Sut i gael tâl salwch
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’n rhaid i’ch cyflogwr esbonio beth y mae angen i chi ei wneud pan fyddwch chi’n absennol o’r gwaith oherwydd salwch, gan gynnwys y canlynol:
pryd y dylech chi roi gwybod eich bod yn sâl
pa wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi iddyn nhw
Os nad yw eich cyflogwr wedi esbonio, gofynnwch iddyn nhw beth i’w wneud, neu cymerwch olwg yn eich llawlyfr staff neu’r mewnrwyd.
Dylech chi hefyd wirio a oes gan eich cyflogwr reolau ynghylch unrhyw dâl salwch ychwanegol maen nhw’n ei gynnig. Weithiau gelwir hyn yn ‘tâl salwch contractiol’ (CSP), sef tâl salwch y gall eich cyflogwr ei dalu yn ychwanegol at dâl salwch statudol (SSP).
Os nad ydych chi’n dilyn rheolau eich cyflogwr
Byddwch chi’n torri un o delerau eich contract gyda’r cyflogwr.
Dylech chi gael unrhyw dâl salwch statudol o hyd, ond gall olygu:
na fyddwch chi’n cael unrhyw dâl salwch ychwanegol sy’n bosibl yn rhan o’ch contract
y byddwch chi’n colli eich swydd
Os nad yw eich cyflogwr wedi rhoi gwybod sut i gael tâl salwch
Dylech chi wneud y canlynol:
dweud wrth eich cyflogwr yn syth eich bod chi’n sâl ac na allwch chi weithio
rhoi gwybod i’ch cyflogwr pryd cychwynnodd y salwch, gan gynnwys diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau gwaith
Mae angen i chi gadarnhau’r salwch yn ysgrifenedig – gelwir hyn yn ‘hunanardystio. Bydd angen i chi wneud hyn yn y 7 diwrnod ar ôl i chi roi gwybod i’ch cyflogwr eich bod chi’n sâl. Gallwch chi ddefnyddio ffurflen datganiad o salwch y gweithiwr ar GOV.UK.
Dylech chi ddarparu nodyn gan y meddyg os ydych chi’n sâl am dros 7 diwrnod. Mae’r 7 diwrnod yn cynnwys diwrnodau lle na fyddech chi’n gweithio fel arfer.
Yr hyn na all eich cyflogwr ddweud wrthych chi ei wneud
Os ydych chi’n sicr y gallwch chi gael SSP, ac nad oes unrhyw reolau ynghylch tâl salwch contractiol (CSP) yn eich contract, ni all eich cyflogwr wneud y canlynol:
mynnu eich bod chi’n rhoi gwybod iddyn nhw eich bod chi’n sâl erbyn amser penodol o’r dydd
gofyn i chi gysylltu â nhw fwy nag unwaith yr wythnos
gofyn i chi ddarparu nodyn gan y meddyg nes eich bod wedi bod yn sâl ers dros 7 diwrnod
mynnu eich bod chi’n defnyddio ffurflen benodol i roi gwybod am eich salwch – hunanardystio
gwrthod gadael i rywun arall ddweud wrthyn nhw eich bod chi’n sâl. Er enghraifft, os ydych chi’n rhy sâl i roi gwybod eich hun
Os yw eich cyflogwr yn gwrthod talu eich SSP oherwydd unrhyw rai o’r rhesymau hyn, mae camau y gallwch chi eu dilyn i gael eich talu.
Nodyn ffitrwydd
Os ydych chi’n sâl am dros 7 diwrnod, dylech chi ddarparu nodyn ffitrwydd.
Gallai’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi’u rhestru isod ddarparu nodyn ffitrwydd:
meddyg teulu neu feddyg mewn ysbyty
nyrs gofrestredig
fferyllydd
therapydd galwedigaethol
ffisiotherapydd
Byddwch chi’n cael nodyn ffitrwydd naill ai wedi’i argraffu neu’n ddigidol. Os nad ydych chi’n siŵr pa un fyddwch chi’n ei gael a sut byddwch chi’n ei dderbyn, holwch y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Os ydych chi’n cael nodyn ffitrwydd wedi’i argraffu, gwiriwch fod y gweithiwr iechyd gofal proffesiynol wedi’i lofnodi.
Os ydych chi’n cael nodyn ffitrwydd digidol, gwiriwch ei fod yn cynnwys enw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Os nad yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi llofnodi eich nodyn ffitrwydd, neu os nad yw wedi cynnwys ei enw, gall eich cyflogwr ei wrthod ac efallai y bydd yn rhaid i chi gael un newydd.
Dylech chi gadw eich nodyn ffitrwydd bob amser – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am un newydd os ydych chi’n ei ddileu neu’n ei golli. Gallwch chi roi copi i’ch cyflogwr.
Dylai’r nodyn ffitrwydd nodi’r naill neu’r llall o’r pwyntiau isod:
nad ydych chi’n ffit i weithio
y gallech chi fod yn ffit i weithio
Os yw eich nodyn ffitrwydd yn dweud y ‘gallech chi fod yn ffit i weithio’
Gallai’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol argymell y math o waith a all fod yn bosibl i chi ei gyflawni. Er enghraifft, gallan nhw argymell nad ydych chi’n codi pwysau trwm nes bydd eich anaf cefn wedi gwella.
Os na all y cyflogwr wneud y newidiadau y mae’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ei argymell, dylech chi aros i ffwrdd o’r gwaith a gallwch chi barhau i dderbyn SSP nes y byddwch chi’n ddigon iach i weithio.
Os ydych chi’n sâl oherwydd bod anabledd gennych chi, mae gan eich cyflogwr ddyletswydd cyfreithiol, o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, i wneud newidiadau i’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith. Gelwir y rhain yn ‘addasiadau rhesymol’.
Os oes gennych chi anabledd, ewch i weld sut i ofyn i’ch cyflogwr wneud addasiadau rhesymol.
Efallai y bydd yn rhaid i chi ddangos bod eich cyflwr yn anabledd – gallwch chi weld a yw eich cyflwr yn anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Os ydych chi am ddychwelyd i’r gwaith
Os ydych chi’n teimlo’n ddigon da i fynd yn ôl i’r gwaith cyn i’ch nodyn ffitrwydd ddod i ben, siaradwch â’ch cyflogwr. Mae’n bosibl y byddan nhw am i chi siarad ag iechyd galwedigaethol yn gyntaf.
Fel arfer bydd rheolau eich cyflogwr ynghylch dychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch i’w gweld yn eich llawlyfr staff neu ar y mewnrwyd.
Fel arfer gallwch chi fynd yn ôl i’r gwaith ar ôl i’r dyddiad ar eich nodyn ffitrwydd ddod i ben. Edrychwch ar y nodyn ffitrwydd yn gyntaf – gallai nodi bod eich meddyg am i chi gael prawf meddygol cyn i chi ddod yn ôl.
Sut byddwch chi’n cael tâl salwch
Fel arfer bydd SSP a CSP yn cael eu talu i chi yn yr un modd â’ch cyflog arferol.
Bydd taliadau treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu o’r SSP a’r CSP.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 09 Rhagfyr 2022