Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Herio penderfyniad digartrefedd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad y cyngor ynglŷn â’ch cais digartrefedd, fel arfer gallwch chi ei herio drwy ofyn am adolygiad. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i’r cyngor edrych ar eu penderfyniad unwaith eto.

Gallwch chi ofyn am adolygiad os yw’r cyngor yn:

  • penderfynu na fyddan nhw’n eich helpu neu’n mynd i roi’r gorau i’ch helpu chi

  • penderfynu nad oes gennych gysylltiad lleol

  • cynnig cartref ar eich cyfer sy’n anaddas yn eich barn chi

Herio mathau eraill o benderfyniadau

Ni fydd y cyngor yn adolygu mathau eraill o benderfyniadau, er enghraifft, os ydyn nhw’n:

  • gwrthod gadael i chi ddechrau cais am gymorth digartrefedd

  • gwrthod rhoi ‘llety brys’ i chi wrth wneud eu penderfyniad ynglŷn â’ch cais

  • rhoi llety brys i chi sy’n anaddas yn eich barn chi

  • gwrthod diogelu eich eiddo – er enghraifft, os nad oes lle i fynd ag e gyda chi pan gewch gynnig cartref. 

Siaradwch â chynghorydd os ydych chi eisiau herio penderfyniad na fydd y cyngor yn ei adolygu.

Gofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod

Fel arfer, mae’n rhaid i chi ofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod o dderbyn eich penderfyniad.

Os oes angen mwy o amser arnoch chi i gasglu tystiolaeth neu gael cymorth gan rywun, dylech ofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod. Efallai y byddwch am anfon llythyr byr i ofyn am adolygiad gan ddweud y byddwch yn anfon mwy o wybodaeth yn hwyrach.  Dylai’r cyngor dal edrych ar y wybodaeth rydych chi’n ei hanfon ar ôl y dyddiad cau.

Gofyn am adolygiad ar ôl y dyddiad cau

Mewn rhai achosion, efallai y gallwch ofyn am adolygiad ar ôl y dyddiad cau, ond gall hyn fod yn gymhleth. Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau a’ch bod am ofyn am adolygiad, siaradwch â chynghorydd

Gwneud cais newydd

Os ydych chi wedi colli’r dyddiad cau i ofyn am adolygiad, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais digartrefedd newydd. Dim ond os oes gennych chi rywbeth newydd i'w gynnwys yn y cais y gallwch chi wneud hyn - mae hyn yn golygu naill ai:

  • bod eich sefyllfa wedi newid ers eich cais diwethaf – er enghraifft, os ydych chi wedi cael plentyn

  • mae gennych dystiolaeth newydd ers eich cais diwethaf - er enghraifft, adroddiad meddygol wrth eich meddyg

Dylai’r cyngor adael i chi wneud cais arall os ydych yn cynnwys rhywbeth newydd. Siaradwch â chynghorydd os yw’r cyngor yn gwrthod derbyn eich cais.

Paratoi i ofyn am adolygiad

Fel arfer, bydd y cyngor yn anfon llythyr penderfyniad atoch sy’n egluro eu penderfyniad.

Darllenwch eich llythyr a gwnewch nodyn o unrhyw beth rydych chi’n anghytuno ag ef ac unrhyw beth y mae'r cyngor wedi'i fethu yn eich barn chi. Os gallwch chi, dylech gael tystiolaeth i ddangos eu bod nhw’n anghywir.

Mae sut i baratoi yn dibynnu ar y penderfyniad rydych chi eisiau ei herio. Os gawsoch chi lythyr penderfyniad, dylai ddweud pam gwnaeth y cyngor y penderfyniad.

Os na fydd y cyngor yn helpu oherwydd eich statws mewnfudo

Gallwch wirio os yw eich statws mewnfudo yn gadael i chi gael cymorth digartrefedd.

Os ydych chi’n credu bod y cyngor yn anghywir ynglŷn â’ch statws mewnfudo, siaradwch â chynghorydd.

Os yw’r cyngor yn dweud nad ydych yn ‘preswylio fel arfer’

Rydych chi’n preswylio fel arfer os gallwch chi ddangos mai’r DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref. 

Gwiriwch sut i ddangos eich bod yn preswylio fel arfer.

Os yw’r cyngor yn dweud nad ydych ‘yn gyfreithiol ddigartref nac o dan fygythiad o ddigartrefedd’

Gallwch wirio’r rheolau am ddigartrefedd cyfreithiol 

Dylech edrych am dystiolaeth i ddangos eich bod yn ddigartref – neu bod rhaid i chi adael eich cartref mewn 8 wythnos.Gallai hyn fod:

  • yn dystiolaeth pam y bu’n rhaid i chi adael eich cartref, er enghraifft gorchymyn troi allan

  • llythyr oddi wrth eich gweithiwr cymorth neu adroddiad yr heddlu os bu’n rhaid i chi adael oherwydd cam-drin domestig

  • llythyr oddi wrth ffrind neu aelod o’r teulu yn dweud pam na allwch chi barhau i aros gyda nhw

Os yw eich ffrind neu aelod o'ch teulu wedi ysgrifennu llythyr, efallai y bydd y cyngor yn cysylltu â nhw ac yn ceisio gwneud iddyn nhw deimlo’n euog, fel eu bod yn cytuno i adael i chi aros. Mae’n werth rhybuddio eich ffrind neu aelod o’ch teulu y gallai hyn ddigwydd ac y gallan nhw ddweud na.

Os yw’r cyngor yn dweud nad ydych chi mewn ‘angen blaenoriaethol’

Mae angen blaenoriaethol yn dibynnu ar bethau fel eich teulu, eich iechyd ac a ydych chi’n cysgu ar y strydoedd.  Gallwch wirio’r rheolau am angen blaenoriaethol.

Er enghraifft, un ffordd o ddangos eich bod mewn angen blaenoriaethol yw os ydych chi’n ‘agored i niwed’ . Mae hyn yn golygu y byddai eich sefyllfa bersonol yn ei gwneud yn anoddach i chi ymdopi â bod yn ddigartref na'r person cyffredin.

Efallai bod gennych salwch, anabledd neu gyflwr iechyd meddwl, ond efallai na fyddai’r cyngor yn derbyn ei fod yn eich gwneud yn agored i niwed.

Yn y sefyllfa hon, mae’n werth gofyn i weithiwr meddygol proffesiynol neu weithiwr cymorth ysgrifennu llythyr. Dylen nhw esbonio:

  • beth yw eich salwch, anabledd neu gyflwr iechyd meddwl

  • ers pryd rydych chi wedi cael eich cyflwr

  • sut mae eich cyflwr yn effeithio ar eich bywyd bob dydd

  • unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch chi oddi wrth bobl eraill - er enghraifft teulu neu weithiwr cymorth

  • sut mae bod yn ddigartref yn effeithio arnoch chi neu sut bydd yn effeithio arnoch chi

Os yw’r cyngor yn dweud eich bod yn ‘fwriadol ddigartref’

Mae hyn yn golygu bod y cyngor yn meddwl eich bod wedi achosi i chi'ch hun fod yn ddigartref.

Gallwch wirio’r rheolau am ddigartrefedd bwriadol.

Os yw’r cyngor yn dweud na wnaethoch chi gydweithredu neu na wnaethoch chi bethau yn ôl eich addewid

Gallai’r cyngor stopio rhoi cymorth i chi, er enghraifft: 

  • fe golloch chi apwyntiadau gyda nhw

  • fe wnaethon nhw roi ‘cyllun cartref personol’ i chi ac ni wnaethoch chi gadw at yr hyn y dywedodd fod yn rhaid i chi ei wneud

Gallwch ofyn am adolygiad os oedd rheswm da dros beidio â gwneud yr hyn a oedd yn ddisgwyliedig ohonoch chi. Er enghraifft, efallai eich bod wedi methu apwyntiad oherwydd eich bod yn sâl.

Os wnaethoch chi wrthod llety dros dro neu lety hirdymor

Gall y cyngor roi’r gorau i’ch helpu os wnaethon nhw gynnig llety addas i chi a’ch bod chithau wedi’i wrthod.

Os cynigiodd y cyngor lety hirdymor i chi, dylen nhw fod wedi eich rhybuddio y gallen nhw roi'r gorau i'ch helpu pe byddech chi’n gwrthod y cynnig. Os na wnaethan nhw eich rhybuddio, gallwch ofyn am adolygiad - gwiriwch unrhyw lythyrau a anfonwyd atoch.

Os cynigiodd y cyngor lety dros dro neu hirdymor i chi, gallwch ofyn am adolygiad os nad oedd yn addas – gwiriwch os oes y cartref yn addas. Ceisiwch gael tystiolaeth i ddangos nad oedd yn addas.

Er enghraifft, os oes gennych anabledd sy’n eich stopio rhag defnyddio grisiau, ni fyddai llety â grisiau, fel arfer, yn addas i chi. Gallech ofyn i weithiwr meddygol proffesiynol neu weithiwr cymorth i ysgrifennu llythyr i egluro eich cyflwr.

Os yw’r cyngor wedi penderfynu nad oes gennych chi gysylltiad lleol

Dim ond pa gyngor fydd yn delio â'ch cais am gartref hirdymor y mae cysylltiad lleol yn effeithio arno. Ni all y cyngor eich atal rhag gwneud cais am gymorth digartrefedd dim ond oherwydd nad oes gennych chi gysylltiad lleol.

Os nad yw’r cyngor yn credu bod gennych chi gysylltiad lleol, byddan nhw’n gwirio os oes gennych chi gysylltiad ag ardal arall. Os oes gennych chi gysylltiad ag ardal arall,  byddan nhw’n trosglwyddo eich cais i’r cyngor hwnnw.

Bydd y cyngor yn anfon llythyr penderfyniad atoch yn egluro sut y gwnaed y penderfyniad. Gallwch wirio sut dylai’r cyngor benderfynu os oes gennych chi gysylltiad lleol.

Os yw’r cyngor yn eich atgyfeirio at ardal arall a’ch bod yn anghytuno â’u penderfyniad, dylech ofyn yn gyntaf iddyn nhw beidio â'ch atgyfeirio drwy siarad â nhw. Mae'n werth gwneud hyn oherwydd does dim rhaid iddyn nhw eich atgyfeirio at gyngor arall.

Os nad yw siarad â’r cyngor yn helpu, dylech ofyn am adolygiad o’u penderfyniad. Er mwyn eu cael i newid eu penderfyniad bydd angen i chi egluro pam fod gennych gysylltiad lleol. Rhowch gymaint o fanylion â phosib.

Os yn bosib, anfonwch dystiolaeth. Gallai hyn gynnwys:

  • biliau a chytundebau tenantiaeth - i ddangos ers faint rydych chi neu aelodau agos o'ch teulu wedi bod yn byw yn eich ardal

  • llythyr oddi wrth eich cyflogwr – i ddangos eich bod yn gweithio’n yr ardal

  • llythyr oddi wrth eich meddyg - sy’n dweud bod angen i chi fyw yn yr ardal i gael triniaeth arbenigol

Os cynigiodd y cyngor gartref i chi sy’n anaddas yn eich barn chi

Os yw’r llety dros dros neu hirdymor sy’n cael ei gynnig i chi yn anaddas, gallwch ofyn am adolygiad.

Fel arfer mae’n well derbyn y cartref a gynigir i chi a gofyn am adolygiad ar yr un pryd. Mae hyn oherwydd nad oes unrhyw sicrwydd y cewch gynnig unrhyw beth gwell. Mae gennych hefyd rywle i aros tra bod y cyngor yn adolygu ei benderfyniad.

Gallwch wirio os yw eich cartref yn addas a’ch opsiynau os nad yw’n addas.

Gwnewch nodiadau pam rydych o’r farn bod eich cartref yn anaddas, er mwyn i chi allu egluro wrth y cyngor. Mae’n werth ceisio cael tystiolaeth i ddangos pam nad yw’r cartref yn addas. 

Er enghraifft, os oes gennych chi anabledd sy’n ei gwneud hi’n anodd defnyddio grisiau, fel arfer ni fyddai cartref yn addas os oes rhaid i chi fynd i fyny’r grisiau i fynd i mewn iddo. Gallech ofyn i weithiwr meddygol proffesiynol neu weithiwr cymorth i ysgrifennu llythyr i egluro eich cyflwr.

Os ydych mewn llety brys

Ni allwch ofyn am adolygiad oherwydd bod y llety brys yn anaddas. Siaradwch â chynghorydd os ydych chi eisiau herio addasrwydd y llety brys.

Gofyn am adolygiad

Gwiriwch eich llythyr penderfyniad. Dylai ddweud wrthych sut i ofyn am adolygiad a dylai gynnwys cyfeiriad e-bost a chyfeiriad post - gallai hefyd gynnwys rhif ffôn.

Mae’n well ysgrifennu at eich cyngor lleol yngofyn iddyn nhw adolygu eu penderfyniad. Cadwch gopi o'ch llythyr neu e-bost fel tystiolaeth. Cofiwch gael derbynneb i brofi eich bod wedi’i bostio wrth anfon eich adolygiad a’ch tystiolaeth. 

Gallwch hefyd ffonio neu fynd at y cyngor yn bersonol i ddweud wrthyn nhw eich bod am gael adolygiad. Mae'n werth gwneud hyn os ydych chi’n agos at y dyddiad cau ar gyfer adolygiad. Dylen nhw roi cadarnhad i chi eich bod wedi gofyn am adolygiad, er mwyn i chi allu profi hyn nes ymlaen.

Bydd angen i chi ddweud eich bod chi eisiau adolygiad ac esbonio pam rydych chi’n credu y dylai’r cyngor newid eu penderfyniad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud pryd cawsoch eich llythyr penderfyniad a pha benderfyniad rydych chi eisiau iddyn nhw ei adolygu.

Dylech hefyd roi gwybod i'r cyngor os yw eich amgylchiadau wedi newid oherwydd gallai hyn helpu eich adolygiad. Er enghraifft, os yw eich iechyd wedi gwaethygu.

Bydd yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrth y cyngor yn dibynnu ar pam rydych chi’n gofyn am adolygiad.

Mae’n well cael tystiolaeth i gefnogi eich cais am adolygiad. Os ydych chi’n anfon tystiolaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon copïau yn hytrach na dogfennau gwreiddiol.

Os ydych chi’n aros i gael tystiolaeth, mae dal yn bwysig gofyn am yr adolygiad o fewn 21 diwrnod. Gallwch anfon tystiolaeth ar ôl gofyn am adolygiad. Dywedwch wrth y cyngor pryd rydych chi’n credu y byddwch yn gallu anfon eich tystiolaeth a gofynnwch iddyn nhw aros am y dystiolaeth cyn iddyn nhw wneud eu penderfyniad.

Gofyn am rywle i aros yn ystod adolygiad

Efallai y bydd y cyngor yn rhoi cartref i chi wrth iddyn nhw adolygu eu penderfyniad – mae hyn yn cael ei alw’n 'llety tra’n aros am adolygiad'. Os ydych eisoes yn ddigartref neu os yw’r cyngor yn dweud wrthych am adael llety brys, dylech ofyn am lety tra’n aros am adolygiad pan ofynnwch am yr adolygiad.

Os bydd y cyngor yn dweud na fydd yn rhoi llety i chi tra'n aros am adolygiad a'ch bod am herio hyn, siaradwch â chynghorydd.

Cyn i chi gael eich penderfyniad o’r adolygiad

Dylai’r cyngor ysgrifennu atoch gyda’u penderfyniad o fewn 8 wythnos – oni bai eich bod yn cytuno i adael i’r cyngor gael mwy o amser.

Ar ôl gofyn am adolygiad, efallai y bydd y cyngor yn gofyn i chi gwrdd â swyddog tai i roi mwy o wybodaeth.

Dylech chi fynd i’r cyfarfod – dyma’ch cyfle i wneud yn siŵr bod y cyngor yn deall eich sefyllfa’n llawn a pham rydych chi’n anghytuno â’u penderfyniad.

Mae'n werth mynd â chopi arall o'ch tystiolaeth gyda chi - fel y gallwch gyfeirio'n ôl ati os oes angen.

Gallwch fynd â rhywun gyda chi - i gymryd nodiadau, neu dim ond am gefnogaeth.

Gallwch hefyd anfon mwy o wybodaeth ysgrifenedig neu dystiolaeth at y cyngor ar ôl gofyn am adolygiad. Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch chi i lunio achos ysgrifenedig pellach.

Derbyn penderfyniad yr adolygiad

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad adolygiad y cyngor efallai y gallwch apelio i'r llys sirol. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod o dderbyn y penderfyniad.

Dim ond os yw’r cyngor wedi cael y gyfraith yn anghywir neu heb ymchwilio’n briodol y gallwch chi apelio.

Gallwch chi hefyd apelio os bydd y cyngor yn methu'r dyddiad cau i benderfynu ar eich adolygiad. Mae hyn 8 wythnos ar ôl i chi ofyn am yr adolygiad, oni bai eich bod wedi cytuno i roi mwy o amser iddyn nhw. Rhaid i chi apelio o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad cau.

Siaradwch â chynghorydd os ydych chi eisiau apelio yn erbyn penderfyniad yn y llys sirol.

Gwneud cŵyn i’r cyngor

Ni fydd cwyno fel arfer yn gwneud i’r cyngor newid eu penderfyniad. Gallai wneud iddyn nhw wella eu gwasanaeth, ac efallai y byddan nhw’n rhoi arian i chi fel ymddiheuriad.

Dylech ystyried cwyno os yw'r bobl sy'n delio â'ch cais neu fater digartrefedd wedi ymdrin ag ef yn wael. Efallai eu bod wedi:

Edrychwch sut i gwyno ar wefan eich cyngor – fel arfer, bydd angen i chi wneud cŵyn ysgrifenedig. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Gwnewch yn siŵr bod eich llythyr yn esbonio beth wnaeth y cyngor o'i le a beth rydych chi eisiau iddyn nhw ei wneud – cofiwch gynnwys tystiolaeth i gefnogi eich achos.

Gwneud cŵyn i’r ombwdsmon

Gallwch gwyno i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus os ydych chi eisoes wedi cwyno wrth eich cyngor lleol a’ch bod naill ai:

  • wedimynd yr holl ffordd drwy weithdrefn gwyno’r cyngor – mae’n cynnwys 2 neu 3 cham fel arfer

  • nid yw’r cyngor wedi eich ateb o fewn 12 wythnos ac nid ydych wedi cytuno i roi mwy o amser iddyn nhw

Mae’r ombwdsmon yn annibynnol a bydd yn archwilio’r achos o’r ddwy ochr i argymell penderfyniad sy’n deg yn eu barn nhw.

Gwiriwch sut i gwyno wrth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar eu gwefan. Bydd eich cyngor lleol yn cael ei restru fel math o ‘ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus’ – efallai y bydd yn cael ei alw’n ‘awdurdod lleol’ hefyd.

Siaradwch â chynghoryddos oes angen help arnoch chi’n cwyno.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.