Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod eich cais i weithio’n hyblyg
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Dylai eich cyflogwr ysgrifennu atoch chi i esbonio pam eu bod wedi gwrthod eich cais. Dylen nhw hefyd roi gwybod i chi am eu proses apelio os oes ganddyn nhw un.
Mae'n well defnyddio proses apelio eich cyflogwr os gallwch chi. Os nad oes gan eich cyflogwr broses apelio, gallwch chi wneud cwyn neu gallwch chi ofyn iddyn nhw adolygu eu penderfyniad. Gweld sut i wneud cwyn.
Os na fydd eich cyflogwr yn newid eu penderfyniad, efallai y byddwch chi’n gallu mynd â’ch cyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth.
Bydd yn rhaid i chi weithio eich oriau arferol nes bydd y sefyllfa wedi'i datrys - os na fyddwch chi’n gwneud hynny, gallai eich cyflogwr ei ddefnyddio fel rheswm i'ch diswyddo.
Gweld a allwch chi ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth
Fe gewch chi wneud cais am ddim i'r tribiwnlys cyflogaeth, ond mae’r broses yn gallu bod yn eithaf hir ac mae’n gallu peri cryn straen - dylech chi ystyried hyn yn ofalus cyn dechrau.
Mae eich hawliau yn y tribiwnlys cyflogaeth yn dibynnu ar a oedd eich cais i weithio'n hyblyg yn 'gais statudol' neu'n 'gais anffurfiol'. Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o gais wnaethoch chi, edrychwr ar y rheolau ynglŷn â gwneud cais i weithio’n hyblyg.
Os gwrthododd eich cyflogwr gais statudol, gallwch fynd â nhw i'r tribiwnlys cyflogaeth:
os na wnaethon nhw wneud penderfyniad terfynol am eich cais o fewn 2 fis – oni bai eich bod chi wedi cytuno i ddyddiad diweddarach
os na wnaethon nhw ddelio â’ch cais mewn ffordd resymol
os na wnaethon nhw roi rheswm dilys dros wrthod eich cais
os gwnaethon nhw wahaniaethu yn eich erbyn drwy wrthod eich cais
Os gwnaeth eich cyflogwr wrthod cais anffurfiol, dim ond os ydyn nhw wedi gwahaniaethu yn eich erbyn chi y cewch fynd â nhw i'r tribiwnlys cyflogaeth.
Gweld beth yw’r terfyn amser ar gyfer y tribiwnlys cyflogaeth
Mae gennych 3 mis namyn 1 diwrnod i ddechrau’r broses o ddwyn achos gerbron y tribiwnlys.
Os ydych chi’n bwriadu herio eich cyflogwr am wahaniaethu yn eich erbyn, bydd y terfyn amser yn dechrau ar unwaith.
Os ydych chi’n bwriadu herio penderfyniad am gais statudol am reswm gwahanol, bydd y terfyn amser yn dechrau pan fydd eich cyflogwr wedi gwneud y penderfyniad terfynol. Os oes gan eich cyflogwr broses apelio a'ch bod chi wedi'i defnyddio, y penderfyniad terfynol yw'r penderfyniad am yr apêl.
Os na fydd eich cyflogwr wedi gwneud eu penderfyniad terfynol mewn pryd, bydd y terfyn amser yn dechrau ar y dyddiad cau. Y dyddiad cau yw 2 fis ar ôl i chi wneud y cais gwreiddiol – oni bai eich bod chi wedi cytuno i ddyddiad diweddarach.
Gweld o oedd eich cyflogwr wedi gwneud y penderfyniad terfynol mewn pryd
Rhaid i'ch cyflogwr wneud y penderfyniad terfynol o fewn 2 fis i'ch cais - oni bai eich bod chi a'ch cyflogwr yn cytuno i ddyddiad diweddarach. Os yw eich cyflogwr yn cynnig proses apelio a’ch bod chi wedi'i defnyddio, y penderfyniad terfynol yw'r penderfyniad am yr apêl.
Gweld a wnaeth eich cyflogwr ddelio â'ch cais mewn ffordd resymol
Bydd y tribiwnlys cyflogaeth yn edrych ar yr holl amgylchiadau er mwyn penderfynu a wnaeth eich cyflogwr ddelio â'ch cais mewn ffordd resymol. Dylai eich cyflogwr fod wedi ystyried eich cais yn ofalus ac wedi’i drafod gyda chi os oedd hynny’n briodol.
I gael rhagor o wybodaeth am beth sy'n cyfrif fel ffordd resymol o ddelio â’ch cais - edrychwch ar y Cod Ymarfer ar gyfer ceisiadau i weithio’n hyblyg ar wefan Acas.
Gweld a wnaeth eich cyflogwr roi rheswm dilys i chi dros wrthod
Rhaid i'ch cyflogwr roi un o'r rhesymau canlynol i chi dros wrthod eich cais:
byddai'n niweidio eich perfformiad yn y swydd - neu berfformiad eich cydweithwyr
byddai'n costio arian i'r busnes
byddai'n lleihau ansawdd neu safonau
byddai eich cyflogwr yn ei chael yn anodd bodloni gofynion cwsmeriaid
byddai eich cyflogwr yn cael trafferth cyflogi staff ychwanegol i wneud eich gwaith
byddai eich cyflogwr yn ei chael yn anodd ad - drefnu gwaith ymysg eich cydweithwyr
does dim digon o waith i'w wneud ar yr adegau rydych chi eisiau gweithio
mae eich cyflogwr yn cynllunio newidiadau i strwythur y busnes ac ni fyddai eich cais yn cyd-fynd â'r newidiadau
Os na roddodd eich cyflogwr un o'r rhesymau hyn i chi, gallwch chi fynd â nhw i'r tribiwnlys cyflogaeth.
Gallwch chi hefyd fynd â'ch cyflogwr i'r tribiwnlys os gallwch chi ddangos nad yw eu rheswm yn un dilys. Mae hyn yn gallu bod yn anodd ei brofi.
Gweld a wnaeth eich cyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn chi
Efallai fod eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn chi os gwnaethon nhw wrthod eich cais am resymau sy'n gysylltiedig â phwy ydych chi, er enghraifft oherwydd eich bod chi’n fenyw neu'n anabl.
Gallai hefyd fod yn wahaniaethu os oes ganddyn nhw bolisi o wrthod gweithio hyblyg i bawb, ond bod hyn yn cael mwy o effaith arnoch chi oherwydd pwy ydych chi.
Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu dangos gwahaniaethu:
os oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu neu ofal plant
os ydych chi'n anabl ac yn gofyn am addasiadau rhesymol
Os ydych chi’n credu fod eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn chi drwy wrthod eich cais, gallwch chi ddwyn achos o wahaniaethu.
Gweld a yw eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn chi.
Os bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo neu'n eich trin chi’n annheg oherwydd cais
Os bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo am eich bod chi wedi gwneud cais statudol i weithio'n hyblyg, mae hyn yn ddiswyddiad annheg awtomatig. Does dim gwahaniaeth am ba mor hir rydych chi wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr. Gweld sut mae herio eich diswyddiad.
Os bydd eich cyflogwr yn eich trin chi’n annheg am eich bod chi wedi gwneud cais statudol i weithio'n hyblyg, mae hyn yn cael ei alw’n 'achosi anfantais i chi'. Gweld beth allwch chi ei wneud os bydd eich cyflogwr yn achosi anfantais i chi.
Dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.