Hawliau tra byddwch chi ar absenoldeb mamolaeth

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae dal gennych chi lawer o'ch hawliau gwaith arferol yn ystod absenoldeb mamolaeth – ond mae yna rai gwahaniaethau.

Tâl

Efallai y byddwch chi’n gallu cael tâl mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth tra byddwch chi ar absenoldeb mamolaeth. Mae hyn yn llai na'ch cyflog arferol fel arfer.

Adolygiadau cyflog

Mae gennych chi hawl i unrhyw adolygiad cyflog y byddech yn ei gael fel arfer. Er enghraifft, os cewch chi adolygiad cyflog bob mis Mawrth, dylech chi gael un o hyd tra byddwch chi ar absenoldeb mamolaeth. 

Os yw eich adolygiad cyflog yn cynnwys sgorio eich perfformiad, mae'n rhaid i'ch cyflogwr seilio hyn ar yr amser roeddech chi yn y gwaith. Ni allant ddweud bod eich perfformiad yn waeth dim ond oherwydd eich bod chi ar absenoldeb mamolaeth.

Tâl salwch

Yn anffodus, ni allwch chi gael tâl salwch fel arfer tra byddwch chi ar absenoldeb mamolaeth. Mae yna bosibilrwydd bach y gallwch chi gael tâl salwch os yw eich tâl mamolaeth statudol wedi dod i ben ond eich bod chi'n dal i fod ar absenoldeb mamolaeth.

Ar ôl i chi ddychwelyd i’r gwaith, gallwch chi gael tâl salwch statudol cyn belled nad ydych chi’n cael tâl mamolaeth statudol ar eich diwrnod cyntaf o salwch. Bydd dal angen i chi fodloni’r amodau arferol i gael tâl salwch.  

Os ydych chi’n cael tâl mamolaeth statudol ar eich diwrnod cyntaf o salwch, ni fyddwch yn gallu cael tâl salwch statudol nes eich bod chi wedi bod nôl yn y gwaith am 8 wythnos.   

Os cewch chi dâl salwch cytundebol, edrychwch ar eich contract – gallai eich cyflogwr gael rheolau gwahanol o ran pryd gewch chi dâl salwch.

Os nad ydych chi’n cael tâl mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth

P'un a ydych chi ar absenoldeb mamolaeth ai peidio, ni allwch chi gael tâl salwch statudol am 18 wythnos naill ai ar ôl:

  • i chi roi genedigaeth

  • i’ch absenoldeb mamolaeth ddechrau, os yw'n dechrau'n gynnar oherwydd eich bod chi i ffwrdd yn sâl am reswm sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd yn y 4 wythnos cyn eich dyddiad geni disgwyliedig 

Os ydych chi eisoes yn cael tâl salwch statudol, bydd yn dod i ben pan fydd y 18 wythnos hyn yn dechrau.

Ar ôl y 18 wythnos, gallwch chi gael tâl salwch statudol os ydych chi'n bodloni'r amodau arferol. Fel arfer, mae hyn yn golygu y bydd angen i chi fod wedi dychwelyd i'r gwaith.

Cael tâl salwch os yw eich tâl mamolaeth statudol wedi dod i ben ond rydych chi'n dal ar absenoldeb mamolaeth

Os bydd eich diwrnod cyntaf o salwch yn digwydd ar ôl i'ch tâl mamolaeth statudol ddod i ben, mewn achosion prin, efallai y cewch chi dâl salwch statudol (ond nid tâl salwch cytundebol) tra byddwch yn dal ar absenoldeb mamolaeth.

Bydd angen i chi fodloni’r amodau arferol ar gyfer cael tâl salwch statudol. Mae’r amodau hyn yn cynnwys ennill o leiaf £112 yr wythnos ar gyfartaledd yn ystod yr 8 wythnos flaenorol. Mae hyn yn golygu mai dim ond os bydd eich salwch yn dechrau’n fuan ar ôl i’ch tâl mamolaeth statudol ddod i ben y cewch chi dâl salwch statudol.

Bydd angen nodyn meddyg arnoch chi hefyd sy’n dangos y byddech chi'n rhy sâl i weithio hyd yn oed pe na fyddech chi ar absenoldeb mamolaeth.

Pensiwn

Bydd eich cyflogwr yn parhau i gyfrannu at eich pensiwn gwaith tra byddwch chi'n cael tâl mamolaeth. Byddant yn talu'r un swm roeddech chi’n ei gael cyn i chi fynd ar absenoldeb mamolaeth.

Byddwch chi hefyd yn parhau i gyfrannu at eich pensiwn ond bydd eich taliadau'n seiliedig ar eich tâl mamolaeth, nid eich tâl arferol. Mae hyn yn golygu y gallech chi dalu llai. Er enghraifft, os ydych chi fel arfer yn talu 5% o'ch cyflog i'ch pensiwn, byddwch chi'n talu 5% o'ch tâl mamolaeth yn lle hynny.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn gadael i chi stopio cyfrannu at eich pensiwn tra byddwch chi'n cael tâl mamolaeth, ond mae'n werth parhau i gyfrannu os gallwch chi fforddio hynny. Byddwch chi'n cyfrannu llai nag arfer tra bydd eich cyflogwr yn talu eich swm arferol llawn.

Os nad ydych chi’n cael tâl mamolaeth

Bydd eich cyflogwr yn cyfrannu at eich pensiwn am y 26 wythnos gyntaf o’ch cyfnod mamolaeth. 

Byddant yn talu o leiaf yr un swm ag yr oedden nhw’n ei dalu cyn i chi fynd ar gyfnod mamolaeth - dylent gynnwys unrhyw godiadau cyflog a gawsoch tra roeddech i ffwrdd.

Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn parhau i gyfrannu am weddill eich cyfnod mamolaeth - dylech wirio eu polisi mamolaeth a’ch contract.

Os bydd eich tâl mamolaeth yn dod i ben tra byddwch ar gyfnod mamolaeth

Bydd eich cyflogwr yn stopio talu i mewn i’ch pensiwn. Fel arfer bydd eich cyfraniadau chi hefyd yn dod i ben, ond gallwch gyfrannu’n uniongyrchol os dymunwch.

Bonysau

Mae sut mae eich bonws yn gweithio yn ystod absenoldeb mamolaeth yn dibynnu ar yr hyn y mae’n talu amdano fel arfer.

Os yw eich bonws yn seiliedig ar bresenoldeb

Os yw eich contract yn rhoi bonws i chi sy’n seiliedig ar waith a wnaed mewn blwyddyn, mae gennych hawl i ran o'ch bonws o hyd. Byddwch yn cael eich bonws am y rhan o'r flwyddyn rydych chi yn y gwaith, ond nid y rhan o'r flwyddyn rydych chi ar absenoldeb mamolaeth.

Mae'r amser rydych chi yn y gwaith yn cynnwys:

  • y pythefnos cyntaf ar ôl i’ch babi gael ei eni (4 wythnos os ydych chi’n gweithio mewn ffatri)

  • unrhyw ddiwrnodau cadw mewn cysylltiad rydych chi’n eu gwneud yn ystod eich absenoldeb mamolaeth.

Er enghraifft, os ydych chi’n gweithio 3 mis o’ch blwyddyn fonws ac yna’n cymryd 9 mis o absenoldeb mamolaeth, fe gewch chi 3 mis a 2 wythnos o'ch bonws.

Os yw eich bonws yn seiliedig ar hyd gwasanaeth

Mae eich absenoldeb mamolaeth yn rhan o ba mor hir rydych chi wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr. Ni ddylai effeithio ar unrhyw fonws y byddech chi'n ei gael am hyd gwasanaeth.

Os yw eich bonws yn seiliedig ar elw’r cwmni

Dylech chi gael eich bonws llawn os yw'n seiliedig ar elw’r cwmni a wnaed naill ai:

  • pan oeddech chi'n dal yn y gwaith

  • yn ystod pythefnos cyntaf eich absenoldeb mamolaeth

Os yw’n fonws untro nad yw’n rhan o’ch contract

Dylech chi gael unrhyw fonysau untro nad ydynt yn rhan o'ch contract. Er enghraifft, dylai eich cyflogwr eich cynnwys chi os ydynt yn rhoi arian ychwanegol i bawb adeg y Nadolig.

Gwyliau

Fel arfer, byddwch chi'n cronni gwyliau tra byddwch chi ar absenoldeb mamolaeth. 

Os na allwch chi gymryd eich gwyliau oherwydd eich bod chi ar absenoldeb mamolaeth, dylai eich cyflogwr adael i chi drosglwyddo hyd at 5.6 wythnos o ddiwrnodau na chafodd eu defnyddio (28 diwrnod os ydych chi'n gweithio 5 diwrnod yr wythnos) i'ch blwyddyn wyliau nesaf.

Os ydych chi’n gweithio oriau afreolaidd neu os ydych chi’n gweithio am ran o’r flwyddyn yn unig

Os dechreuodd eich blwyddyn wyliau gyfredol ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny, mae ffordd arbennig o gyfrifo faint o wyliau rydych chi wedi’u cronni. Gallwch chi weld sut mae cyfrifo eich absenoldeb ar wefan ACAS.

Os na allwch chi gymryd eich gwyliau oherwydd eich bod chi ar absenoldeb mamolaeth, gallwch chi drosglwyddo'r holl wyliau yr ydych wedi'u cronni i'r flwyddyn wyliau nesaf.

Gwyliau banc

Ni ddylech chi golli allan ar wyliau banc tra byddwch chi ar absenoldeb mamolaeth. Dylech chi gronni'r un nifer o ddiwrnodau â phe byddech chi wedi bod yn gweithio - gan gynnwys gwyliau banc.

Enghraifft

Mae Priya yn cael 25 diwrnod o wyliau’r flwyddyn, yn ogystal â 8 gŵyl banc. Mae’n cymryd blwyddyn o absenoldeb mamolaeth. Pan fydd hi'n dychwelyd i'r gwaith mae hi wedi cronni 33 diwrnod o wyliau.

Mae Amy yn cael 30 diwrnod o wyliau’r flwyddyn, ond dydy hi ddim yn cael gwyliau banc. Mae hi'n cymryd blwyddyn o absenoldeb mamolaeth. Pan fydd hi'n dychwelyd i'r gwaith mae hi wedi cronni 30 diwrnod o wyliau.

Cysylltu â’ch cyflogwr

Gall eich cyflogwr gysylltu â chi am waith o bryd i’w gilydd tra byddwch chi ar absenoldeb mamolaeth, ond mae’n rhaid iddynt fod yn rhesymol. Cyn i chi ddechrau eich absenoldeb mamolaeth, gall fod yn ddefnyddiol cytuno’n ysgrifenedig pa mor aml y gall eich cyflogwr gysylltu â chi.

Dywedwch wrth eich cyflogwr os ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n cysylltu gormod â chi.

Gallwch chi ddewis gwneud rhywfaint o waith yn ystod absenoldeb mamolaeth

Gallwch chi gytuno i weithio i'ch cyflogwr am hyd at 10 diwrnod heb amharu ar eich absenoldeb mamolaeth na'ch tâl mamolaeth. Caiff y rhain eu galw’n 'ddiwrnodau cadw mewn cysylltiad'. Dylai unrhyw waith a wnewch chi ddefnyddio diwrnod cadw mewn cysylltiad - gan gynnwys mynd i hyfforddiant neu gyfarfodydd.

Dylech chi gael eich talu am ddiwrnodau cadw mewn cysylltiad. Mae faint gewch  chi yn dibynnu ar eich contract, ond rhaid iddo fod o leiaf yr isafswm cyflog.

Mae angen i chi gytuno ar ddiwrnodau cadw mewn cysylltiad gyda'ch cyflogwr - ni allant eich gorfodi i'w gwneud, ond ni allwch chi eu mynnu chwaith. Gallwch chi drefnu diwrnodau cadw mewn cysylltiad unrhyw bryd y tu allan i'r pythefnos cyntaf ar ôl i'ch babi gael ei eni (4 wythnos os ydych chi'n gweithio mewn ffatri).

Yn anffodus, os ydych chi'n gweithio mwy na 10 diwrnod cadw mewn cysylltiad, bydd eich tâl mamolaeth yn cael ei dorri. Byddwch chi'n colli tâl mamolaeth yr wythnos gyfan am unrhyw wythnos pan fyddwch chi'n gweithio diwrnod cadw mewn cysylltiad ychwanegol.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr ddweud wrthych chi am newidiadau sy’n effeithio arnoch chi

Mae rhai pethau y mae'n rhaid i'ch cyflogwr ddweud wrthych chi amdanynt:

  • unrhyw gyfleoedd am ddyrchafiad - dylent ddweud wrthych chi ar yr un pryd â phawb arall a rhoi'r un cyfle i chi wneud cais

  • unrhyw newidiadau yn y gwaith sy'n effeithio arnoch chi - er enghraifft, os oes ailstrwythuro

Nid yw rhoi'r math hwn o wybodaeth i chi yn defnyddio un o'ch diwrnodau cadw mewn cysylltiad.

Beth i’w wneud os na chewch chi eich hawliau mamolaeth

Mae yna gamau i’w cymryd os:

  • nad ydych chi'n cael eich holl hawliau mamolaeth

  • ydych chi'n cael eich trin yn wael oherwydd eich bod chi wedi gofyn am unrhyw un o'ch hawliau mamolaeth

  • ydych chi'n cael eich trin yn wael am unrhyw reswm sy'n gysylltiedig â'ch absenoldeb mamolaeth

Gallech chi hefyd fod wedi profi gwahaniaethu ar sail mamolaeth os cawsoch chi’ch trin yn wael, o leiaf yn rhannol oherwydd eich bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth. Dylech chi wirio os yw’n achos o wahaniaethu os ydych chi'n credu bod eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn.

Os caiff eich swydd ei dileu yn ystod absenoldeb mamolaeth

Rhaid i'ch cyflogwr gynnig swydd arall i chi os oes ganddynt un sy'n addas i chi. Ni ddylent eich gorfodi i wneud cais na chystadlu yn erbyn gweithwyr eraill.

Gall eich cyflogwr ofyn i chi am wybodaeth i wirio bod y swydd yn addas i chi. Ni allant ofyn i chi ddod i gyfweliad i weld pwy sydd orau ar gyfer y swydd - dylech chi gael eich dewis yn awtomatig. 

Mae'n ddiswyddiad annheg yn awtomatig os oes gan eich cyflogwr swydd sy'n addas i chi ond nad ydynt yn ei chynnig i chi. Gallai fod yn wahaniaethu ar sail mamolaeth hefyd. Gwiriwch sut i herio’r penderfyniad i ddileu’ch swydd.

Os daeth eich absenoldeb mamolaeth i ben ar ôl 6 Ebrill 2024, byddwch chi'n parhau i gael yr hawl hon am 18 mis ar ôl genedigaeth eich plentyn. Os na wnaethoch chi sôn am ddyddiad geni eich plentyn wrth eich cyflogwr cyn i’ch absenoldeb ddod i ben, bydd y 18 mis yn dechrau ar ddyddiad geni disgwyliedig eich plentyn.

Os cewch chi’ch diswyddo yn ystod absenoldeb mamolaeth

Mae'n achos o ddiswyddo annheg ac yn wahaniaethu ar sail mamolaeth os yw'r rhesymau dros eich diswyddo yn gysylltiedig â'ch absenoldeb mamolaeth.

Dylech chi wirio os ydych chi wedi cael eich diswyddo’n annheg.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.