Pwy sy’n cael dod gyda chi i gyfarfod disgyblu
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gallwch chi ddod â rhywun gyda chi i gyfarfod disgyblu. Mae hwn yn gyfarfod a all arwain at gamau disgyblu. Mae mynd â rhywun gyda chi yn cael ei alw’n ‘hawl i gael rhywun gyda chi’.
Gallai camau disgyblu gynnwys:
rhybudd cyntaf neu rybudd terfynol
gwaharddiad heb dâl
israddio
diswyddo
Dim ond rhai pobl sy'n dod gyda chi y mae'n rhaid i'ch cyflogwr eu caniatáu.
Pan nad ydych chi’n gallu dod â rhywun gyda chi
Does gennych chi ddim hawl i gael rhywun gyda chi i wneud y canlynol:
sgwrs anffurfiol gyda'ch cyflogwr
cyfarfod cychwynnol lle bydd eich cyflogwr yn ceisio cael gwybod beth ddigwyddodd
Er nad oes gennych hawl gyfreithiol i gael rhywun gyda chi, gallwch chi ofyn i'ch cyflogwr adael i chi ddod â rhywun gyda chi - ond does dim rhaid iddyn nhw gytuno i hynny.
Pwy sy’n cael dod gyda chi
Os bydd gofyn i chi fynd i gyfarfod disgyblu, mae gennych chi hawl i gael y canlynol gyda chi:
cyd-weithiwr
cynrychiolydd undeb llafur
swyddog sy’n cael ei gyflogi gan undeb llafur
Fel arfer, does gennych chi ddim hawl i ddod â neb arall gyda chi. Gallwch chi ofyn i'ch cyflogwr a gaiff rhywun arall ddod gyda chi, ond does dim rhaid iddo gytuno i hyn. Efallai fod ganddyn nhw bolisi o ganiatáu i ystod ehangach o bobl ddod gyda chi.
Eich ‘cydymaith’ yw enw’r person sy’n dod gyda chi.
Dylech chi hefyd edrych ar eich contract a gweithdrefnau eich cyflogwr o ran cyfarfodydd disgyblu, gan fod y rhain yn dweud pwy y cewch chi ddod gyda chi.
Os ydych chi'n anabl
Rhaid i'ch cyflogwr wneud addasiadau rhesymol ar gyfer eich anabledd. Gallai fod yn addasiad rhesymol i'ch cyflogwr ganiatáu i rywun arall ddod gyda chi, fel eich gofalwr.
Os nad ydych chi’n aelod o undeb llafur
Does dim rhaid i chi fod yn aelod o undeb llafur. Gallwch chi ofyn i swyddog o unrhyw undeb llafur ddod gyda chi. Does dim rhaid i'ch cyflogwr gydnabod yr undeb.
Os ydych chi eisiau i rywun ddod gyda chi
Rhaid i chi ofyn i'ch cyflogwr. Mae'n well gwneud hyn ar bapur fel bod gennych chi gofnod bod y drefn ddisgyblu neu ddiswyddo wedi'i dilyn.
Does dim rhaid i'ch cyflogwr adael i rywun ddod gyda chi oni bai eich bod chi’n gofyn.
Beth mae eich cydymaith yn gallu ei wneud
Mae eich cydymaith yn gallu gwneud y canlynol:
cymryd nodiadau ar eich rhan
cyflwyno eich achos
crynhoi eich achos
trafod pethau gyda chi yn ystod y gwrandawiad
Dewis rhywun i ddod gyda chi
Mae’n syniad da i’ch cydymaith fod yn rhywun tawel, a fydd yn gwneud nodiadau da. Dylen nhw ddeall eu rôl a helpu i ddod o hyd i ateb adeiladol.
Does gan eich cyflogwr ddim hawl i ddweud pwy ddylai ddod gyda chi - chi biau'r dewis.
Os na fydd eich cydymaith yn gallu bod yn bresennol ar y dyddiad
Gallwch chi ofyn i’r gwrandawiad gael ei aildrefnu. Dylech chi awgrymu dyddiad ac amser sy'n 'rhesymol', sy'n golygu:
pan fydd pawb sy’n gysylltiedig fel arfer yn y gwaith ac ar gael
o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad yr oedd y cyfarfod i fod i gael ei gynnal yn wreiddiol
Os byddwch chi yn gwneud awgrym rhesymol, rhaid i'ch cyflogwr gytuno iddo.
Os na fydd eich cyflogwr yn gadael i rywun ddod gyda chi
Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod cais rhesymol i ddod â chydweithiwr, swyddog neu gynrychiolydd undeb llafur gyda chi, dylech chi nodi bod gennych hawl gyfreithiol i gael rhywun gyda chi.
Os nad ydych chi'n gallu cyflwyno eich achos neu os byddech chi'n ei chael hi'n anodd gwneud hynny oherwydd anabledd neu oherwydd problemau iaith, dylech chi ddadlau y byddai'n helpu eich cyflogwr hefyd i gael rhywun yno i'ch helpu.
Os bydd eich cyflogwr yn dal i wrthod, gallwch chi wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth. Os byddwch chi’n ennill, gall y tribiwnlys roi iawndal o hyd at bythefnos o gyflog i chi. Dim ond hyn a hyn o gyflog gallwch chi ei gael mewn wythnos - £719 yw hyn ar hyn o bryd.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 07 Tachwedd 2019