Gweld a ydych chi'n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi pryd yr ystyrir bod rhywun yn anabl ac yn cael ei amddiffyn rhag gwahaniaethu. Mae'r diffiniad yn cynnwys amrywiaeth o afiechydon a chyflyrau - felly tarwch olwg arno hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl eich bod chi’n anabl. Er enghraifft, efallai y bydd yn berthnasol i chi os oes gennych chi ddyslecsia neu awtistiaeth, neu feigryn cronig.

Mae’r diffiniad wedi’i nodi yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n dweud eich bod yn anabl os:

  • oes gennych nam corfforol neu feddyliol

  • yw eich nam yn cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd

Mae rhai namau’n cael eu trin yn awtomatig fel anabledd, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n effeithio ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd. Bydd hyn yn berthnasol i chi os:

  • oes gennych chi ganser, gan gynnwys tyfiannau y mae angen eu tynnu cyn iddyn nhw droi’n ganser

  • ardystiwyd eich bod yn ddall, bod gennych nam neu nam difrifol ar eich golwg, neu eich bod chi’n rhannol ddall

  • oes gennych sglerosis ymledol

  • ydych chi’n HIV positif - hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau

  • oes gennych anffurfiad difrifol - er enghraifft craith ddifrifol ar yr wyneb neu glefyd ar y croen

Rhoddir sylw i’r rhain yn Atodlen 1, Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn Rheoliad 7 o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb (Anabledd) 2010.

Gweld a oes gennych chi nam

Mae gennych nam os yw eich gallu corfforol neu feddyliol yn cael ei leihau mewn rhyw ffordd. Gallai hyn fod o ganlyniad i gyflwr meddygol - er enghraifft, os oes gennych arthritis yn eich dwylo ac na allwch afael mewn pethau neu eu cario'n dda iawn.

Does dim rhaid cael diagnosis o gyflwr meddygol er mwyn iddo gyfrif fel nam. Os ydych chi'n dioddef o straen, efallai fod gennych:

  • nam meddyliol – fel cael trafferth canolbwyntio

  • nam corfforol – fel blinder eithafol a chael trafferth cysgu.

Os nad ydych chi wedi cael diagnosis, mae angen tystiolaeth feddygol arnoch o hyd i ddangos bod eich nam yn cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Does dim rhaid i’ch nam eich atal rhag gwneud unrhyw beth, cyn belled â’i fod yn gwneud pethau’n anoddach. Gallai achosi poen i chi, gwneud i dasgau gymryd amser hir neu olygu na allwch wneud gweithgaredd fwy nag unwaith.

Enghraifft

Mae Jodi wedi bod yn cael trafferth gyda thasgau bob dydd ers i’w phartner ei gadael flwyddyn yn ôl. Dydy hi ddim yn gallu cynllunio gweithgareddau fel siopa na dilyn rysáit i goginio pryd o fwyd. Ni fyddai’n codi a gwisgo yn y bore pe na bai ei merch yn ei hannog i wneud hynny. Mae hi wedi rhoi’r gorau i fynd allan am nad yw hi eisiau siarad â phobl.

Mae gan Jodi nam meddyliol. Does dim ots os nad yw hi wedi cael diagnosis o gyflwr meddygol fel iselder - er y gall hynny helpu i brofi bod ganddi nam. Ond, bydd angen iddi ddangos bod y nam yn un hirdymor a'i fod yn cael effaith andwyol sylweddol ar ei gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Enghraifft

Mae Ahmed yn awtistig. Mae'r byd yn ei lethu ac mae hyn yn achosi cryn bryder iddo. Mae hefyd yn cael trafferth cyfathrebu a rhyngweithio â phobl eraill.

Nid yw Ahmed yn meddwl ei fod yn anabl gan nad oes ganddo nam corfforol. Fodd bynnag, mae ganddo nam oherwydd mae ei gyflwr yn golygu nad yw’n gallu gwneud rhai gweithgareddau o ddydd i ddydd – fel mynd i’r siopau ar ei ben ei hun a chymdeithasu.

Cyflyrau nad ydynt yn namau

Nid yw rhai cyflyrau’n anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • clwy’r gwair

  • voyeuriaeth neu arddangosiaeth

  • tueddiad i roi pethau ar dân

  • tueddiad i ddwyn pethau

  • tueddiad i gam-drin eraill yn gorfforol neu’n rhywiol

Mae’r rhestr lawn yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Anabledd) 2010.

Dibyniaeth

Nid yw bod yn gaeth i alcohol, nicotin neu unrhyw sylwedd arall yn anabledd.

Ond, efallai eich bod chi’n anabl os oes gennych nam a achosir gan ddibyniaeth. Er enghraifft, os oes gennych glefyd yr iau neu iselder a achosir gan ddibyniaeth ar alcohol.

Gallai hefyd fod yn anabledd os yw eich dibyniaeth wedi deillio’n wreiddiol o driniaeth feddygol neu gyffuriau a ragnodwyd yn feddygol.

Gweld a oes gennych nam hirdymor

Mae effaith hirdymor yn golygu rhywbeth sy’n effeithio arnoch chi am flwyddyn o leiaf. Er enghraifft, os ydych chi wedi cael llawdriniaeth a fydd yn gwneud cerdded yn anodd am flwyddyn o leiaf.

Mae eich nam yn dal i gael ei ystyried yn un hirdymor os yw’r effeithiau’n debygol o fynd a dod. Gelwir y rhain yn effeithiau sy’n amrywio neu’n effeithiau sy'n digwydd dro ar ôl tro.

Er enghraifft, rydych chi wedi cael cyfnodau o iselder am ychydig fisoedd ar y tro ond mae misoedd yn y canol lle nad yw’n effeithio arnoch chi. Mae pob cyfnod o iselder yn para llai na 12 mis, ond gall fodloni’r diffiniad o iselder hirdymor yn yr achosion hyn:

  • os yw’n cael effaith andwyol sylweddol pan fydd yn digwydd

  • gallai ddigwydd eto

Mae’r diffiniad o hirdymor yn adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Enghraifft

Mae gan John epilepsi, sy’n achosi iddo gael ffitiau. Mae’n cael effaith sylweddol a niweidiol ar ei allu i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd – er enghraifft, nid yw’n gallu mynd allan ar ei ben ei hun oherwydd ei fod yn debygol o ddisgyn.

Mae ei gyflwr yn gwella am gyfnod, ond mae’r effeithiau niweidiol sylweddol yn debygol o ddigwydd eto – mae hyn yn golygu bod ei gyflwr yn cael ei ystyried yn un hirdymor.

Gwirio a yw effaith eich nam yn sylweddol

Mae effaith sylweddol ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd yn golygu un sy’n ‘fwy na mân effaith neu effaith ddibwys’.

Gallai’r effaith ar eich gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd fod yn sylweddol os oes gennych fwy nag un nam.

Dyma enghreifftiau o effaith sylweddol: 

  • cymryd mwy o amser gyda thasgau bob dydd – fel gwisgo, mynd i’r toiled neu baratoi prydau

  • cael trafferth mynd allan ar eich pen eich hun oherwydd bod gennych ffobia, cyfyngiad corfforol neu anabledd dysgu

  • methu canolbwyntio ar wylio'r teledu neu ddarllen papur newydd oherwydd bod gennych gyflwr iechyd meddwl

  • cael trafferth siarad â phobl ac osgoi cymdeithasu oherwydd eich bod yn awtistig ac nad ydych bob amser yn gallu deall beth mae pobl yn ei olygu

  • colli ymwybyddiaeth o’r hyn sydd o’ch cwmpas oherwydd eich bod yn cael ffitiau

  • angen defnyddio cymhorthion darllen oherwydd bod gennych ddyslecsia

Bydd yr effeithiau’n cael eu hystyried yn fân effeithiau neu’n ddibwys os ydyn nhw ond yn cael effaith fach iawn ar eich bywyd bob dydd, er enghraifft os oes rhaid i chi stopio am ychydig funudau ar ôl cerdded am filltir ar gyflymder arferol.

Os bydd eich cyflwr yn gwaethygu

Os oes gennych gyflwr hirdymor a fydd yn gwaethygu, nid oes rhaid i'r effaith ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd fod yn sylweddol nawr os yw'n debygol o fod yn sylweddol yn y dyfodol. Gelwir hyn yn gyflwr sy’n gwaethygu.

Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth neu’n cael triniaeth ar gyfer eich cyflwr

Mae’r prawf cyfreithiol ar gyfer anabledd yn seiliedig ar beth fyddai effaith eich cyflwr heb unrhyw feddyginiaeth na thriniaeth. Mae triniaeth yn cynnwys pethau fel cwnsela yn ogystal â meddyginiaeth. Er enghraifft, os oes gennych arthritis a’ch bod chi’n defnyddio ffon gerdded, meddyliwch pa mor anodd fyddai i chi gerdded hebddo.

Nid yw'r prawf cyfreithiol yn berthnasol os oes gennych nam ar eich golwg. Yn gyfreithiol, ystyrir eich bod chi’n anabl os oes effaith sylweddol ar eich golwg hyd yn oed pan fyddwch chi’n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd.

Enghraifft

Mae gan Tom ddiabetes math 1. Mae’n rhaid iddo fonitro ei lefelau glwcos a rhoi pigiadau inswlin iddo’i hun sawl gwaith y dydd. Os yw’n rheoli ei lefelau glwcos, nid yw’n cael unrhyw symptomau fel arfer. 

Mae'n anabl oherwydd heb y dos cywir o inswlin, byddai'r diabetes yn cael effaith andwyol hirdymor sylweddol ar ei weithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Os nad ydych yn siŵr a yw eich amhariad yn sylweddol neu’n un tymor hir

Ceisiwch gyngor gan eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall. Gallwch ofyn iddyn nhw ddweud wrthych:

  • pa mor hir mae’n debygol y bydd eich amhariad yn para a pha un ai a yw’n debygol o waethygu

  • beth fyddai’n digwydd pe baech yn rhoi’r gorau i’ch meddyginiaeth neu driniaeth arall

  • a oes unrhyw weithgareddau y dylech eu hosgoi

Efallai y bydd eich meddyg hefyd yn gallu eich helpu i brofi bod gennych amhariad os bydd angen gwneud hynny arnoch yn ddiweddarach.

Gallwch hefyd geisio cadw dyddiadur am gyfnod – ysgrifennwch beth rydych yn ei wneud, beth rydych yn ei chael yn anodd a pham. Gallai hyn wneud yn fwy eglur faint mae eich amhariad yn effeithio ar eich gweithgareddau dydd i ddydd arferol. Efallai y gall eich ffrindiau a’ch teulu hefyd eich helpu i feddwl am ffyrdd rydych yn cael eich effeithio.

Os yw'r person sydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn dweud nad ydyn nhw'n credu bod gennych chi anabledd

Dylech egluro pam eich bod yn meddwl bod gennych anabledd. Bydd angen i chi egluro’r canlynol:

  • pa nam sydd gennych - os nad ydych chi’n gwybod beth yw'r nam, esboniwch ei effeithiau

  • pam ei fod yn hirdymor

  • beth yw’r effaith andwyol sylweddol – heb gymhorthion, meddyginiaeth na thriniaeth

Yna gofynnwch i'ch cyflogwr pam ei fod yn anghytuno.

Os bydd eich cyflogwr yn anghytuno, gallwch barhau â'ch hawliad ond efallai y bydd yn dal i ddadlau bod gennych anabledd. Os byddwch chi’n penderfynu cymryd camau cyfreithiol, gallan nhw herio sail eich achos drwy ddweud nad ydych chi’n bodloni’r diffiniad o rywun sydd ag anabledd.

Byddai’r tribiwnlys yn penderfynu a oes gennych anabledd drwy ystyried tystiolaeth gan y ddau barti. Bydd yn gwrando ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud, ond efallai y bydd angen i chi ddangos tystiolaeth feddygol hefyd – fel llythyr gan eich meddyg teulu neu’ch ymgynghorydd.

Os oes angen mwy o gyngor neu wybodaeth arnoch

Gallwch ddarllen y canllaw llawn ar sut i ddiffinio amhariad ar GOV.UK neu gael cymorth gan ymgynghory.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 28 Ionawr 2019