Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os cewch hysbysiad 'dim bai

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Byddwch yn cael hysbysiad ‘dim bai’ os bydd eich landlord yn rhoi un o’r ffurflenni hyn i chi:

  • Ffurflen RHW16
  • Ffurflen RHW17
  • Ffurflen RHW22
  • Ffurflen RHW24
  • Ffurflen RHW25
  • Ffurflen RHW38

Mae pa un a gewch yn dibynnu ar pam fod eich landlord yn rhoi rhybudd i chi.

Os ydych yn rhentu gan y cyngor neu gymdeithas tai

Os oes gennych chi Ffurflen RHW18 ac rydych chi’n rhentu gan y cyngor neu gymdeithas dai, gallwch chi ddarganfod beth i’w wneud os oes gennych chi hysbysiad troi allan. 

Hysbysiad dim bai yw’r cam cyntaf y mae’n rhaid i’ch landlord ei gymryd i’ch gorfodi i adael eich cartref.

Ni fydd yn rhaid i chi adael eich cartref ar unwaith. Os yw eich hysbysiad dim bai yn ddilys, bydd angen i’ch landlord fynd i’r llys i’ch troi allan.

Efallai y byddwch yn gallu herio eich troi allan ac aros yn hirach yn eich cartref.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau llys os byddwch yn penderfynu herio eich hysbysiad troi allan. Dylech sicrhau bod gennych achos da cyn i chi benderfynu mynd i'r llys.

Os cewch 2 hysbysiad

Gallai eich landlord roi math arall o hysbysiad o’r enw hysbysiad ‘â sail’ i chi, yn ogystal â hysbysiad dim bai.

‘Mae ‘â sail’ yn derm cyfreithiol – mae’n golygu â rheswm neu achos. Mae’n rhaid i’ch landlord roi rheswm dilys pam ei fod yn rhoi’r math hwn o rybudd i chi – er enghraifft, oherwydd bod gennych ôl-ddyledion rhent difrifol.

Mae ffurflenni RHW20, RHW21 a RHW23 i gyd yn hysbysiadau â sail. Gallech gael mwy nag un gyda hysbysiad â sail.

Os byddwch chi'n cael hysbysiad â sail gyda hysbysiad dim bai

Os cewch hysbysiad â sail, peidiwch â’i anwybyddu. Bydd angen i chi ddelio ag ef yn ogystal â'ch hysbysiad dim bai - ac mae'r camau'n wahanol.

Darganfyddwch beth i'w wneud os oes gennych hysbysiad â sail. 

Pryd y gallwch gael hysbysiad dim bai

Nid oes angen rheswm ar eich landlord dros roi hysbysiad dim bai i chi – er enghraifft, efallai y bydd am symud yn ôl i’r eiddo.

Gallwch gael hysbysiad dim bai os oes gennych un o’r contractau meddiannaeth hyn a’i fod yn dweud ynddo y gall eich landlord roi hysbysiad dim bai i chi:

  • contract cyfnodol safonol

  • contract safonol cyfnod penodol

  • contract safonol wedi’i drosi

Disodlodd contractau meddiannaeth denantiaethau ar 1 Rhagfyr 2022. Os nad ydych yn siŵr pa fath o gontract sydd gennych, gwiriwch eich datganiad ysgrifenedig.

Os bydd eich landlord yn rhoi hysbysiad dim bai i chi a bod gennych chi fath gwahanol o gontract meddiannaeth, ni fydd eich hysbysiad yn ddilys. Byddwch yn gallu herio eich troi allan ac aros yn eich cartref.

Nid oes rhaid i chi lofnodi hysbysiad dim bai i brofi eich bod wedi’i dderbyn - hyd yn oed os yw’ch landlord yn gofyn i chi wneud hynny.

Gwiriwch fod eich hysbysiad dim bai yn ddilys

Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw gwirio bod eich hysbysiad dim bai yn ddilys. Os nad ydyw, efallai y gallwch ei herio ac aros yn eich cartref.

Gwiriwch faint o rybudd a roddwyd i chi a phryd y cawsoch ef

Ni fydd eich hysbysiad dim bai yn ddilys os yw’ch landlord:

  • heb roi digon o rybudd i chi

  • wedi rhoi eich hysbysiad dim bai i chi ar yr amser anghywir

Bydd faint o rybudd y dylech ei gael a phryd y gall eich landlord ei roi i chi yn dibynnu ar ba fath o gontract meddiannaeth sydd gennych.

Os oes gennych gontract cyfnodol safonol

Fel arfer mae'n rhaid i'ch landlord roi o leiaf 6 mis o rybudd i chi.

Dim ond 2 fis o rybudd y mae'n rhaid iddyn nhw ei roi i chi os ydych chi'n byw mewn tai neu neuaddau preswyl sy'n eiddo i brifysgol.

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os cawsoch ef o fewn 6 mis cyntaf cyntaf o fyw yno.

Os oes gennych gontract cyfnodol safonol wedi'i drosi

Os oedd gennych denantiaeth fyrddaliol sicr a ddechreuodd cyn 1 Rhagfyr 2022 mae wedi’i throsi i gontract cyfnodol safonol.

Os bydd eich landlord yn rhoi hysbysiad dim bai i chi cyn 1 Mehefin 2023, fel arfer bydd yn rhaid iddo roi o leiaf 2 fis o rybudd i chi.

Os bydd eich landlord yn rhoi hysbysiad dim bai i chi ar neu ar ôl 1 Mehefin 2023, bydd yn rhaid iddo roi 6 mis o rybudd i chi.

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os cawsoch ef o fewn 4 mis cyntaf o fyw yno.

Os oes gennych gontract safonol cyfnod penodol

Bydd gennych gontract cyfnod penodol os ydyw:

  • wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022
  • â dyddiad cychwyn a gorffen pendant

Os oedd gennych denantiaeth cyfnod penodol a ddechreuodd cyn 1 Rhagfyr 2022, bydd gennych gontract safonol cyfnod penodol wedi’i drosi.

Mae faint o rybudd a gewch yn dibynnu a oes gennych gymal terfynu yn eich contract. Ni ddylai fod gennych gymal terfynu os yw eich contract am lai na 2 flynedd.

Os nad ydych yn siŵr a oes gennych gymal terfynu, gwiriwch eich datganiad ysgrifenedig.

Os nad oes gennych gymal terfynu

Fel arfer mae'n rhaid i'ch landlord roi o leiaf 2 fis o rybudd i chi. Ni allant ei roi i chi tan ddiwedd eich cyfnod penodol.

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os cawsoch ef o fewn 4 mis cyntaf o fyw yno.

Os oes gennych gymal terfynu

Gallwch chi neu'ch landlord ddod â'ch tenantiaeth i ben yn gynnar os oes gennych gymal terfynu.

Fel arfer mae'n rhaid i'ch landlord roi o leiaf 6 mis o rybudd i chi. Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os cawsoch ef o fewn 18 mis cyntaf eich cyfnod penodol.

Ni all eich landlord eich gorfodi i symud allan o fewn 2 flynedd gyntaf eich cyfnod penodol.

Os oes gennych gontract safonol cyfnod penodol wedi'i drosi

Os oedd gennych denantiaeth cyfnod penodol a ddechreuodd cyn 1 Rhagfyr 2022 mae wedi’i throi’n awtomatig yn gontract safonol cyfnod penodol wedi’i drosi. Mae hyn oherwydd bod y gyfraith wedi newid ar 1 Rhagfyr 2022.

Bydd gennych gontract cyfnod penodol os oes ganddo ddyddiad cychwyn a gorffen pendant.

Fel arfer mae'n rhaid i'ch landlord roi o leiaf 2 fis o rybudd i chi. Mae pryd y gallwch gael rhybudd yn dibynnu a oes gennych gymal terfynu yn eich contract.

Os nad oes gennych gymal terfynu

Ni all eich landlord ofyn i chi symud allan cyn diwedd y cyfnod penodol.

Ni fydd eich hysbysiad dim bai yn ddilys os cawsoch ef o fewn un ai:

  • 4 mis cyntaf y cyfnod penodol yn eich contract, neu

  • 4 mis o'r dyddiad y dechreuodd eich tenantiaeth wreiddiol

Os oes gennych gymal terfynu

Gallwch chi neu'ch landlord ddod â'ch tenantiaeth i ben yn gynnar os oes gennych gymal terfynu.

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os cawsoch ef o fewn 4 mis cyntaf eich cyfnod penodol.

Gallwch ddod o hyd i fanylion eich cymal terfynu yn eich datganiad ysgrifenedig.

Gwiriwch bethau eraill a allai olygu nad yw eich hysbysiad yn ddilys

Dylech sicrhau bod eich hysbysiad newydd yn ddilys.

Os ydych yn cael eich troi allan oherwydd eich bod wedi gofyn am atgyweiriadau

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os yw’ch landlord yn ceisio eich troi allan oherwydd eich bod wedi gofyn am atgyweiriadau – gelwir hyn yn ‘droi allan dialgar’.

Gallwch ddarganfod beth i'w wneud os ydych yn cael eich troi allan oherwydd eich bod wedi gofyn am waith atgyweirio. 

Os nad yw’ch landlord wedi rhoi datganiad ysgrifenedig i chi

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os nad yw’ch landlord wedi rhoi datganiad ysgrifenedig i chi.

Roedd datganiadau ysgrifenedig yn disodli cytundebau tenantiaeth pan newidiodd y gyfraith ym mis Rhagfyr 2022.

Os oes gennych gontract wedi’i drosi, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd mae’n rhaid i’ch landlord fod wedi rhoi datganiad ysgrifenedig i chi erbyn 1 Mehefin 2023.

Mae dyddiad cau ychydig yn ddiweddarach os oedd newid deiliad contract rhwng 1 Rhagfyr 2022 a 31 Mai 2023. Yn y sefyllfa hon, roedd gan eich landlord tan 14 Mehefin 2023 i roi datganiad ysgrifenedig i chi.

Mae enghreifftiau o newid deiliad contract yn cynnwys os:

  • roedd gennych gontract ar y cyd a newidiodd i gontract unigol oherwydd bod rhywun arall wedi symud allan

  • roedd gennych gontract unigol a newidiodd i gontract ar y cyd oherwydd bod rhywun arall wedi symud i mewn

  • rydych wedi cymryd drosodd contract rhywun sydd wedi marw

  • daeth eich contract i ben a daeth yn fath arall o gontract - er enghraifft daeth eich cyfnod penodol i ben a daeth yn gontract cyfnodol

Os rhoddodd eich landlord ddatganiad ysgrifenedig i chi yn hwyr

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os oes gennych gontract a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022 a bod y ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • rhoddodd eich landlord ddatganiad ysgrifenedig i chi fwy na 14 diwrnod ar ôl i'ch contract ddechrau

  • mae llai na 6 mis ers i chi gael y datganiad ysgrifenedig gan eich landlord

Os nad yw’ch landlord wedi rhoi ei enw a’i gyfeiriad i chi

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os nad yw eich landlord wedi rhoi i chi:

  • eu henw

  • cyfeiriad lle gallwch anfon dogfennau atynt

  • eu cyfeiriad newydd os ydyw wedi newid

Dylai eich landlord anfon y wybodaeth hon atoch gan ddefnyddio Ffurflen RHW2, Ffurflen RHW3 neu Ffurflen RHW4.

Efallai y gallwch hawlio iawndal gan eich landlord.

Os nad oes gan eich cartref larwm mwg sy'n gweithio

Os oes gennych gontract cyfnodol neu gyfnod penodol safonol, ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os nad yw eich landlord wedi gosod larwm mwg gweithredol ar bob llawr yn eich cartref.

Rhaid cysylltu'r larymau mwg i'r cyflenwad trydan - nid rhai sydd â batris.

Os oes mwy nag un larwm mwg, rhaid eu cysylltu â’i gilydd – mae hyn yn golygu os bydd larwm mewn un ystafell yn canfod mwg, bydd yr holl larymau eraill yn canu ar yr un pryd.

Os oes gennych gontract wedi'i drosi

Mae gan eich landlord tan 1 Rhagfyr 2023 i osod larymau mwg newydd yn eich cartref. Os byddwch yn cael hysbysiad cyn hynny, gallai fod yn ddilys os nad yw’ch landlord wedi’u gosod eto.

Os nad oes gan eich cartref larwm carbon monocsid sy'n gweithio

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os nad yw eich landlord wedi gosod larwm carbon monocsid gweithredol ym mhob ystafell lle mae offer nwy - er enghraifft boeler gwres canolog, popty neu wresogydd.

Os nad yw eich landlord wedi rhoi adroddiad diogelwch trydanol i chi

Os oes gennych gontract cyfnodol neu gyfnod penodol safonol, ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os nad yw eich landlord wedi rhoi adroddiad diogelwch trydanol cyfredol i chi.

Mae'n rhaid i'ch landlord sicrhau bod unrhyw ffitiadau ac offer trydanol yn eich cartref yn cael eu harchwilio a'u profi gan berson cymwys bob 5 mlynedd.

Bydd y person sy'n cynnal yr archwiliad a'r profion yn rhoi adroddiad diogelwch trydanol i'ch landlord. Mae'n rhaid i'ch landlord roi copi o'r adroddiad i chi o fewn 14 diwrnod.

Os oes gennych gontract wedi'i drosi

Efallai y bydd eich hysbysiad yn ddilys os nad yw eich landlord wedi rhoi adroddiad diogelwch trydanol i chi. Mae hyn oherwydd bod ganddyn nhw tan 1 Rhagfyr 2023 i wneud hyn.

Os nad yw eich landlord wedi rhoi tystysgrif diogelwch nwy i chi

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os nad yw eich landlord wedi rhoi tystysgrif diogelwch nwy gyfredol i chi.

Mae'n rhaid i'ch landlord sicrhau bod unrhyw offer nwy yn eich cartref yn cael eu harchwilio a'u profi gan berson cymwys bob 12 mis. Mae offer nwy yn cynnwys boeleri gwres canolog, poptai neu wresogyddion sy'n rhedeg ar nwy.

Bydd y person sy'n cynnal yr archwiliad a'r profion yn rhoi tystysgrif diogelwch nwy i'ch landlord.

Mae'n rhaid i'ch landlord roi copi o'r dystysgrif ddiweddaraf i chi cyn i chi symud i mewn. Pan fydd yn cael tystysgrif newydd, mae'n rhaid iddo roi copi i chi o fewn 28 diwrnod.

Os nad yw eich landlord wedi rhoi tystysgrif perfformiad ynni (EPC) i chi

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os na roddodd eich landlord y dystysgrif perfformiad ynni ar gyfer eich cartref cyn iddo roi’r hysbysiad i chi.

Gallwch wirio a oes gan eich cartref dystysgrif perfformiad ynni ar GOV.UK.

Os nad yw'ch blaendal wedi'i ddiogelu

Os na wnaeth eich landlord ddiogelu’ch blaendal neu ei fod wedi’i warchod yn hwyr, ni fydd eich hysbysiad dim bai yn ddilys - oni bai ei fod eisoes wedi rhoi eich blaendal yn ôl i chi.

Roedd yn rhaid diogelu eich blaendal o fewn 30 diwrnod o'i dalu. Gwiriwch os ydych yn ansicr a wnaeth eich landlord ddiogelu eich blaendal. 

Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i'ch landlord dalu iawndal i chi hefyd os na wnaethant ddiogelu'ch blaendal. Darllenwch fwy am fynd â’ch landlord i’r llys os nad yw’ch blaendal wedi’i ddiogelu.

Nid oes angen diogelu pob blaendal. Nid oes angen gwarchod eich blaendal os na chynigiwyd contract meddiannaeth i chi - er enghraifft, os ydych yn lletywr.

Os na chawsoch wybodaeth am eich blaendal

Ni fydd eich hysbysiad dim bai yn ddilys os na roddodd eich landlord fanylion penodol i chi am eich blaendal cyn rhoi’r hysbysiad i chi. Gelwir y manylion hyn yn ‘wybodaeth benodedig’.

Mae gwybodaeth benodedig yn cynnwys:

  • derbynneb am eich blaendal
  • manylion cyswllt eich landlord
  • sut i gael eich blaendal yn ôl pan fyddwch yn gadael

Gallwch wirio rhestr o’r wybodaeth y mae’n rhaid i landlordiaid ei rhoi i denantiaid ar GOV.UK.

Nid oes angen diogelu pob blaendal. Nid oes angen gwarchod eich blaendal os ydych yn lletywr, er enghraifft.

Gwiriwch pryd y dylai eich landlord fod wedi rhoi’r wybodaeth benodedig i chi. 

Os cododd eich landlord ffioedd yn ystod eich contract

Efallai y byddwch yn gallu herio eich troi allan os taloch unrhyw ffioedd i'ch landlord. 

Os gwnaethoch gytuno ar eich contract yn wreiddiol ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022 ni all eich landlord godi tâl arnoch ond am y canlynol:

  • rhent neu filiau cyfleustodau

  • blaendal difrod

  • blaendal cadw

  • Treth y Cyngor

  • trwydded deledu

  • am dorri telerau eich datganiad ysgrifenedig - cyhyd â bod y ffi wedi'i disgrifio yn y datganiad ysgrifenedig

Os oes gennych gontract safonol wedi’i drosi, mae’r un peth yn berthnasol os gwnaethoch gytuno ar eich tenantiaeth wreiddiol ar neu ar ôl 1 Medi 2019.

Os yw eich landlord wedi codi tâl arnoch am unrhyw beth arall, siaradwch â chynghorydd - gallent eich helpu i herio eich troi allan. 

Os nad yw’ch landlord wedi cofrestru neu wedi cael y drwydded gywir

Efallai na fydd eich hysbysiad dim bai yn ddilys os:

  • nid yw'ch landlord wedi cofrestru ei fanylion

  • nid oes gan eich landlord neu asiant gosod drwydded ar gyfer eich cartref

Gallwch chwilio’r gofrestr gyhoeddus ar wefan Rhentu Doeth Cymru  i ddarganfod a yw’ch landlord wedi cofrestru ac wedi cael trwydded.

Os yw eich cartref yn cael ei reoli gan asiant gosod, bydd angen i chi wirio a oes ganddo drwydded. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich cyfeiriad neu fanylion eich landlord neu asiant gosod tai.

Efallai y bydd angen math arall o drwydded ar eich cartref hefyd, er enghraifft os ydych yn byw mewn tŷ a rennir, fflat un ystafell neu hostel. Darllenwch fwy am beth i'w wneud os oes gennych broblem gyda'ch tŷ a rennir.  

Efallai y bydd gan eich cyngor gyfreithiau ychwanegol ynghylch pa fathau o eiddo y dylid eu trwyddedu. Gallwch ofyn i’ch cyngor lleol os nad ydych yn siŵr a oes angen trwydded ar eich cartref - dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Dylech herio eich troi allan os nad yw eich landlord wedi cofrestru neu os nad oes gan yr asiant gosod eiddo sy’n rheoli’r eiddo drwydded.

Os oes camgymeriad ar eich hysbysiad dim bai

Efallai na fydd eich hysbysiad dim bai yn ddilys os yw’ch landlord wedi gwneud camgymeriad arno, er enghraifft os yw wedi rhoi’r enw neu’r dyddiad anghywir.

Gwiriwch eich hysbysiad dim bai i sicrhau bod eich enw a'ch cyfeiriad yn gywir.

Dylech hefyd wirio bod enw a manylion cyswllt eich landlord neu asiant gosod tai yn gywir.

Os nad yw eich hysbysiad dim bai ar y ffurflen gywir

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os nad yw eich landlord wedi ei roi i chi yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio ffurflen gywirl. Gelwir y math hwn o ffurflen weithiau'n ffurflen 'benodedig'.

Gallwch ddod o hyd i'r ffurflenni ar wefan llywodraeth Cymru. 

Os yw eich cymal terfynu yn annheg

Ni fydd eich hysbysiad yn ddilys os oes gennych gymal terfynu annheg yn eich contract.

Efallai y bydd gennych gymal terfynu os oes gennych gontract cyfnod penodol, neu gontract cyfnod penodol wedi'i drosi. Gwiriwch eich datganiad ysgrifenedig os nad ydych yn siŵr a oes gennych un.

Os oes gennych gymal terfynu, dylai ddweud y gallwch chi a'ch landlord ei ddefnyddio. Gallai fod yn annheg os yw'n dweud mai dim ond eich landlord all ei ddefnyddio.

Os gwnaeth eich landlord gais am feddiant fwy na 2 fis ar ôl y dyddiad ar eich hysbysiad

Gwiriwch y dyddiad yn rhan D o’ch hysbysiad, lle mae’n dweud ‘Hysbysiad ildio meddiant’. Nid yw eich hysbysiad yn ddilys mwyach os gwnaeth eich landlord gais am feddiant fwy na 2 fis ar ôl y dyddiad hwnnw.

Os nad yw’ch hysbysiad yn ddilys, bydd yn rhaid i’ch landlord roi un newydd i chi.

Os yw eich hysbysiad dim bai yn ddilys

Ni all eich landlord eich gorfodi i adael eich cartref oni bai ei fod wedi mynd i’r llys i gael gorchymyn ildio meddiant a gwarant i’ch troi allan – mae hyn yn golygu y gall ddefnyddio beilïaid llys i’ch troi allan. Os byddant yn ceisio eich gorfodi i adael cyn hyn, mae’n achos o droi allan anghyfreithlon - siaradwch â chynghorydd am help i’w herio.

Dim ond ar ôl y dyddiad y mae’r hysbysiad dim bai yn dweud bod yn rhaid i chi adael y gall eich landlord fynd i’r llys.

Os oes gennych chi berthynas dda gyda’ch landlord, efallai y byddai’n werth gofyn iddyn nhw a allwch chi aros yn eich cartref am fwy o amser. Anfonwch lythyr at eich landlord yn egluro eich sefyllfa a chadwch gopi o unrhyw ateb a gewch.

Pan fydd eich landlord yn mynd i’r llys, efallai y gallwch ofyn i’r llys adael i chi aros yn eich cartref am fwy o amser. Bydd angen i chi gael papurau gan y llys cyn y gallwch ofyn am aros yn eich cartref am fwy o amser.

Os penderfynwch adael eich cartref

Peidiwch â gadael eich cartref cyn y dyddiad ar eich hysbysiad dim bai os nad ydych wedi dod o hyd i rywle arall i fyw.

Gallwch ofyn i'ch cyngor lleol am help cyn gynted ag y byddwch yn cael hysbysiad dim bai - efallai y gallant:

  • eich helpu i aros yn eich cartref
  • dod o hyd i rywle arall i chi fyw

Gallwch hefyd ddarganfod pa help arall y gallwch ei gael os ydych yn cael eich troi allan.  

Os ydych wedi dod o hyd i rywle arall i fyw a’ch bod am symud cyn y dyddiad ar eich hysbysiad dim bai, gofynnwch i’ch landlord a allwch gytuno ar ddyddiad cynharach.

Os na allwch gytuno, gallwch roi rhybudd i’ch landlord – mae’n debyg mai dim ond 4 wythnos o rybudd y bydd yn rhaid i chi ei roi.

Daliwch i dalu eich rhent

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i dalu eich rhent tan y diwrnod y daw eich contract i ben. Os ydych yn gadael a’ch bod wedi talu’r holl rent y cytunwyd arno, gofynnwch i’ch landlord ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich contract wedi dod i ben a’ch bod wedi talu popeth sy’n ddyledus gennych. Dylech chi a'ch landlord ei lofnodi.

Os na fyddwch chi’n talu’ch rhent, gallai’ch landlord fynd â chi i’r llys i gael unrhyw rent sydd arnoch chi heb ei dalu yn ôl. Gallent hefyd wrthod rhoi geirda i chi neu roi un gwael i chi, a allai wneud dod o hyd i gartref arall yn anodd.

Os nad yw eich hysbysiad dim bai yn ddilys

Byddwch yn gallu aros yn eich cartref a herio eich troi allan os nad yw eich landlord wedi rhoi hysbysiad dim bai dilys i chi.

Bydd yn rhaid i'ch landlord roi rhybudd newydd, dilys i chi os yw'n dal eisiau i chi adael eich cartref.

Pryd y gall eich landlord roi hysbysiad newydd i chi

Dim ond os yw eisoes wedi tynnu’r hen un yn ôl y gall eich landlord roi hysbysiad newydd i chi – dylai roi gwybod i chi yn ysgrifenedig pan fydd yn gwneud hyn.

Gall eich landlord dynnu eich hen hysbysiad yn ôl dim ond os yw’n llai na 4 wythnos ers iddo ei roi i chi.

Bydd gan eich hysbysiad newydd yr un faint o rybudd â'r hen un.

Os yw’n fwy na 4 wythnos ers i chi gael yr hen hysbysiad

Rhaid i'ch landlord gael eich caniatâd i roi hysbysiad newydd i chi. Os na fyddwch yn rhoi caniatâd iddynt, dylent aros 6 mis cyn y gallant ei roi i chi.

Os byddant yn anfon hysbysiad newydd heb eich caniatâd, dylech ysgrifennu atynt a dweud nad yw'n ddilys oherwydd:

  • fe wnaethant ei anfon fwy na 4 wythnos ar ôl iddynt roi'r hen hysbysiad i chi

  • nid ydych wedi rhoi caniatâd iddynt roi hysbysiad newydd i chi

Cadwch gopi o'ch llythyr.

Pryd i ddweud wrth eich landlord nad yw eich hysbysiad yn ddilys

Os gallwch, arhoswch o leiaf 4 wythnos o’r diwrnod y cawsoch eich hysbysiad cyn i chi ddweud wrth eich landlord nad yw’n ddilys. Os gwnewch hyn, ni all eich landlord roi hysbysiad newydd i chi am o leiaf 6 mis. Mae hyn yn golygu y gallwch aros yn eich cartref yn hirach.

Os na allwch aros 4 wythnos, mae’n rhaid i’ch landlord dynnu’ch hen hysbysiad yn ôl cyn iddo roi un newydd i chi.

Siaradwch â chynghorydd os nad yw eich hysbysiad dim bai yn ddilys ac nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf. 

Heriwch eich troi allan

Efallai y byddwch yn gallu herio eich troi allan os nad yw eich hysbysiad dim bai yn ddilys neu os oes gennych reswm da pam na ddylech adael eich cartref. Gelwir hyn yn ‘amddiffyn meddiant’.

Bydd angen i chi aros nes y byddwch yn cael papurau gan y llys cyn y gallwch herio eich troi allan.

Os cewch bapurau llys

Os na fyddwch yn gadael eich cartref erbyn y dyddiad ar eich hysbysiad dim bai - er enghraifft oherwydd eich bod am ei herio - byddwch yn cael papurau gan y llys.

Bydd y papurau yn cynnwys:

  • copi o’r ffurflen a lenwodd eich landlord pan ddechreuodd yr hawliad – gelwir hyn yn ‘ffurflen hawlio’

  • ffurflen i ddweud wrth y llys os ydych yn anghytuno â’r hyn y mae’r landlord wedi’i ddweud – gelwir hyn yn ‘ffurflen amddiffyn’

Byddwch yn cael papurau’r llys oherwydd bod eich landlord yn cymryd camau i’ch gorfodi i adael eich cartref. Gelwir hyn yn ddechrau ‘hawliad meddiant’.

Bydd y llys yn penderfynu a oes angen i chi adael eich cartref.

Talu costau llys

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau llys eich landlord os bydd eich landlord yn dechrau hawliad meddiant. Gall costau llys fod yn ddrud.

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i’ch helpu gyda’ch achos, er enghraifft os ydych ar incwm isel neu’n cael budd-daliadau.

Os ydych yn cael cymorth cyfreithiol, efallai y byddwch yn cael eich amddiffyn rhag talu costau eich landlord os na allwch eu fforddio.

Darllenwch fwy am gael help gyda chostau cyfreithiol. 

Ysgrifennwch pam rydych chi'n herio'r troi allan

Gallwch herio'ch hysbysiad dim bai os, er enghraifft:

  • ni roddwyd digon o rybudd i chi
  • ni chafodd eich blaendal ei ddiogelu

Os gallwch chi, siaradwch â chynghorydd cyn herio eich troi allan. 

Mae’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn wahanol os yw’ch landlord yn defnyddio’r weithdrefn garlam – gwiriwch a yw’n dweud ‘gweithdrefn garlam’ ar frig y ffurflen hawlio.

Os yw'ch landlord yn defnyddio'r weithdrefn garlam

Defnyddiwch y ffurflen amddiffyn a ddaeth gyda phapurau’r llys i roi eich rhesymau dros herio’ch hysbysiad dim bai. Gallwch hefyd ddod o hyd i gopi o’r ffurflen amddiffyn ar GOV.UK – fe’i gelwir yn ffurflen N11B Cymru.

Os ydych yn anghytuno â rhywbeth a ddywedodd y landlord ar y ffurflen hawlio, dylech esbonio hyn ar eich ffurflen amddiffyn. Efallai y bydd y llys yn penderfynu cael gwrandawiad llys i benderfynu pwy sy'n iawn.

Dywedwch wrth y llys os ydych yn meddwl y gallech ddod i gytundeb gyda’ch landlord. Os yw'ch landlord yn fodlon negodi, efallai y bydd y llys yn rhoi mwy o amser i chi a'ch helpu i ddod i gytundeb.

Os nad yw'ch landlord yn defnyddio'r weithdrefn garlam

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen amddiffyn a ddaeth gyda phapurau’r llys i roi eich rhesymau dros herio eich troi allan.

Os rhoddodd eich landlord yr hysbysiad i chi cyn 1 Rhagfyr 2022, byddwch yn cael ffurflen amddiffyn ‘N11R gyda phapurau’r llys. Gallwch ddod o hyd i gopi o’r ffurflen amddiffyn N11R ar GOV.UK.

Os rhoddodd eich landlord yr hysbysiad i chi ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022, byddwch yn cael ffurflen amddiffyn ‘N11R Cymru’. Gallwch ddod o hyd i gopi o’r ffurflen amddiffyn N11R Cymru ar GOV.UK.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd defnyddio'r ffurflen amddiffyn, ysgrifennwch yr hyn rydych chi am ei ddweud ar ddarn o bapur yn lle hynny. Ysgrifennwch rif eich achos ar y darn o bapur – gallwch ddod o hyd i rif eich achos ar y ffurflen hawlio.

Mae’n well rhoi cymaint o fanylion â phosibl – bydd y llys yn edrych ar yr hyn a ddywedwch i benderfynu a allwch chi aros yn eich cartref.

Os bydd eich landlord yn ennill, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu costau eich landlord. Os bydd y llys yn penderfynu y dylech dalu’r costau, fel arfer bydd yn rhaid i chi eu talu o fewn 14 diwrnod i’r gwrandawiad llys.

Dylech ddweud yn eich amddiffyniad os bydd angen i chi dalu costau’r llys dros gyfnod hwy – er enghraifft drwy wneud taliad llai bob mis. Atebwch y cwestiynau am eich incwm a gwariant ac eglurwch pam y bydd angen mwy o amser arnoch i dalu.

Os ydych yn meddwl bod eich landlord wedi gwahaniaethu yn eich erbyn

Os yw eich landlord wedi eich trin yn annheg oherwydd pwy ydych chi, efallai y gallwch amddiffyn eich troi allan. Er enghraifft, efallai eu bod yn eich troi allan oherwydd eich bod yn hoyw, neu oherwydd nad ydynt am wneud newidiadau ar gyfer eich anabledd.

Gwiriwch a yw eich problem yn cyfrif fel gwahaniaethu i ddarganfod a allwch chi ei hychwanegu at eich amddiffyniad troi allan. 

Os yw'r rheswm pam rydych chi'n cael eich troi allan yn gysylltiedig â'ch anabledd

Efallai y gallwch chi herio'r troi allan. Er enghraifft, os ydych yn cael eich troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent, ond y rheswm pam yr aethoch i ôl-ddyledion rhent oedd oherwydd bod eich anhawster dysgu yn ei gwneud yn anodd dilyn polisi talu eich landlord.

Efallai y gallwch amddiffyn eich troi allan gan ddefnyddio cyfraith gwahaniaethu. 

Os ydych yn cael eich troi allan oherwydd eich bod wedi cwyno am wahaniaethu o'r blaen

Gallai hyn fod yn fath o wahaniaethu a elwir yn erledigaeth. Efallai y gallwch amddiffyn eich troi allan gan ddefnyddio cyfraith gwahaniaethu - gwiriwch a yw eich problem tai yn wahaniaethu.

Gohirio'r dyddiad y bydd angen i chi adael

Os bydd y llys yn rhoi gorchymyn ildio meddiant, bydd y gorchymyn fel arfer yn dweud bod angen i chi adael eich cartref o fewn 14 diwrnod.

Dylech ddefnyddio'r ffurflen i egluro pam y gallai gadael o fewn 14 diwrnod achosi 'caledi eithriadol' i chi - er enghraifft os oes gennych salwch difrifol neu anabledd. Dylech wneud hyn hyd yn oed os yw eich hysbysiad dim bai yn ddilys. Os na fydd eich landlord yn cytuno i hyn, efallai y bydd y llys yn trefnu gwrandawiad i benderfynu a allwch chi aros yn hirach.

Os bydd y llys yn cytuno y byddai gadael eich cartref yn achosi caledi eithriadol i chi, gallent ohirio’r dyddiad y bydd angen i chi adael hyd at 6 wythnos (42 diwrnod).

Anfonwch eich amddiffyniad i'r llys

Dylech anfon eich amddiffyniad i’r llys o fewn 14 diwrnod – bydd y cyfeiriad ar y ffurflen. Mae’n werth cadw copi ar gyfer eich cofnodion.

Dylech anfon eich amddiffyniad hyd yn oed os byddwch yn methu'r dyddiad cau. Mae’n bosibl y bydd y llys yn dal i’w ystyried os nad yw wedi gwneud penderfyniad eto.

Os oes gennych wrandawiad llys, dylech fynd o hyd - hyd yn oed os nad ydych wedi anfon eich amddiffyniad. Mae'n fwy tebygol y byddwch yn gallu aros yn eich cartref os gwnewch hynny.

Gwiriwch beth sy'n digwydd ar ôl i chi anfon eich amddiffyniad

Mae’r broses yn wahanol os yw’ch landlord yn defnyddio’r weithdrefn garlam – gwiriwch a yw’n dweud ‘gweithdrefn garlam’ (accelerated procedure) ar frig y ffurflen hawlio.

Os yw'ch landlord yn defnyddio'r weithdrefn garlam

Gall eich landlord ofyn i’r llys wneud penderfyniad 14 diwrnod ar ôl i bapurau’r llys gael eu hanfon atoch. Bydd eich amddiffyniad yn cael ei ystyried gan y llys os byddwch yn derbyn y ffurflen mewn pryd. Bydd barnwr y llys yn gwneud un o'r canlynol:

  • rhoi gorchymyn ildio meddiant – mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref
  • rhoi dyddiad i chi fynd i'r llys – gelwir hyn yn wrandawiad meddiannu
  • gwrthod yr achos - mae hyn yn golygu y gallwch aros yn eich cartref

Fel arfer ni fydd y llys ond yn trefnu gwrandawiad neu’n gwrthod achos os oes problem gyda gwaith papur eich landlord, neu os yw’ch landlord wedi gwneud camgymeriad yn dilyn y weithdrefn.

Os byddwch yn cael gwrandawiad meddiannu, byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych pryd a ble mae'r gwrandawiad.

Os nad yw'ch landlord yn defnyddio'r weithdrefn garlam

Anfonir dyddiad ar gyfer gwrandawiad llys atoch. Dylai dyddiad y gwrandawiad fod o fewn 8 wythnos i'r llys anfon y papurau atoch.

Gallwch ddod o hyd i ddyddiad y gwrandawiad llys ar y ffurflen hawlio a anfonwyd atoch yn eich papurau llys.

Paratoi ar gyfer eich gwrandawiad meddiannu

Darllenwch yr holl ddogfennau a roddwyd i chi gan y llys a'ch landlord. Ewch ag unrhyw dystiolaeth sydd gennych i'r llys, er enghraifft:

  • llythyr neu e-bost gan y 3 chynllun blaendal tenantiaeth yn dangos na chafodd eich blaendal ei ddiogelu neu fe’i diogelwyd yn hwyr
  • llythyr gan eich cyngor lleol yn dweud nad yw’r eiddo wedi’i drwyddedu os dylai fod
  • llythyr gan eich meddyg teulu yn dweud y byddech yn dioddef caledi eithriadol pe bai'n rhaid i chi adael o fewn 14 diwrnod

Bydd y dystiolaeth sydd gennych yn dibynnu ar eich achos.

Byddwch yn gallu mynd â rhywun gyda chi i gael cymorth, er enghraifft ffrind neu aelod o'r teulu. Efallai na fyddant yn gallu siarad ar eich rhan yn y llys.

Os na allwch fynd i’r gwrandawiad meddiannu, dywedwch wrth y llys cyn gynted â phosibl. Eglurwch pam na allwch chi fynd – er enghraifft oherwydd bod yn rhaid i chi hunanynysu. Efallai y bydd y llys yn:

  • trefnu i'r gwrandawiad ddigwydd dros y ffôn neu drwy alwad fideo
  • newid dyddiad y gwrandawiad

Gallwch wirio sut i baratoi os bydd y llys yn penderfynu trefnu gwrandawiad dros y ffôn neu alwad fideo. 

Cael cymorth cyfreithiol

Gallwch gael cyfreithiwr i'ch cynrychioli yn y llys. Os nad oes gennych unrhyw incwm neu incwm isel, efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i’ch helpu gyda’r gost. Gwiriwch a allwch chi gael help gyda chostau cyfreithiol ar GOV.UK.

Ar ddiwrnod y gwrandawiad, byddwch yn gallu siarad â chynghorydd cyfreithiol am ddim o’r enw ‘cynghorydd ar ddyletswydd’ – does dim ots faint o incwm sydd gennych. Cyn dyddiad y gwrandawiad meddiannu, darllenwch y llythyrau gan y llys a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gysylltu â’r cynghorydd ar ddyletswydd ar ddiwrnod y gwrandawiad.

Os na allwch gysylltu â’r cynghorydd ar ddyletswydd ar ddiwrnod y gwrandawiad, dywedwch wrth y tywysydd neu’r barnwr cyn i’r gwrandawiad ddechrau – efallai y bydd y barnwr yn cytuno i ohirio’r gwrandawiad.

Siaradwch â chynghorydd i gael gwybod pa gyngor cyfreithiol y gallwch ei gael.  

Cael penderfyniad gan y llys

Bydd y llys yn dweud wrthych os gallwch aros yn eich cartref neu os bydd yn rhaid i chi adael.

Os byddwch yn cael gwrandawiad llys, byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad yn y gwrandawiad. Os nad oes gennych wrandawiad llys, bydd y llys yn anfon llythyr yn dweud wrthych beth yw eu penderfyniad.

Siaradwch â chynghorydd os cewch orchymyn ildio meddiant. 

Os oes rhaid i chi adael

Fel arfer ni fydd yn rhaid i chi adael eich cartref ar unwaith. Byddwch yn cael hysbysiad gan y llys yn dweud wrthych pryd rydych i fod i adael. Gelwir hyn yn ‘orchymyn meddiant llwyr’.

Fel arfer byddwch yn cael 14 diwrnod i adael, ond gallai fod yn hirach.

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y gorchymyn ildio meddiant, ond dim ond os gallwch brofi bod camgymeriadau wedi’u gwneud yn y gwrandawiad meddiannu. Er enghraifft, os nad edrychodd y llys ar wybodaeth berthnasol neu ddefnyddio'r gyfraith anghywir.

Siaradwch â chynghorydd os ydych chi'n meddwl y dylai'r llys edrych ar eich achos eto.  

Os bydd y llys yn derbyn eich amddiffyniad, gallent benderfynu gwrthod achos eich landlord. Mae hyn yn golygu y byddwch yn aros yn eich cartref heb unrhyw amodau.

Os na fyddwch yn gadael eich cartref

Os bydd beilïaid yn dod

Siaradwch â chynghorydd ar unwaith os dywedwyd wrthych fod beilïaid yn dod i'ch cartref. 

Bydd yn rhaid i'ch landlord gael gwarant troi allan gan y llys os na fyddwch yn gadael eich cartref erbyn y dyddiad ar y gorchymyn adennill meddiant. Mae hyn yn golygu y gallant ofyn i’r llys anfon ‘swyddogion gorfodi’ i wneud i chi adael.

Gelwir swyddogion gorfodi hefyd yn feilïaid. Mae beilïaid yn cael eu cyflogi gan y llys i helpu landlordiaid i gael eu heiddo yn ôl.

Fel arfer bydd y beilïaid yn dweud wrthych pan fyddant yn dod i'ch troi allan. Gallai eich landlord ofyn i’r uchel lys anfon beilïaid – os yw’n gwneud hyn, efallai na ddywedir wrthych ei fod yn dod.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.