Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cael eich talu ar ôl gadael swydd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os nad yw'r swm cywir wedi'i dalu i chi ar ôl gadael swydd, gallwch gymryd camau i gael yr hyn sy'n ddyledus i chi.

Mae angen i chi weithredu'n gyflym - y dyddiad cau ar gyfer gweithredu yw 3 mis namyn diwrnod o'r dyddiad y dylai eich cyflogwr fod wedi talu'r arian sy'n ddyledus i chi. Yn aml, bydd y dyddiad hwn a dyddiad eich cyflog diwethaf yr un fath, ond mae'n syniad da gwirio'r dyddiad y dylai eich cyflogwr fod wedi talu'r hyn sy'n ddyledus i chi, rhag ofn ei fod yn ddyledus yn gynharach.

Yn ogystal â'ch cyflog sylfaenol, mae'n bosibl bod gennych hawl i'r canlynol:

  • tâl gwyliau
  • tâl dileu swydd
  • tâl salwch - os oeddech yn absennol oherwydd salwch yn ystod eich cyfnod rhybudd
  • tâl mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir

Rhaid i'ch cyflogwr dalu popeth sy'n ddyledus i chi yn eich pecyn cyflog olaf, hyd yn oed os ydych wedi cael eich diswyddo. Os ydych mewn dyled i'ch cyflogwr, mae'n bosibl y bydd yn gallu ei gymryd o'ch cyflog. 

Fel arfer, byddwch yn derbyn eich cyflog olaf ar ddyddiad arferol talu'ch cyflog. Er enghraifft, os ydych yn gadael ar ddechrau'r mis ond yn cael eich talu ar ddiwedd y mis fel arfer, mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi aros tan hynny i dderbyn eich cyflog terfynol. Dylech holi eich cyflogwr os nad ydych yn siŵr.

Os nad ydych wedi gadael eich swydd eto, holwch eich cyflogwr er mwyn sicrhau:

  • y bydd yn talu popeth sy'n ddyledus i chi, gan gynnwys gwyliau y mae gennych hawl iddynt
  • eich bod yn gwybod a oes arnoch unrhyw arian i'ch cyflogwr, a sut byddwch yn ei ad-dalu

Edrych ar eich slip cyflog

Dylech ddechrau trwy edrych ar eich slip cyflog olaf. Bydd hyn yn eich helpu i weld sut cafodd eich cyflog terfynol ei gyfrifo. Dylech gadarnhau a ydych wedi cael eich talu am:

  • nifer yr oriau y buoch yn gweithio
  • unrhyw wyliau roedd gennych hawl iddynt
  • unrhyw dâl rhybudd neu dâl dileu swydd roeddech yn ei ddisgwyl
  • unrhyw dâl salwch roeddech yn ei ddisgwyl
  • unrhyw dâl absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu riant roeddech yn ei ddisgwyl
  • goramser, comisiwn neu fonws roeddech yn ei ddisgwyl

Hefyd, dylech edrych i weld a yw eich cyflogwr wedi didynnu arian nad oeddech yn ei ddisgwyl.

Os ydych yn weithiwr cyflogedig neu'n weithiwr, mae gennych hawl gyfreithiol i slip cyflog i ddangos sut mae eich cyflog wedi'i gyfrifo. Os ydych yn cael eich talu fesul awr, mae'n rhaid i'ch slip cyflog ddangos nifer eich oriau gwaith.

Os nad oes gennych slip cyflog neu os nad yw eich slip cyflog yn dangos sut mae eich cyflog wedi'i gyfrifo, gofynnwch i'ch cyflogwr gywiro hyn. I gadarnhau a ydych yn weithiwr cyflogedig neu'n weithiwr, ewch i GOV.UK.

Siaradwch â'ch cyflogwr

Os ydych yn meddwl bod eich cyflog terfynol yn anghywir, ceisiwch siarad yn anffurfiol â'ch cyn-gyflogwr. Os na allwch gael ateb dros y ffôn, gallech roi cynnig ar e-bostio, ysgrifennu llythyr neu ffonio prif rif ffôn eich hen weithle. Gallech roi cynnig ar siarad â'r adran adnoddau dynol neu gyflogres, os oes adran o'r fath yn bodoli.

Gofynnwch iddyn nhw esbonio unrhyw beth nad ydych chi'n ei ddeall ar eich slip cyflog, neu pam nad ydych wedi cael eich talu.

Os nad ydych yn cytuno ag esboniad eich cyflogwr, esboniwch beth yw'r swm cywir yn eich barn chi a gofynnwch iddo dalu'r arian sy'n ddyledus i chi cyn gynted â phosibl.

Problemau cyffredin 

Rydych wedi gweithio mwy o oriau na'r hyn rydych wedi cael eich talu amdanynt

Os ydych yn cael eich talu fesul awr, gofynnwch a ydych wedi cael eich talu am nifer yr oriau rydych wedi gweithio yn ystod y cyfnod amser y mae eich slip cyflog yn berthnasol iddo.

Camau nesaf

Os ydych wedi cael eich talu am y nifer anghywir o oriau, gofynnwch am dystiolaeth o'ch oriau gwaith. Gallech ddefnyddio eitemau fel:

  • copïau o hen rotâu
  • cofnodion oriau gwaith
  • negeseuon e-bost gan eich cyflogwr yn cadarnhau eich sifftiau

Bydd hyn yn eich helpu i herio eich cyn-gyflogwr i gael yr arian sy'n ddyledus i chi.

Mae tâl gwyliau yn ddyledus i chi o hyd

Os ydych yn gadael yn ystod y flwyddyn, mae'n bosibl na fyddwch wedi cymryd yr holl wyliau y mae gennych hawl iddynt. 

Mae'n rhaid i'ch cyflogwr eich talu am unrhyw wyliau y mae gennych hawl gyfreithiol iddynt ond nad ydych wedi'u cymryd. Gelwir hyn yn dâl yn lle gwyliau. Gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell hawliau gwyliau ar wefan GOV.UK i gyfrifo faint o wyliau y mae gennych hawl gyfreithiol iddynt.

Darllenwch eich contract cyflogaeth i weld a oes gennych hawl i fwy o wyliau, e.e. gallai ddweud rhywbeth fel "Eich hawl gwyliau blynyddol sylfaenol yw 20 diwrnod. Mae gennych hawl i 8 gŵyl banc â thâl hefyd.”

Dylai eich contract ddweud beth sy'n digwydd i unrhyw wyliau contractiol rydych wedi'u cronni ond nad ydych wedi'u cymryd. Nid oes gennych hawl i dderbyn tâl am y gwyliau oni bai bod eich contract yn nodi hynny. Os nad yw'n dweud unrhyw beth, mae'n annhebygol y byddwch yn cael eich talu. Gallech ofyn i'ch cyflogwr a allwch gymryd y gwyliau fel diwrnodau i ffwrdd yn ystod eich cyfnod rhybudd.

Camau nesaf

Os oes tâl gwyliau yn ddyledus i chi o hyd, dylech gasglu unrhyw dystiolaeth a fydd yn cefnogi'r hyn rydych yn ei ddweud. Gallech ddefnyddio: 

  • copi wedi'i argraffu o ganlyniadau'r gyfrifiannell hawliau gwyliau
  • copi o'ch contract yn nodi faint o wyliau y mae gennych hawl iddynt
  • rhestr yn dangos y gwyliau rydych eisoes wedi'u cymryd

Bydd hyn yn eich helpu i herio eich cyflogwr i gael yr arian sy'n ddyledus i chi.

Nid ydych wedi derbyn tâl dileu swydd

Os yw eich swydd wedi cael ei dileu, bydd gennych hawl i dâl dileu swydd fel arfer os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd. Gallwch holi am eich hawl i dâl dileu swydd a beth i'w wneud os nad ydych yn ei dderbyn.

Mae eich cyflogwr wedi didynnu arian o'ch cyflog

Os oes angen i chi ad-dalu arian i'ch cyflogwr, nid yw'n gallu cymryd yr arian o'ch cyflog terfynol fel arfer oni bai bod eich contract yn nodi bod modd gwneud hynny. Gallai hyn gynnwys arian y mae angen i chi ei ad-dalu oherwydd:

  • gwyliau rydych wedi'u cymryd ond nad oedd gennych hawl iddynt – gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell hawliau gwyliau ar wefan GOV.UK i weld a yw hyn yn berthnasol i chi
  • tâl mamolaeth contractiol, os na wnaethoch ddychwelyd i'r gwaith ar ôl derbyn tâl mamolaeth ychwanegol
  • ffioedd ar gyfer cyrsiau y talodd eich cyflogwr amdanynt
  • benthyciadau gan eich cyflogwr

Ni all eich cyflogwr gymryd arian heb gytundeb yn eich contract ac eithrio ar gyfer unrhyw ordaliad cyflog blaenorol.

Camau nesaf

Darllenwch eich contract i weld beth mae'n ei ddweud am ad-dalu eich cyn-gyflogwr. Os nad yw'n dweud bod eich cyflogwr yn gallu didynnu arian o'ch cyflog, nid oes ganddo hawl i wneud hynny.

Os ydych chi'n meddwl bod eich cyflogwr wedi didynnu arian yn anghywir, gallwch gymryd camau i'w gael yn ôl.

Nid ydych wedi derbyn tâl salwch

Mae'n gallu bod yn gymhleth cyfrifo faint o arian y dylech fod wedi'i dderbyn os oeddech yn absennol oherwydd salwch yn ystod eich cyfnod rhybudd. Mae'n syniad da gofyn i'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gyngor.

Nid ydych wedi derbyn tâl mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir

Os oeddech yn gymwys ar gyfer unrhyw fath o dâl absenoldeb rhiant statudol ar y dyddiad y daeth eich swydd i ben, dylech ei gael hyd yn oed os ydych yn gadael eich swydd. Dylai eich cyflogwr barhau i'w dalu hyd at y cyfnod pan nad ydych yn gymwys amdano. Ni fydd yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Er enghraifft, os oeddech yn gweithio i'ch cyflogwr am 26 wythnos cyn eich wythnos gymhwyso, mae gennych hawl i 39 wythnos o dâl mamolaeth statudol, hyd yn oed os ydych yn gadael eich swydd. Dylai eich cyflogwr ei dalu i chi o hyd, hyd yn oed os ydych yn ymddiswyddo cyn i'ch SMP ddechrau.

Os yw eich cyflogwr yn rhoi mwy o dâl mamolaeth i chi yn ychwanegol at eich hawl statudol, darllenwch eich contract. Mae'n bosibl y bydd yn dweud bod angen i chi ad-dalu rhywfaint ohono os na fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith. Nid oes modd gofyn i chi ad-dalu unrhyw beth ac eithrio arian ychwanegol a gawsoch ar ben eich cyflog statudol.

Gallwch gadarnhau a oes gennych hawl i dâl rhiant statudol a darllen eich opsiynau pan ddaw cyfnod eich absenoldeb mamolaeth i ben.

Mae busnes eich cyflogwr wedi darfod

Mae'n gallu bod yn anodd derbyn arian sy'n ddyledus i chi os yw busnes eich cyflogwr yn darfod. Mae eich opsiynau'n dibynnu ar sut mae busnes eich cyflogwr wedi darfod.

Os yw eich cyflogwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu, gallwch gymryd camau i adennill rhywfaint o'r arian sy'n ddyledus i chi.

Os yw busnes eich cyflogwr wedi darfod (cyfeirir at hyn fel methdaliad, mynd i ddwylo'r gweinyddwyr neu ddiddymiad), gallwch hawlio rhywfaint o'r arian gan y llywodraeth. Mae'n bosibl na fyddwch yn derbyn yr holl arian yn ôl - mae terfyn ar faint y gallwch ei hawlio.

Gallai'r unigolyn sy'n gyfrifol am roi trefn ar ddyledion y busnes gysylltu â chi. Teitl yr unigolyn hwn yw 'ymarferydd ansolfedd'. Bydd yn rhoi cymorth i chi hawlio arian gan y llywodraeth ac yn ychwanegu eich enw at y rhestr o bobl y mae'r busnes mewn dyled iddynt. Fodd bynnag, mae'n bosibl na fyddwch yn derbyn yr holl arian sy'n ddyledus i chi.

Ewch i wefan GOV.UK i weld pa gamau sydd angen eu cymryd i hawlio arian sy'n ddyledus i chi gan eich cyflogwr.

Os yw siarad â'ch cyflogwr yn methu dwyn ffrwyth

Os nad ydych wedi gadael eich swydd eto, gallech wneud cwyn. Dyma ffordd o godi problem yn ffurfiol yn y gwaith - ni all eich cyflogwr anwybyddu hyn.

Dylech gadarnhau a oes gan eich cyflogwr weithdrefn gwyno i'w dilyn - efallai y byddwch yn dod o hyd i fanylion yn eich llawlyfr staff neu ar y fewnrwyd.

Os nad oes gan eich cyflogwr weithdrefn gwyno neu os ydych eisoes wedi gadael eich swydd, gallech roi cynnig ar ysgrifennu llythyr ato.

Dylai'r llythyr gynnwys:

  • y dyddiad y gwnaethoch adael
  • faint rydych chi'n meddwl sy'n ddyledus i chi a sut rydych chi wedi'i gyfrifo
  • pan fyddwch yn disgwyl cael eich talu
  • copïau o unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'ch dadl

Efallai y bydd moddi i chi dderbyn cymorth gan undeb llafur neu sefydliad arall. Gallent drafod ar eich rhan neu fynychu cyfarfodydd gyda chi. Gallai hyn roi mwy o obaith i chi lwyddo.

Gallwch ddarllen mwy am wneud cwyn.

Os na allwch gysylltu â'ch cyn-gyflogwr

Os yw eich cyflogwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu neu wedi symud, gallwch roi cynnig ar y dulliau hyn i ddod o hyd iddo:

Gofyn i Acas am gymorth a chymodi cynnar

Os nad yw ysgrifennu at eich cyflogwr yn datrys y broblem, gallwch gysylltu ag Acas. Mae'n darparu cymorth annibynnol am ddim ar gyfer anghydfodau cyflogaeth.

Cysylltwch ag Acas cyn gynted ag y bo modd - y dyddiad cau yw 3 mis namyn diwrnod pan y dylai eich cyflogwr fod wedi'ch talu.

Bydd Acas yn gofyn i'ch cyflogwr gytuno i broses a elwir yn cymodi cynnar - mae hyn yn golygu y bydd yn rhoi cymorth i chi siarad â'ch cyn-gyflogwr a cheisio datrys yr anghydfod yn anffurfiol.

Mae gwefan Acas yn cynnwys gwybodaeth am wneud cais am broses cymodi cynnar a gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r broses cymodi cynnar.

 Cymryd camau cyfreithiol

Os nad ydych yn dod i gytundeb drwy broses cymodi cynnar Acas, gallwch wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth. Mae angen i chi roi cynnig ar y broses cymodi cynnar cyn cyflwyno hawliad i dribiwnlys. Bydd Acas yn rhoi'r dystysgrif sydd ei hangen arnoch cyn y gallwch gyflwyno hawliad tribiwnlys.

Os oes mwy na mis wedi mynd heibio ers y dyddiad ar dystysgrif Acas, mae'n bosibl y byddwch yn rhy hwyr ar gyfer hawliad tribiwnlys - ond efallai y gallech erlyn eich cyflogwr yn y llysoedd.

Dylech ofyn i'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gyngor yn ymwneud â'ch opsiynau.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.