Cael eich talu os bydd eich cyflogwr yn mynd i'r wal neu'n diflannu
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i gael unrhyw arian sy'n ddyledus i chi gan eich cyflogwr.
Bydd angen i chi ddechrau drwy weld a yw eich cyflogwr yn 'ansolfent' yn swyddogol - mae hyn yn golygu nad yw’n gallu talu ei ddyledion.
Os yw eich cyflogwr yn ansolfent, bydd 'ymarferydd ansolfedd' fel arfer yn cysylltu â chi - nhw sy’n gyfrifol am ddyledion eich cyflogwr. Dylen nhw gysylltu â chi’n fuan ar ôl i’ch cyflogwr gael ei wneud yn ansolfent. Byddan nhw’n dweud wrthych chi beth fydd yn digwydd a sut i gael unrhyw dâl sy'n ddyledus i chi gan eich cyflogwr.
Os nad yw eich cyflogwr yn ansolfent, mae pethau y gallwch chi eu gwneud o hyd - er enghraifft, mynd â nhw i'r tribiwnlys cyflogaeth. Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y byddwch chi eisiau gwneud cais i’w wneud yn ansolfent.
Mae’n syniad da cadw mewn cysylltiad â’r bobl roeddech chi’n gweithio gyda nhw. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, dylech chi hefyd gadw mewn cysylltiad â'ch cynrychiolydd. Efallai y byddwch chi’n gallu rhannu gwybodaeth am y sefyllfa.
Os nad oes ymarferydd ansolfedd wedi cysylltu â chi
Bydd angen i chi weld a yw eich cyflogwr yn ansolfent. Os ydyn nhw’n ansolfent, bydd angen i chi hefyd gael manylion cyswllt yr ymarferydd ansolfedd.
Mae gwahanol ffyrdd o weld beth yw statws eich cyflogwr, gan ddibynnu a yw eich cyflogwr yn gwmni, yn unig fasnachwr neu'n bartneriaeth.
Os yw eich cyflogwr yn gwmni
Dylech chi ddechrau drwy ddod o hyd i enw cyfreithiol y cwmni – gallai hwn fod yn wahanol i’r enw y mae’n masnachu oddi tano. Os nad ydych chi’n siŵr, edrychwch ar eich contract cyflogaeth neu ar eich slipiau cyflog. Gallwch chi hefyd ddod o hyd i’w henw drwy greu neu fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol ar GOV.UK.
Gweld beth yw statws eich cyflogwr ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau ar GOV.UK. Os yw’n ansolfent, bydd ei statws yn un o’r canlynol:
yn nwylo gweinyddwyr
yn cael ei ddiddymu
yn nwylo’r derbynnydd
trefniant gwirfoddol ar ran cwmni
Os yw'r gofrestr yn dweud bod eich cyflogwr yn ansolfent, dylai hefyd gynnwys manylion cyswllt yr ymarferydd ansolfedd. Cysylltwch â'r ymarferydd ansolfedd cyn gynted â phosibl ac esboniwch eich sefyllfa.
Os nad yw'r gofrestr yn dweud bod eich cyflogwr yn ansolfent, mae'n werth 'dilyn' y cwmni. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n cael diweddariadau’n awtomatig os bydd ei statws yn newid. Cliciwch y botwm ‘Dilyn y cwmni hwn’ a dilyn y cyfarwyddiadau.
Os mai statws eich cyflogwr yw 'Cynnig i ddileu enw'r cwmni oddi ar y gofrestr'
Mae hyn fel arfer yn golygu bod eich cyflogwr yn ceisio dod â'r cwmni i ben heb gael ei wneud yn ansolfent. Os bydd hyn yn digwydd, fyddwch chi ddim yn gallu cael unrhyw arian ganddyn nhw.
Dylech chi wrthwynebu dileu enw’r cwmni oddi ar y gofrestr cyn gynted â phosibl. Dywedwch eich bod chi’n gwrthwynebu oherwydd bod arian yn ddyledus i chi gan eich cyflogwr.
Bydd angen i chi ddarparu dogfennau sy'n dangos eich bod chi wedi ceisio cael yr arian sy'n ddyledus i chi. Er enghraifft, gallwch chi ddarparu llythyr cwyno neu ffurflen achos tribiwnlys cyflogaeth.
Rhaid i'r dogfennau fod yn llai na 6 mis oed a chynnwys enw cyfreithiol llawn eich cyflogwr - er enghraifft, cynnwys y gair 'Cyfyngedig' ar y diwedd.
Y ffordd gyflymaf o wrthwynebu yw defnyddio porth ar-lein Tŷ'r Cwmnïau - bydd angen i chi greu cyfrif. Gallwch chi hefyd wrthwynebu mewn e-bost neu drwy’r post.
Ewch i GOV.UK i weld sut mae gwrthwynebu cynnig i ddileu oddi ar y gofrestr.
If your employer is a sole trader or a partnership
Gallwch chi weld a yw eich cyflogwr ar y Gofrestr Ansolfedd Unigol ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd. Os oes gan eich cyflogwr enw masnachu, chwiliwch amdano yn ogystal â'i enw go iawn.
Mae eich cyflogwr yn ansolfent os yw'r gofrestr yn dweud naill ai:
eu bod yn fethdalwr
bod ganddyn nhw drefniant gwirfoddol unigol
Os yw'r gofrestr yn dweud bod eich cyflogwr yn ansolfent, dylai hefyd gynnwys manylion cyswllt yr ymarferydd ansolfedd. Cysylltwch â'r ymarferydd ansolfedd cyn gynted â phosibl ac esboniwch eich sefyllfa.
Os yw eich cyflogwr yn ansolfent
Gallwch chi hawlio rhywfaint o'r arian sy'n ddyledus i chi gan eich cyflogwr gan y Gwasanaeth Taliadau Dileu Swydd - un o wasanaethau'r llywodraeth yw hwn. Gallwch chi hawlio:
hyd at 8 wythnos o gyflog heb ei dalu
tâl am wyliau blynyddol – gan gynnwys gwyliau blynyddol a oedd yn ddyledus i chi ond na wnaethoch chi eu cymryd
tâl rhybudd statudol
tâl dileu swydd statudol -
gweld a oes gennych chi hawl i dâl dileu swydd statudol
Mae eich cyflog sydd heb ei dalu yn cynnwys unrhyw daliadau statudol y dylech chi fod wedi'u cael, er enghraifft tâl salwch statudol neu dâl mamolaeth statudol.
Mae uchafswm o ran faint y gallwch chi ei gael am wythnos o gyflog neu wyliau blynyddol heb eu talu. Os daeth eich cyflogaeth i ben ar 6 Ebrill 2025 neu ar ôl hynny, ni allwch chi hawlio mwy na £719 am bob wythnos. Os daeth eich cyflogaeth i ben rhwng 6 Ebrill 2024 a 5 Ebrill 2025, ni allwch hawlio mwy na £700.
Gwneud cais i'r Gwasanaeth Taliadau Dileu Swydd
Bydd yr ymarferydd ansolfedd yn rhoi cyfeirnod achos i chi sy’n cael ei alw’n ‘rif CN’. Bydd angen i chi ddefnyddio'r rhif CN i hawlio'r arian sy'n ddyledus i chi gan eich cyflogwr. Fel arfer, byddwch chi’n cael yr arian o fewn 6 wythnos i wneud cais.
Gwneud cais am arian sy’n ddyledus i chi gan eich cyflogwr ar GOV.UK.
Os oes gennych chi hawl i dâl rhybudd statudol ac na wnaeth eich cyflogwr ei dalu, bydd angen i chi wneud ail gais amdano. Bydd yr ymarferydd ansolfedd yn rhoi cyfeirnod achos arall i chi sy’n cael ei alw’n ‘rif LN’. Dim ond ar ôl i'ch cyfnod rhybudd ddod i ben y byddan nhw’n ei roi i chi.
Gwneud cais am dâl rhybudd statudol ar GOV.UK.
Os nad yw'r ymarferydd ansolfedd yn credu eich bod wedi'ch cyflogi gan eich cyflogwr
Bydd angen i chi fynd â'ch cyflogwr i'r tribiwnlys cyflogaeth am yr arian sy'n ddyledus i chi.
Mae'n bwysig ysgrifennu at yr ymarferydd ansolfedd yn gyntaf a gofyn am ganiatâd ysgrifenedig i fynd â'ch cyflogwr i'r tribiwnlys. Dylai’r ymarferydd ansolfedd roi caniatâd i chi.
Rhaid i chi ddechrau’r broses o wneud cais i’r tribiwnlys o fewn 3 mis namyn 1 diwrnod o pryd y daeth eich cyflogaeth i ben. Gweld a allwch chi ddwyn achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth.
Pan fydd y tribiwnlys yn penderfynu eich bod chi’n gyflogai, anfonwch gopi o'r dyfarniad at yr ymarferydd ansolfedd. Dylen nhw wedyn roi'r cyfeirnod i chi er mwyn i chi allu gwneud cais i'r Gwasanaeth Taliadau Dileu Swydd.
Os nad yw'r ymarferydd ansolfedd yn meddwl eich bod chi wedi colli eich swydd
Bydd yn rhaid i chi fynd â'ch cyflogwr i'r tribiwnlys cyflogaeth i ddangos eich bod chi wedi colli eich swydd.
Mae'n bwysig ysgrifennu at yr ymarferydd ansolfedd yn gyntaf a gofyn am ganiatâd ysgrifenedig i fynd â'ch cyflogwr i'r tribiwnlys. Dylai’r ymarferydd ansolfedd roi caniatâd i chi.
Rhaid i chi ddechrau’r broses o wneud cais i’r tribiwnlys o fewn 3 mis namyn 1 diwrnod o pryd y daeth eich cyflogaeth i ben. Gweld a allwch chi ddwyn achos yn erbyn eich cyflogwr gerbron y tribiwnlys cyflogaeth.
Os oes arian dal yn ddyledus i chi gan eich cyflogwr
Os oes ar eich cyflogwr arian i chi na allwch chi ei gael gan y Gwasanaeth Taliadau Dileu Swydd, dylai'r ymarferydd ansolfedd eich helpu i gofrestru fel credydwr. Mae hyn yn golygu y gallech chi gael mwy o arian os oes unrhyw arian ar ôl pan fydd eich cyflogwr wedi cau'n llwyr.
Os nad yw eich cyflogwr yn ansolfent
Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd â'ch cyflogwr i'r tribiwnlys cyflogaeth i gael yr arian sy'n ddyledus i chi.
I wneud cais am dâl dileu swydd, rhaid i chi ddechrau’r broses o wneud cais i’r tribiwnlys o fewn 6 mis namyn 1 diwrnod o pryd y daeth eich cyflogaeth i ben. Os ydych chi eisiau hawlio taliadau eraill fel cyflogau heb eu talu, rhaid i chi ddechrau'r broses o fewn 3 mis namyn 1 diwrnod. Gweld a allwch chi ddwyn achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth.
Os oes gennych chi amser a bod gennych chi fanylion cyswllt eich cyflogwr o hyd, mae'n werth anfon llythyr neu e-bost atyn nhw. Dywedwch yn y llythyr neu’r e-bost ei fod yn gŵyn swyddogol ac eglurwch beth sy’n ddyledus i chi. Mae hyn yn golygu bod cofnod swyddogol. Gallwch chi ddefnyddio ein llythyr cwyn enghreifftiol.
Os oes tâl dileu swydd yn ddyledus i chi gan eich cyflogwr, gallwch chi hefyd awgrymu eu bod yn gwneud cais i'r llywodraeth am fenthyciad i dalu tâl dileu swydd statudol i chi. Gallwch chi anfon dolen atyn nhw i ganllawiau’r llywodraeth am gymorth ariannol i gyflogwyr ar GOV.UK.
Os bydd eich cyflogwr yn dal i wrthod eich talu ar ôl i chi gael dyfarniad tribiwnlys
Os bydd y tribiwnlys yn penderfynu bod gennych chi hawl i dâl dileu swydd, gallwch chi wneud cais i gael y taliad gan y Gwasanaeth Taliadau Dileu Swydd - un o wasanaethau'r llywodraeth yw hwn.
Gallwch chi wneud cais am arian gan y Gwasanaeth Taliadau Dileu Swydd ar GOV.UK. Ni fydd gennych chi gyfeirnod oherwydd nad yw eich cyflogwr yn ansolfent. Efallai y bydd yn haws i chi eu ffonio neu anfon e-bost atyn nhw gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen honno yn hytrach na llenwi'r ffurflen.
Os oes arian arall yn ddyledus i chi gan eich cyflogwr a'ch bod chi’n credu na all dalu ei ddyledion, gallwch chi wneud cais i'w wneud yn ansolfent. Mae hyn yn gymhleth, felly bydd angen i chi gael help gan gyfreithiwr.
Mae gwneud unigolyn neu gwmni’n ansolfent yn gallu bod yn ddrud. Mae’n fwyaf tebygol o fod yn werth chweil os ydych chi’n rhannu’r gost â phobl eraill rydych chi wedi gweithio gyda nhw.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.