Pensiynau – tynnu incwm i lawr
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Un o'r opsiynau ar gyfer cymryd eich pensiwn yw gadael rhywfaint o'r arian wedi’i fuddsoddi a chymryd rhan ohono fel incwm. Yr enw ar hyn yw tynnu incwm.
Mae'r dudalen hon yn esbonio sut mae tynnu incwm i lawr yn gweithio, ar gyfer pwy mae'n addas a sut gallwch chi benderfynu ai dyma'r dewis iawn i chi.
Cael help gyda Pension Wise
Mae Pension Wise yn wasanaeth diduedd am ddim i’ch helpu i ddeall beth yw eich opsiynau o ran pensiynau.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Pension Wise ar wefan MoneyHelper.
Gwybodaeth am dynnu incwm pensiynau i lawr
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pobl sydd â phensiwn ‘cyfraniadau diffiniedig’. Mae pensiynau 'cyfraniadau wedi'u diffinio' yn cronni dros amser pan fyddwch chi neu'ch cyflogwr yn gwneud taliadau rheolaidd iddynt. Mae cyfanswm yr arian sydd gennych ar gyfer eich ymddeoliad yn dibynnu ar faint a dalwyd i’r pot a sut mae buddsoddiad y gronfa wedi perfformio. Holwch ddarparwr eich pensiwn os nad ydych yn siŵr pa fath o bensiwn sydd gennych.
Bydd rhaid i chi ddewis sut i gael incwm o'ch pensiwn.
Un o'ch opsiynau yw gadael rhywfaint o'ch cronfa bensiwn wedi'i buddsoddi a chymryd rhan ohoni’n unig fel incwm. Gallwch un ai:
tynnu arian o’r gronfa bensiwn ei hun i roi incwm i chi. Yr enw ar hyn yw tynnu incwm, neu
defnyddio rhywfaint o'r arian o'r gronfa bensiwn i brynu cyfres o flwydd-daliadau tymor byr i roi incwm i chi.
Rhagor o wybodaeth am eich opsiynau ar gyfer cymryd eich arian pensiwn.
Sut mae tynnu incwm i lawr yn gweithio
Mae tynnu incwm i lawr yn ffordd o gael incwm pensiwn pan fyddwch chi’n ymddeol gan ganiatáu i'ch cronfa bensiwn barhau i dyfu. Yn hytrach na defnyddio'r holl arian yn eich cronfa bensiwn i brynu blwydd-dal, rydych chi’n gadael eich arian wedi'i fuddsoddi ac yn cymryd incwm rheolaidd yn uniongyrchol o'r gronfa.
Os bydd eich buddsoddiadau'n gwneud yn dda, bydd eich cronfa bensiwn yn parhau i dyfu sy'n golygu y bydd eich incwm ymddeol yn cynyddu hefyd. Ond cofiwch, gallai gwerth eich incwm ostwng hefyd os bydd eich buddsoddiadau'n gwneud yn wael.
Faint allwch chi ei gael o’ch cronfa bensiwn
Does dim terfyn ar faint o arian gallwch chi ei dynnu o'ch cronfa bensiwn bob blwyddyn.
Mae angen i’r arian yn eich cronfa bensiwn barhau i dyfu i gymryd lle’r arian rydych chi’n ei godi. Felly bydd angen i chi fuddsoddi eich cronfa yn ddoeth i wneud yn siŵr nad ydych chi ar eich colled. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael cyngor ariannol annibynnol gan weithiwr proffesiynol i’ch helpu chi i wneud penderfyniadau da am ddefnyddio eich cronfa bensiwn a sut mae’n cael ei buddsoddi.
I gael rhagor o wybodaeth am ble i gael cyngor am eich pensiwn, ewch i Cael cyngor ariannol.
Faint mae tynnu incwm i lawr yn ei gostio
Mae tynnu incwm i lawr yn gallu bod yn opsiwn drud. Bydd ffioedd parhaus am reoli eich buddsoddiadau. Mae rheolau sydd wedi’u pennu gan Gyllid a Thollau EM yn golygu bod yn rhaid adolygu faint o incwm rydych chi’n ei gymryd o'ch cronfa bensiwn yn rheolaidd. Mae tâl yn cael ei chodi am hyn hefyd.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymwybodol o faint y bydd tynnu incwm i lawr yn ei gostio i chi pan fyddwch chi’n penderfynu ar yr opsiwn hwn. Bydd yn rhaid i chi sicrhau bod y buddsoddiadau’n tyfu digon i dalu’r costau ychwanegol.
Pryd mae tynnu incwm i lawr yn opsiwn da?
Mae tynnu incwm i lawr yn gallu bod yn ddefnyddiol os nad ydych chi’n barod i gymryd eich pensiwn i gyd ar unwaith, er enghraifft os ydych chi’n bwriadu parhau i weithio'n rhan-amser.
Dim ond os ydych chi'n fodlon gadael eich cronfa bensiwn wedi'i buddsoddi yn y farchnad stoc fel bod ganddi siawns resymol o dyfu y mae tynnu incwm i lawr yn addas mewn gwirionedd. Mae hyn yn golygu bod tynnu incwm i lawr yn ddewis risg uchel oherwydd bod y farchnad stoc yn gallu mynd i fyny neu i lawr. Gallech chi gael llawer llai o incwm nag yr oeddech wedi cynllunio ar ei gyfer.
Am y rheswm hwn, mae'n debyg mai dim ond os oes gennych chi gronfa bensiwn fawr (chwe ffigur) y byddwch chi eisiau ystyried tynnu incwm i lawr neu os bydd gennych chi incwm rheolaidd arall yn ystod eich ymddeoliad. Er enghraifft, efallai fod gennych chi incwm o gynilion neu fuddsoddiadau eraill.
Os oes gennych chi bensiwn prynu arian yn y gweithle a'ch bod ch eisiau cymryd yr opsiwn tynnu incwm i lawr, efallai y bydd rhai darparwyr yn mynnu eich bod chi’n newid eich pensiwn i bensiwn personol. Efallai y bydd angen i chi gael cyngor ariannol i weld a yw hwn yn opsiwn da i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am bensiynau prynu arian yn y gweithle, ewch i Pensiynau yn y gweithle.
I gael rhagor o wybodaeth am ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol annibynnol, ewch i Cael cyngor ariannol.
Beth fydd yn digwydd i'ch cronfa bensiwn pan fyddwch chi’n marw
O 6 Ebrill 2015 ymlaen, cafodd y ‘dreth marwolaeth’ ar gronfeydd pensiwn ei dileu. Mae hyn yn golygu os byddwch chi’n marw cyn i chi fod yn 75 oed a bod y cyfan neu ran o’ch cronfa bensiwn yn dal i fod wedi’i buddsoddi, bydd yn cael ei throsglwyddo i’ch buddiolwyr yn ddi-dreth.
Os byddwch chi’n 75 oed neu'n hŷn pan fyddwch chi'n marw, bydd eich buddiolwyr yn gallu tynnu arian o'r pensiwn fel incwm, neu gymryd y gronfa fel cyfandaliad. Bydd y ddau opsiwn yn cael eu trethu.
Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i daliadau a gafodd eu gwneud ar 6 Ebrill 2015 neu ar ôl hynny, yn hytrach nag i farwolaethau ar 6 Ebrill 2015 neu ar ôl hynny.
Mae ymgynghorydd ariannol annibynnol yn gallu eich helpu i benderfynu beth yw'r ffordd orau i chi ddarparu ar gyfer teulu a ffrindiau ar ôl i chi farw.
I gael rhagor o wybodaeth am ble i gael cyngor am eich opsiynau pensiwn, ewch i Cael cyngor ariannol.
Ffyrdd eraill o gymryd eich pensiwn
Mae gennych chi nifer o opsiynau eraill o ran sut i gael gafael ar yr arian yn eich pot pensiwn:
cymryd rhywfaint neu'r cyfan o'ch pot pensiwn fel cyfandaliad arian parod, waeth beth yw ei faint
prynu blwydd-dal - gallwch gymryd cyfandaliad arian parod hefyd
cymysgedd o’r holl opsiynau, gan gynnwys tynnu incwm i lawr.
Mae’n bwysig gwybod beth yw’r rheolau treth gwahanol ar gyfer pob opsiwn.
Mae dewis y ffordd orau o ddefnyddio'ch cronfa bensiwn yn gymhleth. Cyn i chi benderfynu'n derfynol ar dynnu incwm neu ar ba flwydd-dal i’w phrynu, dylech chi gael cyngor ariannol annibynnol gan gynghorydd proffesiynol er mwyn i chi wneud y penderfyniad gorau ar gyfer eich sefyllfa.
Twyll pensiwn
Mae twyll pensiwn wedi dod yn fwy cyffredin ers mis Ebrill 2015, pan ddaeth rheolau newydd i rym i ganiatáu i bobl gymryd rhywfaint neu’r cyfan o’u pot pensiwn fel cyfandaliad. Mae’r sgamiau hyn yn fuddsoddiadau ffug sydd wedi’u cynllunio i’ch twyllo chi i gael eich arian. Maent yn aml yn argyhoeddiadol dros ben a gall unrhyw un gael ei dwyllo.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sgamiau pensiwn ar wefan MoneyHelper.
Cael help gyda Pension Wise
Mae Pension Wise yn wasanaeth diduedd am ddim gan MoneyHelper i’ch helpu i ddeall beth yw eich opsiynau o ran pensiynau.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Pension Wise ar wefan MoneyHelper.
Trefnu apwyntiad gydag arbenigwr arweiniad ar bensiynau
Gallwch drefnu apwyntiad am ddim gydag arbenigwr arweiniad ar bensiynau a fydd yn trafod eich opsiynau pensiwn gyda chi. Mae apwyntiadau gydag arbenigwyr o MoneyHelper a Chyngor ar Bopeth yn cael eu cynnal naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Bydd apwyntiad yn berthnasol i chi os:
oes gennych chi bot pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
ydych chi’n agosáu at eich oed ymddeoliad neu'ch bod yn 50 oed neu'n hŷn
Trefnwch apwyntiad Pension Wise ar wefan MoneyHelper, neu ffoniwch 030 0330 1001 rhwng 8am ac 10pm, o ddydd Llun i ddydd Sul. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad drwy ymweld â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.