Tâl mamolaeth - faint allwch chi ei gael
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae faint o dâl mamolaeth fyddwch chi’n ei gael, ac am ba hyd y bydd yn para, yn dibynnu ar ba fath o dâl mamolaeth y mae gennych chi hawl iddo:
ar gyfer tâl mamolaeth statudol, darllenwch weddill y dudalen hon am fanylion
ar gyfer tâl mamolaeth cytundebol, edrychwch yn eich contract neu gofynnwch i'ch cyflogwr - ni fydd byth yn llai na thâl mamolaeth statudol
ar gyfer Lwfans Mamolaeth, defnyddiwch y gyfrifiannell ar GOV.UK i gael gwybod beth fyddwch chi’n ei gael
Faint o dâl mamolaeth statudol fyddwch chi’n ei gael
Mae eich tâl mamolaeth statudol yn para hyd at 39 wythnos, yn cynnwys:
6 wythnos yn cael 90% o'ch cyflog wythnosol cyfartalog (cyn treth)
33 wythnos yn cael naill ai £187.18 yr wythnos neu 90% o'ch cyflog wythnosol cyfartalog (cyn treth) - pa un bynnag sydd leiaf
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o dreth ac yswiriant gwladol ar hyn.
Mae eich cyflog cyfartalog yn cynnwys unrhyw dâl salwch, tâl gwyliau, ôl-daliadau, bonysau, a thâl mamolaeth statudol o feichiogrwydd blaenorol.
Byddwch chi’n cael yr un faint hyd yn oed os ydych chi'n feichiog gyda mwy nag un babi.
Mae Jo yn ennill £215 bob wythnos cyn treth. Mae hi’n dechrau ar ei chyfnod mamolaeth.
Mae 90% o £215 yn £193.50. Bydd Jo yn cael £193.50 o dâl mamolaeth statudol bob wythnos am 6 wythnos gyntaf ei habsenoldeb mamolaeth.
Gan fod £193.50 yn fwy na £187.18, bydd Jo wedyn yn cael £187.18 o dâl mamolaeth statudol bob wythnos am 33 wythnos nesaf ei habsenoldeb mamolaeth.
Mae Grace yn ennill £123 bob wythnos cyn treth. Maen nhw’n dechrau ar eu habsenoldeb mamolaeth.
Mae 90% o £123 yn £110.70. Bydd Grace yn cael £110.70 o dâl mamolaeth statudol bob wythnos am 6 wythnos gyntaf eu habsenoldeb mamolaeth.
Gan fod £110.70 yn llai na £187.18, bydd Grace yn dal i gael £110.70 o dâl mamolaeth statudol bob wythnos am 33 wythnos nesaf eu habsenoldeb mamolaeth.
Beth fyddwch chi’n ei gael os bydd cyfradd y tâl mamolaeth yn newid
Mae’r cyfradd tâl mamolaeth statudol o £187.18 fel arfer yn cynyddu ym mis Ebrill bob blwyddyn. Os bydd yn cynyddu tra byddwch chi’n cael tâl mamolaeth statudol, byddwch chi’n cael y swm newydd, uwch o ddyddiad y newid.
Pryd fydd eich tâl mamolaeth yn dechrau ac yn gorffen
Bydd eich tâl mamolaeth yn dechrau ar yr un diwrnod a’ch absenoldeb mamolaeth. Allwch chi ddim ei gael tra eich bod chi’n dal yn y gwaith neu fwy nag 11 wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i’r babi gael ei eni. Os nad ydych chi’n cael absenoldeb mamolaeth, bydd eich tâl mamolaeth yn dechrau'r diwrnod ar ôl i chi gael eich babi.
Gallai eich tâl mamolaeth ddechrau'n gynt os byddwch chi’n mynd yn sâl yn y 4 wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i’r babi gael ei eni.
Mae tâl mamolaeth statudol yn gallu para 39 wythnos, ond bydd yn dod i ben yn gynt os byddwch chi’n dychwelyd i'r gwaith cyn hynny.
Peidiwch â cholli allan ar eich tâl mamolaeth os yw eich cyflog yn amrywio
Mae rhan o’ch tâl mamolaeth statudol yn seiliedig ar eich cyflog cyfartalog. Felly mae'n syniad da cadw eich cyflog mor uchel â phosib tra bo'ch cyflogwr yn cyfrifo eich cyflog cyfartalog. Mae hyn yn fwyaf tebygol o fod o bwys os yw eich cyflog yn amrywio, er enghraifft os ydych chi'n gweithio i asiantaeth neu'n gwneud shifftiau.
Mae eich cyflogwr yn seilio eich cyflog cyfartalog ar oddeutu 8 wythnos yn arwain at y 15fed wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i’ch babi gael ei eni. Yn ystod y cyfnod hwn, gallech chi feddwl am y canlynol:
canslo amser o'r gwaith heb dâl
derbyn unrhyw shifftiau neu oriau sy’n cael eu cynnig i chi, neu hyd yn oed geisio gwneud mwy
cymryd gwyliau â thâl am unrhyw ddiwrnodau pan fyddwch chi’n sâl, os byddai'r tâl salwch yn llai na’r hyn y byddech chi’n ei ennill fel arfer
I weld yr union ddyddiadau pan fydd eich cyflog cyfartalog yn cael ei gyfrifo, neu i gael cymorth arall gyda thâl mamolaeth, siaradwch â chynghorydd.
Os bydd eich cyflogwr yn ceisio cwtogi eich oriau i leihau eich tâl mamolaeth, mae hyn yn enghraifft o wahaniaethu. Siaradwch â chynghorydd i gael help.
Os ydych chi eisiau gweithio a chithau'n cael tâl mamolaeth
Fel arfer, bydd mynd yn ôl i'r gwaith neu ddechrau swydd newydd yn dod â'ch tâl mamolaeth i ben. Ond mae rhai ffyrdd o ennill ychydig yn ychwanegol os ydych chi’n poeni am gael dau ben llinyn ynghyd.
Siaradwch â chynghoryddos ydych chi eisiau gwneud rhywfaint o waith ychwanegol ond nad ydych yn siŵr sut y bydd yn effeithio ar eich tâl mamolaeth.
Os ydych chi eisiau gweithio i'ch cyflogwr presennol
Gallwch chi gael eich talu am hyd at 10 ‘diwrnod cadw mewn cysylltiad’ tra’n cymryd amser o’r gwaith i gael babi. Mae rhai cyflogwyr yn galw’r rhain yn ‘ddiwrnodau cadw mewn cysylltiad’. Mae'r rhain yn ddiwrnodau pan fyddwch chi’n gweithio i'ch cyflogwr tra eich bod chi’n cael tâl mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth. Bydd y swm a fydd yn cael ei dalu i chi am y dyddiau hyn yn dibynnu ar eich contract.
Yn anffodus, os byddwch chi’n gweithio mwy na 10 diwrnod cadw mewn cysylltiad, bydd eich tâl mamolaeth yn cael ei dorri. Byddwch chi’n colli wythnos gyfan o dâl mamolaeth am unrhyw wythnos pan fyddwch chi’n gweithio diwrnod cadw mewn cysylltiad ychwanegol.
Gallwch chi drefnu diwrnodau cadw mewn cysylltiad am unrhyw amser y tu allan i'r pythefnos cyntaf ar ôl i'ch babi gael ei eni (4 wythnos os ydych chi'n gweithio mewn ffatri). Bydd angen i chi gytuno ar y diwrnodau gyda'ch cyflogwr - allan nhw ddim eich gorfodi i'w gwneud nhw, ond allwch chi ddim mynnu eu cael nhw chwaith.
Os ydych chi eisiau gweithio i gyflogwr arall
Edrychwch ar eich contract gyda'ch cyflogwr presennol cyn i chi weithio i rywun arall. Bydd rhai cyflogwyr yn gofyn i chi am eu caniatâd nhw yn gyntaf.
Ar wahân i hynny, mae'n iawn gweithio i rywun arall os ydych chi wedi dechrau ar eich absenoldeb mamolaeth ond heb gael eich babi eto. Byddwch chi’n dal i gael eich tâl mamolaeth statudol gan eich cyflogwr cyntaf.
Ar ôl i chi gael eich babi, mae’n mynd yn fwy cymhleth. Fel arfer, bydd gweithio i ail gyflogwr yn dod â'ch tâl mamolaeth i ben. Ond bydd yn parhau os:
ydych chi eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith cyflogedig i'ch ail gyflogwr yn y 15fed wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i’ch babi gael ei eni, ac
nad oes gennych chi hawl i dâl mamolaeth statudol gan eich ail gyflogwr - felly bydd angen i chi fod wedi ennill llai na £125 yr wythnos ganddyn nhw neu wedi gweithio iddyn nhw am lai na 26 wythnos
Os ydych chi eisiau gwneud gwaith hunangyflogedig
Gallwch chi wneud gwaith hunangyflogedig ac ni fydd yn effeithio ar eich tâl mamolaeth statudol. Ond gallai effeithio ar unrhyw dâl mamolaeth cytundebol y byddwch chi’n ei gael - edrychwch ar eich contract gyda'ch cyflogwr presennol i weld pa wahaniaeth mae'n ei wneud.
Mae'n syniad da edrych ar eich contract hyd yn oed os nad ydych chi'n cael tâl mamolaeth cytundebol. Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn i chi am eu caniatâd nhw cyn gwneud gwaith hunangyflogedig.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.