Cael help i wneud gwelliannau i'r cartref
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Help y gallwch chi ei gael i wella eich cartref
Mae awdurdod lleol yn gallu cynnig gwahanol fathau o gymorth i wneud gwelliannau i'r cartref. Bydd ganddo ei reolau ei hun am y mathau o gymorth y bydd yn ei gynnig, ac am yr amodau y mae'n rhaid i chi eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth.
Yn ôl y gyfraith, nid yw’r rheolau hyn yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Ar ben hynny, efallai y bydd gan awdurdod lleol bolisïau sydd ddim yn caniatáu mathau eraill o wahaniaethu fel gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn.
I gael gwybod a allwch chi gael help i wella eich cartref a'r help sydd ar gael yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch awdurdod lleol. Gall eich awdurdod lleol eich helpu i wneud un o'r canlynol:
addasu, gwella neu atgyweirio eich cartref. Gallai hyn fod ar ffurf grant neu fenthyciad. Gallai fod drwy ddarparu llafur, offer neu ddeunyddiau rhad i’ch helpu i wneud y gwaith. Gallai fod drwy ddarparu manylion adeiladwyr a all wneud y gwaith, neu drwy ddarparu arolygon rhad neu am ddim, neu gyngor ar wneud gwaith atgyweirio
prynu cartref newydd os yw'n penderfynu y byddai hyn yn ffordd well o wella eich amodau byw na gwneud gwaith ar eich cartref presennol. Gallai’r help fod ar ffurf grant neu fenthyciad
prynu cartref newydd, os yw wedi penderfynu prynu eich cartref presennol. Gallai’r help fod ar ffurf grant neu fenthyciad
dymchwel eich cartref, neu adeiladu cartref newydd i chi, os yw eich cartref blaenorol wedi cael ei ddymchwel. Gallai’r help fod ar ffurf grant neu fenthyciad
Os ydych chi, neu rywun sy'n byw gyda chi, yn anabl, efallai y byddwch chi’n gallu cael grant cyfleusterau i bobl anabl ar gyfer addasiadau neu i ddarparu cyfleusterau i’r person anabl.
Gallwch chi wneud cais i Troi Tai'n Gartrefi i gael benthyciad i wneud eich eiddo'n addas i'w werthu neu ei osod. Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw hwn a bydd angen i chi wneud cais drwy eich cyngor lleol
Pa eiddo gall eich awdurdod lleol helpu i'w gwella
Gall eich awdurdod lleol helpu i wella adeilad, rhan o adeilad, carafán, neu gwch, ar yr amod mai eich cartref chi yw'r eiddo, neu ei fod ar gael i chi fyw ynddo fel eich cartref.
Ffurflenni cais
Mae awdurdod lleol yn gallu bod â’i ffurflenni cais am help ei hun, a'i reolau ei hun ynglŷn â beth y mae'n rhaid i chi ei wneud i wneud cais am help. Gofynnwch i’ch awdurdod lleol am ragor o wybodaeth am hyn.
Os ydych chi'n anabl, rhaid i awdurdod lleol ddarparu ffurflenni cais ar ffurf y gallwch chi ei defnyddio, er enghraifft, mewn print bras.
Eich hawliau pan fyddwch chi’n gwneud cais am help i wella eich cartref
Bydd gan eich awdurdod lleol ei reolau ei hun ynglŷn â’r amodau y mae'n rhaid i chi eu bodloni er mwyn cael help. Er enghraifft, efallai y bydd ei reolau'n dweud na allwch chi gael grant os yw eich cynilion dros derfyn penodol. Er bod eich awdurdod lleol yn gallu bod â’i reolau ei hun, mae rhai pethau y mae'n rhaid iddo eu gwneud neu beidio â'u gwneud pan fydd yn rhoi help gyda gwelliannau i'r cartref. Rhaid i'ch awdurdod lleol fod â rheolau ynglŷn â help i wneud gwelliannau i'ch cartref, ond ni all fod â rheolau sy'n gwbl haearnaidd neu'n afresymol. Er enghraifft, ni all ddweud na fydd byth yn rhoi unrhyw grantiau, a rhaid iddo ystyried eich amgylchiadau unigol os byddwch chi’n gwneud cais am help. Hefyd, ni chaiff y rheolau wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am help i wella'ch cartref, rhaid i'ch awdurdod lleol wneud pob un o'r canlynol:
sicrhau bod copi o'i reolau, gan gynnwys y mathau o gymorth y mae'n eu darparu, ar gael i chi edrych arnyn nhw, yn rhad ac am ddim, yn ei brif swyddfa. Rhaid iddo hefyd sicrhau eich bod chi’n gallu cael crynodeb o’r rheolau drwy’r post, er y gallai godi tâl arnoch am hyn
gwneud yn siŵr ei fod yn dilyn ei reolau ei hun pan fyddwch chi’n gofyn am help
rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi am delerau ac amodau yr help cyn iddo eich helpu
gwneud yn siŵr eich bod chi wedi cael y cyngor a'r wybodaeth gywir am unrhyw gyfrifoldebau a fydd gennych chi os bydd yn eich helpu. Er enghraifft, os bydd rhaid i chi dalu am rai o'r atgyweiriadau eich hun, rhaid i'ch awdurdod lleol sicrhau eich bod wedi cael cyngor a gwybodaeth am hyn
ystyried eich gallu i dalu tuag at unrhyw help y mae'n ei gynnig i chi, cyn i chi orfod talu unrhyw beth. Er enghraifft, ni ddylai gynnig benthyciad i chi os na allwch chi fforddio ei ad-dalu, neu os yw'n cynnig grant i chi ond yn disgwyl i chi dalu arian tuag ato, rhaid iddo ystyried eich gallu i wneud hynny
cael eich caniatâd cyn gwneud unrhyw waith ar eich cartref, os ydych yn berchen ar dŷ
cael caniatâd pawb sy’n debygol o gael eu heffeithio, os yw’n penderfynu newid gwaith y mae wedi cytuno i helpu ag ef. Er enghraifft, byddai angen iddo wneud hyn os yw’n cytuno i osod gwres canolog nwy, ond wedyn eisiau newid i wres canolog trydan yn lle hynny
cael eich caniatâd cyn iddo newid unrhyw un o'r amodau y mae'n rhaid i chi eu bodloni er mwyn cael help. Er enghraifft, os yw'n cynnig grant i chi ar yr amod eich bod chi’n talu £500 tuag at gost atgyweiriadau, ond ei fod eisiau cynyddu'r swm hwn i £1000, rhaid iddo gael eich caniatâd chi’n gyntaf
Os ydych yn rhentu eich cartref
Os ydych chi'n rhentu eich cartref ac yn gwneud cais i'ch awdurdod lleol am help gyda gwelliannau i’ch cartref, bydd angen i chi gael caniatâd eich landlord cyn y bydd yr awdurdod lleol yn cytuno i'ch helpu. Os ydych chi'n anabl a bod y newidiadau'n ymwneud â'ch anabledd, ni ddylai eich landlord wrthod caniatâd oni bai fod ganddyn nhw reswm da. Mewn rhai achosion, efallai mai eich landlord fydd yn gyfrifol am wneud y newidiadau.
Rhagor o wybodaeth am ofyn i'ch landlord wneud addasiadau rhesymol.
Os oes angen atgyweirio eich cartref, efallai mai eich landlord fydd yn gorfod gwneud yr atgyweiriadau sydd eu hangen arnoch chi.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifoldeb eich landlord i wneud atgyweiriadau, edrychwch ar Atgyweiriadau mewn tai rhent.
Talu grantiau a benthyciadau
Yn gyffredinol, nid oes rhaid i awdurdod lleol dalu grant neu fenthyciad o fewn unrhyw derfyn amser penodol. Fodd bynnag, os yw rheolau eich awdurdod lleol yn gosod terfyn amser, rhaid iddo eich talu chi o fewn y terfyn amser hwn.
Os ydych chi’n berchen ar eich cartref
Os ydych chi wedi cael benthyciad i wneud gwelliannau i'ch cartref, efallai y byddwch chi’n gallu cael benthyciad gan y llywodraeth i helpu gyda thaliadau llog. Mae hyn yn cael ei alw’n 'gymorth ar gyfer llog ar forgais'.
Efallai y byddwch chi’n cael 'cymorth ar gyfer llog ar forgais’ os ydych chi’n cael:
Credyd Cynhwysol
Credyd Pensiwn
Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
Cymhorthdal Incwm
Bydd eich taliadau llog yn cael eu talu gan ‘gymorth ar gyfer llog ar forgais’ os oes rhaid i chi wneud y gwelliannau fel bod eich cartref yn addas i fyw ynddo, a'ch bod yn:
trwsio eich system wresogi - fel newid eich boeler os yw wedi torri
gosod rhywbeth er mwyn i chi allu paratoi a choginio bwyd - fel hob neu bopty
gosod bath, cawod, basn ymolchi, sinc neu doiled
gosod socedi neu oleuadau trydan
gosod ffordd o storio tanwydd neu sbwriel
gosod systemau draenio
trwsio strwythur anniogel fel eich to
atal lleithder neu inswleiddio eich cartref
darparu awyr iach neu olau naturiol
addasu eich cartref ar gyfer person anabl
darparu ystafelloedd gwely ar wahân i fachgen a merch 10-19 oed – os ydyn nhw’n byw gyda chi ac mai chi neu eich partner sy’n gyfrifol amdanyn nhw
Bydd yn rhaid i chi dalu'r benthyciad ‘cymorth ar gyfer llog ar forgais’ yn ôl, ond fel arfer dim ond pan fyddwch chi’n gwerthu eich cartref neu'n ei roi i rywun arall. Yma, cewch wybod a allwch chi gael ‘cymorth ar gyfer llog ar forgais’ a beth i feddwl amdano cyn i chi wneud cais.
Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl
Grant yw grant cyfleusterau i bobl anabl y gallwch chi ei gael gan eich awdurdod lleol ar gyfer gwaith sy'n hanfodol i helpu person anabl i fyw bywyd annibynnol. Er enghraifft, gallwch chi gael grant cyfleusterau i bobl anabl ar gyfer y pethau canlynol:-
ei gwneud yn haws mynd i mewn ac allan o’ch cartref, er enghraifft, drwy ledu drysau neu ddarparu rampiau
ei gwneud yn haws cyrraedd ystafell fyw, ystafell wely, toiled, ystafell ymolchi neu gegin, er enghraifft, drwy osod lifft grisiau, neu ddarparu ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
ei gwneud yn haws neu’n fwy diogel i gael mynediad i’ch gardd
darparu cyfleusterau cegin neu ystafell ymolchi addas
darparu neu wella system wresogi
sicrhau eich diogelwch, er enghraifft, drwy ddarparu ystafell wedi'i haddasu'n arbennig lle byddai'n ddiogel eich gadael heb oruchwyliaeth, neu drwy ddarparu gwell golau ar gyfer gwell gwelededd
eich helpu i symud o gwmpas gartref er mwyn i chi allu gofalu am rywun sy’n byw gyda chi ac sydd angen gofal.
Rhaid i awdurdod lleol roi grant cyfleusterau i bobl anabl i chi os ydych chi'n bodloni'r amodau ar gyfer cael un.
Gwneud cais am grant cyfleusterau i bobl anabl
Mae perchen-feddianwyr, landlordiaid, tenantiaid neu ddeiliaid contract, trwyddedigion, a meddianwyr rhai cychod preswyl a chartrefi mewn parciau yn gallu gwneud cais am grant cyfleusterau i bobl anabl, ar yr amod bod y gwaith er budd person anabl sy’n byw yn yr eiddo neu a fydd yn byw yno.
I wneud cais am grant cyfleusterau i bobl anabl, rhaid i chi lenwi ffurflen y gallwch ei chael gan eich awdurdod lleol. Efallai y byddan nhw’n gofyn am wybodaeth a/neu am brofion cyn i chi wneud cais ffurfiol. Efallai y bydd angen cymeradwyaeth arnoch hefyd at ddibenion rheoliadau adeiladu, cynllunio, adeiladau rhestredig neu ardal gadwraeth.
Efallai y bydd gan eich awdurdod lleol restr o benseiri, syrfewyr ac adeiladwyr lleol sy'n arbenigo mewn gwaith adnewyddu y gallech chi ofyn i’w gweld wrth ddewis contractwr ar gyfer y gwaith i'ch cartref. Os ydych chi'n bwriadu gwneud y gwaith eich hun, fyddwch chi ddim yn gallu hawlio am gost eich llafur.
Ar ôl i chi wneud cais am grant, rhaid i'ch awdurdod lleol roi gwybod i chi am ei benderfyniad yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo modd, a dim hwyrach na chwe mis ar ôl i chi wneud y cais.
Bod yn gymwys i gael grant cyfleusterau i bobl anabl
Dim ond os yw'r gwaith y mae angen i chi ei wneud ar eich cartref yn un o'r canlynol y gallwch chi gael grant cyfleusterau i bobl anabl:-
yn angenrheidiol ac yn briodol i ddiwallu eich anghenion. Fel arfer, bydd eich awdurdod lleol yn gofyn i therapydd galwedigaethol am ei farn ynghylch a oes angen gwneud y gwaith ai peidio; ac
yn rhesymol ac ymarferol, o ystyried oed eich cartref a'r cyflwr y mae ynddo. Er enghraifft, os oes angen gwaith atgyweirio difrifol ar eich cartref, efallai na fydd yn ymarferol gwneud y gwaith sydd ei angen arnoch chi.
Os ydych chi'n byw mewn llety rhent ac yn gwneud cais am grant cyfleusterau i bobl anabl ar gyfer gwaith mewn ardal gymunedol o'r eiddo lle rydych chi'n byw, dylech chu wneud yn siŵr mai chi sy'n gyfrifol am wneud y gwaith. Os mai eich landlord sy'n gyfrifol am wneud y gwaith, ni fyddwch chi’n gallu cael grant. Efallai y bydd eich landlord yn gallu gwneud cais am grant yn lle hynny.
Faint fyddwch chi’n ei gael
Ni fydd y grant cyfleusterau i bobl anabl yn fwy na £30,000 yn Lloegr a £36,000 yng Nghymru. Fodd bynnag, mae eich awdurdod lleol yn gallu ychwanegu at hyn, gan ei fod yn gallu rhoi cymorth arall i chi gyda gwelliannau i'ch cartref (edrychwch dan y pennawd Help i wneud gwelliannau i'ch cartref). Bydd swm y grant y byddwch chi’n ei gael yn dibynnu ar eich incwm a'ch cynilion, oni bai fod y gwaith yn cael ei wneud i ddiwallu anghenion person anabl dan 16 oed, neu mewn rhai achosion, dros 16 oed ond dan 19 oed.
Cael grant cyfleusterau i bobl anabl os ydych chi'n byw mewn llety rhent
Os ydych chi'n rhentu eich cartref ac yn gwneud cais i'ch awdurdod lleol am grant cyfleusterau i bobl anabl, bydd angen i chi gael caniatâd eich landlord cyn y bydd eich awdurdod lleol yn cytuno i'ch helpu. Fodd bynnag, ni chaiff eich landlord wrthod caniatâd heb reswm da iawn. Os oes angen i chi wneud newidiadau i'ch cartref oherwydd eich anabledd, dylai eich landlord gytuno i hyn oni bai fod ganddyn nhw reswm da dros beidio â gwneud hynny. Os nad yw eich landlord yn cytuno, gallai hyn fod yn wahaniaethu ar sail anabledd a gallai fod yn torri'r gyfraith. Nid yw'r rheol hon yn berthnasol mewn rhai achosion lle mae'r landlord yn byw yn yr un eiddo â chi.
Os oes angen i chi wneud rhai newidiadau i'ch cartref oherwydd eich anabledd, efallai mai eich landlord fydd yn gyfrifol am eu gwneud. Nid yw'r rheol hon yn berthnasol mewn rhai achosion lle mae'r landlord yn byw yn yr un eiddo â chi.
I gael rhagor o wybodaeth am ddyletswydd landlord i wneud addasiadau ar gyfer pobl anabl, edrychwch ar Gwahaniaethu ym maes tai.
Os oes angen atgyweirio eich cartref, efallai mai eich landlord fydd yn gyfrifol am eu gwneud.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifoldeb landlord i wneud atgyweiriadau, edrychwch ar Atgyweiriadau mewn tai rhent.
Cynlluniau effeithlonrwydd ynni cartref
Mae cynlluniau a grantiau ar gael i'ch helpu chi i wneud gwelliannau arbed ynni yn eich cartref.
Efallai y byddwch chi’n gallu cael help gyda chost pethau fel inswleiddio a boeler newydd.
Edrychwch i weld a allwch chi gael help i wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon.
Y rhaglen addasiadau brys
Os ydych chi'n byw yng Nghymru, a'ch bod yn anabl yn gorfforol neu'n 60 oed neu'n hŷn, efallai y gallwch chi gael help dan y rhaglen addasiadau brys. Mae’n cael ei redeg gan Gofal a Thrwsio Cymru. Gallwch chi gael help gydag addasiadau bach i’ch cartref er mwyn i chi allu cael eich rhyddhau o’r ysbyty a dychwelyd i fyw’n ddiogel gartref. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cael help os nad ydych chi yn yr ysbyty. Gallwch chi gael hyd at £350 o help.
Gallwch chi gael gwahanol addasiadau i'ch cartref dan y rhaglen, er enghraifft:-
rampiau bach
rheiliau a gripiau llaw
ffordd dan do i fynd i doiled
lefelu llwybrau
larymau diogelwch cymunedol
mesurau diogelwch yn eich cartref
Rhaid i chi gael eich cyfeirio at y rhaglen gan weithiwr iechyd proffesiynol. Chewch chi ddim gwneud cais yn uniongyrchol eich hun. I gael cymorth, rhaid i chi rentu neu fod yn berchen ar eich cartref. Fel arfer, rhaid i chi fod yn 60 oed neu’n hŷn, a/neu fod ag anabledd corfforol, a:-
bod yn yr ysbyty; neu
fod wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty’n ddiweddar; neu
fod eisiau parhau i fyw'n annibynnol gartref
Dylai’r gwaith i’ch cartref gael ei gwblhau o fewn 15 diwrnod i’r diwrnod y cawsoch chi eich cyfeirio at y rhaglen.
Gallwch chi gael gwybod a oes rhaglen addasiadau brys yn eich ardal chi.
Asiantaethau gwella cartrefi
Mae asiantaethau gwella cartrefi yn sefydliadau nid-er-elw sy’n cael eu rhedeg gan gymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac elusennau. Maen nhw’n gallu helpu pobl sy'n berchen ar eu cartrefi eu hunain, neu sy'n byw mewn cartrefi wedi'u rhentu'n breifat, ac sy'n oedrannus, yn anabl, neu ar incwm isel i atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu eu cartref.
Er enghraifft, mae asiantaethau gwella cartrefi yn gallu gwneud y canlynol:
trefnu i waith atgyweirio gael ei wneud yn eich cartref
eich helpu i gael arian ar gyfer gwneud gwaith atgyweirio yn eich cartref
rhoi cyngor i chi am amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar eich amodau byw
trefnu i osod addasiadau a chymhorthion bach i'ch helpu i fyw'n annibynnol yn eich cartref
gosod mesurau diogelwch yn eich cartref fel cloeon ar ddrysau a ffenestri, cadwyni drysau a gwylwyr
Mae rhagor o wybodaeth am sefydliadau yn eich ardal chi ar gael gan Gofal a Thrwsio Cymru.
Cael rhagor o gymorth
Gallwch chi gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os oes angen rhagor o gyngor arnoch chi am wella’ch cartrefi.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 27 Tachwedd 2019