Eir â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gwybodaeth am fynd â chi i’r llys am ôl-ddyledion rhent

Os oes gennych ôl-ddyledion rhent, gall eich landlord geisio'ch troi allan. Gelwir hyn yn geisio meddiant. I wneud hyn, yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen iddynt ddilyn gweithdrefn sy’n golygu cael gorchymyn llys. Ni allant eich gorfodi i adael eich cartref heb fynd i'r llys yn gyntaf. Os byddant yn gwneud i chi adael heb fynd â chi i'r llys yn gyntaf, mae hyn yn erbyn y gyfraith.

Mewn rhai achosion, er eu bod yn mynd â chi i'r llys i'ch troi allan, efallai y byddant yn cytuno i adael i chi aros yn yr eiddo cyn belled â'ch bod yn cytuno i dalu'r arian sy'n ddyledus gennych yn ôl ac nad ydych yn mynd ar ei hôl hi gyda'ch rhent eto.

Mae sawl cam ynghlwm wrth hyn cyn y gellir troi tenant allan am ôl-ddyledion rhent. Sef:

  • os yw eich landlord yn landlord tai cymdeithasol, megis awdurdod lleol neu gymdeithas dai, rhaid iddo ddilyn protocol cyn-gweithredu ôl-ddyledion rhent. Mae hwn yn dweud wrth eich landlord beth y dylai ei wneud cyn dechrau achos llys - mae rhagor o wybodaeth am y protocol cyn-gweithredu ar gael ar GOV.UK

  • rhaid i'ch landlord roi rhybudd i chi adael eich cartref, gelwir hyn yn hysbysiad ceisio meddiant neu hysbysiad ymadael

  • os nad ydych wedi gadael erbyn i'r hysbysiad ddod i ben, gall eich landlord wneud cais i'r llys am orchymyn llys a byddwch yn derbyn papurau llys

  • yn y llys gall eich landlord ofyn i'r barnwr am orchymyn a elwir yn orchymyn adennill meddiant

  • os yw'r gorchymyn adennill meddiant yn ei gwneud yn ofynnol i chi adael eich cartref a chithau heb adael erbyn y dyddiad ar y gorchymyn, gall eich landlord ofyn i'r llys am warant meddiannu

  • yna byddech yn cael rhybudd troi allan wedi’i anfon atoch gan y beilïaid yn dweud pryd y bydd y troi allan yn digwydd.

Hyd yn oed os yw'ch landlord eisoes wedi dechrau cymryd camau i'ch troi allan, gallwch geisio dod i gytundeb i ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych. Gallai hyn eu hatal rhag eich troi allan.

I gael rhagor o wybodaeth am ddod i gytundeb i dalu eich ôl-ddyledion rhent, gweler Delio ag ôl-ddyledion rhent.

Hysbysiad i adael eich cartref

Mae gan y rhan fwyaf o denantiaid hawl i gael hysbysiad ysgrifenedig i adael eiddo hyd yn oed os na roddodd eich landlord gytundeb ysgrifenedig i chi fyw yno yn y lle cyntaf.

Gallai hyn fod naill ai'n hysbysiad ymadael neu'n hysbysiad ceisio meddiant, yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych.

Os ydych chi'n 'feddiannydd sydd wedi'i eithrio', efallai na fydd gennych hawl i gael hysbysiad ysgrifenedig - bydd yn dibynnu ar yr hyn y cytunwyd arno gyda'ch landlord. Byddwch yn feddiannydd sydd wedi'i eithrio os ydych yn rhannu lle byw gyda'ch landlord - er enghraifft, cegin neu ystafell ymolchi. Hyd yn oed os bydd eich landlord yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi, gall eich troi allan heb orchymyn llys.

Nid yw cael hysbysiad i adael neu hysbysiad o geisio meddiant bob amser yn golygu y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref. Mae'n dal yn rhaid i'ch landlord gael gorchymyn llys cyn y gallant eich troi allan ac ni allant wneud cais am orchymyn llys hyd nes y bydd y cyfnod rhybudd wedi dod i ben. Mae hyd y cyfnod rhybudd yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych.

Gwirio pa fath o denantiaeth sydd gennych os ydych yn rhentu gan landlord preifat

Siaradwch â chynghorydd os bydd eich landlord yn rhoi hysbysiad i chi adael eich cartref.

Talu’r hyn sy’n ddyledus gennych yn ôl

Efallai y gallwch dalu'r holl ôl-ddyledion cyn i'r cyfnod rhybudd ddod i ben. Os gallwch wneud hyn, efallai y bydd yn atal achos llys rhag mynd ymhellach ac ni fydd yn rhaid i chi adael eich cartref.

Os oes gennych denantiaeth fyrddaliadol sicr, efallai na fydd talu eich ôl-ddyledion yn eich atal rhag cael eich troi allan. Dylech wirio sut i ddelio ag ôl-ddyledion rhent os oes gennych denantiaeth fyrddaliadol sicr.

Hyd yn oed os na allwch dalu'r holl ôl-ddyledion cyn i'r cyfnod rhybudd ddod i ben, efallai y gallwch ddod i gytundeb gyda'ch landlord i dalu'r arian yn ôl dros gyfnod hwy. Os bydd eich landlord yn cytuno, gallech aros yn yr eiddo ac osgoi mynd i'r llys. Byddai hyn yn eich atal rhag gorfod talu costau’r llys. Fodd bynnag, gallai eich landlord fynd â chi i’r llys hyd yn oed os byddwch yn dod i gytundeb. Yn yr achos hwn, mae’r barnwr yn debygol o ddweud y gallwch aros yn eich cartref cyn belled â’ch bod yn glynu wrth y cytundeb.

I gael gwybod mwy am ddod i gytundeb gyda'ch landlord, gweler Delio ag ôl-ddyledion rhent.

Cysylltwch â'ch landlord ar unwaith a rhoi gwybod iddynt am eich sefyllfa. Hyd yn oed os nad oes gennych arian i dalu'r ôl-ddyledion yn ôl, os gallwch, dylech barhau i dalu'ch rhent.

Os oes rhesymau pam na allwch dalu eich rhent neu'r ôl-ddyledion, rhowch y rhain yn ysgrifenedig i'ch landlord a chadw copi o'ch llythyr neu'ch e-bost. Er enghraifft:

  • efallai eich bod yn aros i hawliad Credyd Cynhwysol gael ei brosesu

  • mae gennych hawl i elfen costau tai Credyd Cynhwysol, ond rydych yn aros iddi gael ei thalu.

Os oes gennych landlord tai cymdeithasol, mae rheolau arbennig y mae'n rhaid iddynt eu dilyn pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent. Er enghraifft, os ydych yn cael budd-daliadau i dalu eich rhent, dylent eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau gyda nhw.

Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch gyda’ch budd-daliadau.

Mae eich landlord yn gwrthod taliadau rhent

Os bydd eich landlord yn gwrthod derbyn taliadau rhent ar ôl iddo roi hysbysiad ymadael neu hysbysiad ceisio meddiant i chi, dylech roi'r arian o'r neilltu. Y rheswm am hyn yw bod gennych ddyletswydd gyfreithiol i dalu rhent yn ystod y cyfnod rhybudd. Mae gennych hefyd ddyletswydd gyfreithiol i dalu'r landlord pan ddaw'r cyfnod rhybudd i ben, hyd nes y cewch eich troi allan. Os gallwch chi gynilo’r arian, rhowch ef mewn cyfrif ar wahân. Bydd hyn yn eich helpu os bydd eich achos yn mynd i’r llys. Gallwch ddefnyddio'r arian i ddangos eich bod yn fodlon ac yn abl i dalu'r ôl-ddyledion ac nad yw'n rhesymol i'r llys eich troi allan.

Gwnewch yn siŵr bod yr hysbysiad yn gywir

Dylech wneud yn siŵr bod yr hysbysiad ymadael neu’r hysbysiad ceisio meddiant yn bodloni’r gofynion cyfreithiol cywir. Er enghraifft, efallai y bydd angen iddo gynnwys gwybodaeth benodol. Os nad yw'r hysbysiad yn gywir, gallai hyn atal eich landlord rhag cymryd camau pellach, neu ohirio hynny.

Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch i wirio a yw eich hysbysiad yn gywir.

Cyn i chi fynd i’r llys

Os na fyddwch yn talu'r ôl-ddyledion neu'n dod i gytundeb gyda'ch landlord o fewn y cyfnod rhybudd, byddant yn gwneud cais am orchymyn llys.

Papurau’r llys

Anfonir papurau atoch gan y llys, yn dangos achos eich landlord yn eich erbyn. Gelwir y papurau hyn yn 'ffurflen hawlio' a 'manylion yr hawliad'. Byddwch hefyd yn cael papurau i chi eu llenwi a’u dychwelyd i’r llys. Gelwir y rhain yn 'ffurflen amddiffyniad'.

Gallwch weld dyddiad y gwrandawiad llys ar y ffurflen hawliad. Dylai dyddiad y gwrandawiad fod o fewn 8 wythnos i’r llys anfon y papurau atoch.

Os ydych oes gennych denantiaeth fyrddaliadol sicr, efallai na fydd gwrandawiad os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen amddiffyniad.

Dylech edrych ar bapurau’r llys yn ofalus i wneud yn siŵr bod popeth mae’r landlord wedi’i ddweud amdanoch yn gywir. Er enghraifft, gwiriwch y cyfeiriad lle rydych chi'n byw a faint o arian sy'n ddyledus gennych, os yw wedi'i gynnwys. Os nad yw’r manylion yn gywir, gwnewch yn siŵr bod y llys yn gwybod amdanynt. Gallwch naill ai wneud hyn ar y ffurflen amddiffyniad neu yn y gwrandawiad, os oes un.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen amddiffyniad a ddaeth gyda phapurau’r llys i roi eich rhesymau dros herio eich troi allan.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd defnyddio’r ffurflen amddiffyniad, ysgrifennwch beth rydych chi eisiau ei ddweud ar ddarn o bapur yn lle hynny. Ysgrifennwch rif eich achos ar y darn o bapur – gallwch ddod o hyd i rif eich achos ar y ffurflen hawliad.

Dylech geisio llenwi’r ffurflen amddiffyniad a’i dychwelyd i’r llys erbyn y terfyn amser, sef 14 diwrnod fel arfer. Os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen amddiffyniad mewn pryd, bydd gennych yr hawl o hyd i fynd i'r llys ac amddiffyn eich achos. Fodd bynnag, mae’n well anfon y ffurflen amddiffyniad yn ôl mewn pryd, neu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau llys ychwanegol.

Dyma rai enghreifftiau o bethau y gallech eu dweud ar y ffurflen amddiffyniad:

  • dydych chi ddim yn meddwl bod arnoch chi'r arian mae'ch landlord wedi'i nodi. Er enghraifft, efallai eich bod yn meddwl mai rhywun arall sy'n gyfrifol am yr arian sy'n ddyledus, neu nad yw'ch landlord wedi cyfrifo'r swm sy'n ddyledus gennych yn gywir

  • mae Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai yn ddyledus i chi a fyddai’n talu’r cyfan neu rywfaint o’r ôl-ddyledion

  • y rhesymau pam mae’r ôl-ddyledion wedi cronni. Er enghraifft, efallai eich bod wedi colli eich swydd, neu wedi bod yn rhy sâl i weithio. Efallai y bydd y llys yn ystyried y rhesymau hyn wrth benderfynu a ddylid eich troi allan neu adael i chi aros yn yr eiddo. Os yw eich amgylchiadau wedi newid a'ch bod yn gallu dechrau gwneud taliadau eto, efallai y bydd y llys yn ystyried hyn hefyd.

  • byddech yn dioddef 'caledi eithriadol' pe byddai'n rhaid i chi adael yr eiddo ar unwaith. Enghraifft o galedi eithriadol yw lle rydych chi'n mynd i fod yn ddigartref a ddim yn cael eich ailgartrefu gan eich awdurdod lleol. Efallai y bydd y llys yn gallu gohirio eich troi allan er mwyn rhoi mwy o amser i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw

  • os ydych yn rhentu gan landlord tai cymdeithasol ac nad yw wedi dilyn y protocol cyn-gweithredu

  • os ydych am gymryd camau yn erbyn eich landlord, er enghraifft am nad oeddent wedi gwneud atgyweiriadau - siaradwch â chynghorydd cyn i chi wneud hyn

Os gallwch chi, siaradwch â chynghorydd cyn i chi anfon eich amddiffyniad i’r llys.

Parhewch i dalu eich rhent

Os gallwch chi, daliwch ati i dalu eich rhent fel arfer yn ystod y cyfnod hwn a dechrau gwneud taliadau tuag at yr ôl-ddyledion. Talwch y swm o arian y gallwch ei fforddio. Os na fydd eich landlord yn derbyn y taliadau hyn, rhowch yr arian o'r neilltu.

Os oes angen mwy o amser arnoch

Os oes angen mwy o amser arnoch i baratoi ar gyfer y gwrandawiad llys, gallwch ofyn am ohiriad. Mae hyn yn golygu y bydd y gwrandawiad llys yn cael ei ohirio er mwyn rhoi mwy o amser i chi. I ofyn am ohiriad, cysylltwch â'ch landlord neu eu twrneiod. Os ydynt yn cytuno, dylech chi neu’r landlord wedyn ysgrifennu at y llys yn dweud eich bod wedi cytuno i ohirio. Bydd y llys fel arfer yn gohirio’r achos os ydych chi a’r landlord wedi cytuno.

Os nad yw eich landlord yn cytuno i ohirio, neu os nad yw'n bosibl cysylltu â'ch landlord, dewch i'r llys ar ddyddiad y gwrandawiad a gofynnwch am ohiriad yn y gwrandawiad ei hun.

Paratoi ar gyfer eich gwrandawiad meddiannu

Gwiriwch eich ffurflen hawliad am ddyddiad eich gwrandawiad ac ymhle y bydd yn cael ei gynnal.

Dylech fynd i'r gwrandawiad meddiannu - mae'n gyfle i chi gyflwyno'ch achos yn y llys a rhoi rhesymau pam y dylech aros yn eich cartref.

Os na allwch fynd i’r gwrandawiad meddiannu, dywedwch wrth y llys cyn gynted â phosibl. Eglurwch pam na allwch chi fynd – er enghraifft oherwydd eich bod yn yr ysbyty. Gallai’r llys:

  • drefnu i’r gwrandawiad ddigwydd dros y ffôn neu drwy alwad fideo

  • newid dyddiad y gwrandawiad

Gallwch weld sut mae paratoi os bydd y llys yn penderfynu trefnu gwrandawiad dros y ffôn neu drwy alwad fideo.

Os ydych oes gennych denantiaeth fyrddaliadol sicr, efallai na fydd gwrandawiad os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen amddiffyniad.

Cael cymorth cyfreithiol

Gallwch gael cyfreithiwr i’ch cynrychioli yn y llys. Os nad oes gennych incwm neu ar incwm isel, efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda’r costau. I gael gwybod a allwch chi gael cymorth gyda chostau cyfreithiol, ewch i GOV.UK.

Ar ddiwrnod y gwrandawiad, byddwch hefyd yn gallu cysylltu â'r cynghorydd ar ddyletswydd - does dim ots faint o incwm sydd gennych. Os gallwch chi, dylech gyrraedd y llys yn gynnar er mwyn i chi gael amser i siarad â nhw. Cyn dyddiad y gwrandawiad meddiannu, darllenwch y llythyrau gan y llys a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gysylltu â’r cynghorydd ar ddyletswydd.

Os na allwch chi gysylltu â’r cynghorydd ar ddyletswydd ar ddiwrnod y gwrandawiad, dywedwch wrth y tywysydd neu’r barnwr cyn i’r gwrandawiad ddechrau – efallai y bydd y barnwr yn cytuno i ohirio’r gwrandawiad.

Siaradwch â chynghorydd i gael gwybod pa gyngor cyfreithiol y gallwch ei gael.

Os ydych chi'n anabl

Os ydych chi'n anabl, holwch a oes cyfleusterau addas ar gael yn y llys. Gwiriwch sut gallwch chi gael mynediad i’r llys ar GOV.UK. Os oes gennych chi anabledd sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi fynd i'r llys neu gyfathrebu, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Anabledd ar 0800 358 3506. Mae gwasanaeth ffôn testun ar gyfer pobl fyddar neu bobl drwm eu clyw hefyd ar gael ar 0191 478 1476.

Casglu tystiolaeth

Cyn dyddiad y gwrandawiad, dylech ddwyn ynghyd yr holl dystiolaeth y bydd ei hangen arnoch i gyflwyno eich achos. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi fynd â phrawf o'ch amgylchiadau ariannol megis eich slipiau cyflog a'ch cyfriflenni banc.

Gwnewch yn siŵr bod gennych unrhyw bapurau llys a anfonwyd atoch - bydd angen y rhain arnoch i helpu'r cynghorydd ar ddyletswydd i'ch cynrychioli.

Os oes arian yn ddyledus i chi, er enghraifft os oes costau tai Credyd Cynhwysol neu fudd-dal arall yn ddyledus i chi, dylech geisio cael cadarnhad ysgrifenedig o hyn y gallwch ei ddangos i'r barnwr.

Os ydych eisoes wedi gwneud taliadau tuag at yr ôl-ddyledion, bydd angen i'r llys weld tystiolaeth, er enghraifft, derbynneb. Os yw eich landlord wedi gwrthod derbyn y taliadau hyn, ond eich bod wedi rhoi'r arian o'r neilltu, ewch â phrawf o'r arian hwn i ddangos i'r llys.

Dylech ddod â chopi o’ch datganiad ariannol neu’ch taflen gyllideb gyda chi. Datganiad yw hwn sy'n dangos faint o arian sydd gennych yn dod i'ch cartref, faint rydych chi'n ei wario a faint sydd gennych dros ben i dalu'r ôl-ddyledion. Os ydych chi wedi anfon datganiad ariannol neu daflen gyllideb yn ôl gyda’r ffurflen amddiffyniad ond bod eich amgylchiadau wedi newid ers hynny, dylech wneud un newydd a dod â hi gyda chi.

I gael rhagor o wybodaeth am lunio datganiad ariannol neu daflen gyllideb, edrychwch ar Sut i gyfrifo eich cyllideb.

Mynd i’ch gwrandawiad meddiannu

Dylech sicrhau eich bod yn mynd i'r gwrandawiad meddiannu hyd yn oed os nad ydych wedi anfon eich amddiffyniad. Dyma’ch cyfle chi i esbonio eich sefyllfa i’r llys.

Gallech roi unrhyw dystiolaeth ychwanegol sydd gennych, er enghraifft os oes gennych swydd newydd ac y gallech fforddio ad-dalu rhai ôl-ddyledion.

Gallwch fynd â rhywun gyda chi i gael cefnogaeth, er enghraifft ffrind neu aelod o’r teulu. Efallai na fyddant yn gallu siarad ar eich rhan yn y llys.

Pa benderfyniadau all y barnwr eu gwneud

Yn y gwrandawiad llys, bydd y barnwr yn gwrando ar ddwy ochr y stori ac yn edrych ar y dystiolaeth a ddaw i’r llys. Bydd y gwrandawiad yn breifat ac yn gyffredinol ni fydd yn para'n hir iawn.

Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y barnwr yn gwneud penderfyniad a elwir yn orchymyn. Bydd y barnwr yn dweud wrthych chi a’r landlord beth yw’r penderfyniad hwnnw a bydd y llys yn anfon copi o’r gorchymyn llys at y ddau ohonoch. Mae hyn fel arfer o fewn ychydig ddyddiau i’r gwrandawiad. Fodd bynnag, dylech wneud eich nodyn eich hun o benderfyniad y barnwr gan fod oedi weithiau cyn i’r llys gyhoeddi’r gorchymyn.

Mae sawl math o benderfyniad y gall barnwr ei wneud. Y rhain yw:

Gorchmynion adennill meddiant gohiriedig

Os bydd y barnwr yn gwneud gorchymyn adennill meddiant gohiriedig, mae’n golygu y gallwch barhau i fyw yn eich cartref cyn belled â’ch bod yn cadw at rai amodau. Bydd y rhain fel arfer yn cynnwys talu'r rhent a swm y cytunwyd arno oddi ar yr ôl-ddyledion.

Os na fyddwch yn cadw at yr amodau, gall y landlord ofyn i'r llys am ganiatâd i'ch troi allan. Ond bydd yn rhaid iddyn nhw fynd drwy weithdrefn arall yn gyntaf. Mae hyn yn golygu gwneud cais i'r llys am ddyddiad meddiannu ac yna, ar ôl iddynt wneud hyn, gwneud cais am warant meddiannu.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae angen i'ch landlord ei wneud i'ch troi allan os oes ganddynt orchymyn adennill meddiant gohiriedig, gweler Troi allan am ôl-ddyledion rhent.

Efallai y byddwch chi’n gallu naill ai:

  • gofyn i'r llys neilltuo’r gorchymyn - bydd angen i chi gael rheswm da dros wneud hyn

  • apelio yn erbyn y gorchymyn - bydd angen twrnai arnoch i wneud hyn

Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac na allwch gadw at amodau'r gorchymyn, efallai y gallwch gael y llys i newid (amrywio) yr amodau.

Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arbenigol arnoch os oes angen help arnoch i ddelio â gorchymyn adennill meddiant gohiriedig

Gorchmynion adennill meddiant ataliedig

Mae gorchymyn adennill meddiant ataliedig yn debyg i orchymyn adennill meddiant gohiriedig. Mae'n rhoi'r hawl i chi aros yn eich cartref cyn belled â'ch bod yn cadw at gytundeb i dalu'r rhent a thalu'r ôl-ddyledion.

Os na fyddwch yn glynu wrth y cytundeb, gall eich landlord wneud cais i'r llys am warant meddiannu i'ch troi allan. Fodd bynnag, yn wahanol i orchymyn adennill meddiant gohiriedig, ni fyddwch yn cael gwybod ymlaen llaw os byddant yn gwneud hyn - byddwch yn cael 14 diwrnod cyn y bydd yn rhaid i chi symud allan.

Unwaith y bydd eich landlord yn cael y warant meddiannu, gallwch gael eich gorfodi i adael eich cartref.

I gael gwybod mwy am yr hyn sy'n digwydd pan fydd eich landlord yn cael gwarant meddiannu, gweler Troi allan am ôl-ddyledion rhent.

Os bydd eich landlord yn gofyn i’r llys roi gorchymyn adennill meddiant gohiriedig iddynt 

Yn ystod y gwrandawiad, gallech ofyn i’r llys:

  • wneud amodau'r gorchymyn yn fforddiadwy - er enghraifft, bydd angen iddynt wneud yn siŵr eich bod yn gallu fforddio'r ad-daliadau

  • gohirio'r gwrandawiad - bydd angen i chi gael rheswm da dros ofyn am hyn

Os yw eich landlord wedi cael gorchymyn adennill meddiant gohiriedig

Ar ôl y gwrandawiad, efallai y byddwch yn gallu:

  • gofyn i'r llys neilltuo’r gorchymyn - bydd angen i chi gael rheswm da dros ofyn am hyn

  • apelio yn erbyn y gorchymyn - bydd angen twrnai arnoch i wneud hyn

  • gofyn i'r llys newid amodau'r gorchymyn - gallwch wneud hyn os bydd eich amgylchiadau'n newid

Gorchmynion meddiant llwyr

Os bydd y llys yn rhoi gorchymyn meddiannu llwyr i’ch landlord, bydd hyn yn dweud bod yn rhaid i chi adael yr eiddo erbyn dyddiad penodol. Mae’n debygol y rhoddir gorchymyn meddiant llwyr i’ch landlord os:

  • na allwch berswadio'r barnwr y gallwch ddal i dalu eich rhent a thalu'r ôl-ddyledion

  • rhoddodd eich landlord hysbysiad adran 21 i chi

  • nid ydych wedi talu digon o'ch ôl-ddyledion a bod eich landlord wedi rhoi hysbysiad adran 8 i chi dan 'sail 8' 

Os gallwch berswadio'r barnwr eich bod yn gallu dal i fyny â’ch taliadau rhent a thalu'r ôl-ddyledion, efallai y gellir newid y gorchymyn llwyr i fod yn orchymyn adennill meddiant gohiriedig neu ataliedig.

Siaradwch â chynghorydd os oes angen cyngor arnoch am orchymyn meddiant llwyr.

Os oes gennych denantiaeth fyrddaliadol sicr, efallai na chawsoch gyfle i fynd i’r llys a siarad â barnwr.

Siaradwch â chynghorydd os rhoddodd eich landlord hysbysiad adran 21 i chi ac na chawsoch wrandawiad - efallai y gallwch ofyn i neilltuo’r gorchymyn.

Os bydd eich landlord yn cael gorchymyn meddiant llwyr ac nad ydych yn gadael yr eiddo erbyn y dyddiad ar y gorchymyn, bydd angen i'ch landlord gael gwarant meddiannu.

I gael gwybod mwy am yr hyn sy'n digwydd pan fydd eich landlord yn cael gwarant meddiannu, gweler Troi allan am ôl-ddyledion rhent.

Weithiau bydd modd perswadio eich landlord i beidio â gwneud cais am y warant meddiannu. Er enghraifft, efallai y bydd eich amgylchiadau ariannol yn newid neu efallai y bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i law ac yn talu'r holl ôl-ddyledion.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddelio â'ch landlord pan fydd gennych ôl-ddyledion rhent, gweler Delio ag ôl-ddyledion rhent.

Dyfarniadau ariannol

Pan fydd eich landlord yn gofyn i'r llys roi gorchymyn meddiant iddynt ar eich cartref, gallant hefyd ofyn am ddyfarniad ariannol. Mae hwn yn ddyfarniad llys sirol arferol (CCJ). 

Os yw eich landlord wedi cael gorchymyn adennill meddiant gohiriedig neu ataliedig, bydd y dyfarniad ariannol fel arfer yn cael ei ohirio neu ei atal hefyd. Mae hyn yn golygu y gallwch barhau i fyw yn yr eiddo cyn belled â'ch bod yn cadw i fyny gyda'ch taliadau rhent ac yn talu'r hyn sy'n ddyledus gennych yn ôl ar y gyfradd a nodir yn y gorchymyn adennill meddiant.

Os rhoddir CCJ i'ch landlord, gall gymryd camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn. Er enghraifft, os byddwch yn torri telerau'r CCJ, gallent ofyn i'r llys a allant anfon beilïaid i'ch cartref newydd.

Os bydd eich landlord yn cael CCJ yn eich erbyn, bydd yn effeithio ar eich statws credyd. Efallai y byddwch yn cael trafferth cael credyd a benthyg arian yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae CCJ yn effeithio ar eich statws credyd a beth y gallwch ei wneud am hyn, gweler Dyfarniadau'r llys sirol a'ch sgôr credyd - trosolwg.

Cael help gyda biliau a chyllidebu

Os ydych chi'n ceisio lleihau eich gwariant, neu os ydych chi'n cael problemau gyda'ch taliadau, fe allech chi gael help gyda'ch biliau. Gallech hefyd ddefnyddio adnodd cyllidebu i weld yn union ble mae eich arian yn mynd bob mis.

Rhagor o gymorth

Adolygwyd y dudalen ar 05 Tachwedd 2026