Delio â chamau disgyblu yn y gwaith

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os oes gan eich cyflogwr bryderon neu gŵyn am eich gwaith, efallai y bydd yn penderfynu cymryd camau disgyblu yn eich erbyn.

Mae nifer o resymau pam y gallai eich cyflogwr benderfynu cymryd camau disgyblu yn eich erbyn. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • eich ymddygiad yn y gwaith

  • eich absenoldeb o'r gwaith

  • safon eich gwaith

Dylai eich cyflogwr ymchwilio i'r hyn sydd wedi digwydd cyn dechrau cymryd camau disgyblu yn eich erbyn. Gallai hyn gynnwys gofyn i chi ddod i gyfarfod.

Dylai eich cyflogwr ysgrifennu atoch os yw’n dechrau cymryd camau disgyblu - os nad yw wedi gwneud hynny, mae’n bosibl mai dim ond ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd y mae.

Datrys y broblem yn anffurfiol

Mae’n bosibl mai’r tro cyntaf y byddwch chi’n ymwybodol o broblem gyda'ch cyflogwr yw pan fydd yn gofyn am gael siarad â chi am bryder sydd ganddo. 

Yn aml, mae'n well cadw'r sgwrs hon yn anffurfiol i ddechrau oherwydd gallai fod o ganlyniad i gamddealltwriaeth. Efallai y byddwch chi’n gallu rhoi tystiolaeth a fydd yn helpu i egluro pethau - er enghraifft, nodyn gan y meddyg. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o'r sgwrs a’r hyn y cytunwyd arno.

Efallai na fydd yn bosibl i'ch cyflogwr ddatrys ei bryderon yn anffurfiol ac fe all ddechrau gweithdrefnau disgyblu ffurfiol. Mewn rhai achosion, gallech chi gael eich diswyddo.

Os bydd eich cyflogwr yn penderfynu cymryd camau disgyblu yn eich erbyn

Dylai eich cyflogwr ddilyn proses ysgrifenedig sy'n egluro'r safonau tegwch y bydd yn eu dilyn wrth gymryd y camau disgyblu. 

Efallai y bydd yn defnyddio Cod Ymarfer Acas, neu efallai fod ganddo ei weithdrefn ei hun, a ddylai fod yn debyg.

Mae'n syniad da gwneud nodyn o beth yn union sy’n digwydd, a phryd.

Y camau y dylai eich cyflogwr eu cymryd

Dylai camau cyntaf eich cyflogwr fod i ymchwilio i'r hyn sydd wedi digwydd. Nid oes gennych hawl i ddod â rhywun gyda chi i gyfarfod os mai dim ond ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd y mae eich cyflogwr.

Dylai eich cyflogwr ysgrifennu atoch os yw’n dymuno cymryd camau disgyblu ar ôl cwblhau ei ymchwiliad.

Pan fydd yn ysgrifennu atoch, dylai wneud y canlynol:

  • esbonio beth mae'n feddwl rydych chi wedi'i wneud o'i le - dylai fod digon o fanylion i chi allu paratoi eich ymateb  

  • dweud wrthych mai'r cam nesaf fydd cyfarfod i drafod y broblem - dylai hefyd roi gwybod i chi pryd a ble y bydd yn cael ei gynnal

  • dweud wrthych fod gennych chi hawl i ddod â rhywun gyda chi i’r cyfarfod - gallai fod yn gydweithiwr o’r gwaith neu gynrychiolydd undeb llafur

Ni ddylai eich cyflogwr gymryd unrhyw gamau disgyblu cyn y cyfarfod. 

Dylai eich cyflogwr roi cyfle i chi gyflwyno'ch achos yn ystod y cyfarfod. 

Ar ôl y cyfarfod, dylai eich cyflogwr ddweud wrthych beth mae wedi’i benderfynu - dylai wneud hynny’n ysgrifenedig.

Gallwch chi ddarllen am sut mae paratoi ar gyfer cyfarfod disgyblu.

Os nad ydych chi’n cytuno â phenderfyniad eich cyflogwr

Dylai eich cyflogwr roi cyfle i chi apelio yn erbyn ei benderfyniad.

Nid oes yn rhaid i chi apelio, ond mae’n werth gwneud hynny os gallech chi benderfynu mynd i dribiwnlys cyflogaeth yn ddiweddarach. Os byddwch chi’n ennill eich achos, gallai'r tribiwnlys leihau eich iawndal os na wnaethoch chi apelio i'ch cyflogwr yn gyntaf.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon â phenderfyniad eich cyflogwr, efallai y byddwch chi’n dymuno gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Os nad yw eich cyflogwr yn dilyn y camau

Efallai y byddwch chi’n penderfynu gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth. Os byddwch yn ennill eich achos, gallai swm yr iawndal y mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei dalu i chi fod yn fwy nag y byddai wedi bod pe bai wedi dilyn cod ymarfer ACAS.

Os bydd yn eich diswyddo, efallai y byddwch chi’n gallu herio eich diswyddiad am nad oedd wedi dilyn cod ymddygiad Acas.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 22 Chwefror 2021