Gwneud cais i weithio’n hyblyg

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os nad ydych chi’n hapus gyda’ch oriau presennol, gallwch chi ofyn i’ch cyflogwr adael i chi weithio mewn ffordd sy’n addas ar gyfer eich anghenion. Gelwir hyn yn ‘gweithio’n hyblyg’.

Er enghraifft, gallai hyn olygu gweithio’n rhan-amser, gweithio gartref neu rannu swydd. 

Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y bydd gennych chi hawl gyfreithiol i ofyn am gael gweithio’n hyblyg. Gelwir hyn yn ‘gais statudol’.

Os byddwch yn gwneud cais statudol, rhaid i’ch cyflogwr gytuno i:

  • ystyried y cais

  • rhoi ateb i chi o fewn 2 fis

  • rhoi rheswm i chi os yw’n gwrthod y cais

Hyd yn oed os na allwch chi wneud cais statudol, gallwch chi ofyn am gael gweithio’n hyblyg o hyd. Gelwir hyn yn ‘gais anffurfiol’. Nid oes rhaid i’ch cyflogwr ystyried cais anffurfiol gennych chi - ond fel arfer bydd yn gwneud hynny.

Mae’n werth edrych ar eich contract cyflogi. Efallai y bydd yn rhoi hawliau ychwanegol i chi ofyn am weithio’n hyblyg.

Gweld a oes modd i chi wneud cais statudol

Os ydych chi’n gyflogai, gallwch chi wneud 2 gais statudol o fewn cyfnod o 12 mis.

Efallai eich bod chi’n gyflogai hyd yn oed os yw eich cyflogwr neu eich contract yn dweud eich bod chi’n hunangyflogedig. Mae’n bosibl nad ydych chi’n gyflogai os ydych chi, er enghraifft, yn gweithio i asiantaeth neu os nad oes sicrwydd eich bod yn mynd i gael unrhyw waith.

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n gyflogai, edrychwch ar eich statws cyflogaeth.

Os ydych chi yn y lluoedd arfog

Ceir rheolau gwahanol a elwir yn rheolau ‘Gwasanaeth Hyblyg’. Ewch i weld y rheolau am Wasanaeth Hyblyg yn y lluoedd arfog ar GOV.UK.

Os ydych chi’n gweithio i’r GIG

Mae gan y GIG ei reolau ei hun ynghylch gweithio’n hyblyg. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth drwy edrych yn eich llawlyfr cyflogaeth neu drwy ofyn i’ch cyflogwr.

Penderfynu beth i ofyn amdano

Gallwch chi ofyn am newid parhaol neu newid dros dro i’ch ffordd o weithio.

Gallwch chi ofyn am wahanol fathau o weithio’n hyblyg, er enghraifft: 

  • gweithio gartref

  • gweithio eich oriau arferol dros lai o ddiwrnodau - gelwir hyn yn ‘oriau cywasgedig’

  • gweithio oriau ‘craidd’, ond amrywio eich amser dechrau a’ch amser gorffen – gelwir hyn yn ‘oriau hyblyg’

  • gweithio nifer penodol o oriau ar draws y flwyddyn yn hytrach na phob wythnos – gelwir hyn yn ‘oriau blynyddol’

  • dechrau a gorffen ar wahanol adegau i’ch cydweithwyr – gelwir hyn yn ‘oriau cyfnodol’

Meddyliwch pa drefniant gweithio’n hyblyg fyddai’n gweithio orau i chi a’ch cyflogwr. Er enghraifft, os yw eich rôl yn golygu ei bod yn bwysig i chi fod mewn lle penodol megis swyddfa neu warws, mae’n debyg na fyddwch chi’n gallu gweithio gartref.

Mae’n bwysig meddwl yn ofalus cyn i chi ofyn am gael gweithio’n hyblyg. Os byddwch yn gwneud cais statudol, ni allwch chi wneud un arall am flwyddyn.

Cynllunio sut i ddwyn perswâd ar eich cyflogwr

Mae eich cyflogwr yn fwy tebygol o dderbyn eich cais os gallwch chi ddangos na fydd eich trefniant yn niweidio ei fusnes. 

Meddyliwch am unrhyw broblemau posibl y gallai eich patrwm gweithio eu hachosi a dewch o hyd i atebion cyn i chi siarad â’ch cyflogwr.

Er enghraifft, os ydych chi’n dymuno gweithio’n rhan-amser, efallai y bydd eich cyflogwr yn poeni na fyddwch chi o gwmpas ar ddiwrnodau penodol. I ddatrys hyn, gallech chi wneud yn siŵr bod cydweithiwr yn gallu delio â gwaith brys ar eich rhan pan na fyddwch chi’n gweithio. 

Efallai y byddwch hefyd am gael opsiwn wrth gefn rhag ofn bod eich cyflogwr yn poeni am eich dewis cyntaf o batrwm gweithio. 

Os yw eich cyflogwr yn ansicr, gallech chi awgrymu cyfnod prawf. 

Os ydych chi o’r farn y bydd eich trefniant newydd o fudd i’ch cyflogwr, dylech chi grybwyll hynny hefyd. Er enghraifft, gallech chi egluro y bydd amseroedd dechrau hyblyg yn gwneud gofal plant yn haws - a bydd hyn eich gwneud chi deimlo’n llai dan straen ac yn fwy cynhyrchiol.

Gwneud cais i weithio’n hyblyg

Mae’r hyn y dylech ei wneud yn dibynnu ar a ydych chi’n gwneud cais statudol neu gais anffurfiol.

Os ydych chi’n gwneud cais statudol

Meddyliwch am yr amser gorau i wneud cais. Er enghraifft, os ydych chi’n dod yn ôl ar ôl cyfnod o absenoldeb mamolaeth, dylech ystyried gwneud cais 2 fis cyn i chi fynd yn ôl i’r gwaith. Mae hyn yn golygu y bydd eich cyflogwr wedi gwneud penderfyniad erbyn yr amser y disgwylir i chi ddychwelyd i’r gwaith.

Rhaid i chi wneud cais yn ysgrifenedig. Yn eich cais, rhaid i chi:

  • nodi ei fod yn gais statudol am weithio’n hyblyg

  • cynnwys y dyddiad rydych chi’n gwneud y cais

  • nodi os ydych chi wedi gwneud cais am weithio’n hyblyg o’r blaen a phryd wnaethoch chi hynny

  • esbonio’r trefniant gweithio yr hoffech ei gael a’r dyddiad yr hoffech iddo ddechrau

Mae’n syniad da disgrifio’r effaith y byddai eich patrwm gweithio newydd yn ei chael ar eich cydweithwyr a sut byddech chi’n delio ag unrhyw newidiadau.

Gallwch chi hefyd nodi’r rheswm eich bod yn gofyn am gael gweithio’n hyblyg - er enghraifft, os oes angen yr hyblygrwydd arnoch er mwyn gofalu am rywun.

Ar gyfer ceisiadau statudol, gallwch chi ddefnyddio’r llythyr templed cais i weithio’n hyblyg ar GOV.UK. Gallwch chi anfon y llythyr at eich cyflogwr drwy e-bost neu drwy’r post.

Os ydych chi’n gwneud cais anffurfiol

Edrychwch ar eich contract cyflogaeth - efallai fod ganddo reolau ynghylch sut i ofyn am gael gweithio’n hyblyg. Os nad oes ganddo, does dim rheolau y mae’n rhaid i chi eu dilyn.

Mae’n syniad da i wneud cais yn ysgrifenedig. Dylech esbonio’r trefniant gweithio yr hoffech ei gael a’r dyddiad yr hoffech iddo ddechrau.

Gallwch chi hefyd nodi’r rheswm eich bod yn gofyn am gael gweithio’n hyblyg - er enghraifft, os oes angen yr hyblygrwydd arnoch er mwyn gofalu am rywun.

Gweld beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais

Os byddwch yn gwneud cais statudol, rhaid i’ch cyflogwr gwneud y canlynol:

  • gwneud penderfyniad o fewn 2 fis i ddyddiad eich llythyr – oni bai eich bod yn cytuno i ymestyn y terfyn amser

  • delio â’ch cais mewn ffordd resymol - mae hyn yn golygu y dylai eich cyflogwr ystyried eich cais yn ofalus a’i drafod gyda chi os yw’n briodol

Os byddwch yn gwneud cais anffurfiol, does dim dyddiad cau a does dim rheolau ynghylch sut mae eich cyflogwr yn delio â’ch cais.

Rhaid i’ch cyflogwyr ymgynghori â chi os yw’n mynd i wrthod eich cais. Mae hyn fel arfer yn golygu y bydd yn eich gwahodd i gyfarfod i drafod eich cais. Meddyliwch pa bryderon y gall eich cyflogwr eu codi a sut y gallwch chi ateb y pryderon hynny. Mae hefyd yn werth meddwl a oes unrhyw drefniadau gweithio eraill a allai weithio i chi. 

Os bydd eich cyflogwr yn cytuno i’ch cais, rhaid iddo roi’r newidiadau yn eich contract.

Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod eich cais

Ewch i weld beth allwch chi ei wneud os bydd eich cyflogwr yn gwrthod eich cais i weithio’n hyblyg.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.