Delio â chwynion cyflogaeth yn y gwaith

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os oes gennych chi bryder, problem neu gŵyn yn y gwaith, efallai yr hoffech chi drafod hyn gyda'ch cyflogwr. Caiff hyn ei alw’n ‘codi cwyn cyflogaeth’.

Efallai yr hoffech chi godi cwyn cyflogaeth am bethau fel:

  • pethau y gofynnir i chi eu gwneud fel rhan o'ch swydd

  • telerau ac amodau eich contract cyflogaeth - er enghraifft, eich cyflog

  • y ffordd rydych chi'n cael eich trin yn y gwaith - er enghraifft, os na chewch chi ddyrchafiad pan fyddwch chi'n meddwl y dylech chi gael un

  • bwlio

  • gwahaniaethu yn y gwaith - er enghraifft, efallai eich bod chi'n meddwl bod eich cydweithwyr yn eich aflonyddu oherwydd eich hil, oedran, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol

Efallai y bydd modd datrys eich cwyn drwy siarad â'ch cyflogwr yn anffurfiol.

Cyn codi cwyn cyflogaeth

Yn aml, y ffordd orau o ddatrys problem gyda'ch cyflogwr yw siarad â nhw'n anffurfiol.

Dylech ofyn am gyfarfod â'ch rheolwr uniongyrchol i esbonio'ch pryderon. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi awgrymu i'ch cyflogwr beth hoffech chi iddynt ei wneud i ddatrys y broblem. Os nad ydych chi'n teimlo y gallwch chi siarad â'ch rheolwr uniongyrchol, gallech chi siarad â rhywun arall yn y sefydliad sydd mewn swydd o awdurdod.

Lle bo'n bosib, dylech chi wastad ceisio datrys y broblem yn anffurfiol yn gyntaf cyn cymryd unrhyw gamau pellach. Os na allwch chi ddatrys eich cwyn fel hyn, efallai yr hoffech chi godi cwyn cyflogaeth ffurfiol.

Os byddwch chi'n cwyno i dribiwnlys cyflogaeth, gallai'r tribiwnlys leihau unrhyw iawndal y maen nhw'n ei ddyfarnu i chi os ydynt yn credu ei bod hi'n afresymol na wnaethoch chi godi cwyn cyflogaeth yn gyntaf.

Sut i godi cwyn cyflogaeth ffurfiol

Dylai eich cyflogwr gael gweithdrefn ffurfiol hefyd ar gyfer codi cwyn cyflogaeth. Dylech chi geisio ei dilyn lle bo modd. Dylech allu dod o hyd i fanylion gweithdrefn cwynion cyflogaeth eich cyflogwr yn Llawlyfr eich Cwmni neu eich llawlyfr AD neu Bersonél, ar safle’r fewnrwyd AD neu yn eich contract cyflogaeth.

Os nad oes gan eich cyflogwr weithdrefn ffurfiol, gallwch chi ddilyn Cod Ymarfer Acas.

Mae'r Cod Ymarfer yn nodi safonau tegwch ac ymddygiad rhesymol y disgwylir i gyflogwyr a gweithwyr eu dilyn yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd wrth ddelio ag anghydfod.

Os byddwch chi'n gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth, bydd angen i chi wneud eich hawliad o fewn terfyn amser caeth. Fel arfer, tri mis namyn diwrnod o'r dyddiad y digwyddodd y peth rydych chi'n cwyno amdano ddiwethaf.

Mae'r terfyn amser yn dal i fod yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi'n gwneud cwyn cyflogaeth. Mae hyn yn golygu bod angen i chi wneud yn siŵr nad ydych chi'n rhedeg allan o amser wrth fynd drwy'r weithdrefn gwyno.

Os byddwch chi'n gwneud cwyn cyflogaeth, mae wastad yn syniad da cadw nodyn o beth yn union sy'n digwydd a phryd.

Mae’r camau hyn yn seiliedig ar y canllawiau yng Nghod Ymarfer Acas.

Ysgrifennu at eich cyflogwr

Os nad ydych chi wedi gallu datrys eich problem drwy siarad yn uniongyrchol â'ch rheolwr, y peth nesaf i'w wneud yw ysgrifennu at eich cyflogwr. Rhowch fanylion eich problem, rhowch ddyddiad ar eich llythyr a chadwch gopi. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi ddweud wrth eich cyflogwr am unrhyw awgrymiadau sydd gennych i ddatrys y broblem.

Gallwch chi ddefnyddio ein:

Cwrdd â’ch cyflogwr

Dylai eich cyflogwr drefnu cyfarfod cychwynnol ar adeg a lle rhesymol i drafod eich cwyn cyflogaeth. Mae gennych hawl i ofyn i'ch cyflogwr a allwch chi ddod â chydweithiwr o'r gwaith neu gynrychiolydd undeb i'r cyfarfod.

Dylai eich cyflogwr roi’r cyfle i chi egluro eich cwyn cyflogaeth ac unrhyw awgrymiadau sydd gennych i’w datrys.

Ar ôl y cyfarfod, dylai eich cyflogwr ysgrifennu atoch chi, gan ddweud wrthych beth maen nhw wedi penderfynu ei wneud am eich cwyn cyflogaeth.

Apelio at eich cyflogwr

Os nad ydych chi’n cytuno â phenderfyniad eich cyflogwr, dylech chi ysgrifennu llythyr apelio atynt sy’n:

  • dweud eich bod yn apelio yn erbyn eu penderfyniad, ac

  • egluro pam nad ydych chi’n cytuno â’r penderfyniad.

Dylai eich cyflogwr drefnu cyfarfod pellach i drafod eich apêl. Lle bo’n bosib, dylai rheolwr gwahanol, o swydd uwch, ddelio â'r apêl hon. Mae gennych hawl i ofyn i'ch cyflogwr a allwch chi ddod â chydweithiwr o'r gwaith neu gynrychiolydd undeb gyda chi.

Ar ôl y cyfarfod apêl hwn, dylai'r cyflogwr ysgrifennu atoch chi i ddweud wrthych am ei benderfyniad terfynol.

Os ydych chi'n dal yn anhapus â phenderfyniad eich cyflogwr, efallai yr hoffech chi feddwl am ffyrdd eraill o ddatrys eich problemau gyda'ch cyflogwr.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y byddwch chi'n gallu defnyddio cyfryngu neu wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Defnyddio cyfryngu

Efallai y byddwch chi neu'ch cyflogwr eisiau ystyried cyfryngu fel ffordd o ddatrys y broblem. Mae cyfryngu yn gwbl wirfoddol a chyfrinachol. Mae'n cynnwys person annibynnol, diduedd yn eich helpu chi a'ch cyflogwr i ddod o hyd i ateb sy'n dderbyniol i bawb. Weithiau gall y cyfryngwr ddod o fewn eich sefydliad neu efallai y bydd eich cyflogwr eisiau ystyried defnyddio cyfryngwr allanol.

Nid yw gwasanaethau cyfryngu allanol am ddim, er, os ydych chi a'ch cyflogwr yn cytuno i gyfryngu, eich cyflogwr fydd yn talu fel arfer.

Gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar bopeth i ddatrys eich problemau yn y gwaith, a heb gyrraedd unman, efallai yr hoffech chi ystyried gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Nid oes rhaid i chi godi cwyn cyflogaeth ffurfiol cyn gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth. Serch hynny, os nad ydych chi’n codi cwyn cyflogaeth gyntaf, gall y tribiwnlys leihau swm unrhyw iawndal y maent yn ei ddyfarnu i chi, oni bai bod gennych chi reswm da.

Fel elusen, rydym yn ddibynnol ar eich cefnogaeth i helpu miliynau o bobl i ddatrys eu problemau bob blwyddyn. Rhowch arian os gallwch chi i'n helpu ni i barhau â'n gwaith. .

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 27 Medi 2019