Gweithio ar wyliau banc
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae i fyny i'ch cyflogwr benderfynu a oes rhaid i chi weithio ar wyliau banc ai peidio.
Os yw'ch man gwaith ar gau ar wyliau banc, gall eich cyflogwr fynnu eich bod yn eu cymryd nhw fel rhan o'ch hawl i wyliau blynyddol.
Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn rhoi gwyliau banc i ffwrdd i chi ac yn eich talu amdanynt ar ben eich hawl i wyliau blynyddol. Bydd hyn yn cael ei amlinellu yn eich contract.
Edrychwch ar wyliau banc yng Nghymru a Lloegr.
Edrych ar eich contract
Os oes gennych chi gontract cyflogaeth, dylech edrych beth mae'n ei ddweud. Dylai amlinellu rheolau ynglŷn â gweithio ar wyliau banc.
Chwiliwch am eiriau fel 'gwyliau', 'hawl i wyliau' neu 'wyliau blynyddol'.
Efallai y byddwch chi'n gweld rhywbeth sy'n dweud, "Yn ogystal â gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus, eich hawl i wyliau blynyddol ... diwrnod" - byddai hyn yn golygu eich bod yn cael gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol at eich hawl i wyliau blynyddol.
Neu efallai y byddwch chi'n gweld, "Eich hawl i wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus) yw ... diwrnod" - byddai hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gymryd gwyliau banc fel rhan o'ch hawl i wyliau blynyddol.
Rhaid i'ch cyflogwr ddilyn yr hyn sydd yn eich contract. Os nad ydyn nhw'n gwneud hynny, dylech godi'r mater gyda nhw.
Os nad yw'ch contract yn dweud unrhyw beth am wyliau banc, gofynnwch i'ch cyflogwr beth yw eu rheolau.
Os nad oes gennych chi gontract
Os nad ydych chi wedi cael contract, dylech ofyn i'ch cyflogwr beth yw eu rheolau.
Gallech hefyd siarad â chydweithwyr eraill i weld beth yw eu sefyllfa. Os ydych chi'n cael eich trin yn wahanol i'ch cydweithwyr, gallech godi'r mater gyda'ch cyflogwr.
Gwyliau banc a gwyliau blynyddol
Os oes gennych chi hawl i wyliau blynyddol, yna bydd gwyliau banc naill ai:
yn cael eu tynnu o'ch lwfans gwyliau blynyddol (felly bydd yn rhaid i chi gymryd pob gwyliau banc fel gwyliau â thâl)
yn cael eu cyfrif fel diwrnodau gwyliau ychwanegol - efallai y cewch chi neu na chewch chi eich talu amdanynt
Dylai eich contract ddweud pa sefyllfa sy'n berthnasol i chi. Os nad yw'n gwneud hynny, bydd gwyliau banc yn cael eu tynnu'n awtomatig o'ch hawl i wyliau blynyddol.
Rydych chi'n gweithio'n llawn amser ac mae gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau â thâl statudol y flwyddyn. Does gennych chi ddim contract cyflogaeth ysgrifenedig. Bydd yn rhaid i chi gymryd yr 8 gŵyl banc allan o'ch hawl i wyliau â thâl. Mae hyn yn golygu y bydd gennych 20 diwrnod ar ôl i'w cymryd pan fyddwch chi'n dewis.
Os ydych chi’n gweithio’n rhan-amser
Os yw'ch gwaith yn cau ar wyliau banc a’ch bod chi fel arfer yn gweithio ar y diwrnodau hynny, bydd yn rhaid i chi eu cymryd fel gwyliau â thâl. Gan eich bod chi'n gweithio'n rhan-amser, bydd gennych hawl i lai o ddiwrnodau gwyliau statudol bob blwyddyn na phe baech chi'n gweithio’n llawn amser. Bydd hyn yn gadael llai o ddiwrnodau gwyliau i chi eu cymryd ar adeg o'ch dewis.
Rydych chi'n gweithio 1 diwrnod yr wythnos - dydd Llun. Mae gennych hawl i 5.6 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn.
Mae 4 gŵyl banc sydd ar ddydd Llun bob blwyddyn, ac mae eich gwaith yn cau ar y diwrnodau yma. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi ddefnyddio hyd at 4 diwrnod o'ch gwyliau blynyddol ar wyliau banc. Mae hyn yn eich gadael gyda 1.6 diwrnod o wyliau blynyddol i'w cymryd ar adeg o'ch dewis.
Pe baech chi'n gweithio ar ddydd Mawrth, ni fyddai gwyliau banc ar y diwrnodau rydych chi'n gweithio. Felly byddai’n gadael 5.6 diwrnod o wyliau blynyddol i'w cymryd ar adeg o'ch dewis.
Nid oes unrhyw gyfraith i atal eich cyflogwr rhag gwneud hyn, ond efallai y byddwch chi'n gallu ei drafod. Er enghraifft, gallech ofyn iddynt beidio â’ch talu ar wyliau banc ac yn lle hynny rhoi gwyliau â thâl i chi ar ddiwrnodau eraill o'ch dewis.
Ceisio datrys problem gyda’ch cyflogwr
Cymerwch y camau canlynol
Cam 1: siarad â’ch cyflogwr
Gallech geisio cael sgwrs anffurfiol gyda'ch cyflogwr (neu adran AD os oes ganddynt un). Esboniwch eich pryderon a cheisiwch ddatrys y mater.
Cam 2: gwneud cwyn
Ewch i weld a oes gan eich cyflogwr drefn gwyno ffurfiol y gallwch ei defnyddio. Hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw un, mae’n dal yn bosibl i chi wneud cwyn - er enghraifft trwy ysgrifennu llythyr.
Gallech chi ddweud rhywbeth fel:
“Mae fy nghytundeb yn nodi fy hawliau ynglŷn â gweithio ar wyliau banc. Rydych wedi torri'r telerau hyn.”
Cam 3: cael cyngor
Os nad yw'ch cyflogwr yn ymateb, neu os ydyn nhw'n ymateb ond nad dyma'r ymateb roeddech chi ei eisiau, dylech chi gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Byddan nhw’n gallu eich cynghori ynghylch beth i'w wneud nesaf - er enghraifft, a allwch chi fynd â'ch achos i dribiwnlys cyflogaeth.
Os ydych chi'n mynd i gangen o Gyngor ar Bopeth, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n mynd â’r canlynol gyda chi:
eich contract cyflogaeth, os oes gennych chi un
unrhyw ohebiaeth a fu rhyngoch chi a’ch cyflogwr
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.