Edrychwch a oes gennych chi hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae eich hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig yn dibynnu ar eich statws mewnfudo - enw arall am hwn yw ‘caniatâd i aros’. Os nad oes gennych chi hawl i weithio, efallai y gallwch chi wneud cais amdano.
Mae gennych chi hawl awtomatig i weithio yn y Deyrnas Unedig os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
rydych chi'n ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
mae gennych chi statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - neu rydych chi wedi gwneud cais ac yn aros am benderfyniad
mae gennych chi drwydded deulu Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
mae gennych chi ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig
mae gennych chi hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig
Efallai bod gennych chi hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig os oes gennych chi fisa â therfyn amser. Yr enw am hwn yw ‘caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn neu i aros’.
Os ydych chi wedi dod i’r Deyrnas Unedig yng anghyfreithlon, neu os yw eich caniatâd i aros wedi dod i ben, does gennych chi ddim hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.
Gweld a ydych chi’n ddinesydd Prydeinig
Os ydych chi’n ansicr, dylech weld a ydych chi’n ddinesydd Prydeinig - er enghraifft, efallai eich bod chi’n ddinesydd Prydeinig os yw un o'r canlynol yn berthnasol:
os ydy un o’ch rhieni yn Brydeiniwr
os cawsoch chi eich geni yn y Deyrnas Unedig neu yn un o diriogaethau tramor Prydain
os cawsoch chi eich geni yn un o drefedigaethau Prydain cyn 1983
Gallwch chi fynd i wefan GOV.UK i weld a ydych yn ddinesydd Prydeinig.
Os oes gennych chi ganiatâd cyfyngedig i ddod i mewn neu i aros
Bydd gennych chi ganiatâd cyfyngedig i ddod i mewn neu i aros os oes gennych chi fisa â therfyn amser.
Fel arfer, bydd gennych chi statws mewnfudo ar-lein neu ddogfen sy’n dweud a oes gennych chi hawl i weithio - er enghraifft trwydded preswylio fiometrig.
Efallai bod cyfyngiad ar y math o waith neu swydd y gallwch chi ei chael, neu faint o oriau y gallwch chi eu gweithio.
Os oes gennych chi fisa ymwelydd
Fel arfer, ni fydd gennych chi hawl i weithio - dim ond mewn rhai amgylchiadau y mae gennych chi hawl i weithio. Gallwch chi fyn di wefan GOV.UK i weld a oes gennych hawl i weithio.
Os oes gennych chi fisa myfyriwr
Mae cyfyngiad ar nifer yr oriau y mae gennych chi hawl i weithio. Os ydych chi’n ansicr faint o oriau y cewch chi eu gweithio, dylech edrych ar eich dogfennau mewnfudo neu siarad â’ch darparwr addysg.
Gallwch chi fynd i wefan UKCISA i weld y rheolau ynglŷn â gweithio gyda fisa myfyriwr.
Os ydych chi wedi colli eich swydd ac roedd eich cyflogwr yn noddi eich fisa
Os ydych chi eisiau parhau i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig, bydd angen i chi wneud un o’r canlynol:
cael swydd newydd gyda chyflogwr a fydd yn noddi eich fisa
cael caniatâd i aros newydd ag amodau gwahanol
Os ydych chi wedi colli eich swydd, siaradwch â chynghorwr cyn y dyddiad mae eich caniatâd i aros yn dod i ben.
Os ydych chi’n geisiwr lloches
Nid oes gan y mwyafrif o geiswyr lloches yr hawl i weithio - gallwch chi fynd i wefan GOV.UK i weld a oes gennych chi hawl i weithio fel ceisiwr lloches.
Siaradwch â chynghorwr os ydych chi’n ansicr a oes gennych chi hawl i weithio.
Sut i brofi bod gennych chi hawl i weithio
Bydd angen i chi brofi i’ch darpar gyflogwr bod gennych chi hawl i weithio cyn dechrau’r swydd. Gallwch chi weld sut i brofi bod gennych hawl i weithio.
Os byddwch yn gweithio heb hawl i weithio
Mae gweithio yn y Deyrnas Unedig heb hawl i weithio yn anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys:
gwneud gwaith nad oes gennych chi’r hawl i’w wneud
gweithio mwy o oriau nag y mae gennych chi hawl i’w gweithio
Siaradwch â chynghorwr os ydych chi’n gweithio heb hawl i weithio.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.