Pensiwn y Wladwriaeth
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn daliad rheolaidd gan y llywodraeth y gall y rhan fwyaf o bobl ei hawlio pan fyddan nhw’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'ch oedran o ran Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar ba bryd y cawsoch eich geni. Gallwch gael gwybod beth yw’ch oedran o ran Pensiwn y Wladwriaeth drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell ar GOV.UK
Bydd faint o Bensiwn gewch chi gan y Wladwriaeth yn dibynnu ar sawl blwyddyn 'gymwys' o daliadau Yswiriant Gwladol sydd gennych chi. Mae hyn yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych yn eu talu pan fyddwch chi’n gweithio, a chyfraniadau ar ffurf credydau rydych yn eu derbyn pan na fyddwch chi’n gallu gweithio.
Ar GOV.UK, gallwch gael amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael. Mae'r amcangyfrif hwn yn cael ei alw’n Ddatganiad Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu cael Credyd Pensiwn. Mae'r cwestiwn a allwch chi gael Credyd Pensiwn yn dibynnu ar eich incwm, nid ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i chi, ac mae’n gallu eich helpu i gael cymorth gyda chostau tŷ a gwresogi. Gweld a ydych chi’n gallu cael Credyd Pensiwn.
Gweld a ydych chi wedi cael eich talu ddigon
Os gwnaethoch chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn mis Ebrill 2016, mae'n bosibl nad ydych chi wedi cael eich talu ddigon os ydych chi naill ai::
yn fenyw ac wedi priodi, wedi ysgaru neu’n wraig weddw
dros 80 oed ac yn cael llai na £85 yr wythnos o Bensiwn y Wladwriaeth – does dim ots a ydych chi’n briod ai peidio
Os ydych chi'n ddyn ac yn iau nag 80 oed, mae'n annhebygol eich bod chi heb gael eich talu ddigon – ond os ydych chi'n meddwl bod arian yn ddyledus i chi, dylech fynd ati i geisio cael gwybod.
Os nad ydych chi wedi cael eich talu ddigon, mae'n debygol y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cysylltu â chi ac wedi anfon taliad atoch. Os nad yw’r Adran wedi cysylltu â chi, efallai y bydd angen i chi wneud hawliad.
Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a ydych chi wedi cael eich talu ddigon, ac a oes angen i chi wneud hawliad. Gweld ar GOV.UK sut mae cysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn.
Mae’ch sefyllfa chi o ran Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich oedran a’ch rhywedd.
Rydych chi’n fenyw sydd wedi cael ei geni cyn 6 Ebrill 1950
Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth y gallwch chi ei dderbyn yw £176.45 yr wythnos.
Mae angen i chi gael 39 blwyddyn gymwys o gyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cael y swm llawn. Byddwch chi’n dal i dderbyn rhywbeth os oes gennych chi o leiaf 10 blwyddyn gymwys, ond bydd yn llai na’r swm llawn.
Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, gan ddibynnu ar eich cyfraniadau. Mae weithiau’n cael ei alw’n Ail Bensiwn y Wladwriaeth. Cael rhagor o wybodaeth am Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth ar GOV.UK.
Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
Does dim rhaid i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych chi’n dymuno, gallwch beidio â’i hawlio am y tro (gohirio), a derbyn pensiwn ychwanegol pan fyddwch chi’n ei hawlio.
Os ydych chi’n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn barod, rydych chi'n dal yn gallu dewis ei ohirio. Dim ond unwaith y gallwch chi wneud hyn. Felly, pan fyddwch yn dechrau hawlio'ch pensiwn eto, fyddwch chi ddim yn gallu ei ohirio am yr ail dro.
Mae’r pensiwn ychwanegol yn gallu cael ei dalu drwy gynyddu’ch cyfradd wythnosol o Bensiwn y Wladwriaeth. Am bob 5 wythnos y byddwch chi'n gohirio, byddwch yn cael cynnydd o 1% yn eich pensiwn. Mae hyn yn dod i 10.4% am bob blwyddyn lawn. Fydd eich pensiwn ddim yn cynyddu os byddwch yn ei ohirio tra rydych chi neu'ch partner yn derbyn budd-daliadau penodol, fel Credyd Pensiwn
Cael rhagor o wybodaeth ar GOV.UK am ohirio Pensiwn y Wladwriaeth.
Rydych chi’n fenyw sydd wedi cael ei geni ar ôl 5 Ebrill 1950 a chyn 6 Ebrill 1953
Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth y gallwch chi ei dderbyn yw £176.45 yr wythnos.
Mae angen i chi gael 30 blwyddyn gymwys o gyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cael y swm llawn. Byddwch chi’n dal i dderbyn rhywbeth os oes gennych chi o leiaf un flwyddyn gymwys, ond bydd yn llai na’r swm llawn.
Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, gan ddibynnu ar eich cyfraniadau. Mae weithiau’n cael ei alw’n Ail Bensiwn y Wladwriaeth. Cael rhagor o wybodaeth am Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth ar GOV.UK
Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
Does dim rhaid i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych chi’n dymuno, gallwch beidio â’i hawlio am y tro (gohirio), a derbyn pensiwn ychwanegol pan fyddwch chi’n ei hawlio.
Os ydych chi’n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn barod, rydych chi'n dal yn gallu dewis ei ohirio. Dim ond unwaith y gallwch chi wneud hyn. Felly, pan fyddwch yn dechrau hawlio'ch pensiwn eto, fyddwch chi ddim yn gallu ei ohirio am yr ail dro.
Mae’r pensiwn ychwanegol yn gallu cael ei dalu drwy gynyddu’ch cyfradd wythnosol o Bensiwn y Wladwriaeth. Am bob 5 wythnos y byddwch chi'n gohirio, byddwch yn cael cynnydd o 1% yn eich pensiwn. Mae hyn yn dod i 10.4% am bob blwyddyn lawn. Fydd eich pensiwn ddim yn cynyddu os byddwch yn ei ohirio tra rydych chi neu'ch partner yn derbyn budd-daliadau penodol, fel Credyd Pensiwn.
Cael rhagor o wybodaeth am ohirio Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan GOV.UK.
Rydych chi’n fenyw sydd wedi cael ei geni ar ôl 5 Ebrill 1953
Byddwch chi’n cael Pensiwn newydd y Wladwriaeth, a gafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill 2016. Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth y gallwch chi ei dderbyn yw £230.25 yr wythnos.
Fel arfer, bydd angen i chi gael 35 blwyddyn gymwys o gyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cael y swm llawn. Byddwch chi’n dal i dderbyn rhywbeth os oes gennych chi o leiaf 10 blwyddyn gymwys – gall y blynyddoedd hyn fod cyn neu ar ôl mis Ebrill 2016.
Os oedd gennych chi bensiwn gweithle, pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid yn y gorffennol a’ch bod wedi bod yn talu llai o gyfraniadau Yswiriant Gwladol ('contractio allan’, fel mae’n cael ei alw), mae’n bosibl y bydd eich swm cychwynnol yn llai na'r swm llawn. Mae contractio allan wedi dod i ben o dan y system newydd.
Ar GOV.UK, gallwch weld faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech chi ei gael.
Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
Does dim rhaid i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych chi’n dymuno, gallwch beidio â’i hawlio am y tro (gohirio), a derbyn pensiwn ychwanegol pan fyddwch chi’n ei hawlio.
Os ydych chi’n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn barod, rydych chi'n dal yn gallu dewis ei ohirio. Dim ond unwaith y gallwch chi wneud hyn. Felly, pan fyddwch yn dechrau hawlio'ch pensiwn eto, fyddwch chi ddim yn gallu ei ohirio am yr ail dro.
Bydd y pensiwn ychwanegol yn cael ei dalu drwy gynyddu’ch cyfradd wythnosol o Bensiwn y Wladwriaeth. Am bob 9 wythnos y byddwch chi'n gohirio, byddwch yn cael cynnydd o 1% yn eich pensiwn. Mae hyn yn dod i tua 5.8% am bob blwyddyn lawn. Fydd eich pensiwn ddim yn cynyddu os byddwch yn ei ohirio tra rydych chi neu'ch partner yn derbyn budd-daliadau penodol, fel Credyd Pensiwn.
Cael rhagor o wybodaeth ar GOV.UK am ohirio Pensiwn y Wladwriaeth.
Rydych chi’n ddyn sydd wedi cael ei eni cyn 6 Ebrill 1945
Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth y gallwch chi ei dderbyn yw £176.45 yr wythnos.
Mae angen i chi gael 44 blwyddyn gymwys o gyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cael y swm llawn. Byddwch chi’n dal i dderbyn rhywbeth os oes gennych chi o leiaf 11 blwyddyn gymwys, ond bydd yn llai na’r swm llawn.
Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, gan ddibynnu ar eich cyfraniadau. Mae weithiau’n cael ei alw’n Ail Bensiwn y Wladwriaeth. Cael rhagor o wybodaeth am Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth ar GOV.UK.
Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
Does dim rhaid i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych chi’n dymuno, gallwch beidio â’i hawlio am y tro (gohirio), a derbyn pensiwn ychwanegol pan fyddwch chi’n ei hawlio.
Os ydych chi’n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn barod, rydych chi'n dal yn gallu dewis ei ohirio. Dim ond unwaith y gallwch chi wneud hyn. Felly, pan fyddwch yn dechrau hawlio'ch pensiwn eto, fyddwch chi ddim yn gallu ei ohirio am yr ail dro.
Mae’r pensiwn ychwanegol yn gallu cael ei dalu drwy gynyddu’ch cyfradd wythnosol o Bensiwn y Wladwriaeth. Am bob 5 wythnos y byddwch chi'n gohirio, byddwch yn cael cynnydd o 1% yn eich pensiwn. Mae hyn yn dod i 10.4% am bob blwyddyn lawn. Fydd eich pensiwn ddim yn cynyddu os byddwch yn ei ohirio tra rydych chi neu'ch partner yn derbyn budd-daliadau penodol, fel Credyd Pensiwn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ohirio Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan GOV.UK.
Rydych chi’n ddyn sydd wedi cael ei eni ar ôl 5 Ebrill 1945 a chyn 6 Ebrill 1951
Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth y gallwch chi ei dderbyn yw £176.45 yr wythnos.
Mae angen i chi gael 30 blwyddyn gymwys o gyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cael y swm llawn. Byddwch chi’n dal i dderbyn rhywbeth os oes gennych chi o leiaf un flwyddyn gymwys, ond bydd yn llai na’r swm llawn.
Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, gan ddibynnu ar eich cyfraniadau. Mae weithiau’n cael ei alw’n Ail Bensiwn y Wladwriaeth. Cael rhagor o wybodaeth am Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth ar GOV.UK.
Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
Does dim rhaid i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych chi’n dymuno, gallwch beidio â’i hawlio am y tro (gohirio), a derbyn pensiwn ychwanegol pan fyddwch chi’n ei hawlio..
Os ydych chi’n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn barod, rydych chi'n dal yn gallu dewis ei ohirio. Dim ond unwaith y gallwch chi wneud hyn. Felly, pan fyddwch yn dechrau hawlio'ch pensiwn eto, fyddwch chi ddim yn gallu ei ohirio am yr ail dro.
Mae’r pensiwn ychwanegol yn gallu cael ei dalu drwy gynyddu’ch cyfradd wythnosol o Bensiwn y Wladwriaeth. Am bob 5 wythnos y byddwch chi'n gohirio, byddwch yn cael cynnydd o 1% yn eich pensiwn. Mae hyn yn dod i 10.4% am bob blwyddyn lawn. Fydd eich pensiwn ddim yn cynyddu os byddwch yn ei ohirio tra rydych chi neu'ch partner yn derbyn budd-daliadau penodol, fel Credyd Pensiwn.
Cael rhagor o wybodaeth ar GOV.UK am ohirio Pensiwn y Wladwriaeth.
Rydych chi’n ddyn sydd wedi cael ei eni ar ôl 5 Ebrill 1951
Byddwch chi’n cael Pensiwn newydd y Wladwriaeth, a gafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill 2016. Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth y gallwch chi ei dderbyn yw £230.25 yr wythnos.
Fel arfer, bydd angen i chi gael 35 blwyddyn gymwys o gyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cael y swm llawn. Byddwch chi’n dal i dderbyn rhywbeth os oes gennych chi o leiaf 10 blwyddyn gymwys – gall y blynyddoedd hyn fod cyn neu ar ôl mis Ebrill 2016.
Os oedd gennych chi bensiwn gweithle, pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid yn y gorffennol a’ch bod wedi bod yn talu llai o gyfraniadau Yswiriant Gwladol ('contractio allan’, fel mae’n cael ei alw), mae’n bosibl y bydd eich swm cychwynnol yn llai na'r swm llawn. Mae contractio allan wedi dod i ben o dan y system newydd.
Ar GOV.UK, gallwch weld faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech chi ei gael.
Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
Does dim rhaid i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych chi’n dymuno, gallwch beidio â’i hawlio am y tro (gohirio), a derbyn pensiwn ychwanegol pan fyddwch chi’n ei hawlio.
Os ydych chi’n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn barod, rydych chi'n dal yn gallu dewis ei ohirio. Dim ond unwaith y gallwch chi wneud hyn. Felly, pan fyddwch yn dechrau hawlio'ch pensiwn eto, fyddwch chi ddim yn gallu ei ohirio am yr ail dro.
Bydd y pensiwn ychwanegol yn cael ei dalu drwy gynyddu’ch cyfradd wythnosol o Bensiwn y Wladwriaeth. Am bob 9 wythnos y byddwch chi'n gohirio, byddwch yn cael cynnydd o 1% yn eich pensiwn. Mae hyn yn dod i tua 5.8% am bob blwyddyn lawn. Fydd eich pensiwn ddim yn cynyddu os byddwch yn ei ohirio tra rydych chi neu'ch partner yn derbyn budd-daliadau penodol, fel Credyd Pensiwn.
Cael rhagor o wybodaeth ar GOV.UK am ohirio Pensiwn y Wladwriaeth.
Cael blynyddoedd cymwys
Mae faint o Bensiwn y Wladwriaeth gewch chi yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae eich cofnod Yswiriant Gwladol yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych yn eu talu pan fyddwch chi’n gweithio, a chyfraniadau ar ffurf credydau rydych yn eu derbyn pan na fyddwch chi’n gallu gweithio.
Er enghraifft, gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith, neu os oes gennych gyfrifoldebau gofalu. Gall eich cofnod hefyd gynnwys cyfraniadau gwirfoddol rydych chi’n dewis eu talu er mwyn llenwi bylchau pan nad ydych chi’n gweithio neu’n derbyn credydau.
Pan fyddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth os ydych wedi talu neu wedi derbyn digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar ffurf credydau yn ystod eich bywyd gwaith. Bydd faint gewch chi yn dibynnu ar sawl ‘blwyddyn gymwys' o gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd gennych chi.
Mae pob blwyddyn dreth (rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill) rydych chi’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar ei chyfer, neu’n derbyn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar ffurf credydau ar ei chyfer, yn cyfrif fel blwyddyn gymwys – ar yr amod eich bod chi’n ennill neu’n derbyn enillion sy’n cyrraedd o leiaf isafswm. Mae’r swm hwn yn newid bob blwyddyn.
Gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol
Os nad oes gennych chi ddigon o flynyddoedd cymwys i dderbyn Pensiwn llawn y Wladwriaeth, efallai y gallwch chi lenwi bylchau yn eich cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy dalu cyfraniadau gwirfoddol.
Mae terfyn amser ar gyfer gwneud hyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar GOV.UK am gyfraniadau gwirfoddol a’r terfynau amser ar gyfer eu talu.
Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn gweithio
Gallwch ddewis parhau i weithio, boed hynny gyda thâl neu'n wirfoddol, wrth hawlio Pensiwn y Wladwriaeth. Ni fydd unrhyw arian y byddwch yn ei ennill yn effeithio ar y Pensiwn y byddwch chi’n ei dderbyn gan Wladwriaeth, ond gallai effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau eraill fel Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Rhagor o help a gwybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am fathau eraill o bensiynau a chychwyn pensiwn, darllenwch ein cyngor ar bensiynau.
MoneyHelper
Ar wefan MoneyHelper gallwch gael gwybodaeth a chyngor am ddim ar gynllunio pensiwn, gan gynnwys cynlluniau'r wladwriaeth, cynlluniau personol, cynlluniau gweithle a chynlluniau cyfranddeiliaid. TDydy MoneyHelper ddim yn rhoi cyngor ariannol na chyngor ar fuddsoddi, nac yn argymell cynnyrch.
Llinell gymorth: 0800 011 3797
Age UK
Mae gwefan Age UK yn cynnwys gwybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth, gan gynnwys newidiadau i’r rheolau o 2016 ymlaen.
Ewch i: www.ageuk.org.uk
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.