Edrychwch a ydych chi'n gweithio mwy na'r uchafswm o 48-awr
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y bydd angen i chi gyfrifo faint o oriau rydych chi'n gweithio os:
ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gweithio mwy na 48 awr yr wythnos
bod eich cyflogwr eisiau i chi weithio mwy na 48 awr yr wythnos
bod eich cyflogwr wedi gofyn i chi optio allan o'r 'Rheoliadau Amser Gweithio’
Os ydych chi'n gweithio llai na 48 awr ac yn teimlo eich bod chi'n gweithio gormod, edrychwch beth i’w wneud os ydych chi’n gweithio gormod o oriau.
Mae yna 3 cham i weld beth yw eich oriau gwaith:
edrychwch a yw'r uchafswm o 48-awr yn berthnasol i chi
edrychwch pa weithgareddau y dylech eu cyfrif fel amser gweithio
cyfrifwch eich oriau gwaith wythnosol ar gyfartaledd
Os oes angen, gallwch edrych os ydych chi’n cael yr isafswm cyflog cenedlaethol ar GOV.UK neu siaradwch â chynghorwr yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Os ydych chi'n meddwl nad ydych chi'n cael eich talu'n iawn am yr oriau rydych chi'n gweithio, edrychwch beth i’w wneud os ydych chi’n cael trafferth cael eich talu.
1. Edrychwch a yw’r uchafswm o 48-awr yn berthnasol i chi
Ni all eich cyflogwr wneud i chi weithio mwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Does dim gwahaniaeth beth mae eich contract yn ei ddweud neu os nad oes gennych chi gontract ysgrifenedig.
Os ydych chi am weithio mwy na 48 awr yr wythnos, gallwch lofnodi cytundeb i optio allan o'r uchafswm oriau wythnosol. Eich penderfyniad chi yw hwn - ni all eich cyflogwr wneud i chi optio allan.
Os byddwch chi’n optio allan o'r rheoliadau amser gweithio, efallai y bydd yn rhaid i chi weithio mwy na 48-awr yr wythnos ar gyfartaledd. Edrychwch beth y gallwch ei wneud os ydych chi eisiau canslo eich cytundeb optio allan.
Dydi’r uchafswm o 48-awr ddim yn berthnasol i chi os ydych chi’n:
yrrwr lori, bws neu gerbyd nwyddau trwm
yn y lluoedd arfog, gwasanaethau brys neu’r heddlu
gweithiwr domestig mewn cartref preifat
staff hedfan fel criw caban neu beilotiaid
gweithiwr ar long
uwch reolwr neu uwch swyddog lle nad yw eich amser gweithio yn cael ei fesur a’ch bod chi'n rheoli eich penderfyniadau
Os nad ydych chi'n siŵr pa uchafswm oriau gwaith sy'n berthnasol i'ch swydd, gallwch gael help gan eich undeb neu cysylltwch â chynghorwr cyflogaeth arbenigol yn Acas.
2. Edrychwch beth sy’n cyfrif tuag at eich uchafswm o 48-awr
Dylech gynnwys unrhyw amser rydych chi'n ei dreulio’n gwneud gwaith rydych chi wedi cytuno i'w wneud i'ch cyflogwr.
Dylech adael allan unrhyw amser rydych chi wedi’i gymryd i ffwrdd a seibiannau pan nad oes gwaith wedi'i wneud. Edrychwch pa hawl sydd gennych i gymryd seibiant.
Os ydych chi'n teithio fel rhan o’ch swydd
Os ydych chi'n teithio fel rhan o'ch swydd – er enghraifft, fel gwerthwr neu weithiwr gofal – dylech gyfrif yr amser a dreulir yn teithio rhwng apwyntiadau fel amser gweithio.
Os nad oes gennych chi leoliad gwaith sefydlog – er enghraifft, os ydych chi'n darparu gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain – dylech gyfrif yr amser teithio rhwng y cartref a'r gwaith fel amser gweithio.
Os ydych chi'n gweithio yn yr un lleoliad bob dydd, ni allwch gyfrif eich amser teithio arferol rhwng eich cartref a'ch gwaith.
Os ydych chi'n gwneud hyfforddiant sy'n gysylltiedig â swydd
Gallwch gyfrif amser a dreulir ar hyfforddiant cysylltiedig â’ch swydd fel amser gweithio os yw eich cyflogwr wedi cytuno i chi ddilyn yr hyfforddiant. Does dim ots a yw eich cyflogwr yn talu am yr hyfforddiant ai peidio.
Efallai y gall eich cyflogwr eich gorfodi i ddilyn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'ch swydd y tu allan i'ch oriau gwaith arferol os yw hynny yn eich contract. Bydd y rhain yn cael eu cyfrif fel oriau gwaith.
Allwch chi ddim cyfrif hyfforddiant rydych chi wedi penderfynu ei wneud ar eich liwt eich hun fel amser gweithio, hyd yn oed os yw'n gysylltiedig â'ch swydd – er enghraifft, dosbarthiadau nos.
Mae Sarah yn gweithio'n rhan-amser mewn siop yn ystod yr wythnos. Mae ei chyflogwr yn gofyn iddi wneud cwrs hyfforddi ar ddydd Sadwrn. Mae'r amser mae hi'n ei dreulio mewn hyfforddiant yn cyfrif fel amser gweithio, er ei fod y tu allan i'w horiau gwaith arferol.
Cinio gwaith a seibiant
Dylech chi ond gyfrif cinio yn eich amser gweithio os oeddech chi'n gweithio mewn gwirionedd, er enghraifft cael cinio gyda chleient.
Ni ddylech gynnwys unrhyw egwyl cinio lle nad oes rhaid i chi wneud unrhyw waith.
Ni ddylech chwaith gynnwys unrhyw egwyl cinio rydych chi'n dewis gweithio drwyddynt.
Nid yw amser gweithio yn cynnwys seibiannau, felly ni ddylech gyfrif unrhyw amser rydych chi'n ei dreulio’n cymryd seibiant yn ystod neu rhwng shifftiau. Gallwch edrych pa hawl sydd gennych i gymryd seibiant os nad ydych yn siŵr.
Os ydych chi'n gweithio goramser
Pan fyddwch chi'n adio eich oriau gwaith, dylech gyfrif unrhyw oramser rydych chi wedi cytuno i'w wneud.
Mae gweithio goramser yn golygu gwneud mwy na'r oriau gwaith arferol a bennwyd yn eich contract. Dim ond os yw wedi’i gynnwys yn eich contract y mae'n rhaid i chi weithio goramser.
Ni ddylech gyfrif unrhyw oramser di-dâl rydych chi'n ei wneud na ofynnwyd i chi ei wneud, fel aros yn hwyr i orffen rhywbeth neu fynd â gwaith adref i’w wneud.
Os ydych chi’n gweithio ar alwad
Efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi weithio 'ar alwad', cyfeirir at hyn hefyd fel 'parod i weithio', y tu allan i'ch oriau gwaith arferol. Dim ond os yw wedi’i gynnwys yn eich contract y mae'n rhaid i chi weithio ar alwad.
Os yw'ch cyflogwr yn gofyn i chi aros yn eich gweithle a bod yn rhaid i chi fod ar gael i weithio pan fydd yn gofyn, mae'r holl amser rydych chi ar alwad yn cyfrif fel amser gweithio.
Os yw'ch cyflogwr yn dweud bod yn rhaid i chi aros yn agos iawn at eich gweithle, er enghraifft 5 munud i ffwrdd mewn car, gallai hyn fod yn amser gweithio.
Mae cwsg yn cyfrif fel amser gweithio tra byddwch chi ar alwad yn y gweithle.
Os ydych chi'n aros gartref neu rywle o'ch dewis eich hun, ac y caniateir i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden neu gysgu, ni ddylech gyfrif hyn fel amser gweithio. Nid yw'r amser rydych chi'n ei dreulio ar alwad gartref yn cyfrif fel amser gweithio nes eich bod chi'n gwneud gwaith mewn gwirionedd.
Caniateir i'ch cyflogwr osod amodau tra byddwch chi ar alwad, fel:
cadw o fewn amser teithio neu bellter penodol i’ch gweithle
cyfyngu ar faint o alcohol yr ydych chi’n ei yfed
bod yn effro ar amseroedd penodol
Y mwyaf cyfyngedig yw'r amodau hynny, y mwyaf tebygol yw hi fod eich amser ar alwad yn amser gweithio.
Os ydych chi'n byw yn eich man gwaith, mae'n debygol bod eich amser ar alwad yn cyfrif fel amser gweithio. Fodd bynnag, nid yw'r gyfraith yn glir ac yn aml mae'n rhaid i bobl fynd i'r tribiwnlys cyflogaeth i benderfynu.
Gall fod yn anodd gweithio allan os yw amser ar alwad yn cyfrif fel amser gweithio. Os na allwch chi ddod i gytundeb gyda'ch cyflogwr, gofynnwch am help gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Os ydych chi’n gweithio gartref
Dylech gyfrif unrhyw amser a dreulir yn gweithio gartref tuag at eich amser gweithio, cyn belled â'ch bod wedi cytuno ar hyn gyda'ch cyflogwr.
Er enghraifft, efallai eich bod chi fel arfer yn gweithio mewn swyddfa, ond yn gweithio gartref o bryd i'w gilydd. Mae hyn yn wahanol i weithio ar alwad.
Os ydych chi’n gweithio yn y nos
Rydych chi'n cael eich disgrifio fel gweithiwr nos os ydych chi'n gweithio'n rheolaidd o leiaf 3 awr yn y nos.
Gallai'r hyn sy'n cyfrif fel 'nos' fod yn eich contract. Gall eich cyflogwr bennu pa oriau sy'n cyfrif fel nos, ond mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf hanner nos i 5am.
Os nad yw gweithio dros nos yn eich cytundeb, mae'n golygu 11pm i 6am.
Uchafswm oriau os ydych chi'n weithiwr nos
Ni ddylech orfod gweithio mwy nag 8 awr ar gyfartaledd ym mhob cyfnod o 24 awr, ar gyfartaledd dros 17 wythnos. Gallwch weithio mwy nag 8 awr y dydd cyn belled â bod y cyfartaledd dros 17 wythnos yn ddim mwy nag 8. Ni all eich cyflogwr ofyn i chi optio allan o'r uchafswm oriau yma.
Efallai y bydd yn rhaid i chi weithio mwy nag 8 awr y nos ar gyfartaledd mewn rhai swyddi, fel y gwasanaethau brys. Edrychwch ym mha swyddi y gallai fod angen i chi weithio mwy yn y nos on GOV.UK.
Os ydych chi’n cymryd amser i ffwrdd o’ch gwaith
Pan fyddwch chi'n adio eich amser gweithio, ni ddylech gynnwys unrhyw ddiwrnodau rydych chi wedi’u cymryd i ffwrdd o'r gwaith:
gwyliau blynyddol â thâl
absenoldeb mamolaeth
absenoldeb tadolaeth
absenoldeb mabwysiadu
amser i ffwrdd yn sâl
absenoldeb rhiant di-dâl
3. Cyfrifo eich oriau gwaith
Os ydych chi'n gweithio'r un oriau bob wythnos, a heb gymryd unrhyw amser i ffwrdd yn ystod yr 17 wythnos diwethaf, adiwch eich goramser at eich oriau cytundebol. Os yw'r cyfanswm dros 48, rydych chi'n gweithio mwy na'r uchafswm cyfreithiol.
Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os oes angen help arnoch i weithio allan eich oriau.
Os nad ydych chi wedi cymryd unrhyw amser i ffwrdd a bod eich oriau’n amrywio
I gyfrifo eich oriau gwaith pan nad ydych chi wedi cymryd unrhyw amser i ffwrdd, dylech chi:
adio nifer yr oriau rydych chi wedi'u gweithio dros 17 wythnos, gan gynnwys goramser
rhannu nifer yr oriau a weithiwyd â nifer yr wythnosau yn y cyfnod dan sylw - fel arfer 17 wythnos
Gweithiodd Samantha 40 awr yr wythnos, ynghyd â 12 awr o oramser yr wythnos am 10 wythnos gyntaf y cyfnod 17-wythnos dan sylw. Ni chymerodd unrhyw wyliau.
Cam 1: Adiwch nifer yr oriau y bu’n hi’n gweithio
17 wythnos o 40 awr
= 17 x 40
= 680
10 wythnos o 12 awr o oramser
= 10 x 12
= 120
680 + 120 = 800 awr wedi’u gweithio
Cam 2: Rhannwch gyfanswm yr oriau y bu’n gweithio gyda hyd y cyfnod dan sylw
800 awr wedi’i rannu â 17 wythnos = 47.1 awr yr wythnos
Mae oriau gweithio cyfartalog Samantha yn is na’r cyfanswm 48-awr.
Os ydych chi’n gweithio yn y nos
Os ydych chi'n weithiwr nos, ni ellir gofyn i chi weithio mwy nag 8 awr y dydd ar gyfartaledd.
I weithio allan y cyfartaledd hwn, adiwch eich oriau dros 17 wythnos, a rhannwch â 102 diwrnod. Mae hyn yn cymryd bod gan bob wythnos 6 diwrnod yn hytrach na 7, oherwydd mae gennych hawl gyfreithiol i 1 diwrnod yr wythnos lle nad ydych chi'n gwneud unrhyw waith.
Ahmed works four 12-hour shifts each week, with 1 rest day each week.
Step 1: Add up the number of hours you worked
4 shifts of 12 hours work, every week for 17 weeks
4 x 12 = 48 hours
48 x 17 = 816 hours worked in 17 weeks
Step 2: Add up the number of days you could have worked, minus rest days
17 weeks x 7 days = 119 days in the reference period
1 rest day per week = 17 days
119 - 17 = 102 days you're allowed to work during the reference period
Step 3: Calculate your weekly average hours by dividing your hours worked by number of days
816 hours worked divided by 102 days allowed to work = 8 hours a day, which is within the working hours limit for night workers.
If you're not sure if your calculations are correct, get help from your nearest Citizens Advice.
Os yw eich cyflogwr yn gwneud i chi weithio mwy na 48 awr
Os ydych chi'n cael eich gorfodi i weithio mwy na 48 awr yr wythnos, mae’n bosibl bod eich cyflogwr yn torri telerau eich contract. Gallech chi siarad efo’ch cyflogwr am hyn neu wneud cwyn.
Os na fydd hyn yn datrys y broblem, gallech ymddiswyddo a hawlio diswyddiad deongliadol mewn tribiwnlys cyflogaeth.
Mae'n anodd profi diswyddiad deongliadol ac nid oes llawer yn ennill. I fod yn llwyddiannus, byddai angen i chi brofi bod eich cyflogwr wedi torri eich contract yn ddifrifol a’ch bod wedi ymddiswyddo mewn ymateb i hynny.
Cyn i chi ymddiswyddo, dylech chi edrych sut i hawlio diswyddiad deongliadol ac edrych faint y gallech chi ei gael gyda chynghorwr yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Os nad ydych chi am gymryd camau cyfreithiol ond yn meddwl bod eich cyflogwr yn torri'r rheolau, gallwch hefyd roi gwybod am broblem gydag oriau gwaith ar GOV.UK
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 15 Mawrth 2019