Profi eich hawl i weithio yn y DU

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Bydd angen i chi brofi eich hawl i weithio yn y DU os byddwch eisiau dechrau gweithio. 

Mi allwch fynd ar-lein i brofi eich hawl i weithio neu gallwch ddangos dogfennau penodol i’ch cyflogwr. Dylai unrhyw ddogfennau y byddwch yn ei dangos i’ch cyflogwr fod yn rhai:

  • dilys – ni allwch ddefnyddio dogfen sydd wedi dod i ben oni bai ei bod yn basbort y DU neu Iwerddon

  • gwreiddiol – ni chewch ddefnyddio copi

Os bydd eich dogfen yn dod i ben yn fuan a’ch bod wedi gwneud cais i ymestyn eich hawl i aros, mi allwch ddal i brofi eich hawl i weithio. Efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio dogfen wahanol neu ofyn i’ch cyflogwr i gysylltu â Gwasanaeth Gwirio Cyflogwyr y Swyddfa Gartref (ECS) – mi fydd yn dibynnu ar ba fath o ganiatâd sydd gennych.

Mi allwch wirio a oes gennych hawl i weithio yn y DU os nad ydych yn siŵr.

Os ydych chi’n credu bod ECS y Swyddfa Gartref wedi gwneud camgymeriad ynglŷn â’ch statws mewnfudo

Mi allwch lenwi ffurflen i ddweud wrthynt eu bod wedi cael gwybodaeth anghywir – er enghraifft, ei bod wedi dyddio. Gwybod sut i ddweud wrth y Swyddfa Gartref eu bod wedi cael gwybodaeth anghywir am eich statws yn GOV.UK.

Gwirio beth sydd ei angen arnoch i brofi eich hawl i weithio

Bydd sut y gallwch brofi eich hawl i weithio yn dibynnu ar eich statws mewnfudo – enw arall ar hwn yw eich ‘hawl’.

Ni allwch ddefnyddio cerdyn neu drwydded preswylio biometrig i brofi eich hawl i weithio.

Os ydych yn ddinesydd Prydain neu Iwerddon

Mi allwch brofi eich hawl i weithio drwy ddangos eich pasbort y DU neu Iwerddon i’ch cyflogwr. Ni fydd yn gwneud gwahaniaeth os yw eich pasbort wedi dod i ben. 

Os nad oes gennych basbort y DU neu Iwerddon, mi allwch ddefnyddio pasbort dilys o wlad arall. Rhaid i’r pasbort fod â stamp neu sticer arno sy’n dweud bod gennych hawl preswylio.

Os nad oes gennych basbort

Bydd yn rhaid i chi ddangos 2 ddogfen wahanol i’ ch cyflogwr yn ei le. 

Dylech ddangos un ddogfen gyda’ch enw a’ch rhif Yswiriant Gwladol arni – rhaid i hon fod wedi dod oddi wrth y llywodraeth neu gyflogwr blaenorol. Er enghraifft, mi allech ddangos llythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu ddogfen dreth fel P45.

Yr ail ddogfen y dylech ei dangos yw naill ai eich:

  • tystysgrif geni neu fabwysiadu, os yw wedi dod o lys neu swyddfa gofrestru yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Iwerddon

  • tystysgrif gofrestru neu sy’n dangos eich bod yn ddinesydd Prydain, os ydych wedi ymgeisio amdani

Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog drwy Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Bydd yn rhaid i chi gael cod rhannu ar-lein i brofi eich hawl i weithio. 

Os oeddech wedi profi eich hawl i weithio cyn 1 Gorffennaf 2021, yna ni ddylai eich cyflogwr ofyn i chi ei brofi eto. Ni ddylai eich cyflogwr ofyn i chi brofi eich hawl i weithio eto oni bai eu bod yn gofyn yr un peth i’w holl gyflogeion.

Os ydych wedi profi bod gennych statws preswylydd cyn-sefydlog, ni ddylai eich cyflogwr ofyn i chi ei brofi eto.

Os ydych chi wedi dod i mewn i’r DU ar ‘vignette’

Gallwch chi ddangos sticer ‘vignette’ yn eich pasbort i’ch cyflogwr fel prawf o’ch hawl i weithio am 90 diwrnod ar ôl iddo gael ei roi.   

Fel arfer, gallwch chi ddod o hyd i'r dyddiad a roddwyd neu ddyddiad ‘dilys o’ ar eich dogfen ‘vignette’.

Dylech chi greu cyfrif UKVI cyn gynted â phosibl i weld eich eFisa a phrofi eich hawl i weithio. Bydd angen i chi roi cod rhannu i’ch cyflogwr o’ch cyfrif UKVI. Dylech chi roi’r cod rhannu i’ch cyflogwr cyn gynted ag y gallwch chi wneud hynny - dim ond am 90 diwrnod y mae’n ddilys.

Ewch i weld sut mae creu cyfrif UKVI a chael statws mewnfudo ar-lein (eFisa).

Os ydych chi wedi dod i mewn i’r DU ar drwydded deuluol yr UE

Gallwch chi ddangos trwydded deuluol yr UE i'ch cyflogwr fel prawf o'ch hawl i weithio am 90 diwrnod ar ôl iddi gael ei rhoi.  

Fel arfer, gallwch chi ddod o hyd i'r dyddiad a roddwyd neu ddyddiad ‘dilys o’ ar eich trwydded deuluol yr UE.

Dylech chi wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE cyn gynted â phosibl i brofi eich hawl i weithio. Pan fyddwch chi’n gwneud hyn, cewch ‘tystysgrif cais’. Mae hon yn ddogfen sy'n rhoi’r hawl i chi weithio nes bydd y Swyddfa Gartref wedi gwneud penderfyniad am eich cais. Ewch i weld a allwch chi wneud cais am Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Os oes gennych hawl amhenodol i ddod i mewn neu i aros yn y wlad

Mi allwch brofi eich hawl i weithio drwy ddangos y naill neu’r llall o’r canlynol i’ch cyflogwr:

  • eich pasbort dilys – rhaid i chi gael stamp neu sticer gan y Swyddfa gartref sy’n dweud nad oes terfyn ar eich hawl

  • eich cod rhannu ar-lein

Os oes gennych ddogfen statws mewnfudo

Mi allwch ddangos eich dogfen statws mewnfudo ac un ddogfen arall i’ch cyflogwr os nad oes gennych basbort neu god rhannu ar-lein.

Mae’n bosibl y bydd gennych ddogfen statws mewnfudo os cawsoch hawl amhenodol i aros cyn 2013 a’ch bod naill ai’n:

  • ffoadur; neu 

  • heb drwydded preswylio biometrig eto

Rhaid i’ch dogfen statws mewnfudo gynnwys sticer hawl preswylio sy’n dweud bod gennych hawl amhenodol i aros. 

Rhaid bod eich enw a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar y llall – rhaid i’r ddogfen hon fod wedi dod oddi wrth y llywodraeth neu eich cyflogwr blaenorol. Er enghraifft, mi allech ddangos llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu ddogfen dreth fel P45.

Os ydych yn ddinesydd o’r Gymanwlad sydd â hawl preswylio

Mi allwch gael cod rhannu ar-lein i brofi eich hawl i weithio.

Os na allwch brofi eich hawl i weithio ar-lein, mi allwch yn hytrach ddangos pasbort dilys i’ch cyflogwr. Rhaid bod sticer gan y Swyddfa Gartref arno sy’n dweud bod gennych hawl preswylio.

Os ydych yn geisiwr lloches

Ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl sy’n ceisio lloches hawl i weithio. 

Mi allwch wirio eich cerdyn cofrestru cais (ARC) gan y Swyddfa Gartref – os yw’n dweud ‘work permitted’ mae hynny’n golygu bod gennych hawl i weithio.

Efallai mai dim ond rhai mathau penodol o swyddi y cewch eu gwneud - gwiriwch pa swyddi y cewch eu gwneud ar y Rhestr Cyflogau Mewnfudo (ISL) ar GOV.UK.

Gallwch chi gael Cerdyn Cofrestru Cais (ARC) newydd os yw’r gwreiddiol: 

  • wedi dod i ben

  • yn dod i ben cyn bo hir

  • ar goll neu wedi'i ddwyn

Gallwch wneud cais am ARC newydd ar GOV.UK.

Mi gewch ragor o wybodaeth am weithio yn y DU pan fyddwch yn ceisio lloches yn GOV.UK.

Siaradwch â chynghorydd os nad ydych yn siŵr a oes gennych hawl i weithio

Profi eich hawl i weithio

Mi allwch brofi eich hawl i weithio drwy ddangos eich ARC i’ch cyflogwr. Bydd yn rhaid i’ch cyflogwr gysylltu â’r Swyddfa Gartref i wirio a oes gennych hawl i weithio. 

Os bydd angen i chi brofi bod gennych hawl i wneud y swydd rydych yn ymgeisio amdani, bydd yn rhaid i chi ddangos un o’r canlynol i’ch cyflogwr:

  • eich ARC

  • llythyr ar wahân gan y Swyddfa Gartref – rhaid i’r llythyr nodi bod gennych yr hawl i wneud y swydd rydych yn ymgeisio amdani

Os oes gennych hawl cyfyngedig i aros

Mi fydd gennych hawl i aros yn gyfyngedig os oes gennych fisa â therfyn amser, er enghraifft, os oes gennych:

  • fisa myfyriwr, gwaith neu deulu

  • statws ffoadur

Mi allwch brofi eich hawl i weithio dwy ddangos un o’r canlynol i’ch cyflogwr:

  • eich pasbort dilys – rhaid bod stamp neu sticer gan y Swyddfa Gartref arno sy’n dweud y cewch aros yn y DU ac y gallwch wneud y math o waith rydych yn ymgeisio amdano

  • eich cod rhannu ar-lein

Os nad ydych yn gwybod pa fath o hawl sydd gennych

Siaradwch â chynghorydd i gael help i ddeall pa fath o hawl sydd gennych.

Os ydych yn gwneud cais i ymestyn eich hawl

Os oeddech wedi gwneud cais i ymestyn eich hawl cyn iddo ddod i ben, bydd gennych hawl i weithio o hyd tra byddwch yn gwneud cais – cyhyd â bod gennych hawl i weithio cyn hynny.

Os ydych yn gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS)

Bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi ‘tystysgrif cais’ i chi – mae hwn yn caniatáu i chi weithio pan fyddwch yn aros am benderfyniad ar eich statws. 

Fel arfer mi fyddwch yn cael eich tystysgrif cais drwy eich cyfrif ar-lein, neu mi allwch ei chael drwy e-bost neu’r post. 

Pan gewch eich tystysgrif cais, mi fydd angen i chi gael cod rhannu ar-lein. Dylech roi’r cod rhannu i’ch cyflogwr i brofi eich hawl i weithio.

Mi allwch gael cod rhannu i brofi eich hawl i weithio yn GOV.UK.

Os ydych yn gwneud cais i ymestyn math arall o hawl

Mi fydd angen i’ch cyflogwr wirio:

  • a yw’r Swyddfa Gartref wedi cael eich cais i ymestyn eich hawl 

  • bod gennych hawl i weithio

Dylai eich cyflogwr ddefnyddio Gwasanaeth Gwirio Cyflogeion y Swyddfa Gartref yn GOV.UK.

Os ydych yn cael eich cyflogi eisoes a bod eich hawl yn dod i ben, mi fydd yn rhaid i’r cyflogwr gael cadarnhad o’ch hawl i weithio o fewn 28 diwrnod. Os na fydd y Swyddfa Gartref yn cadarnhau eich hawl i weithio, mi all eich cyflogwr eich diswyddo.

Gofyn i’ch cyflogwr gysylltu â’r Swyddfa Gartref

Dylai eich cyflogwr gysylltu â’r Swyddfa Gartref o leiaf 14 diwrnod ar ôl i chi wneud cais. Ni fydd eich cais i’w weld ar system y Swyddfa Gartref ar unwaith. 

Os bydd y Swyddfa Gartref yn dweud y bydd angen apwyntiad biometrig arnoch, efallai na fydd eich cais am estyniad i’w weld ar eu system tan ar ôl yr apwyntiad. Os nad ydych wedi cael eich apwyntiad eto, dywedwch wrth eich cyflogwr – mi allwch barhau i weithio pan fyddwch yn aros am yr apwyntiad. 

Mae rhagor o wybodaeth am apwyntiadau biometrig yn GOV.UK.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich cyflogwr eich bod wedi gwneud cais er mwyn iddynt wybod pa bryd i gysylltu â’r Swyddfa Gartref. Mi allwch ddangos llythyr neu e-bost iddynt sy’n dangos dyddiad eich cais. 

Os bydd y Swyddfa Gartref yn cymryd mwy na 28 diwrnod i gadarnhau eich hawl i weithio

Mi allwch gwyno i’r Swyddfa Gartref os ydych yn poeni y gallech golli eich gwaith am eu bod yn cymryd gormod o amser i gadarnhau eich hawl i weithio. Gallwch gwyno i'r Swyddfa Gartref yn GOV.UK.

Gallwch hefyd gysylltu â'ch Aelod Seneddol lleol ar wefan y Senedd. Mi allant ganfod y rheswm am yr oedi ac mi allant helpu i gyflymu eich cais.

Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i’ch AS – bydd hyn yn eu helpu i olrhain eich cais. Er enghraifft, gallech ddangos prawf o’ch cais i ymestyn eich hawl i aros iddynt, a dyddiad eich cais.

Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch i gwyno i’r Swyddfa Gartref neu i gysylltu â’ch AS.

Cael cod rhannu

Mi allwch wneud cais ar-lein am god rhannu. Pan fyddwch wedi’i gael, mi allwch ei anfon at eich cyflogwr. Gallwch ddefnyddio’r cod rhannu am 90 diwrnod.

Gwneud cais am god rhannu yn GOV.UK

Os nad ydych wedi cael dogfen sydd ei hangen arnoch

Dylech wirio a oes modd i chi brofi eich hawl i weithio mewn ffordd wahanol – os na allwch, bydd angen i chi wneud cais am ddogfen newydd.

Cael pasbort Prydeinig newydd

Os ydych wedi colli eich pasbort Prydeinig newydd, mi allwch gael pasbort newydd ar frys yn GOV.UK.

Cael pasbort newydd gan wlad y tu allan i’r DU

Os oes gennych hawl preswylio, dylech wneud cais am dystysgrif hawl newydd i fynd yn eich pasbort newydd. Mi allwch wirio sut i wneud cais am dystysgrif hawl newydd yn GOV.UK.

Fel arfer mi allwch gael pasbort newydd drwy gysylltu â’ch llysgenhadaeth. Efallai y bydd yn rhaid i chi gael pasbort newydd i brofi eich statws mewnfudo.

Cael dogfen statws mewnfudo newydd neu stamp newydd yn eich pasbort sydd wedi dod i ben

Dylech gael trwydded preswylio biometrig newydd. Gallwch wirio sut i gael trwydded preswylio biometrig yn GOV.UK.

Os yw eich trwydded preswylio biometrig wedi mynd ar goll neu wedi’i ddwyn

Dylech gael cyfrif UKVI ac eFisa.

Ewch i weld sut mae creu cyfrif UKVI a chael statws mewnfudo ar-lein (eFisa).

Mi fydd yn rhaid i chi hefyd roi gwybod os yw eich trwydded neu gerdyn preswyl biometrig wedi mynd ar goll neu wedi’i ddwyn. Rhoi gwybod bod eich trwydded neu gerdyn preswyl biometrig wedi mynd ar goll neu wedi'i ddwyn a gwneud cais am un newydd yn GOV.UK.

Os yw eich trwydded neu gerdyn preswyl biometrig yn dod i ben

Os oes gennych hawl amhenodol i ddod i mewn i’r wlad neu i aros mi allwch wneud cais am drwydded neu gerdyn preswylio biometrig newydd yn GOV.UK.

Os oes gennych hawl penodol i aros, mae’n debyg y bydd eich hawl preswylio yn dod i ben yr un pryd â’ch trwydded neu gerdyn preswylio biometrig. Dylech wneud cais i ymestyn eich hawl yn hytrach na gwneud cais am drwydded preswylio biometrig newydd.

Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol

Mi all eich cyflogwr ofyn am eich rhif Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn profi eich hawl i weithio. Mi allwch gael rhif Yswiriant Gwladol os oes gennych hawl i weithio yn y DU a bod un o’r canlynol yn gymwys:

  • eich bod yn chwilio am waith

  • eich bod wedi cael cynnig dechrau gweithio

  • rydych wedi dechrau gweithio’n barod

Os oes gennych rif Yswiriant Gwladol eisoes ond eich bod wedi’i golli, mi allwch wirio sut i ddod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol yn GOV.UK.

Sut i wneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol yn GOV.UK

Gall gymryd 16 wythnos i gael rhif Yswiriant Gwladol. Os nad ydych wedi cael rhif Yswiriant Gwladol eto, mi allwch ddangos e-bost neu lythyr i’ch cyflogwr sy’n dangos eich bod wedi gwneud cais am un.

Os yw eich cyflogwr wedi’ch diswyddo neu wedi tynnu cynnig o swydd yn ôl

Os yw eich cyflogwr wedi’ch diswyddo neu wedi tynnu cynnig o swydd yn ôl o ganlyniad i rywbeth sy’n gysylltiedig â’ch hawl i weithio, mae’n bosibl eu bod wedi gwahaniaethu yn eich erbyn. 

Os yw eich cyflogwr wedi’ch diswyddo, mi allai hynny gyfrif fel diswyddiad annheg. 

Gallwch herio penderfyniad eich cyflogwr os ydynt wedi’ch trin yn annheg. 

Gwirio a yw eich diswyddiad yn annheg

Mi all fod yn ddiswyddiad annheg os nad oedd eich cyflogwr wedi eich trin yn deg, er enghraifft os 

  • oeddent wedi dweud nad oeddech wedi dangos digon o dystiolaeth i brofi eich hawl i weithio, er eich bod wedi dangos y dogfennau cywir iddynt 

  • nad oeddent wedi rhoi digon o amser i chi i gael y dogfennau cywir 

  • oeddent wedi eich diswyddo pan oeddech yn gwneud cais i ymestyn eich hawl preswylio

  • oeddent wedi gwrthod gwirio eich cod rhannu ar-lein 

Bydd angen i chi wirio ambell beth arall i wybod a oedd eich diswyddiad yn annheg – er enghraifft, ers faint ydych wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr. Gallwch wirio a ydych wedi cael eich diswyddo'n annheg.

Gwirio a yw eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn

Gallwch wirio a ydych wedi profi gwahaniaethu a sut i gymryd camau yn ei erbyn.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.