Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gweld faint o iawndal y byddwch chi’n ei gael am wahaniaethu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

I weld faint allwch chi ofyn amdano, mae angen i chi ystyried beth all llys ei orchymyn os byddwch yn ennill hawliad gwahaniaethu. Gall y swm rydych chi’n ei hawlio effeithio ar sut bydd yr achos yn cael ei ymdrin ag ef hefyd.

Gall y llys orchymyn yr ochr arall i dalu iawndal i chi am:

  • unrhyw arian rydych chi wedi’i golli oherwydd y gwahaniaethu – colled ariannol yw'r enw ar hyn
  • loes neu drallod rydych chi wedi’i ddioddef oherwydd y gwahaniaethu – ‘brifo teimladau’ yw hyn
  • anaf personol, fel iselder neu anaf corfforol, a achosir gan y gwahaniaethu
  • ymddygiad arbennig o wael gan yr ochr arall – ‘iawndal gwaethygedig’ yw’r enw ar hyn

Mae’n bosib y bydd gennych hawliadau eraill yn ogystal â gwahaniaethu. Mae gan yr hawliadau hynny reolau gwahanol am iawndal. Yr hawliadau mwyaf cyffredin sy’n mynd law yn llaw â hawliadau gwahaniaethu yw:

Ychwanegwch y symiau hyn at eich hawliad neu gofalwch eu bod wedi’u cynnwys mewn cytundeb setlo. Dylech lunio rhestr o’r symiau rydych chi’n eu hawlio. Enw’r rhestr hon yw ‘rhestr golledion’.

Os ydych chi angen cymorth yn gweld beth allwch chi ei hawlio, gofynnwch am gymorth gan gynghorydd.

Bydd cyfrifo faint o iawndal allech chi ei gael yn eich helpu i benderfynu beth i’w wneud os yw’r ochr arall yn cynnig arian i chi i atal yr achos rhag mynd i'r llys. Bydd hefyd yn effeithio ar ba weithdrefn llys y bydd angen i chi ei dilyn.

Gweld pa arian rydych chi wedi’i golli

Efallai eich bod chi wedi colli arian am nifer o resymau – fel oherwydd i chi orfod talu mwy o arian am lety neu os cawsoch amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd y gwahaniaethu.

Gallai’r arian rydych chi wedi’i golli gynnwys:

  • cost llety dros dro
  • costau storio
  • costau symud
  • colli cyflog os oeddech chi’n gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith – fel i ddod o hyd i rywle arall i fyw
  • cost prynu unrhyw eitemau yn lle rhai a ddifrodwyd

Efallai fod cost cael cymorth meddygol gyda salwch a achoswyd gan y gwahaniaethu - fel costau presgripsiwn tabledi gwrthiselder neu gwnsela nad oedd ar gael ar y GIG.

Cadwch dderbynebau neu anfonebau ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol - byddwch eu hangen fel tystiolaeth.

Iawndal am golled yn y dyfodol

Gallwch hawlio am golledion yn y dyfodol ond bydd angen i chi allu dangos bod cysylltiad rhwng y golled a’r gwahaniaethu. Er enghraifft, os oedd eich troi allan o'ch cartref yn achos o wahaniaethu a’ch bod wedi gorfod rhentu rhywle arall am gost uwch, gallech hawlio’r costau hynny.

Sicrhau’r colledion lleiaf posib

Bydd angen i chi ddangos eich bod wedi ceisio sicrhau colledion ariannol lleiaf posibl - ‘lliniaru'ch colled yw'r enw ar hyn’. Gallwch wneud hyn drwy ddangos, er enghraifft, eich bod wedi dod o hyd i lety arall rhesymol neu'ch bod wedi mynd i aros gyda ffrindiau neu deulu.

Gweld faint gallwch chi ei hawlio am loes neu drallod – dyfarniadau brifo teimladau

Gallwch hawlio am y trallod emosiynol y mae’r gwahaniaethu wedi’i achosi i chi – ‘brifo teimladau’ yw hyn. Bydd angen i chi ddweud sut i’r gwahaniaethu wneud i chi deimlo. Gofynnwch i'ch teulu, ffrindiau, gweithwyr meddygol proffesiynol neu weithwyr cymorth fod yn dystion i sut wnaeth y gwahaniaethu effeithio arnoch chi.

Os aethoch i weld eich meddyg teulu am effaith y gwahaniaethu arnoch, gallech ofyn i’ch meddyg teulu am adroddiad – holwch os bydd yn codi ffi arnoch am hyn.

Gallwch hawlio iawndal am frifo teimladau am bron i unrhyw hawliad gwahaniaethu.

Dylai isafswm y dyfarniad am frifo teimladau fod oddeutu £1,000.

Mae iawndal am frifo teimladau yn cael ei rannu’n dri band o’r enw ‘bandiau Vento’. Gallwch ofyn am swm uwch am frifo teimladau os yw'ch sefyllfa'n golygu bod yr achos wedi cael effaith wael arnoch - er enghraifft, os oeddech yn dioddef o salwch cysylltiedig â straen eisoes pan ddigwyddodd y gwahaniaethu. Mae’r bandiau fel a ganlyn:

Band Swm Disgrifiad
Isaf £900-£8,600  Achosion llai difrifol fel gweithred untro
Canol £8,600-£25,700  Achosion sy’n ddifrifol ond sydd ddim yn perthyn i’r band uchaf.
Uchel  £25,700-£42,900 

Yr achosion mwyaf difrifol o wahaniaethu. Er enghraifft, lle bu ymgyrch hir o aflonyddu sy’n gwahaniaethu

Gweld faint allwch chi ei hawlio os i chi ddioddef anaf – dyfarniadau anaf personol

Efallai eich bod chi wedi dioddef anaf corfforol neu broblem iechyd meddwl oherwydd y gwahaniaethu. Os felly, gallwch hawlio am hynny hefyd. Anaf personol yw enw hyn.

Yn y rhan fwyaf o achosion gwahaniaethu, mae’r iawndal brifo teimladau yn cynnwys effaith ar eich iechyd. Mewn rhai achosion prin, efallai eich bod chi wedi cael anaf corfforol neu broblem iechyd meddwl fwy difrifol. Os felly, gallwch wneud hawliad ychwanegol am anaf personol.

Byddwch angen adroddiad meddygol neu dystiolaeth arall i brofi mai’r gwahaniaethu oedd gwraidd y broblem iechyd.

Mae faint gewch chi yn dibynnu ar yr anaf. Dylech gael cyngor arbenigol.

Darllenwch ein cyngor ar hawliadau anaf personol.

Gweld allwch chi hawlio iawndal gwaethygedig

Gall llys ddyfarnu iawndal gwaethygedig os yw’r ochr arall:

  • wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn fwriadol pan roeddent yn gwybod bod yr hyn roeddent yn ei wneud yn anghyfreithlon
  • wedi gweithredu mewn ffordd annymunol iawn wrth amddiffyn eich hawliad

Mae’n anarferol cael dyfarniad am iawndal gawethygedig. Efallai y byddwch yn cael un os oedd yr ochr arall wedi bwriadu eich brifo chi neu os oeddent yn anfoesgar neu’n ddi-hid yn y gwrandawiad.

Faint yw’r llog ar eich dyfarniad

Dylech ofyn bod llog yn cael ei ychwanegu at eich hawliad.

Llog cyn penderfyniad

Gall llys ddyfarnu llog i chi ar elfennau brifo teimladau a cholled ariannol eich iawndal. Y gyfradd llog ar hyn o bryd yw 8% y flwyddyn. I gael y gyfradd ddyddiol, rhannwch swm eich dyfarniad gyda 365 ac yna’i luosi gydag 8%.

Mae’r rheolau ar log yn adran 69 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984.

Enghraifft

Mae Greg yn cyflwyno hawliad gwahaniaethu uniongyrchol llwyddiannus a dyfernir £1,000 iddo am frifo teimladau. Digwyddodd y weithred wahaniaethu ar 1 Ionawr ac mae'r gwrandawiad llys ar 28 Ebrill.

Dyddiad y gwahaniaethu: 1 Ionawr

Dyddiad y gwrandawiad a’r dyfarniad: 28 Ebrill

Swm y dyfarniad: £1,000

  1. Y gyfradd log ddyddiol:
  2. £1,000 ÷ 365 = £2.74
  3. £2.74 x 8% = £0.219
  4. Mae 118 diwrnod rhwng y weithred wahaniaethu a’r gwrandawiad (31 diwrnod ym mis Ionawr, 28 diwrnod ym mis Chwefror, 31 diwrnod ym mis Mawrth a 28 diwrnod ym mis Ebrill)
  5. £0.219 x 118 = £25.84 o log

Felly, byddai £25.84 ychwanegol yn cael ei ychwanegu at ddyfarniad iawndal Greg ar gyfer brifo teimladau.


Llog ar ôl penderfyniad

Os nad yw’r ochr arall yn talu iawndal i chi erbyn yr amser y mae’r llys yn dweud bod yn rhaid iddo dalu, gallwch gael llog ar gyfradd o 8% o’r dyddiad y cyfrifwyd yr iawndal hefyd.

Pryd gall eich iawndal gael ei leihau

Gellir lleihau’r swm y gallwch ei gael os oes arnoch chi arian i’r ochr arall a bod y llys yn dweud y gellir ei dynnu oddi ar swm yr iawndal – fel os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch rent. Y term cyfreithiol am hyn yw ‘fel iawn’ am rywbeth.

Hyd yn oed os bydd iawndal yn cael ei ddyfarnu i chi, gallai’r llys orchymyn eich bod yn gorfod talu rhai neu holl gostau cyfreithiol yr ochr arall – er enghraifft os ydych chi wedi ymddwyn yn afresymol. Ni fydd y costau cyfreithiol yn cael eu tynnu oddi ar eich iawndal ond efallai y byddwch chi’n gorfod eu talu ar ôl i’r camau cyfreithiol ddod i ben.

Camau nesaf

Bydd gweld faint yw gwerth eich hawliad yn eich helpu i benderfynu pa ‘drac’ y mae’ch hawliad yn perthyn iddo os ydych chi’n cyflwyno hawliad i'r llys.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.