Rhoi gwybod am newidiadau os ydych yn cael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae rhai newidiadau y bydd angen i chi roi gwybod amdanynt i'ch cyngor lleol os ydych yn cael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor (CTR). Gallai newid olygu eich bod yn cael mwy neu lai o CTR - bydd eich cyngor yn dweud wrthych os bydd hynny’n digwydd.
Os na fyddwch yn rhoi gwybod am y newidiadau hyn, efallai:
- y byddwch yn cael y swm anghywir o CTR - os nad yw'r cyngor yn codi digon o dreth gyngor arnoch, bydd angen i chi dalu'r arian ychwanegol yn y dyfodol 
- y byddwch yn gorfod talu cosb 
- y byddwch yn cael eich dwyn i’r llys gan y cyngor 
Gwiriwch ba reolau sy'n berthnasol i chi
Fel arfer, bydd pa reolau sy'n berthnasol i chi yn dibynnu ar a ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ai peidio. Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.
Os ydych chi dan oed Pensiwn y Wladwriaeth, mae'r 'rheolau oedran gweithio' yn berthnasol.
Os ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, mae'r 'rheolau oedran pensiwn’ fel arfer yn berthnasol.
Hyd yn oed os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd y rheolau oedran gweithio yn berthnasol os ydych chi neu'ch partner yn cael:
- Credyd Cynhwysol 
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA) 
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA) 
- Cymhorthdal Incwm 
Gwiriwch beth sydd angen i chi adrodd
Mae angen i chi ddweud wrth eich cyngor am unrhyw beth a allai effeithio ar faint o CTR gewch chi. Eich cyngor lleol sy'n pennu'r union reolau.
Dylai eich cyngor fod wedi anfon llythyr atoch pan wnaethoch hawlio CTR am y tro cyntaf i ddweud wrthych faint yr ydych yn ei gael. Mae’r llythyr hwn hefyd yn dweud wrthych ba newidiadau y mae angen i chi eu hadrodd.
Fel arfer, bydd angen i chi roi gwybod am y canlynol:
- os bydd eich incwm chi neu incwm eich partner yn newid 
- os bydd eich cynilion wedi cynyddu 
- os ydych yn stopio cael budd-daliadau 
- os bydd rhywun yn ymuno â’ch cartref neu’n gadael eich cartref 
- os byddwch yn symud tŷ - os byddwch yn symud i ardal cyngor newydd, dylech ddweud wrth eich hen gyngor a gwneud cais am CTR gyda'ch cyngor newydd 
Os byddwch yn stopio cael budd-daliadau
Fel arfer, rhaid i chi ddweud wrth eich cyngor lleol os byddwch chi neu'ch partner yn stopio cael unrhyw fudd-daliadau.
Does dim rhaid i chi ddweud wrth y cyngor am newidiadau i'ch budd-daliadau os ydych chi'n dal i gael yr elfen gwarant o’r Credyd Pensiwn.
Os bydd eich budd-daliadau'n dod i ben oherwydd eich bod yn ennill mwy o arian
Efallai y byddwch yn gallu parhau i gael yr un faint o CTR am 4 wythnos - gallai fod am gyfnod hirach na 4 wythnos, yn dibynnu ar bolisi eich cyngor lleol.
Fel arfer, gallwch gael cyfnod CTR ychwanegol os oeddech chi neu'ch partner yn cael un o'r budd-daliadau hyn am o leiaf 26 wythnos:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) 
- Cymhorthdal Incwm 
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA) 
- Lwfans Anabledd Difrifol (SDA) 
- Budd-dal Analluogrwydd 
Os byddwch yn symud i ardal cyngor arall yn ystod eich cyfnod ychwanegol o CTR, dylech gael y CTR ychwanegol o hyd gan eich hen gyngor lleol. Efallai y byddant yn ei dalu'n uniongyrchol i chi, yn hytrach nag i'ch cyfrif treth gyngor newydd.
Os bydd eich budd-daliadau'n dod i ben oherwydd eich bod chi neu'ch partner yn symud i Gredyd Pensiwn
Os oes gennych hawl o hyd i CTR ond ei fod yn llai nag o'r blaen, byddwch yn dal i gael y swm uwch am 4 wythnos.
Os byddwch yn symud i ardal cyngor arall yn ystod eich cyfnod ychwanegol o CTR, dylech gael y CTR ychwanegol o hyd gan eich hen gyngor lleol. Efallai y byddant yn ei dalu'n uniongyrchol i chi, yn hytrach nag i'ch cyfrif treth gyngor newydd.
Does dim angen i chi wneud cais am y CTR ychwanegol hwn - dylech ei gael yn awtomatig. Os ydych chi'n meddwl y dylech fod wedi'i gael, ond nad ydych wedi’i dderbyn, holwch eich cyngor lleol.
Os nad ydych chi gartref
Fel arfer, dim ond pan fyddwch yn byw yn eich cartref y gallwch gael CTR.
Caniateir i chi dreulio amser i ffwrdd o'ch cartref a pharhau i gael CTR os:
- rydych yn bwriadu dychwelyd adref 
- nad ydych yn gosod neu'n isosod eich cartref tra byddwch i ffwrdd 
- nad ydych yn bwriadu bod oddi cartref am fwy na 13 wythnos 
Os ydych chi i ffwrdd am fwy na 13 wythnos
Bydd angen i chi ddweud wrth eich cyngor lleol os ydych chi'n debygol o fod i ffwrdd am fwy na 13 wythnos.
Gallwch barhau i gael CTR am hyd at flwyddyn os ydych:
- yn garcharor neu ar fechnïaeth yn aros am eich treial neu ddedfryd 
- yn glaf mewn ysbyty neu leoliad arall ble rydych chi’n cael gofal 
- yn aros gyda'ch partner neu blentyn dibynnol sy'n cael triniaeth feddygol neu'n gwella yn yr ysbyty 
- ar gwrs hyfforddi 
- yn darparu gofal wedi’i gymeradwyo’n feddygol i rywun 
- yn gofalu am blentyn y mae ei riant neu warcheidwad i ffwrdd yn derbyn triniaeth feddygol 
- yn fyfyriwr 
- oddi cartref oherwydd ofn trais 
Os oes angen i chi fod oddi cartref am ryw reswm arall, efallai y byddai'n werth meddwl a allai rhywun arall sy'n byw yn eich eiddo wneud cais am CTR yn hytrach na chi.
Os ydych chi'n aros mewn cartref gofal am gyfnod prawf
Gallwch barhau i gael CTR am hyd at 13 wythnos, cyn belled:
- ag eich bod yn bwriadu dychwelyd adref os nad yw'r cartref gofal preswyl yn addas i chi 
- nad ydych yn gosod neu'n isosod eich cartref tra byddwch i ffwrdd 
- nad ydych chi wedi bod oddi cartref am fwy na 52 wythnos 
Rhoi gwybod am newid
Dylech roi gwybod am newidiadau cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt ddigwydd. Os bydd y newid yn cynyddu eich CTR, efallai y byddwch yn colli allan ar arian ychwanegol os byddwch yn dweud wrth y cyngor yn hwyr.
Dylech ddweud wrth y cyngor o hyd os ydych yn meddwl y gallai newid leihau eich CTR - ni fyddwch yn arbed arian drwy roi gwybod amdano yn nes ymlaen. Os na fyddwch yn dweud wrth y cyngor pan fydd y newid yn digwydd, efallai na fyddant yn codi digon o dreth gyngor arnoch a bydd angen i chi dalu'r arian ychwanegol yn nes ymlaen.
Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.
Gwnewch nodyn o’r dyddiad a’r amser y byddwch yn rhoi gwybod am y newid.
Os byddwch chi’n rhoi gwybod am newid dros y ffôn, gallwch hefyd wneud nodyn o bwy wnaethoch chi siarad â nhw. Mae’n syniad da dilyn eich galwad ffôn yn ysgrifenedig.
Os nad ydych yn rhoi gwybod am newid
Efallai y bydd eich cyngor lleol yn:
- gofyn i chi dalu cosb 
- mynd â chi i’r llys 
Ni ddylech orfod talu cosb os oes gennych esgus rhesymol dros beidio â dweud wrth eich cyngor am y newid. Er enghraifft, gallai fod yn esgus rhesymol os ydych chi neu rywun yn eich teulu wedi bod yn sâl neu os nad ydych chi'n siarad llawer o Saesneg.
Os bydd eich cyngor lleol yn dweud eu bod yn eich ymchwilio am dwyll
Gallent ofyn i chi fynd i ‘gyfweliad dan rybudd’. Gallwch ganfod beth i'w wneud os ydych chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad dan rybudd.
Os bydd eich cyngor lleol yn gofyn i chi dalu cosb
Os byddwch yn talu'r gosb, ni fydd eich cyngor yn mynd â chi i'r llys.
Os cawsoch chi fwy o CTR nag y dylech chi ei gael a bod eich cyngor yn penderfynu ei fod yn dwyll, bydd y gosb yn hanner y CTR ychwanegol. Bydd y gosb yn lleiafswm o £100 ac yn uchafswm o £1,000. Bydd yn rhaid i chi hefyd ad-dalu'r CTR ychwanegol a gawsoch cyn i chi roi gwybod am y newid.
Os byddwch yn cael trafferth talu'r gosb, gwiriwch i weld pa gymorth arall y gallwch ei gael gyda chostau byw.
Enghraifft - talu cosb CTR
Ni wnaeth Anna roi gwybod i’w chyngor pan symudodd ei phartner mewn i’w thŷ. Mae ei phartner yn ennill arian, felly roedd hi’n gwybod y byddai’n cael llai o CTR na phan oedd hi’n byw ar ei phen ei hun.
Mae cyngor lleol Anna yn darganfod ei bod yn byw gyda'i phartner, ac yn cyfrifo y dylent fod wedi rhoi £300 yn llai o CTR i Anna dros y flwyddyn ddiwethaf.
Efallai y bydd cyngor lleol Anna yn gofyn iddi ad-dalu'r £300 ychwanegol o CTR, yn ogystal â chosb. Y gosb yw hanner £300, sef £150. Felly, mae’n rhaid i Anna dalu cyfanswm o £450 i’r cyngor, sef £300 + £150.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 13 Gorffennaf 2021