod yn dweud wrthych am eu gwariant. Neu, efallai y byddwch yn gwario mwy na’ch terfyn credyd neu’n gorfod ad-dalu mwy nag yr oeddech yn ei ddisgwyl.

Os gwrthodir eich cais

Nid oes rhaid i ddarparwyr roi cerdyn credyd i chi. Efallai y gwrthodir eich cais os yw’ch sgôr credyd yn isel neu os nad ydych yn risg dda. Gofynnwch i’r darparwr ddweud wrthych pa asiantaeth cyfeirio credyd mae wedi’i ddefnyddio os ydych am wirio’ch ffeil gredyd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut mae darparwyr cardiau credyd yn penderfynu a ydyw’n mynd i rhoi credyd i chi, gweler Credyd yn cael ei wrthod yn Credyd.

Er bod darparwr cerdyn credyd yn medru penderfynu peidio â rhoi credyd i chi, nid yw’n cael gwahaniaethu yn eich erbyn wrth benderfynu. Mae hyn yn golygu nad ydyw’n cael gwrthod rhoi credyd i chi oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd, rhywioldeb neu ble’r ydych yn byw.

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu wrth i chi geisio am gerdyn credyd, mynnwch gyngor gan gynghorydd, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Help a gwybodaeth bellach

Ar Adviceguide

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddelio gyda chardiau credyd, gweler Cardiau credyd.

Efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol ar Adviceguide hefyd yn ddefnyddiol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar eu gwefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

Gwefannau cymharu

Rydych yn medru defnyddio gwefan gymharu i weld beth mae darparwyr cardiau credyd gwahanol yn ei gynnig. Dyma enghreifftiau o wefannau cymharu:

Which?

Gwefan: www.which.co.uk.

Moneyfacts

Gwefan: www.moneyfacts.co.uk.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.