Maternity leave - your options when it ends

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pan fyddwch chi'n gofyn am absenoldeb mamolaeth am y tro cyntaf, bydd eich cyflogwr yn rhoi dyddiad i chi ar gyfer dychwelyd i'r gwaith. Byddan nhw'n tybio y byddwch chi i ffwrdd am flwyddyn oni bai eich bod chi'n dweud wrthyn nhw eich bod eisiau dychwelyd i'r gwaith yn gynt.

Peidiwch â phoeni os byddwch chi'n newid eich meddwl ynglŷn â phryd i ddychwelyd i'r gwaith. Ysgrifennwch at eich cyflogwr gyda'ch dyddiadau newydd, a rhowch ddigon o amser iddynt:   

  • os ydych am ddod â'ch absenoldeb i ben yn gynt, dywedwch wrth eich cyflogwr o leiaf 8 wythnos cyn eich dyddiad gorffen newydd

  • os ydych am ddod â'ch absenoldeb i ben yn hwyrach, dywedwch wrth eich cyflogwr o leiaf 8 wythnos cyn eich hen ddyddiad gorffen

Os byddwch chi’n penderfynu peidio â dychwelyd i'r gwaith, bydd eich contract yn dweud wrthych faint o rybudd i'w roi – os nad oes dim yn eich contract, mae angen i chi roi o leiaf wythnos o rybudd.

Dychwelyd i'ch swydd

Mae gennych hawl i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl eich absenoldeb mamolaeth.

Rydych chi wedi bod ar absenoldeb mamolaeth am 26 wythnos neu lai

Mae gennych hawl i ddychwelyd i'r un swydd ar ôl absenoldeb mamolaeth os ydych chi wedi bod i ffwrdd am 26 wythnos neu lai. Rhaid i'ch cyflog a'ch amodau fod yr un fath ag y byddent wedi bod pe na byddech chi wedi mynd ar absenoldeb mamolaeth, neu’n well na hynny. 

Caiff ei ystyried yn ddiswyddo annheg ac yn wahaniaethu ar sail mamolaeth os yw'ch cyflogwr yn dweud na allwch ddychwelyd i'r un swydd. Gallwch gymryd camau i ddatrys diswyddiad annheg, gan ddechrau trwy siarad â'ch cyflogwr.

Rydych chi wedi bod ar absenoldeb mamolaeth am fwy na 26 wythnos 

Caiff ei ystyried yn ddiswyddo annheg ac yn wahaniaethu ar sail mamolaeth os nad yw'ch cyflogwr yn gadael i chi ddychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth, neu os ydynt yn cynnig swydd wahanol i chi heb reswm cryf. Ni allant gynnig swydd wahanol i chi:

  • os yw’ch swydd yn dal i fodoli – er enghraifft os ydyn nhw wedi'i rhoi i rywun arall

  • os byddai eich swydd yn dal i fodoli pe na byddech wedi mynd ar absenoldeb mamolaeth

  • os nad yw'r swydd newydd yn rhywbeth y gallech chi ei wneud

  • os oes gan y swydd newydd amodau neu gyflog gwaeth na'ch un chi – er enghraifft, os oeddech chi'n arfer gweithio'n rhan-amser, ac y byddai'r swydd newydd yn llawn amser yn unig

Gallwch gymryd camau i ddatrys diswyddiad annheg, gan ddechrau drwy siarad â’ch cyflogwr.

Mae gennych hawliau ychwanegol os cewch eich diswyddo ar absenoldeb mamolaeth. Ewch i weld a yw eich diswyddiad yn deg i wneud yn siŵr bod eich cyflogwr yn dilyn y rheolau.

Dychwelyd i'r gwaith yn rhan-amser neu gydag oriau hyblyg

Gallwch ofyn i'ch cyflogwr am weithio'n hyblyg unrhyw bryd. Gallai olygu newid eich dyddiau neu’ch oriau, gweithio o gartref neu newid o sifftiau i batrwm gwaith rheolaidd.

Fel arfer bydd y newidiadau hyn yn barhaol, felly penderfynwch ba newidiadau fydd orau i chi cyn i chi ofyn. Gallwch ofyn i'ch cyflogwr am gyfnod prawf i brofi'r newidiadau.

Pan fyddwch chi'n gofyn am weithio’n hyblyg nid oes rhaid i'ch cyflogwr ddweud iawn, ond dylent wneud y canlynol:

  • trefnu cyfarfod i drafod eich cais

  • rhoi penderfyniad i chi o fewn 3 mis

  • rhoi eu hateb i chi yn ysgrifenedig, gan gynnwys eu rhesymau os ydynt yn gwrthod

Ewch i weld beth allwch chi ei wneud os yw'ch cyflogwr yn dweud na allwch chi weithio'n hyblyg. Gallwch apelio os nad ydyn nhw'n dilyn y broses neu ddim yn rhoi rhesymau derbyniol.  

Ni ddylai eich cyflogwr eich diswyddo na'ch trin yn wael am ofyn am gael gweithio'n hyblyg. Er enghraifft, ni chaniateir iddynt ddefnyddio'ch cais fel esgus i roi dyrchafiad i rywun arall yn eich lle chi.

Ddim yn dychwelyd i'ch swydd

Os byddwch chi’n penderfynu peidio â mynd yn ôl i'ch swydd, bydd eich cytundeb yn dweud wrthych faint o rybudd sydd angen i chi ei roi i'ch cyflogwr. Os nad oes dim yn eich cytundeb, mae angen i chi roi o leiaf wythnos o rybudd.  

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich talu am unrhyw wyliau sydd gennych ar ôl – gan gynnwys yr amser a gronnwyd gennych tra oeddech ar absenoldeb mamolaeth.

Gweld a fyddai angen i chi ad-dalu unrhyw dâl mamolaeth

Os ydych chi'n cael tâl mamolaeth cytundebol, efallai mai dim ond os byddwch chi'n dychwelyd i'r gwaith y byddwch chi'n cadw'ch swm llawn.

Ni fydd angen i chi ad-dalu tâl mamolaeth statudol na Lwfans Mamolaeth, hyd yn oed os na fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith. Ewch i weld pa fath o dâl mamolaeth y mae gennych hawl iddo os nad ydych yn siŵr.

Os ydych chi'n derbyn tâl mamolaeth cytundebol

Bydd eich cytundeb neu’ch llawlyfr gweithiwr yn dweud wrthych faint o amser sydd angen i chi ei dreulio yn ôl yn y gwaith i gadw'ch tâl mamolaeth cytundebol llawn.

Gallwch gymryd gwyliau i leihau faint o amser sydd angen i chi ei dreulio yn ôl yn y gwaith. Gallech fod wedi cronni cryn dipyn o wyliau o'r adeg yr oeddech ar absenoldeb mamolaeth.

Os oes angen i chi ad-dalu tâl mamolaeth cytundebol, ni fyddwch yn ei golli i gyd. Byddwch yn cadw'r hyn y byddech wedi'i gael pe baech wedi derbyn tâl mamolaeth statudol yn lle tâl cytundebol. Gallai hyn wneud gwahaniaeth mawr – ewch i weld faint o dâl mamolaeth y gallwch ei gael er mwyn gweld sut y gallai hyn effeithio arnoch chi.

Fel elusen, rydym yn ddibynnol ar eich cefnogaeth i helpu miliynau o bobl i ddatrys eu problemau bob blwyddyn. Rhowch arian os gallwch chi i'n helpu ni i barhau â'n gwaith. .

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.